Gwerthu cartref

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Tystysgrifau Perfformiad Ynni

Os ydych yn bwriadu gwerthu eich cartref, rhaid i chi ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni, yn rhad ac am ddim, i unrhyw un sy’n ystyried prynu’ch cartref.  Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni yn rhoi gwybodaeth ar effeithlonrwydd ynni mewn eiddo gan ddefnyddio graddau A i G, ac A yw’r mwyaf ynni effeithlon a G yw’r lleiaf effeithlon. Cynhyrchir y dystysgrif gan aseswr ynni domestig achrededig.

Rhaid i chi, ac unrhyw un sy’n gweithredu ar eich rhan, er enghraifft cwmni gwerthu tai, geisio sicrhau bod tystysgrif ar gael o fewn 7 niwrnod i’r dyddiad y rhoddir yr eiddo ar y farchnad am y tro cyntaf.

Os oes cynllun Bargen Werdd ar eiddo ac mae taliadau i’w gwneud o hyd, rhaid cynnwys gwybodaeth ynglŷn â hyn ar y Dystysgrif Perfformiad Ynni. Mae gwybodaeth bellach ar Dystysgrifau Perfformiad Ynni ar gael ar wefan GOV.UK ar www.gov.uk.

Am wybodaeth ar y Fargen Werdd, gweler Y Fargen Werdd

Mae tystysgrif yn ddilys am ddeng mlynedd ac yn medru cael ei defnyddio sawl gwaith yn ystod y cyfnod hwn.

Defnyddio cwmni gwerthu tai neu werthu'r eiddo eich hun

Os ydych yn dymuno gwerthu eich tŷ gallwch geisio dod o hyd i brynwr ar eich pen eich hun neu ddefnyddio cwmni gwerthu tai. Cyn gwneud penderfyniad, dylech ystyried faint fydd pob dull yn ei gostio a faint o amser sydd gennych wrth gefn. Os ydych yn defnyddio cwmni gwerthu tai, bydd hyn yn fwy costus ond bydd y cwmni gwerthu tai yn cymryd y cyfrifoldeb o hysbysebu, arwain darpar-brynwr o amgylch yr eiddo, a thrafod pris ar gyfer y tŷ. Os ydych yn dymuno dod o hyd i brynwr ar eich pen eich hun, bydd hyn yn rhatach ond fe fydd angen amser arnoch i wneud yr holl drefniadau a delio gydag unrhyw broblemau.

Darganfod prynwr eich hun

Penderfynu ar bris

Os ydych yn dymuno dod o hyd i brynwr ar eich pen eich hun, yn gyntaf mae'n rhaid i chi benderfynu ar y pris yr ydych am ofyn am y tŷ. Mae llawer o gwmnïau gwerthu tai yn prisio'r eiddo am ddim ac felly mae’n bosib i chi drefnu i ddau neu fwy o gwmnïau gwerthu tai ddarparu’r wybodaeth yma. Os ydych yn dymuno cael pris ffurfiol, gallech drefnu i gwmni gwerthu tai roi pris ond fe fydd yn rhaid i chi dalu ffi.

Yn ogystal, gallwch ddod o hyd i brisiau tai yn lleol drwy fwrw golwg dros bapurau newydd lleol, ffenestri cwmnïau gwerthu tai a thai tebyg yn yr ardal.

Cyn penderfynu ar bris, mae’n bosib y byddwch yn dymuno ystyried:-

  • gwneud unrhyw waith atgyweirio neu addurno a fyddai’n gwneud gwerthu’r ty'n haws

  • trefnu cynnal arolwg os credwch bod yna broblemau mawr a allai effeithio ar werth y tŷ, er enghraifft, tô mewn cyflwr gwael.

Yng Nghymru, mae cynllun gan Lywodraeth Cymru, Troi Tai’n Gartrefi, yn medru rhoi benthyciad er mwyn gwneud eiddo’n addas i’w werthu. Cyflwynir ceisiadau trwy’r awdurdod lleol. Mae gwybodaeth bellach am y cynllun ar wefan Llywodraeth Cymru yn: newydd.cymru.gov.uk.

