Help gyda’ch ffurflen adolygu PIP
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’r cwestiynau yn y ffurflen adolygu PIP yn seiliedig ar yr un tasgau a gweithgareddau bob dydd ag sy’n cael sylw gan y ffurflen hawlio PIP, er enghraifft, paratoi bwyd, cymysgu gydag eraill a symud o gwmpas.
Bydd rhaid i chi ddisgrifio sut rydych chi’n mynd i’r afael â phob tasg neu weithgarwch erbyn hyn. Meddyliwch am unrhyw beth sydd wedi newid ers eich asesiad diwethaf ac a yw’n anoddach neu’n haws.
Bydd yr hyn rydych chi’n ei ddweud ar y ffurflen yn helpu’r Adran Gwaith a Phensiynau i ddeall sut mae pethau wedi newid ers eich asesiad diwethaf.
Os cafodd eich PIP ei ymestyn yn awtomatig
Dylai'r Adran Gwaith a Phensiynau fod wedi ymestyn eich hawliad yn awtomatig os oedd ar fin dod i ben cyn iddynt ei adolygu. Dylent fod wedi cysylltu â chi i ddweud wrthych fod eich hawliad wedi'i ymestyn.
Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi anfon ffurflen adolygu atoch, byddwch yn parhau i gael PIP tra byddant yn adolygu eich cais.
Gwiriwch y cwestiynau ar eich ffurflen
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi dechrau anfon fersiwn newydd o’r ffurflen adolygu PIP.
Mae hyn yn golygu efallai na fydd y cyngor ar y dudalen hon yn cyfateb i'r ffurflen a anfonwyd atoch. Dylech ateb y cwestiynau ar y ffurflen sydd gennych. Nid oes ots pa fersiwn o’r ffurflen a ddefnyddiwch – ni fydd yn effeithio ar eich adolygiad PIP.
Gallwch gael help gan gynghorydd os bydd ei angen arnoch.
Os oes dim wedi newid
Bydd angen i chi ysgrifennu bod pethau wedi aros yr un fath ers eich asesiad diwethaf. Disgrifiwch sut rydych chi’n mynd i’r afael â phob tasg neu weithgarwch.
Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau angen mwy o wybodaeth i’w helpu i wneud penderfyniad ynglŷn â’ch dyfarniad PIP. Efallai y bydd yn gofyn am asesiad wyneb yn wyneb neu am fwy o wybodaeth gan eich meddyg teulu neu eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Os byddwch chi’n disgrifio sut mae popeth wedi aros yr un fath, dylai eich PIP barhau fel arfer hyd nes i’r Adran Gwaith a Phensiynau wneud ei phenderfyniad.
Gallai’r Adran Gwaith a Phensiynau benderfynu:
cadw’ch dyfarniad PIP yr un fath ac ymestyn hyd y dyfarniad
lleihau neu ddileu swm eich dyfarniad PIP
cynyddu swm eich dyfarniad PIP
Mae Adran 2 yn ymwneud â rheoli triniaethau neu fonitro eich cyflwr iechyd. Mae’n cynnwys cwestiynau ynglŷn â’ch triniaethau, eich therapi, eich llawdriniaethau a’ch meddyginiaeth. Hyd yn oed os oes dim wedi newid ers eich asesiad diwethaf, dylech chi ateb y cwestiynau hyn fel bod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gofnod cyfredol.
Os oes newid wedi bod
Bydd angen i chi ddweud:
beth sydd wedi digwydd i achosi’r newid
pryd y digwyddodd
sut mae hyn wedi gwneud pethau’n haws neu’n anoddach i chi
Dylech chi sôn am bethau fel:
os yw’ch cyflwr neu ei symptomau wedi gwaethygu neu wella
os ydych chi wedi rhoi’r gorau neu wedi dechrau cymryd unrhyw feddyginiaeth
unrhyw gymhorthion neu declynnau newydd rydych chi wedi dechrau eu defnyddio
Hyd yn oed os ydych chi’n ei chael hi’n haws cyflawni tasg neu weithgarwch, dylech roi manylion unrhyw help rydych chi ei angen neu os ydych chi angen defnyddio cymorth neu declyn.
