Aros yn y DU fel rhiant i blentyn sy’n byw yma

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os oes gennych blentyn dan 18 oed sy'n byw yn y DU, efallai y gallwch gael fisa rhiant.

Os ydych yn cael fisa rhiant a bod gennych blant eraill o dan 18 oed sydd angen fisâu, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael fisa plentyn ar eu cyfer nhw. Gallwch:

  • wneud cais am y fisa rhiant a phlentyn ar yr un pryd

  • wneud cais am y fisa plant pan fydd gennych fisa rhiant yn barod

Mae fisâu rhieni a phlant yn fathau o fisa teulu. Fel arfer, bydd yn costio rhwng £3,000 a £5,000 i bob unigolyn gael fisa teulu, yn dibynnu ar ei sefyllfa.

Os mai rhiant arall y plentyn yw eich partner

Os caniateir i'ch partner eich noddi i gael fisa partner, rhaid i chi wneud cais am fisa partner yn hytrach na fisa rhiant. Edrychwch i weld a allwch chi gael fisa partner.

Bydd eich fisa rhiant fel arfer yn para am 2 flynedd a 6 mis - neu 2 flynedd a 9 mis os ydych y tu allan i'r DU pan fyddwch yn gwneud cais. Mae fisâu plant yn para nes bydd y fisa rhiant yn dod i ben - hyd yn oed os bydd y fisa plentyn yn dechrau'n hwyrach. Fel arfer, gallwch wneud cais:

  • i ymestyn y ddau fath o fisa cyn iddynt ddod i ben

  • i wneud cais i chi a'ch plant aros yn y wlad yn barhaol ar ôl i chi gael fisa rhiant am 5 mlynedd

I weld a allwch chi a'ch plant gael fisa teulu, bydd angen i chi wirio:

  • a oes gan eich plentyn hawl i fyw yn y DU

  • pwy all wneud cais am fisa rhieni a phlant

  • y rheolau ynghylch eich incwm a'ch cynilion

  • bod lle rydych chi’n byw yn ddiogel ac yn addas

  • a oes angen i chi sefyll prawf Saesneg

Gweld a oes gan eich plentyn hawl i fyw yn y DU

Gallwch gael fisa rhiant os yw eich plentyn yn byw yn y DU a bod ganddo un o'r canlynol:

  • Dinasyddiaeth Brydeinig

  • Dinasyddiaeth Wyddelig

  • caniatâd amhenodol i aros neu hawl preswylio

  • statws preswylydd sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Os oes gan eich plentyn statws cyn-sefydlog, gallwch gael fisa rhiant ond dim ond:

  • os daeth eich plentyn i’r DU erbyn 31 Rhagfyr 2020

  • os byddwch y tu allan i'r DU pan fyddwch yn gwneud cais

Os ydych chi yn y DU pan fyddwch yn gwneud cais, gallwch hefyd gael fisa rhiant os yw eich plentyn wedi bod yn byw yn y DU am 7 mlynedd - mae hyn yn dibynnu a fyddai'n rhesymol iddo adael y DU i fyw gyda chi. Er enghraifft, ni fyddai'n rhesymol iddo adael petai risg i iechyd eich plentyn.

Gweld a allwch chi wneud cais am fisa rhiant

Dim ond os yw un o'r canlynol yn berthnasol y gallwch chi wneud cais am fisa rhiant:

  • mai chi sy'n llwyr gyfrifol am eich plentyn

  • bod eich plentyn fel arfer yn byw gyda chi

  • bod gennych hawliau mynediad i'ch plentyn

Chi sy’n llwyr gyfrifol os chi yw’r unig un sy’n gyfrifol am fagwraeth a lles eich plentyn. Mae hyn fel arfer yn golygu nad yw rhiant arall eich plentyn yn rhan o'i fywyd.

Mae gennych hawliau mynediad os oes gennych hawl i weld eich plentyn. Efallai eich bod wedi cytuno ar hyn gyda’r rhiant arall neu efallai bod gennych orchymyn gan lys teulu. Os oes gennych hawliau mynediad a'ch bod eisoes yn y DU bydd angen i chi ddangos eich bod yn eu defnyddio - er enghraifft ymweld â'ch plentyn yn rheolaidd.