Dylech benderfynu o flaen llaw os ydych yn barod i gynnwys unrhyw ychwanegiadau yn y gwerthiant, er enghraifft, llenni a charpedi. Gelwir y rhain yn ffitiadau. Gellir cynnwys pris y pethau hyn yn y pris a ofynnir neu gellir codi pris amdanynt ar wahân.

Mae yna rai eitemau sy’n rhaid eu gwerthu fel rhan o’r tŷ oni bai eich bod yn esbonio wrth y prynwr nad yw’r eitemau wedi eu cynnwys yn y gwerthiant. Gelwir y rhain yn osodion ac maent yn cynnwys eitemau fel llefydd tân a systemau gwres canolog. Fodd bynnag, mewn rhai achosion nid yw bob tro'n glir p'un ai bod rhywbeth yn osodyn neu’n ffitiad felly byddai’n ddefnyddiol creu rhestr o unrhyw eitemau yr ydych yn bwriadu eu symud neu eich bod yn barod i’w gwerthu er mwyn osgoi problemau’n nes ymlaen.

Mae’n arfer cyffredin i ddarpar-brynwr gynnig pris is am dŷ na’r hyn a ofynnir gan y gwerthwr. Mae’n bosib felly y byddwch yn dymuno ystyried hyn pan yn gosod eich pris, gan felly osod eich pris ychydig yn uwch na’r swm yr ydych yn dymuno ei gael.

Hysbysebu’r tŷ

Yn gyntaf, dylech ddarganfod faint mae’r papurau newydd lleol yn codi am hysbysebion tai ac yna drafftio’r hysbyseb ar sail faint yr ydych yn barod i'w wario. Gallech ddefnyddio hysbysebion blaenorol fel canllaw ar gyfer y ffurf a’r geiriad. Mae hefyd yn bosib hysbysebu’n rhad iawn mewn ffenestri siopau. Fe’ch cynghorir i beidio â rhoi’r cyfeiriad ond rhoi’r rhif ffôn yn hytrach.

Yn olaf, dylech ystyried llunio manylion y ty mewn modd tebyg i’r cwmnïau gwerthu tai, er enghraifft, rhoi manylion ynglyn â faint o ystafelloedd, tâl cymunedol/treth gyngor, cyfleusterau lleol a gosodiadau a ffitiadau. Yna gellir rhoi’r manylion yma i’r ddarpar-brynwyr, cyn iddynt alw, neu phan fyddan nhw’n galw i ymweld â’r lle. Fe allech hefyd feddwl am hysbysebu'r eiddo ar y rhyngrwyd.

Os ydych am ddefnyddio cwmni gwerthu tai

Os ydych yn dymuno defnyddio cwmni gwerthu tai, dylech ddarganfod mwy am y cwmnïau gwerthu tai lleol a chael hyd i'r wybodaeth ganlynol:-

  • pa fath o adeiladau mae’r cwmni gwerthu tai yn arbenigo ynddynt

  • faint fydd y cwmni gwerthu tai yn codi

  • enw da’r cwmnïau gwerthu tai lleol, os yn bosib.

Rhaid i gwmnïau gwerthu tai gydymffurfio â chyfreithiau sy’n diogelu defnyddwyr rhag arferion gwerthu a marchnata annheg. Gellir cael gwybodaeth bellach ar y cyfreithiau hyn a’r hyn fedrwch chi ei wneud i sicrhau bod y broses o werthu eich tŷ yn fwy hwylus oddi ar wefan y Swyddfa Masnachu Teg ar www.oft.gov.uk.

