C12 – ymwybyddiaeth o berygl

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 15 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

Sut mae ateb y cwestiwn

Mae’r cwestiwn hwn yn holi sut mae’ch iechyd meddwl neu nam gwybyddol yn effeithio ar eich ymwybyddiaeth o berygl. Meddyliwch am:

  • a ydych chi’n deall peryglon tasgau bob dydd fel berwi dŵr a defnyddio gwrthrychau miniog

  • a ydych chi’n gallu aros yn ddiogel weithiau, ond cael damweiniau weithiau – meddyliwch pam maen nhw’n digwydd, fel a ydych chi wedi torri’ch hun ar rywbeth miniog, neu losgi’ch hun yn y gegin neu gyda haearn

  • ydych chi’n gwybod sut mae osgoi perygl, er enghraifft, dydych chi ddim yn poeni am draffig neu groesi’r ffordd

  • os ydych chi erioed wedi cwympo neu anafu’ch hun ar y stryd (meddyliwch sut i hyn effeithio arnoch chi wedyn) – fel eich bod chi wedi cael dolur a’ch bod chi bellach yn osgoi strydoedd penodol

"Oes angen rhywun i aros gyda chi am ran fwyaf o’r amser i’ch cadw’n ddiogel?"

  • Na

  • Oes

  • Mae’n amrywio

Os nad oes gennych chi unrhyw un yn eich goruchwylio, dylech nodi pam eich bod chi’n wynebu risg serch hynny.

Peidiwch â theimlo embaras mewn dweud "oes" – os ydych chi angen rhywun gyda chi, mae’n bwysig dweud hynny.

Mae’n bwysig i chi ddweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Dylech egluro yn y bocs (a rhoi enghreifftiau):

  • os ydych chi mewn perygl o niweidio’ch hun – er enghraifft, dydych chi ddim bob amser yn sylwi pan fydd rhywbeth yn beryglus oherwydd iselder neu gorbryder

  • os ydych chi’n gallu gwneud pethau’n fyrbwyll heb sylweddoli pa mor beryglus ydoedd nes yn hwyrach – er enghraifft, mae gennych chi anhwylder deubegynol ac rydych chi’n cymryd risgiau pan fyddwch chi’n cael cyfnod ‘uchel’

  • os ydych chi’n anghofio bod yn ofalus, yn ymddwyn yn afresymol neu’n cymryd risgiau sydyn mewn modd anrhagweladwy

Enghraifft

Meddai Ashley: "Rydw i’n teimlo’n isel iawn tua 6 diwrnod allan o 7. Pan rydw i’n teimlo’n isel iawn, rwy’n anghofio beth ddylwn i fod yn ei wneud, ac yn colli gafael ar amser. Dydw i ddim yn cymryd fy meddyginiaeth yn iawn a dydw i ddim yn gwybod os ydw i wedi cymryd digon o dabledi neu wedi cymryd gormod. Alla i ddim canolbwyntio na chofio pethau felly rydw i wedi gwneud fy hun yn sâl wrth anghofio bwyta a chymryd gormod o dabledi. Anghofiais fwydo’r gath ac roedd e’n denau iawn, felly mae fy nghymydog yn galw draw bob prynhawn i roi bwyd iddo."

Camau nesaf

Cwestiwn 13: Dechrau a darfod tasgau

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.