C10 – aros yn ymwybodol pan yn effro

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 13 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

Sut mae ateb y cwestiwn

Dylech chi ateb y cwestiwn hwn os oes gennych chi salwch neu anabledd sy’n achosi i chi fod yn anymwybodol, neu un sy’n effeithio ar eich ymwybyddiaeth pan fyddwch chi’n effro, er enghraifft:

  • epilepsi

  • diabetes

  • narcolepsi (cyflwr sy’n gwneud i chi syrthio i gysgu ar adegau amhriodol)

  • meigryn difrifol

Nid yw syrthio i gysgu o ganlyniad i gyflwr meddygol neu o ganlyniad i driniaeth am gyflwr meddygol yn cyfrif felly colli ymwybyddiaeth.

"Pan fyddwch yn effro, pa mor aml rydych yn cael ffitiau neu’n llewygu?"

  • Dyddiol

  • Bob wythnos

  • Bob mis

  • Llai na bob mis

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau eisiau gwybod pa mor aml rydych chi’n cael ffitiau neu drawiadau neu’n llewygu neu unrhyw beth arall sy’n amharu’n ddifrifol ar eich ymwybyddiaeth a’ch gallu i ganolbwyntio pan yn effro.

Dydyn nhw ddim eisiau gwybod beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cysgu – boed yn y nos neu yn ystod y dydd.

Efallai na fyddwch chi’n colli ymwybyddiaeth yn llwyr yn ystod ffit neu drawiad ond mae’n bwysig i chi eu cynnwys a dweud sut maen nhw’n effeithio arnoch chi.

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Mae’n bwysig i chi ddweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.

Dylech egluro:

  • os ydych chi’n cael unrhyw rybudd eich bod chi ar fin cael ffit neu drawiad

  • os ydych chi wedi gorfod mynd i’r ysbyty – dywedwch sawl gwaith mae hyn wedi digwydd

  • faint mae’n cymryd i chi ddod dros ffit neu drawiad

  • os ydych chi ofni mynd allan rhag ofn i chi gael ffit neu drawiad

  • os ydych chi wedi anafu eich hun neu wedi cael damwain yn ystod ffit neu drawiad, er enghraifft, os ydych chi wedi taro’ch pen

  • os ydych chi’n dioddef sgil-effeithiau o’r meddyginiaeth – dywedwch beth ydyn nhw a beth rydych chi’n ei wneud amdanyn nhw

  • os ydych chi wedi colli’ch trwydded yrru (neu os nad ydych chi erioed wedi cael un) oherwydd eich salwch neu anabledd

Ar ôl colli ymwybyddiaeth, nodwch:

  • os ydych chi angen amser i ddod atoch chi’ch hun, fel mynd i’r gwely

  • os nad ydych chi’n gwybod sut byddwch chi’n teimlo – efallai y byddwch chi’n ymddwyn yn ymosodol neu’n annisgwyl

  • os nad ydych chi’n ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas

  • os ydych chi angen rhywun i ofalu amdanoch

Enghraifft

Meddai Louise: "Rwy’n rheoli fy niabetes yn eithaf da ond rydw i’n cael hypos unwaith bob rhyw 2 neu 3 wythnos. Pan mae fy siwgr gwaed i’n mynd yn isel, rydw i’n gallu ei deimlo’n dod fel rheol ac yn gofalu bod gen i fyrbrydau a diodydd i geisio atal hypo, ond yn amlach na pheidio mae pethau’n digwydd yn rhy gyflym.

Mae fy ngolwg yn mynd yn niwlog a dydw i ddim wir yn gwybod beth dw i’n ei wneud – mae fy mhartner yn dweud fy mod i’n siarad nonsens ac yn siarad yn dew. Ychydig wythnosau yn ôl, fe ddigwyddodd e wrth i mi gerdded adref o’r siop ac fe lewygais i ar y stryd. Dydw i ddim yn gwybod am faint mae e’n para, ond rydw i’n teimlo’n ddagreuol ac yn benysgafn am dipyn wedyn."

Camau nesaf

Cwestiwn 11: Dysgu sut i wneud tasgau

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.