Prisiau cwmnïau gwerthu tai

Mae bron yr holl gwmnïau gwerthu tai yn cyfrif eu ffioedd fel canran o bris gwerthu terfynol y tŷ, rhwng 1½ - 2½% fel arfer. Gelwir hyn yn gyfradd comisiwn. Dylech sicrhau bod y canlynol wedi eu cynnwys yn y ffi canran yma neu a oes yn rhaid talu amdanynt ar wahân:-

  • costau hysbysebu

  • costau paratoi manylion y tŷ, gan gynnwys ffotograffau

  • Arwydd ‘ar werth’

  • TAW

Os ydych yn penderfynu defnyddio cwmni gwerthu tai, mae'n rhaid i’r cwmni gwerthu tai gadarnhau’r costau a’r gyfradd comisiwn y bydd yn ei chodi. Bydd y cwmni gwerthu tai yn gwneud hyn wrth gytuno i weithredu ar eich rhan.

Pa fath o gytundeb ydych chi'n medru ei gael gyda’r cwmni gwerthu tai

Os ydych yn defnyddio un cwmni gwerthu tai i drafod y gwerthiant, mae’n medru bod ar sail cytundeb ‘un cwmni’ neu efallai y bydd gan y cwmni ‘yr unig hawl i werthu’, gan ddibynnu ar y cytundeb yr ydych wedi ei lofnodi. Rhaid esbonio’r ddau derm yma yn ysgrifenedig os ydyn nhw’n cael eu defnyddio mewn cytundeb.

Ystyr ‘yr unig hawl i werthu’ yw fod y cwmni gwerthu tai â hawl ecsgliwsif i werthu’ch cartref ac fe fydd yn rhaid i chi dalu’r cwmni gwerthu tai hyd yn oed os ydych yn dod o hyd i brynwr eich hun.

Mae cytundeb un cwmni yn dal i ddefnyddio un cwmni yn unig, ond os ydych yn dod o hyd i brynwr eich hun nid oes rhaid i chi dalu comisiwn i’r cwmni gwerthu tai. Dylid cytuno ar gytundeb un cwmni am gyfnod penodol o amser.

Os ydych yn penodi dau gwmni gwerthu tai i weithredu gyda’i gilydd i werthu’r eiddo, gelwir hyn yn ‘gyd-werthu’ neu’n ‘gwerthu ar y cyd’. Mewn cytundeb gwerthu ar y cyd, mae’r cwmni gwerthu tai sy’n gysylltiedig yn rhannu’r comisiwn pan fydd yr eiddo’n cael ei werthu waeth pa gwmni gwerthu tai sy’n dod o hyd i’r prynwr. Fel arfer, mae’r comisiwn yn uwch ar gyfer y math hwn o drefniant.

Os ydych yn penodi mwy na dau gwmni gwerthu tai fel ‘cwmnïau niferus’, dim ond y cwmni gwerthu tai sy’n gwerthu’r eiddo fydd â hawl i gomisiwn. Eto, fel arfer mae’r comisiwn yn uwch nag ar gyfer un cwmni.

Beth yw gwaith y cwmni gwerthu tai

Yn gyntaf oll bydd y cwmni gwerthu tai yn ymweld â’r tŷ er mwyn rhoi pris arno a phenderfynu ar bris gyda chi. Mae’n bosib y byddwch yn dymuno gofyn i fwy nag un cwmni gwerthu tai i alw a phrisio’r tŷ. Fe’ch cynghorir hefyd i gymharu’r pris a awgrymwyd gan y cwmni gwerthu tai gyda thai tebyg yn yr ardal.

Bydd y cwmni gwerthu tai yn paratoi manylion am y tŷ i bobl sydd â diddordeb mewn prynu’r tŷ. Bydd y manylion yma’n cynnwys nifer a maint yr ystafelloedd a’r holl osodiadau a ffitiadau a fydd yn cael eu gadael yn y tŷ. Bydd y cwmni gwerthu tai hefyd yn trefnu hysbysebu’r tŷ

Fe arfer, byddwch yn tywys darpar-brynwyr o amgylch y tŷ eich hunan, ond os yw hyn yn broblem, er enghraifft, os ydych yn gweithio neu i ffwrdd o’ch cartref yn aml, fel arfer bydd y cwmni gwerthu tai yn barod i wneud hyn ar eich rhan.

