Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os nad ydych wedi gwneud eisoes, dylech wirio i weld a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau, dylech wirio i weld a oes angen i chi symud i’r Credyd Cynhwysol. Gallai fod angen i chi symud os:
yw eich sefyllfa’n newid – er enghraifft os byddwch yn gwahanu oddi wrth eich partner neu’n symud i ardal cyngor arall
ydych yn derbyn llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud wrthych hawlio Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol
Gwiriwch i weld a oes angen i chi symud i’r Credyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.
Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Fel arfer bydd yn rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Y peth cyntaf y mae angen i chi ei wneud yw creu cyfrif ar-lein – byddwch yn defnyddio hyn i wneud cais am eich hawliad a’i reoli. Efallai y gallwch wneud cais dros y ffôn mewn amgylchiadau arbennig. Dysgwch fwy am ddechrau eich hawliad ac agor cyfrif ar-lein.
Yna bydd angen i chi gwblhau 4 cam pellach cyn y gallwch gael Credyd Cynhwysol. Bydd angen i chi:
ateb cwestiynau am eich sefyllfa – gelwir hyn yn ‘rhestr i’w chyflawni’
cadarnhau pwy ydych chi – gallwch wneud hyn ar-lein neu wyneb yn wyneb
trefnu apwyntiad gyda’ch anogwr gwaith – byddwch yn eu cyfarfod yn rheolaidd fel rhan o’ch hawliad Credyd Cynhwysol
siarad gyda’ch anogwr gwaith yn y Ganolfan Gwaith neu dros y ffôn – byddant yn cadarnhau eich manylion ac yn cytuno pa dasgau y byddwch yn eu gwneud yn rheolaidd i gael Credyd Cynhwysol
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau pob un o’r camau hyn – bydd angen i chi eu gwneud i gyd cyn y gallwch gael eich taliad Credyd Cynhwysol.
Cyn i chi gwblhau eich ‘rhestr i’w chyflawni’
Yn eich cyfrif, gofynnir cwestiynau i chi am eich sefyllfa, unrhyw incwm rydych yn ei dderbyn a’ch costau tai. Gwneir hyn er mwyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) allu penderfynu faint o Gredyd Cynhwysol y dylech ei dderbyn.
Mae’n well casglu unrhyw fanylion neu ddogfennau am y pethau hyn at ei gilydd ymlaen llaw – bydd yn golygu y gallwch ateb yr holl gwestiynau’n gyflymach.
Casglwch fanylion am eich:
rhent a’ch sefyllfa dai – byddai’n well bod eich cytundeb rhent gennych, os oes gennych un
incwm a chynilion
darparwr gofal plant, os oes gennych un – er enghraifft, eu rhif cofrestru a’u manylion cyswllt
cyfrif banc – fel eich cod didoli, 4 rhif olaf rhif eich cyfrif a faint o arian sydd ym mhob cyfrif
Gallwch argraffu ein rhestr wirio o’r pethau sydd eu hangen arnoch i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Os nad oes gennych gyfrif banc
Os ydych yn gwneud hawliad gyda phartner, dim ond un ohonoch sydd angen cyfrif banc.
Os nad oes gennych bartner gyda chyfrif banc, gallwch ddefnyddio cyfrif banc ffrind neu aelod o’r teulu ar gyfer eich taliad cyntaf. Bydd angen i chi gael eu caniatâd i ddechrau.
Bydd angen i chi gael eich cyfrif banc eich hun cyn eich ail daliad. Pan fydd gennych gyfrif banc, gallwch ddiweddaru eich manylion banc ar eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Os na allwch ddefnyddio cyfrif rhywun arall, bydd angen i chi agor un cyn y gallwch hawlio Credyd Cynhwysol. Rhaid i chi roi manylion cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd cyn y gallwch gyflwyno eich cais.
Dysgwch fwy am gael cyfrif banc.
Gallwch ddarllen hefyd am ddewis y math cywir o gyfrif banc ar y wefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.
Os ydych wedi ceisio agor cyfrif ac y gwrthodwyd eich cais, bydd angen i chi ddefnyddio’r Payment Exception Service. Bydd angen i chi esbonio pam na allwch gael cyfrif banc. Dysgwch sut mae’n gweithio.
Gallwch gael rhagor o gymorth i agor cyfrif banc yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Cwblhau eich ‘rhestr i’w chyflawni’
Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar GOV.UK.
Pan fyddwch yn mewngofnodi, fe welwch ‘restr i’w chyflawni’ gyda gwahanol gwestiynau y mae angen i chi eu hateb. Bydd angen i chi eu hateb i gyd cyn y gallwch gyflwyno eich hawliad.