Gofynnwch am help gan gynghorydd arbenigol os nad ydych chi'n siŵr a oes gennych chi gyfrifoldeb llwyr neu hawliau mynediad.

Os ydych chi eisoes yn y DU, dim ond os oes gennych fisa am fwy na 6 mis ar ôl i chi ei gael y gallwch wneud cais. Ni allwch wneud cais os ydych chi yn y DU ar fisa ymwelydd. Os oeddech ar fisa ond ei fod wedi dod i ben, gofynnwch am help gan gynghorydd arbenigol.

Ni allwch wneud cais am fisa rhiant os oes arnoch £500 neu fwy i'r GIG.

Os oes gennych blant eraill sydd angen fisa

Pan fyddwch yn gwneud cais am fisa rhiant, gallwch hefyd wneud cais i'ch plant eraill o dan 18 oed gael fisa plentyn ar yr un pryd.

Os oes gennych chi fisa rhiant yn barod, gallwch wneud cais am fisa plant ar gyfer eich plant o hyd.

Nid oes angen i chi wneud cais am blant sydd eisoes â hawl i fod yn y DU - er enghraifft, os ydynt yn ddinasyddion Prydeinig neu os oes ganddynt ganiatâd amhenodol.

Dim ond os yw'r canlynol yn berthnasol y cewch chi wneud cais am fisa plentyn:

  • chi sy'n llwyr gyfrifol amdano

  • mae rhesymau da iawn pam mae angen i'r plentyn fyw yn y DU - er enghraifft, os nad oes unman arall y gall fynd iddo lle gall rhywun ofalu amdano'n iawn

Chi sy’n llwyr gyfrifol am eich plentyn os mai chi yw’r unig un sy’n gyfrifol am ei fagwraeth a’i les. Mae hyn fel arfer yn golygu nad yw rhiant arall eich plentyn yn rhan o'i fywyd.

Ni allwch wneud cais am blentyn sy'n annibynnol, er enghraifft:

  • os yw'n byw gyda phartner

  • os yw wedi gadael cartref - oni bai ei fod wedi gadael ei gartref i astudio

Darllenwch y rheolau ynghylch eich incwm a'ch cynilion

Rhaid i chi ddangos bod gennych ddigon o incwm i ofalu amdanoch eich hun heb ddefnyddio arian cyhoeddus. Gelwir hyn yn brawf ‘cynnal a chadw digonol’.

I weld a allwch chi basio'r prawf cynnal a chadw digonol, rhaid i chi gyfrifo'n gyntaf faint o incwm y mae'r llywodraeth yn dweud bod ei angen arnoch bob wythnos. Yna bydd angen i chi wirio a oes gennych ddigon o incwm.

Cyfrifwch faint o incwm sydd ei angen arnoch bob wythnos

I gyfrifo faint o incwm y mae'r llywodraeth yn dweud bod ei angen arnoch bob wythnos, adiwch y canlynol at ei gilydd:

  • £90.50 os ydych chi'n sengl neu £142.25 os ydych chi'n byw gyda phartner

  • £83.24 ar gyfer pob plentyn dan 18 oed a fydd yn byw gyda chi

  • eich costau tai - eich taliadau rhent neu forgais ynghyd â'ch treth gyngor yw'r rhain

Os ydych chi’n byw gyda phartner sy’n cael budd-daliadau, peidiwch â chynnwys unrhyw elfen o’ch costau tai a fydd yn dod o dan eu Gostyngiad yn y Dreth Gyngor, Budd-dal Tai neu elfen dai’r Credyd Cynhwysol.

Enghraifft

Mae Rohan yn byw ar ei ben ei hun yn y DU. Mae'n gwneud cais am fisa rhiant - ni fydd yn byw gyda'i blentyn.

Cyfanswm yr incwm wythnosol y mae'r llywodraeth yn dweud bod angen i Rohan ei gael er mwyn cael fisa rhiant yw £90.50 yn ogystal â'i gostau tai.

Mae rhent Rohan yn £200 bob wythnos. Mae ei dreth gyngor yn £34 bob wythnos. Mae £200 a £34 yn £234.

