C15 – mynd allan

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 16 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

Sut mae ateb y cwestiwn

Mae’r cwestiwn yma’n gofyn ydych chi’n gallu ymdopi’n feddyliol neu’n emosiynol wrth fynd allan - er enghraifft, os ydych chi’n bryderus, yn cael pyliau o banig neu’n dioddef o agoraffobia.

Does dim angen i chi ysgrifennu am sut y byddech chi’n cyrraedd llefydd yn gorfforol - dim ond ysgrifennu am y ffordd mae’n gwneud i chi deimlo pan fydd rhaid i chi fynd allan.

Os yw problemau corfforol yn eich atal chi rhag mynd allan, dylech esbonio hyn yng nghwestiwn 1. Dylech chi ateb cwestiwn 1 hyd yn oed os ydych chi’n ei chael hi’n anodd mynd allan am resymau iechyd meddwl.

Enghraifft

“Allwch chi adael y tŷ a mynd allan i lefydd cyfarwydd?”

  • Na

  • Gallaf, os bydd rhywun yn mynd gyda mi

  • Mae’n amrywio

Mae’r cwestiwn yma’n gofyn am lefydd cyfarwydd. Meddyliwch beth fyddai’n digwydd pe bai’n rhaid i chi fynd i’ch Swyddfa Bost, banc neu archfarchnad leol ar eich pen eich hun.

Peidiwch â theimlo cywilydd os oes rhaid i chi dicio “na”, er enghraifft:

  • dydych chi ddim yn gallu mynd i lefydd cyfarwydd y rhan fwyaf o’r amser, hyd yn oed os oes rhywun arall yn dod gyda chi

Os ydych chi’n gallu mynd i le cyfarwydd, ond dim ond os bydd rhywun yn dod gyda chi, dylech dicio “Gallaf” ac esbonio pam, er enghraifft:

  • os byddech chi’n teimlo’n bryderus neu’n ofidus os byddech chi’n ceisio mynd allan heb rywun arall

Enghraifft

“Allwch chi adael y tŷ a mynd i lefydd nad ydych yn gyfarwydd â hwy?"

  • Na

  • Gallaf, os bydd rhywun yn mynd gyda mi

  • Mae’n amrywio

Mae hyn yn ymwneud â llefydd sydd ddim yn gyfarwydd i chi. Meddyliwch beth fyddai’n digwydd pe bai ffrind neu aelod o’r teulu yn symud a’ch bod chi’n mynd i’w tŷ newydd.

Peidiwch â theimlo’n wael os oes rhaid i chi dicio “nac ydw”, er enghraifft os:

  • os ydych chi’n ei chael hi’n anodd mynd i apwyntiad yn rhywle newydd, hyd yn oed os bydd rhywun arall yn dod gyda chi

  • dydych chi ddim yn gallu mynd allan i brynu bwyd ar eich pen eich hun mewn siop nad ydych chi’n mynd iddi fel arfer - dim ond siopau sy’n gyfarwydd i chi - rydych chi’n gallu eu defnyddio, neu rydych chi’n gorfod disgwyl nes bod rhywun yn gallu ei wneud i chi

Os ydych chi’n gallu mynd i le anghyfarwydd, ond ddim ond os bydd rhywun yn dod gyda chi - ticiwch “gallaf” ac esboniwch pam eich bod chi angen y person arall yn y bocs.

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) trwy esbonio’ch sefyllfa yn y bocs.

Dylech esbonio pethau fel:

  • os yw cyflwr iechyd meddwl yn achosi problemau i chi o ran mynd allan - beth yw’r cyflwr a pha feddyginiaeth ydych chi’n ei chymryd ar ei gyfer

  • beth fyddai’n digwydd os byddech chi’n ceisio mynd i le cyfarwydd neu anghyfarwydd ar eich pen eich hun

  • unrhyw anawsterau rydych chi’n eu cael pan fyddwch chi’n mynd allan - er enghraifft, pyliau o banig, mynd ar goll neu ddamweiniau ar y ffordd

  • y gwahaniaeth mae cael rhywun gyda chi’n ei wneud

  • ydych chi’n cael dyddiau da a dyddiau drwg, a beth yw’r gwahaniaethau

Enghraifft

Meddai Cai: “Mae gen i agoraffobia a dim ond llefydd cyfarwydd dwi’n gallu ymdopi â mynd iddyn nhw, fel fy meddygfa leol a thŷ fy nghymydog. Dwi ddim yn gallu mynd i lefydd newydd, hyd yn oed os yw fy ngofalwr yn dod gyda fi. Fe fyddwn i’n cael pryder difrifol petai’n rhaid i mi fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus neu i ysbyty gwahanol i’r un dwi’n mynd iddo fe fel arfer.”

Camau nesaf

Cwestiwn 16: Ymdopi â sefyllfaoedd cymdeithasol

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.