Mae’n syniad da cwblhau eich rhestr i’w chyflawni cyn gynted ag y gallwch – os na fyddwch, gallai oedi eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Nid oes rhaid i chi gwblhau’r cais cyfan mewn un ymweliad.
Byddwch yn cael eich allgofnodi os na fyddwch yn gwneud unrhyw beth am 30 munud. Bydd y cyfrif yn cofio unrhyw fanylion rydych wedi’u cadw hyd yn hyn - efallai na fydd yn cofio unrhyw fanylion nad ydych wedi’u cyflwyno neu wedi eu cadw hyd yma.
Os ydych yn gwneud cais gyda’ch partner, efallai na allwch ateb rhai o’r cwestiynau nes y bydd eich cyfrifon wedi’u cysylltu. Dysgwch fwy am wneud cais ar y cyd.
Ateb cwestiynau am eich sefyllfa
Bydd gennych wahanol adrannau yn eich rhestr i’w chyflawni gyda chwestiynau ar eich:
cenedligrwydd
sefyllfa dai a phwy sy’n byw gyda chi
sefyllfa gwaith
incwm ac unrhyw gynilion sydd gennych
addysg a hyfforddiant
iechyd
plant ac unrhyw un yr ydych yn gofalu amdanynt
cyfrif banc
Gwnewch yn siŵr bod pob enw a rhif yn gywir. Pan fyddwch yn cofnodi manylion am unrhyw arian rydych yn ei dalu, bydd angen i chi ysgrifennu sawl ceiniog yr ydych wedi’u talu – er enghraifft, os yw eich rhent yn £750, mae angen i chi ysgrifennu ‘£750.00’.
Os nad ydych yn siŵr o unrhyw beth, gwiriwch unrhyw ddogfennau neu negeseuon e-bost sydd gennych.
Ar ôl i chi gwblhau’r holl gwestiynau mewn adran, ni allwch olygu eich atebion nes y byddwch wedi cwblhau’r holl adrannau eraill.
Os byddwch yn nodi manylion anghywir, efallai y telir y swm anghywir i chi neu efallai y bydd oedi gyda’ch taliad. Os ydych wedi talu gormod, bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu.
Eich sefyllfa tai
Gofynnir i chi am fanylion:
eich cyfeiriad a phryd y gwnaethoch symud yno
eich sefyllfa fyw ac os ydych yn rhentu eich cartref - er enghraifft, gan landlord preifat, y cyngor neu gymdeithas tai
faint o rent ydych chi’n ei dalu ac unrhyw daliadau gwasanaeth - gelwir y rhain yn ‘gostau tai’
sawl ystafell wely sydd gennych – gwnewch yn siŵr bod y nifer yn cyfateb â’ch cytundeb rhentu
pwy sydd ar y cytundeb rhentu a faint yr ydych i gyd yn ei dalu – os yw’n gytundeb ar y cyd
cyfeiriad a rhif ffôn eich landlord os ydych yn rhentu
Mae’n well gwirio eich cytundeb rhentu os nad ydych yn siŵr o unrhyw fanylion. Gall eich cytundeb rhentu gael ei alw'n 'gytundeb tenantiaeth', 'cytundeb trwydded' neu 'ddatganiad ysgrifenedig o'ch contract meddiannaeth'. Os nad oes gennych chi un, edrychwch am unrhyw ddogfennau neu negeseuon e-bost sy’n cadarnhau manylion eich rhent – er enghraifft, datganiad rhent.
Os ydych yn rhentu gan y cyngor neu gymdeithas tai, gallwch hefyd gysylltu â’u hadran gwasanaeth cwsmeriaid. Gallant roi manylion eich rhent a’ch sefyllfa dai i chi.
Eich ‘costau tai’ a’ch sefyllfa fyw
Bydd angen i chi sôn am unrhyw ‘gostau tai’ rydych yn eu talu - mae hyn yn cynnwys unrhyw rent neu ‘daliadau gwasanaeth’.
Mae ‘taliadau gwasanaeth’ yn unrhyw arian rydych yn ei dalu ar gyfer gwaith cynnal a chadw mewn mannau a rennir o amgylch eich cartref neu’ch gardd. Er enghraifft, os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau gyda choridorau a rennir, efallai eich bod yn talu i rywun lanhau’r rhain. Gwiriwch eich cytundeb rhentu i ganfod a ydych yn talu taliadau gwasanaeth.
