Gwiriwch a allwch dalu llai ar eich biliau dŵr
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gallech gael help os nad oes gennych incwm neu os yw eich incwm yn isel – neu eich bod yn cael budd-daliadau. Efallai y gallwch:
talu llai am y dŵr rydych yn ei ddefnyddio
gwneud cais i’ch cwmni dŵr am gyfradd ratach – gelwir y rhain weithiau yn ‘dariffau cymdeithasol’
cael eich cyflenwr dŵr i gyfyngu’r swm rydych yn gorfod ei dalu am ddŵr bob blwyddyn
Gallai fod yn werth cael mesurydd dŵr hefyd os nad oes gennych un yn barod.
Os na allwch dalu eich bil
Ni all y cwmni dŵr dorri eich dŵr i ffwrdd, ond dylech siarad â nhw cyn gynted ag y gallwch. Os na fyddwch yn talu neu’n cytuno sut y byddwch yn ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych, gallant fynd â chi i’r llys neu gymryd arian o’ch budd-daliadau.
Os ydych yn byw ar eich pen eich hun ac nad oes gennych fesurydd dŵr
Gofynnwch i’ch cwmni dŵr a ydych ar ‘dariff un deiliad sefydlog’. Os nad ydych, gofynnwch a allant eich newid i un - dylai fod yn gyfradd ratach.
Os ydych yn gofyn am fesurydd dŵr ac nad yw’r cwmni dŵr yn gallu gosod un, bydd yn rhaid iddyn nhw roi’r dewis i chi newid i dariff un deiliad sefydlog.
Os ydych yn anabl
Os ydych yn cael budd-dal anabledd, fel Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), efallai y gallwch gael tariff cymdeithasol neu derfyn ar eich bil dŵr. Gofynnwch i'ch cwmni dŵr beth rydych yn gymwys ar ei gyfer - dylech ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar eich bil.
Os ydych yn cael anhawster i ddelio â’ch cwmni dŵr, gallwch ofyn am gymorth ychwanegol – gelwir hyn yn ‘wasanaethau blaenoriaeth’. Er enghraifft, os yw’n anodd i chi gyrraedd at eich mesurydd dŵr, gallai eich cwmni dŵr gytuno i’w symud.
Gallwch ddarllen mwy am wasanaethau blaenoriaeth ar wefan Cyngor Defnyddwyr Cymru. Mae’r Cyngor yn sefydliad annibynnol sy’n rhoi cyngor am ddim i bobl sy’n cael problemau gyda’u cyflenwr dŵr.
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Efallai y gallwch gael gostyngiad ar eich bil os ydych naill ai’n:
cael Credyd Pensiwn
eich Pensiwn y Wladwriaeth yw eich unig incwm
Siaradwch â'ch cwmni dŵr a gofynnwch pa ddisgownt y gallwch ei gael - dylech ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar eich bil.
Os bydd angen tystiolaeth arnoch eich bod yn cael Credyd Pensiwn, gallwch gael llythyr prawf budd-dal ar GOV.UK. Bydd angen i chi wybod beth yw eich rhif yswiriant gwladol.
Gallwch gysylltu hefyd â’r Gwasanaeth Pensiwn dros y ffôn neu drwy’r post a gofyn iddyn nhw anfon llythyr prawf budd-dal atoch. Gwiriwch sut i gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn ar GOV.UK.
Os nad ydych yn cael Pensiwn Credyd, gallwch wirio a allwch gael Credyd Pensiwn.
Gwirio a allwch gael tariff cymdeithasol
Mae gan bob cwmni dŵr ei reolau ei hun ynghylch pwy all gael eu tariff cymdeithasol. Er enghraifft, gallai ddibynnu ar ba fudd-daliadau a gewch.
Dim ond os mai chi yw deiliad y prif gyfrif a enwir ar eich contract dŵr y gallwch wneud cais.