Cwyno am gwmni gwerthu tai

Rhaid i bob cwmni gwerthu tai berthyn i gynllun unioni a gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT). Hyd yn hyn, mae OFT wedi cymeradwyo dau gynllun – cynllun yr Ombwdsman Eiddo a Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo. Mae hyn yn golygu, os oes cwyn gennych am y gwasanaeth a gynigir gan eich cwmni gwerthu tai, ac nid yw'r cwmni gwerthu tai yn medru datrys y broblem, rydych yn medru cwyno i'r Ombwdsman Eiddo neu Wasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cwyno am gwmni gwerthu ai, gweler Problemau gyda phrynu a gwerthu ty.

Penderfynu i bwy mae gwerthu

P'un ai eich bod wedi trefnu i werthu’r tŷ ar eich pen eich hun neu eich bod wedi defnyddio cwmni gwerthu tai, mae’n bosib y byddwch yn derbyn mwy nag un cynnig am y tŷ. Gallwch werthu’r tŷ i bwy bynnag yr ydych yn dymuno ei werthu ac nid oes rhaid i chi werthu i’r prynwr sy’n cynnig y mwyaf o arian. Mae’n bosib y byddwch yn dymuno ystyried a yw’r prynwr yn:-

  • prynu tŷ am y tro cyntaf

  • wedi dod o hyd i brynwr ar gyfer eu tŷ nhw. Os felly, ydyn nhw’n rhan o gadwyn prynu a gwerthu a pha hyd yw’r gadwyn

  • talu gydag arian parod neu yn debygol o gael morgais

  • dymuno symud ar yr un adeg a chi

Os ydych yn defnyddio cwmni gwerthu tai, yn aml mae’n haws i’r cwmni gwerthu tai gael y wybodaeth yma gan y prynwr.

Gallai fod yn anghyfreithlon i werthwr drin pobl yn annheg trwy wahaniaethu yn eu herbyn. Er enghraifft, mae'n anghyfreithlon gwrthod gwerthu eiddo, neu ei gynnig dan amodau llai ffafriol, am fod y darpar-brynwr o grefydd neu gred benodol.

Os ydych yn defnyddio cwmni gwerthu tai i werthu eich eiddo, mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd eu hanabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Os ydych yn gwerthu’ch cartref eich hun, fel arfer mae ond yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd eu hil.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, porwch drwy ein tudalennau Gwahaniaethu.

Penderfynu ar y pris gwerthu

Os ydych yn defnyddio cwmni gwerthu tai, bydd y cwmni gwerthu tai yn trafod telerau pris gyda’r darpar brynw(y)r. Dylai’r cwmni gwerthu tai geisio sicrhau’r pris gorau posib i chi. Os ydych yn gweithredu ar eich pen eich hun, mae'n rhaid i chi drafod telerau. Nid oes yn rhaid i chi dderbyn y cynnig cyntaf a gewch ac ni ddylech ruthro a gwneud penderfyniad byrbwyll.

Derbyn y cynnig

Hyd yn oed os ydych wedi derbyn cynnig, nid yw’r gyfraith yn eich hatal rhag newid eich meddwl a derbyn cynnig yn uwch gan rywun arall. Dylech gofio ei bod hi’n bosib hefyd, wedi derbyn cynnig, i'r darpar-brynwr dynnu'r cynnig yn ôl, er enghraifft, mae’n bosib na roddwyd morgais iddynt, neu bod yr arolwg wedi datgelu problem yn ymwneud â'r adeiladwaith.

Os ydych yn gwerthu ar eich pen eich hun, mae’n bosib y byddai’n syniad da cadw enwau a chyfeiriadau’r holl ddarpar-brynwyr sy’n gwneud cynigion, rhag ofn i’r un a dderbyniwyd gael ei dynnu'n ôl.

