Mae eich cyn-bartner yn cymryd eich plant heb ganiatâd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’n bosibl y gallwch atal eich cyn-bartner rhag cymryd eich plant rhywle heb eich caniatâd chi.

Rhaid i chi weithredu’n gyflym – p’un a ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n mynd i gael eu cymryd i rywle yn y DU neu dramor.

Os ydych yn credu y byddant yn cael eu cymryd i fyw dramor

Pwysig

Ffoniwch yr heddlu ar 999 os ydych yn credu y bydd eich plant yn cael eu cymryd allan o’r DU yn y 48 awr nesaf. Gall yr heddlu gyhoeddi ‘rhybudd porthladd’ a fydd yn eu hatal rhag cael eu cymryd allan o’r DU. Dysgwch fwy am rybuddion porthladd ar GOV.UK.

Ceisiwch guddio eu pasbortau neu eu hatal rhag cael pasbort – dysgwch fwy am sut i atal rhywun rhag cael pasbort ar GOV.UK.

Mynnwch gyngor cyfreithiol ar unwaith – gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr a all ddelio ag achosion herwgydio plant ar GOV.UK.

Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i’ch helpu i dalu am gyngor cyfreithiol. Os oes angen cymorth arnoch i ddod o hyd i gyfreithiwr neu help gyda ffioedd cyfreithiol, siaradwch â chynghorydd.

Dangoswch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i’ch cyfreithiwr a’r heddlu bod eich cyn-bartner yn bwriadu mynd â nhw dramor - er enghraifft negeseuon testun, e-byst a thocynnau.

Efallai y gallwch gael cymorth gan awdurdodau eraill – dysgwch am yr opsiynau ar GOV.UK.

Gallwch gael cyngor pellach dros y ffôn neu ar-lein gan Reunite – elusen sy’n helpu gydag achosion herwgydio plant i wledydd tramor.

Os ydyn nhw’n symud o fewn y DU

Os na allwch gytuno lle y bydd eich plant yn byw, dylech fynd i weld cyfryngwr. Bydd cyfryngwr proffesiynol yn ceisio eich helpu i gytuno beth sy’n gweithio i chi a’ch plant.

Fel arfer bydd angen i chi ddangos eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu cyn gallu gwneud cais i lys. Mae yna eithriadau sy’n golygu nad oes rhaid i chi roi cynnig ar gyfryngu i ddechrau – er enghraifft, os ydych wedi profi cam-drin domestig. Dysgwch fwy am gyfryngu.

Dylech wneud yn siŵr bod gennych gyfrifoldeb rhiant. Mae pob mam a'r rhan fwyaf o dadau yn gwneud hynny. Os nad ydych yn siŵr, gallwch wirio i weld bod gennych gyfrifoldeb rhiant ar GOV.UK a gwneud cais os nad oes gennych chi.

Os na allwch gytuno

Os ydych wedi rhoi cynnig ar gyfryngu, gallwch wneud cais i lys am ‘orchymyn camau gwaharddedig’.

Rydych chi ond yn debygol o gael gorchymyn camau gwaharddedig os gallwch ddangos bod eich cyn-bartner yn ceisio symud eich plant am reswm nad yw er eu lles gorau - er enghraifft, i atal eich plant rhag eich gweld chi.

Efallai y gallwch ddangos hyn os ydyn nhw wedi ceisio eich atal rhag gweld eich plant yn y gorffennol – er enghraifft, drwy ganslo trefniadau rydych chi wedi’u gwneud i dreulio amser gyda nhw.

Os gall eich cyn-bartner ddangos y bydd bywydau eich plant yn well drwy symud, mae’n fwy tebygol y bydd y llys yn penderfynu o’u plaid.

Os gallwch chi, ceisiwch gael cyngor cyn mynd i lys. Bydd cyfreithiwr yn gallu dweud wrthych a yw llys yn debygol o benderfynu o’ch plaid chi. Gallech hefyd siarad â chynghorydd.

Bydd yn rhaid i chi dalu ffi o £255 i’r llys i gael gorchymyn camau gwaharddedig. Os ydych ar incwm isel, gallech gael help i dalu’r ffi.

Gallwch wneud cais i’r llys am y gorchymyn camau gwaharddedig a dysgu mwy am y ffi ar GOV.UK.

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch lawrlwytho’r ffurflen bapur ar GOV.UK. Bydd yn cymryd mwy o amser i wneud cais drwy’r post o gymharu â gwneud cais ar-lein.

Os yw eich achos yn un brys

Ar ôl i chi wneud cais ar-lein, dylech ffonio’r llys i esbonio pam fod eich achos yn un brys. Bydd y llys yn penderfynu a oes angen gwrandawiad brys arnoch.

Byddai eich achos yn un brys os, er enghraifft:

  • yw eich plentyn mewn perygl

  • nad yw eich cyn-bartner wedi dychwelyd eich plentyn pan ddylent fod wedi gwneud

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y llys ar GOV.UK.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 24 Chwefror 2020