Gwiriwch a allwch gael tariff cymdeithasol eich cwmni dŵr ar wefan Cyngor Defnyddwyr Cymru (CCW). Mae’r Cyngor yn sefydliad annibynnol sy’n rhoi cyngor am ddim i bobl sy’n cael problemau gyda’u cyflenwr dŵr.
Gallwch hefyd ffonio'ch cyflenwr dŵr a gofyn iddynt pa dariffau y maent yn eu cynnig. Dywedwch wrthyn nhw am eich sefyllfa - er enghraifft:
rydych yn cael unrhyw fudd-daliadau
rydych yn cael anhawster i dalu eich biliau dŵr
Gwiriwch a allwch leihau’r swm rydych yn gorfod ei dalu
Efallai y gallwch gael eich cwmni dŵr i gyfyngu ar y swm y mae'n rhaid i chi ei dalu. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn talu mwy na swm penodol bob blwyddyn. Gelwir hyn yn ‘gynllun WaterSure Cymru’.
I wneud cais am gynllun WaterSure Cymru mae'n rhaid i chi gael mesurydd dŵr a’ch bod yn derbyn budd-daliadau penodol, fel Credyd Cynhwysol.
Hefyd, rhaid i un o'r canlynol fod yn berthnasol:
rydych yn byw gyda 3 neu fwy o blant o dan 19 oed
mae gennych chi neu rywun sy’n byw gyda chi gyflwr iechyd sy’n golygu eu bod yn defnyddio llawer o ddŵr, er enghraifft mae angen defnyddio’r gawod yn aml
Gwiriwch a allwch wneud cais am gynllun WaterSure Cymru.
Os nad oes gan eich aelwyd unrhyw incwm neu incwm isel
Efallai y gallwch gael tariff rhatach gan eich cwmni dŵr. Bydd enw’r tariff hwn yn dibynnu ar ba gyflenwr dŵr sydd gennych.
Os mai Dŵr Cymru yw eich cyflenwr dŵr
Efallai y gallwch gael tariff rhatach o’r enw ‘HelpU Dŵr Cymru’.
I wneud cais am dariff HelpU Dŵr Cymru, rhaid i bob un o’r canlynol fod yn wir:
mae eich dŵr at ddefnydd domestig yn unig – mae hyn yn golygu defnydd personol, er enghraifft paratoi bwyd neu gael cawod
mae’n rhaid bod rhywun yn eich aelwyd yn derbyn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd, fel Credyd Cynhwysol
rhaid i incwm eich aelwyd fod yn is na swm penodol - mae hyn yn dibynnu ar faint o bobl sy'n byw gyda chi
Gwiriwch a allwch wneud cais am y tariff HelpU ar wefan Dŵr Cymru.
Os Hafren Dyfrdwy yw eich cyflenwr dŵr
Efallai y gallwch gael tariff rhatach o’r enw'r ‘Cynllun Here2Help’.
I wneud cais am y cynllun Here2Help rhaid i incwm eich cartref fod yn is na swm penodol. Mae hyn yn dibynnu ar nifer y 'dibynyddion' sydd gennych.
Os nad oes gennych unrhyw ddibynyddion, rhaid i incwm eich aelwyd fod yn llai na £22,010.
Os oes gennych 1 neu 2 ddibynnydd, rhaid i incwm eich cartref fod yn llai na £24,010.
Os oes gennych chi 3 neu fwy o ddibynyddion, rhaid i incwm eich aelwyd fod yn is na £26,010.
Gwiriwch a allwch wneud cais am y tariff Here2Help ar wefan Hafren Dyfrdwy.
Gwirio ffyrdd i ddefnyddio llai o ddŵr
Gallwch gael awgrymiadau ar ddefnyddio llai o ddŵr yn eich bywyd bob dydd ar wefan Cyngor Defnyddwyr Cymru. Mae’r Cyngor yn sefydliad annibynnol sy’n rhoi cyngor am ddim i bobl sy’n cael problemau gyda’u cyflenwr dŵr.