Os ydych yn derbyn unrhyw gymorth gyda’ch rhent, bydd angen i chi nodi faint yw cyfanswm eich rhent – mae hyn yn cynnwys unrhyw arian rydych yn ei gael i’ch helpu gyda’ch rhent. Er enghraifft, os ydych yn cael £200 o Fudd-dal Tai y mis a’ch bod yn talu £400 o rent y mis, bydd angen i chi nodi mai cyfanswm eich rhent yw £600.
Bydd angen i chi ddweud hefyd os oes gennych unrhyw wythnosau di-rent. Efallai eich bod yn cael wythnosau di-rent os ydych yn rhentu gan y cyngor neu gymdeithas tai.
Gofynnir i chi a oes unrhyw un arall wedi’u henwi ar y cytundeb rhentu. Os ydynt, bydd angen i chi wybod beth yw cyfanswm eich rhent – y rhent cyfunol rydych yn ei dalu am y cartref.
Manylion eich landlord
Gofynnir i chi am fanylion eich landlord. Os ydych yn rhentu gan y cyngor neu gymdeithas tai, mae’n bosibl y bydd y rhain yn ymddangos yn awtomatig.
Nid oes rhaid i chi roi cyfeiriad e-bost eich landlord os ydych wedi rhoi eu cyfeiriad a’u rhif ffôn.
Os nad ydych yn siŵr o fanylion eich landlord, ysgrifennwch ‘’Dan ofal’ a rhoi eich cyfeiriad eich hun. Dylech ddiweddaru hyn cyn gynted â phosibl – os na fyddwch yn ei ddiweddaru, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o arian fel cosb.
Gallai’r DWP gysylltu â’ch landlord i gadarnhau beth rydych wedi’i ddweud wrthynt. Os oes gennych landlord preifat, bydd DWP yn gofyn am eich caniatâd cyn cysylltu â nhw.
Y Dreth Gyngor
Gofynnir i chi os:
yw eich enw ar fil y Dreth Gyngor
ydych wedi gwneud cais am Ostyngiad y Dreth Gyngor
Os ydych yn crybwyll eich bod eisoes yn cael Gostyngiad y Dreth Gyngor neu os ydych yn bwriadu gwneud cais, gall DWP roi gwybod i’ch cyngor eich bod yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Bydd yn rhaid i chi barhau i wneud cais am Ostyngiad y Dreth Gyngor.
Eich iechyd
Gofynnir i chi a oes gennych ‘anabledd, salwch neu gyflwr iechyd parhaus’ sy’n ei gwneud yn anodd i chi weithio, neu i chwilio am waith. Dylech gynnwys eich cyflyrau iechyd corfforol ac iechyd meddwl, fel iselder neu orbryder.
Gofynnir i chi hefyd:
pryd oedd y tro diwethaf i chi weithio, os nad ydych yn gweithio mwyach – gofynnwch i aelod o’r teulu neu ffrind os nad ydych yn siŵr
os ydych wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar neu os ydych yn cael triniaeth feddygol
Efallai eich bod wedi cael nodyn ffitrwydd gan weithiwr proffesiynol gofal iechyd sy’n eich trin.
Pryd y mae angen nodyn ffitrwydd
Mae’n rhaid i chi ddarparu nodyn ffitrwydd os:
ydych wedi bod yn sâl am fwy na 7 niwrnod
oes gennych gyflwr iechyd tymor hir
Os na allwch gael nodyn ffitrwydd sy’n cadarnhau eich cyflwr, bydd angen i chi ddileu’r cyflwr o’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.
Cael nodyn ffitrwydd
Gallwch gael nodyn ffitrwydd gan y gweithwyr proffesiynol gofal iechyd canlynol:
eich meddyg teulu neu feddyg mewn ysbyty
nyrs gofrestredig
fferyllydd
therapydd galwedigaethol
ffisiotherapydd
Bydd eich nodyn ffitrwydd wedi’i argraffu neu’n fersiwn ddigidol. Os nad ydych yn siŵr pa fath y byddwch yn ei gael a sut y byddwch yn ei gael, holwch eich gweithiwr proffesiynol gofal iechyd.
Os cewch nodyn ffitrwydd wedi’i argraffu, gwnewch yn siŵr bod y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd wedi’i lofnodi.
Os cewch nodyn ffitrwydd digidol, gwnewch yn siŵr ei fod yn cynnwys enw’r gweithiwr proffesiynol gofal iechyd.
Os na fydd y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd wedi llofnodi eich nodyn ffitrwydd neu os nad ydynt wedi cynnwys eu henw, gallech gael eich gwrthod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac efallai y bydd angen i chi gael un newydd.