Cyfanswm yr incwm sydd ei angen ar Rohan bob wythnos yw £90.50 a £234. Mae hyn yn £324.50.

Gweld a oes gennych chi ddigon o incwm

Cyfrifwch faint o incwm y byddwch yn ei gael bob wythnos ar ôl tynnu treth. Os ydych yn byw gyda phartner, gallwch ychwanegu ei incwm at eich incwm chi. Gallwch gynnwys enillion, pensiynau ac incwm o bethau fel rhent neu gyfranddaliadau.

Os oes gennych unrhyw gynilion, gallwch eu hychwanegu at eich incwm - rhaid i chi fod wedi cael y cynilion am o leiaf 6 mis. Rhannwch swm eich cynilion yn ôl nifer yr wythnosau rydych chi'n gwneud cais i aros yn y DU - dyma faint y gallwch ei ychwanegu at eich incwm wythnosol.

Os yw cyfanswm eich incwm yn ddigon uchel, byddwch yn pasio'r prawf cynnal a chadw digonol.

Enghraifft

Mae Rohan yn gwneud cais am fisa rhiant. Mae’n gwneud cais i aros yn y DU am 130 wythnos.

Cyfanswm yr incwm wythnosol sydd ei angen arno i gael fisa rhiant yw £324.50.

Enillion wythnosol Rohan ar ôl treth yw £310 - nid oes ganddo incwm arall.

Mae gan Rohan £2,600 o gynilion, a gafodd dros y 6 mis diwethaf. £2,600 wedi’i rannu â 130 yw £20. Mae hyn yn cael ei ychwanegu at ei incwm.

Mae £310 a £20 yn £330. Cyfanswm incwm wythnosol Rohan yw £330. Mae hyn yn fwy na'r incwm sydd ei angen arno, felly gall gael fisa rhiant.

Os nad yw cyfanswm eich incwm yn ddigon uchel

Pan fyddwch yn cyfrifo cyfanswm eich incwm, efallai y gallwch gynnwys budd-daliadau eraill y mae eich partner yn eu cael - er enghraifft rhai elfennau o'r Credyd Cynhwysol. Mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os oes angen help arnoch i gyfrifo a allwch basio'r prawf cynnal a chadw digonol, siaradwch â chynghorydd.

Gwnewch yn siŵr bod lle rydych chi’n byw yn ddiogel ac yn addas

Bydd yn rhaid i chi ddangos bod lle rydych chi’n byw yn ddiogel, yn addas ac yn ddigon mawr ar gyfer nifer y bobl rydych chi eisiau byw yno gyda chi. Does dim angen i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hun ond mae angen rhywle lle gallwch chi aros yn y tymor hir. Er enghraifft, efallai fod gennych gytundeb tenantiaeth neu ystafell eich hun yn nhŷ eich rhieni.

Os ydych yn byw mewn tŷ cyngor neu os yw eich landlord yn gymdeithas dai, gallwch weld faint o bobl sy'n cael byw yn eich cartref. Gelwir hyn yn ‘nifer y bobl a ganiateir’ (PNP). Fel arfer, mae'r PNP ar eich cytundeb tenantiaeth, neu gallwch ofyn i'ch landlord. Nid yw plant dan flwydd oed yn cael eu cynnwys yn y cyfanswm, ac mae plant rhwng 1 a 10 oed yn cyfrif fel hanner person.

Os nad yw eich landlord yn gyngor neu'n gymdeithas dai, edrychwch ar ganllawiau eich cyngor lleol am orlenwi. Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Gweld a oes angen i chi sefyll prawf Saesneg

Fel arfer, bydd angen i chi sefyll prawf Saesneg cyn gwneud cais am fisa rhiant. Does dim angen i’ch plant sefyll prawf Saesneg.