Gwiriwch a ddylech gael mesurydd dŵr
Gall cael mesurydd dŵr wedi’i osod eich helpu i:
cadw golwg ar faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio
arbed arian oherwydd byddwch ond yn talu am y dŵr rydych yn ei ddefnyddio
Os ydych chi'n defnyddio llawer o ddŵr, efallai na fydd cael mesurydd dŵr yn arbed arian i chi. Er enghraifft, efallai na fydd yn arbed arian i chi os ydych yn byw mewn aelwyd mawr.
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell defnydd dŵr i'ch helpu i gyfrifo a all mesurydd dŵr arbed arian i chi. Gallwch chi defnyddio’r gyfrifiannell ar wefan Cyngor Defnyddwyr Cymru.
Gallai fod gan eich cwmni dŵr gyfrifiannell ar eu gwefan hefyd.
Pe baech yn arbed arian gyda mesurydd dŵr, gofynnwch i'ch cwmni dŵr osod un. Dylech ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cwmni dŵr ar eich bil.
Os na all eich cwmni dŵr roi mesurydd dŵr i chi
Mae’n rhaid i’ch cwmni dŵr gynnig cyfradd arall i chi ar gyfer eich biliau dŵr yn lle hynny, sef ‘tâl a aseswyd’.
Bydd eich cwmni dŵr yn gofyn cwestiynau i chi am faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio ac am eich cartref. Gallai hyn gynnwys faint o ystafelloedd gwely sydd gennych a nifer y bobl sy'n byw yn eich cartref.
Dylai eich cwmni dŵr roi manylion i chi ynglŷn â faint fyddwch chi’n ei dalu ar y gyfradd tâl a aseswyd er mwyn i chi allu ei gymharu â’r hyn rydych chi’n ei dalu ar hyn o bryd.
Os ydych yn cael trafferth gyda chostau byw
Os ydych chi’n cael trafferth gydag arian, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i arbed ar eich costau byw arferol. Gwiriwch beth i’w wneud os bydd angen help arnoch gyda chostau byw.
Os ydych yn cael trafferth i dalu eich biliau, gallwch gael cymorth. Dysgwch fwy am gael help gyda’ch biliau.
Gallwch hefyd gael help gyda dyled.
Os ydych yn cael trafferth i dalu am fwyd, dysgwch sut i gael help gan fanc bwyd.
Os yw pethau'n anodd i chi
Mae eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â'ch iechyd corfforol. Dylech siarad â'ch meddyg teulu os yw eich problemau ariannol yn effeithio ar eich iechyd meddwl.
Gallwch ganfod ffyrdd eraill o gael cymorth gyda’ch iechyd meddwl ar wefan Mind.
Os ydych eisiau siarad gyda rhywun
Gallwch siarad â gwirfoddolwr hyfforddedig mewn sefydliadau fel Y Samariaid neu Shout.
Y Samariaid
Llinell gymorth: 116 123 (dydd Llun i ddydd Sul unrhyw amser)
Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (dydd Llun i ddydd Sul 7pm i 11pm)
Mae galwadau i’r Samariaid am ddim.
Gallwch ganfod ffyrdd eraill i gysylltu â’r Samariaid ar eu gwefan.
Shout
Gallwch hefyd ysgrifennu neges destun 'SHOUT' i 85258 i ddechrau sgwrs gyda gwirfoddolwr hyfforddedig Shout. Mae negeseuon testun am ddim, yn ddienw ac yn gyfrinachol o unrhyw le yn y DU.
Os ydych yn credu bod argyfwng
Os ydych chi’n credu bod eich bywyd chi neu fywyd rhywun arall mewn perygl, dylech ffonio 999 neu fynd i’r adran damweiniau ac achosion brys os allwch chi.
Gallwch hefyd ganfod rhestr o wasanaethau iechyd meddwl brys ar wefan Mind.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 21 Awst 2024