Mae eich nodyn ffitrwydd am ddim os ydych wedi bod yn sâl am fwy na 7 niwrnod pan fyddwch yn gofyn amdano. Efallai y bydd angen i chi dalu amdano os ydych wedi bod yn sâl am 7 niwrnod neu lai.
Dylech bob amser gadw eich nodyn ffitrwydd – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am un newydd os byddwch yn ei golli neu’n ei ddileu.
Gallwch:
rhoi copi i DWP – naill ai wedi’i argraffu neu’n ddigidol
ei lwytho i adran ‘Rhestr i’w chyflawni’ eich cyfrif ar-lein
Dylech hefyd fynd â’ch nodyn ffitrwydd gyda chi y tro cyntaf y byddwch yn cwrdd â’ch anogwr gwaith. Os oes gennych nodyn ffitrwydd digidol, gallwch ei ddangos iddyn nhw ar eich ffôn neu ddyfais arall.
Bydd angen i chi roi copi o’ch nodyn ffitrwydd i DWP. Efallai y bydd angen i chi ei lwytho i’ch dyddiadur – holwch eich anogwr gwaith os nad ydych yn siŵr sut i wneud hyn.
Os ydych yn cael anhawster i wneud apwyntiad gyda’ch meddyg teulu neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd arall, dywedwch wrth eich anogwr gwaith pan fyddwch yn siarad gyda hwy am y tro cyntaf. Efallai y byddant yn cytuno nad oes angen i chi weithio neu chwilio am waith nes y byddwch wedi cael apwyntiad.
Os na allwch gael nodyn ffitrwydd
Dylech gynnwys cymaint â phosibl o dystiolaeth yn eich cais. Gallech gynnwys:
llythyr ysbyty
llythyrau gan arbenigwyr
cynllun gofal therapydd galwedigaethol
rhestr gan eich meddyg teulu o unrhyw feddyginiaeth rydych yn ei chymryd
Eich gwaith, incwm a chynilion
Gofynnir i chi a ydych yn gweithio ac a ydych yn hunangyflogedig. Gofynnir cwestiynau ychwanegol i chi am eich sefyllfa waith pan fyddwch yn cael eich apwyntiad cyntaf gyda’ch anogwr gwaith.
Eich incwm a’ch enillion
Ysgrifennwch os oes gennych unrhyw incwm. Mae hyn yn cynnwys arian rydych yn ei gael o:
gwaith
pensiwn
budd-daliadau eraill
cynllun yswiriant
Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw gyflog a gewch gan eich cyflogwr am unrhyw absenoldeb rydych wedi’i gymryd neu’n ei gymryd – er enghraifft:
tâl salwch
tâl gwyliau
tâl mamolaeth
Edrychwch ar eich cyfriflenni banc neu cysylltwch â’ch cyflogwr i holi faint rydych yn ei gael.
Eich cynilion a’ch buddsoddiadau
Bydd eich ‘cyfalaf’ yn cael ei asesu. Mae cyfalaf yn cynnwys unrhyw gynilion a buddsoddiadau sydd gennych. Gofynnir i chi am unrhyw gynilion a buddsoddiadau sydd gennych – er enghraifft unrhyw gyfranddaliadau sydd gennych neu os ydych yn berchen ar eiddo nad ydych yn byw ynddo. Gallai hyn hefyd gynnwys unrhyw daliadau mawr untro rydych wedi’u derbyn, fel tâl dileu swydd.
Os oes gennych fwy na £16,000 o gyfalaf, mae’n bosibl y gallwch barhau i hawlio Credyd Cynhwysol os ydych yn cael credydau treth. Mae angen i chi fod wedi derbyn llythyr gan DWP yn dweud wrthych am symud i’r Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol. Gwiriwch pwy sy’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Eich costau gofal plant
Gallwch hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant os ydych:
yn gweithio
wedi gweithio yn ystod y ddau fis diwethaf
yn mynd i ddechrau gweithio yn y ddau fis nesaf
Dim ond costau gofal plant yr ydych eisoes wedi’u talu y gallwch eu hawlio – ni chewch unrhyw arian ar gyfer costau yn y dyfodol.
Eich darparwr gofal plant
Bydd angen i chi roi manylion eich darparwr a’r costau. Dylai hyn gynnwys:
eu cyfeiriad a’u rhif ffôn
eu rhif cofrestru
faint wnaethoch chi ei dalu a phryd
pa ddyddiadau sydd wedi’u cwmpasu gan y taliadau
pa blentyn neu blant y mae’r darparwr hwn yn gofalu amdanynt
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth fel derbynebau neu anfonebau gan eich darparwr gofal plant. Mae’n rhaid i’r dystiolaeth hon nodi ‘talwyd’ a’i bod ar bapur pennawd – sef papur sydd ag enw’r unigolyn neu’r sefydliad ar y brig.