Does dim rhaid i chi sefyll prawf os yw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych eisoes wedi pasio'r prawf i gael fisa - er enghraifft fisa partner

  • rydych chi'n dod o wlad sydd wedi'i heithrio oherwydd bod y Saesneg yn iaith swyddogol neu fwyafrifol yno - er enghraifft Jamaica neu UDA

  • mae gennych radd a gafodd ei haddysgu neu ei hymchwilio yn Saesneg

  • rydych chi dan 18 oed neu'n hŷn na 65 oed

Os oes gennych gyflwr corfforol neu feddyliol sy’n eich atal rhag pasio’r prawf, efallai na fydd yn rhaid i chi ei sefyll. Bydd angen i chi ofyn i'ch meddyg gadarnhau bod eich cyflwr:

  • yn annhebygol o newid

  • yn ei gwneud yn amhosibl i chi ddysgu digon o Saesneg - er enghraifft, anabledd dysgu neu anaf i'r ymennydd sy'n eich atal rhag dysgu'r iaith 

Gallwch weld y rheolau llawn ynghylch pwy sydd angen sefyll prawf Saesneg ar GOV.UK.

Sefyll prawf Saesneg

Os oes angen i chi basio prawf, rhaid iddo fod ar lefel 'A1' o leiaf ar y raddfa 'Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd' (CEFR). Mae hyn yn profi a ydych chi’n gallu siarad Saesneg a deall Saesneg llafar – nid yw’n profi eich bod yn gallu darllen nac ysgrifennu yn Saesneg.

Rhaid i chi ddefnyddio darparwr prawf cymeradwy. Gallwch ddod o hyd i ddarparwr prawf Saesneg cymeradwy ar GOV.UK.

Os ydych chi’n gallu siarad Saesneg yn dda

Mae'n werth sefyll prawf lefel uwch nag A1 - mae hyn yn golygu y gallwch ddefnyddio'r canlyniad ar gyfer ceisiadau fisa diweddarach.

Bydd angen i chi basio prawf:

  • lefel 'A2' pan fyddwch yn gwneud cais i ymestyn eich fisa rhiant

  • lefel 'B1' pan fyddwch yn gwneud cais i fyw yn y DU yn barhaol - gelwir hyn yn 'ganiatâd amhenodol'

Os nad ydych yn bodloni'r rheolau ar gyfer fisa rhieni a phlant

Efallai y byddwch chi a'ch plant yn gallu cael fisa teulu os bydd eithriad yn berthnasol. Mae'r eithriadau'n dibynnu ar p'un ai a ydych chi’n byw yn y DU neu’r tu allan pan fyddwch yn gwneud cais.

Os ydych chi eisoes yn y DU

Dylech allu cael fisa teulu os oes 'amgylchiadau eithriadol'. Mae amgylchiadau eithriadol os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • byddai peidio â chael fisa teulu yn achosi 'canlyniadau llym heb gyfiawnhad' i chi, eich partner neu blentyn dan 18 oed - er enghraifft, os oes angen gofal arbennig arnoch a dim ond yn y DU y gallwch ei gael

  • byddech chi a'ch plentyn yn cael trafferth byw gyda'ch gilydd yn unrhyw le arall yn y byd - er enghraifft, os nad oes gwlad lle mae'r ddau ohonoch yn cael byw

  • os oes gennych blentyn dan 18 oed sydd yn y DU ac sydd naill ai’n ddinesydd Prydeinig neu sydd wedi byw yn y DU ers o leiaf 7 mlynedd

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael fisa teulu os byddai gwrthod eich cais yn effeithio ar eich 'hawl i fywyd preifat neu deuluol'. Mae’n bosibl y bydd unrhyw un o’r canlynol yn effeithio ar eich hawl i fywyd preifat a theuluol:

  • byddai'n anodd iawn i chi fyw yn y wlad y byddai'n rhaid i chi ddychwelyd iddi neu symud iddi - er enghraifft oherwydd diffyg gwaith, addysg, teulu neu ffrindiau, neu os na fyddech yn cael eich derbyn yn ôl yno

  • rydych wedi byw yn y DU ers 20 mlynedd neu fwy

  • rydych chi rhwng 18 a 25 oed ac rydych chi wedi byw yn y DU am o leiaf hanner eich bywyd

Os ydych yn cael fisa yn seiliedig ar amgylchiadau eithriadol neu fywyd preifat a theuluol, dim ond ar ôl 10 mlynedd y gallwch wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros.