Dewis pwy sy'n gwneud y gwaith cyfreithiol (trosglwyddebu)

Pan fyddwch wedi derbyn cynnig mae angen i chi, neu’r cwmni gwerthu tai, hysbysu pwy bynnag sy’n gwneud y gwaith cyfreithiol. Fe allwch wneud y gwaith eich hun – er, fe all hyn fod yn gymhleth, neu fe allwch:-

  • ddefnyddio cyfreithiwr; neu

  • yng Nghymru a Lloegr yn unig, defnyddio trosglwyddwr trwyddedig.

Defnyddio Cyfreithiwr

Mae mwyafrif y cwmniau cyfreithiol yn cynnig gwasanaeth trosglwyddo. Er nad yw pob cyfreithiwr yn medru trosglwyddo'n gyfreithiol, byddai'n ddoeth dewis cyfreithiwr sydd â phrofiad yn y maes.

Am fanylion ynglŷn â dewis cyfreithiwr, gweler Defnyddio cyfreithwyr.

Defnyddio Trosglwyddwr trwyddedig (Cymru a Lloegr yn unig)

Gallwch ddefnyddio trosglwyddwr trwyddedig i wneud y gwaith trosglwyddo. Nid cyfreithwyr yw trosglwyddwyr trwyddedig ond mae ganddynt drwydded gan gyngor y trosglwyddwyr trwyddedig.

Os ydych yn dymuno darganfod a ydyw trosglwyddwr lleol yn drwyddedig gallwch ysgrifennu at Gyngor y trosglwyddwyr trwyddedig.

Am gyfeiriad y Cyngor, gweler Prynu ty.

Darganfod faint fydd hyn yn costio

Cyn dewis pwy fydd yn gwneud y trosglwyddiad, dylech ddarganfod y gost debygol. Mae’n bwysig cysylltu â mwy nag un cyfreithiwr neu drosglwyddwr trwyddedig gan nad oes graddfa ffioedd sefydlog ar gyfer trosglwyddo. Dylech:-

  • ddarganfod p'un ai bod y ffigwr a roddwyd i chi yn ffi sefydlog neu a fydd yn amrywio os bydd angen gwaith pellach

  • darganfod os yw’r ffigwr yn cynnwys costau a TAW a chael y costau yma ar wahân

  • darganfod pa gostau fydd yn berthnasol, os o gwbl, os bydd y gwerthiant yn methu cyn cyfnewid cytundebau.

Cyfnewid cytundebau

Pan fydd y cytundebau wedi cael eu cyfnewid, a chyn cwblhau'r ddêl, mae’n bosib y bydd y prynwr yn dymuno ymweld â’r tŷ, er enghraifft, i fesur ar gyfer carpedi neu i gael amcan bris ar gyfer gwaith adeiladu. Fodd bynnag, ni ddylech ganiatau i unrhyw waith gael ei wneud gan y prynwr cyn cwblhau.

Dylech hysbysu’r cwmnïau tanwydd a’r cwmni ffôn eich bod yn gadael a gofyn iddynt wneud darlleniadau terfynol o’r mesuryddion ar ddiwrnod y cwblhau. Dylech hysbysu’r person yn y cyngor sy’n gyfrifol am dreth gyngor, neu yng Ngogledd Iwerddon, yr Asiantaeth Casglu Trethi sy’n gyfrifol am gasglu trethi.

Os yw’r prynwr yn talu blaendal, bydd yn cael ei dalu i’r cyfreithiwr pan fydd y cytundebau’n cael eu cyfnewid. Bydd y cyfreithiwr yn cadw’r blaendal nes cwblhau'r ddêl.

Cwblhau

Mae'n rhaid i chi drefnu i adael y tŷ yn wag erbyn y diwrnod cwblhau a throsglwyddo’r allweddi.

Bydd eich cyfreithiwr yn derbyn gweddill pris y pwrcais oddi wrth y prynwr a bydd yn ei drosglwyddo, ynghyd â’r blaendal, atoch chi.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.