Gallwch lwytho tystiolaeth o faint rydych chi wedi’i dalu i mewn i’ch cyfrif. Gall hyn fod yn ffotograff, sgan neu sgrinlun o’r anfoneb rydych wedi’i thalu. Gallwch hefyd fynd â hyn i’ch apwyntiad yn y Ganolfan Gwaith.
Os nad oes gennych brawf yna ni chewch unrhyw arian tuag at eich costau gofal plant.
Cysylltwch â’ch darparwr gofal plant os bydd angen unrhyw ddogfennau arnoch.
Ar ôl i chi gwblhau eich ‘rhestr i’w chyflawni’
Bydd angen i chi gytuno bod yr holl wybodaeth a roddwyd gennych yn gywir – bydd angen i chi roi tic i gadarnhau pob adran wahanol. Mae hyn i gyd yn rhan o’ch ‘datganiad’. Os byddwch yn rhoi tic ‘na’, gallwch ddiweddaru’r wybodaeth cyn cyflwyno eich cais.
Darllenwch drwy’r hyn rydych wedi’i ysgrifennu a gwneud yn siŵr bod yr holl fanylion yn gywir.
Os bydd eich sefyllfa yn newid, dylech ddiweddaru’r wybodaeth ar eich cyfrif cyn gynted ag y gallwch. Gallai eich Credyd Cynhwysol gael ei atal neu ei leihau os nad yw eich manylion yn gywir.
Efallai y bydd angen i chi ateb cwestiynau ychwanegol ar ôl i chi gyflwyno eich hawliad – yn ddibynnol ar eich sefyllfa. Er enghraifft os oes gennych gyflwr iechyd ac nid ydych wedi cael nodyn ffitrwydd gan eich meddyg eto, bydd angen i chi roi’r manylion ar ôl i chi ei gael.
Cadarnhau eich hunaniaeth
Bydd angen i chi gadarnhau pwy ydych chi drwy ddefnyddio system ar-lein y llywodraeth.
Byddwch ond yn gallu ei defnyddio os oes gennych fathau arbennig o ddulliau adnabod – fel pasbort y DU neu drwydded yrru ddilys neu drwydded dros dro y DU.
Os na fydd yn gweithio, gallwch gadarnhau eich hunaniaeth wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Gwaith neu dros y ffôn. Dysgwch fwy am gadarnhau eich hunaniaeth mewn apwyntiad.
Y Camau nesaf
Mae’n rhaid i chi gwblhau ychydig o gamau pellach o hyd cyn y byddwch wedi gorffen eich hawliad.
Bydd angen i chi:
trefnu eich apwyntiad gyda’ch anogwr gwaith
cwblhau unrhyw dasgau newydd yn eich ‘rhestr i’w chyflawni’ – bydd angen i chi wneud y rhain cyn i chi fynd i’r Ganolfan Gwaith
mynd i’ch cyfweliad yn y Ganolfan Gwaith
Pan fyddwch wedi gorffen eich cais, bydd angen i chi gael cyfweliad gyda’ch anogwr gwaith – naill ai yn y Ganolfan Gwaith neu dros y ffôn. Bydd angen i chi gasglu tystiolaeth ac ateb rhai cwestiynau yn eich cyfweliad, felly mae’n bwysig paratoi. Dysgwch fwy am baratoi ar gyfer eich cyfweliad Credyd Cynhwysol.
Os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais am Gredyd Cynhwysol, gallwch siaradwch â chynghorydd.
Budd-daliadau ac arian arall y gallwch eu cael
Bydd fel arfer yn cymryd 5 wythnos i gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, ond gallwch ofyn i rywfaint o’r arian gael ei dalu’n gynharach. Dysgwch fwy am gael rhagdaliad o’r Credyd Cynhwysol.
Efallai y gallwch gael arian o fudd-daliadau eraill hefyd – er enghraifft, os ydych yn ofalwr neu os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor.
Gallwch ddefnyddio’r cyfrifwyr budd-daliadau Turn2us neu Entitledto am ddim i weld pa fudd-daliadau y gallwch eu cael. Byd angen i chi fod yn ddinesydd o Brydain neu Iwerddon i ddefnyddio’r gyfrifiannell.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 07 Mawrth 2022