Pan fyddwch yn gwneud cais am eich fisa, dylech hefyd ofyn am fynediad at 'gyllid cyhoeddus' os oes ei angen arnoch. Mae hyn yn golygu y cewch hawlio budd-daliadau a gwneud cais am dŷ cyngor. Mae'n haws dangos bod angen arian cyhoeddus arnoch os byddwch yn byw gyda'ch plentyn.

Gofynnwch am help gan gynghorydd arbenigol os ydych chi am wneud cais ar sail amgylchiadau eithriadol neu fywyd preifat a theuluol.

Os ydych chi’n gwneud cais o'r tu allan i’r DU

Dylech allu cael fisa teulu os oes 'amgylchiadau eithriadol'.

Mae amgylchiadau eithriadol os byddai peidio â chael fisa teulu yn achosi 'canlyniadau llym heb gyfiawnhad' i chi, eich partner, neu blentyn dan 18 oed. Er enghraifft, efallai y bydd angen gofal arbennig arnoch ac mai dim ond yn y DU y gallwch chi ei gael.

Os ydych chi a'ch plant yn cael fisâu yn seiliedig ar amgylchiadau eithriadol, dim ond ar ôl 10 mlynedd y gallwch wneud cais i aros yn y DU yn barhaol.

Pan fyddwch yn gwneud cais am eich fisa, dylech hefyd ofyn am fynediad at 'gyllid cyhoeddus' os oes ei angen arnoch. Mae hyn yn golygu y cewch hawlio budd-daliadau a gwneud cais am dŷ cyngor. Mae'n haws dangos bod angen arian cyhoeddus arnoch os byddwch yn byw gyda'ch plentyn.

Gofynnwch am help gan gynghorydd arbenigol os oes angen i'ch partner a'i blant wneud cais ar sail amgylchiadau eithriadol.

Edrych ar eich hawliau i gael fisa

Os ydych chi a'ch plant yn cael fisa teulu, bydd gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweithio neu astudio

  • rhentu neu brynu rhywle i fyw

  • defnyddio’r GIG

  • gadael y DU a dychwelyd cynifer o weithiau ag y dymunwch

Fel arfer, chewch chi ddim hawlio'r rhan fwyaf o fudd-daliadau na gwneud cais am dŷ cyngor. Gelwir hyn yn amod ‘dim cyllid cyhoeddus’. Edrychwch i weld pa fudd-daliadau y gallwch chi eu cael pan fydd gennych chi amod ‘dim cyllid cyhoeddus’.

Os ydych yn cael fisa yn seiliedig ar amgylchiadau eithriadol neu fywyd preifat a theuluol, efallai y gallwch gael budd-daliadau a thai cyngor. Os nad ydych chi’n siŵr, holwch i weld a yw’n dweud ‘dim cyllid cyhoeddus’ ar eich dogfennau, eich trwydded breswylio fiometrig neu eich statws ar-lein.

Darllenwch y rheolau ynghylch aros yn y DU ar ddiwedd y fisa

Gallwch wneud cais i ymestyn y fisa cyn iddo ddod i ben. Bydd yr estyniad am 2 flynedd a 6 mis. Os oes gennych blant sydd â fisa plant, gallwch wneud cais i'w hymestyn ar yr un pryd.

Pan fyddwch wedi bod yn y wlad am 5 mlynedd, gallwch fel arfer wneud cais i aros yn y DU yn barhaol. Gelwir hyn yn 'ganiatâd amhenodol'.

Os ydych yn cael fisa yn seiliedig ar amgylchiadau eithriadol neu fywyd preifat a theuluol, dim ond ar ôl 10 mlynedd y gallwch wneud cais am ganiatâd amhenodol.

Os oes gennych blant sydd â fisa plant, gallwch wneud cais iddynt gael caniatâd amhenodol ar yr un pryd â chi, neu pan fyddwch eisoes wedi'i gael. Does dim ots ers faint mae eich plant wedi bod yn y DU.

Gwneud cais am fisa rhiant

Edrychwch sut y gallwch wneud cais am fisa rhiant.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 11 Gorffennaf 2022