Os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael
Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.
Nodwch yn glir:
os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael
pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael
os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio
sut mae eich anawsterau a’ch symptomau yn amrywio ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael – er enghraifft, rydych chi’n methu â gorffen paratoi pryd o fwyd neu rydych chi ond yn defnyddio llysiau wedi’u torri ymlaen llaw
Mae’n iawn i chi amcangyfrif eich diwrnodau gwael, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif - esboniwch pam. Er enghraifft, am fod eich cyflwr yn anwadal.
Os byddwch chi’n rhedeg allan o le ar y ffurflen
Gallwch ddefnyddio dalenni ychwanegol os byddwch chi’n rhedeg allan o le ar y ffurflen. Gofalwch eich bod chi’n:
rhoi eich rhif yswiriant gwladol ar bob dalen
nodi’n glir pa gwestiwn rydych chi’n ei ateb – mae’n gallu bod yn syniad da i roi rhywbeth fel 'Mae’r ateb i Gwestiwn 3 yn parhau isod' cyn parhau â’ch ateb
glynu unrhyw ddalenni ychwanegol wrth y ffurflen fel na fyddan nhw’n cael eu gwahanu
Gallwch chi ddweud unrhyw beth arall y dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau ei wybod am eich cyflwr iechyd neu eich anabledd, er enghraifft, os ydych chi’n disgwyl llawdriniaeth neu addasiad i’ch cartref. Mae lle i nodi hyn ar y ffurflen.
Mae’n gallu bod yn syniad da cadw copi o’ch ffurflen rhag ofn y bydd angen i chi atgoffa’ch hun o’r hyn wnaethoch chi ei ysgrifennu.
Gwybodaeth ategol
Pan fyddwch chi’n dychwelyd y ffurflen, dylech anfon gwybodaeth ategol hefyd i ddangos sut mae’ch cyflwr iechyd neu eich anabledd yn effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd.
Dylech gynnwys copïau o unrhyw un o’r dogfennau canlynol:
rhestr o’ch presgripsiynau
copi o’ch cynllun gofal, os oes gennych chi un
unrhyw waith papur rydych chi wedi’i gael gan weithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys adroddiadau a llythyrau (dim llythyrau apwyntiad)
Mae’n gallu bod yn syniad da glynu unrhyw ddogfennau wrth y ffurflen fel na fyddan nhw’n cael eu gwahanu.
Peidiwch ag anfon:
y dogfennau gwreiddiol
llythyrau apwyntiad
copïau o unrhyw beth rydych chi wedi’i anfon i’r Adran Gwaith a Phensiynau yn barod
Beth sy’n digwydd nesaf
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi beth maen nhw wedi’i benderfynu. Gallwch herio’r penderfyniad os ydych chi’n anghytuno ag ef.
Os ydych chi’n dweud bod rhywbeth wedi newid, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau:
yn eich ffonio i ofyn am fwy o wybodaeth
yn gofyn i chi roi mwy o dystiolaeth i ddangos sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi
yn gofyn i chi fynd i asesiad wyneb yn wyneb
yn gofyn i chi lenwi ffurflen PIP2 arall (fel y gallan nhw gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw – ni fydd rhaid i chi wneud hawliad newydd)
Os byddwch chi’n dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau bod dim wedi newid, gallent ofyn am fwy o dystiolaeth neu asesiad wyneb yn wyneb o hyd.
Os ydych yn aros am asesiad meddygol
Ar hyn o bryd bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ceisio gwneud yr asesiad drwy edrych ar eich tystiolaeth feddygol a siarad â chi dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Mae’n bwysig anfon eich tystiolaeth feddygol cyn gynted â phosibl.
Os na all yr Adran Gwaith a Phensiynau eich asesu dros y ffôn neu drwy alwad fideo, byddant yn eich gwahodd i asesiad meddygol wyneb yn wyneb.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.