C8 – mynd o amgylch yn ddiogel

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 12 y ffurflen– dyma sut mae’n edrych

Sut mae ateb y cwestiwn

Mae Cwestiwn 8 yn gofyn am broblemau gyda’ch golwg.

Os oes gennych chi gyflwr corfforol arall sy’n effeithio ar eich gallu i fynd o amgylch yn ddiogel, dylech chi ei gynnwys – er enghraifft:

  • meigryn – os yw’n effeithio ar eich golwg neu’n eich gwneud yn benysgafn neu’n rhoi pendro i chi

  • colli eich clyw – os yw’n gwneud symud o gwmpas yn ddiogel yn anoddach i chi

  • narcolepsi (anhwylder sy’n gwneud i bobl syrthio i gysgu ar adegau amhriodol)

  • clefyd Meniere – sy’n rhoi pendro neu’n eich gwneud yn benysgafn

Os ydych chi’n defnyddio sbectols neu lensys cyffwrdd, ci tywys, teclyn clywed neu unrhyw gymorth arall fel arfer, atebwch y cwestiynau ar sail sut rydych chi’n symud o gwmpas wrth eu defnyddio.

Does dim angen i chi ysgrifennu am eich iechyd meddwl yng nghwestiwn 8 – mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â chyflyrau iechyd corfforol yn unig.

Os oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl sy’n ei gwneud yn anodd i chi fynd o amgylch yn ddiogel ar eich pen eich hun (er enghraifft gorbryder neu agoraffobia) ysgrifennwch amdano yng nghwestiwn 15.

“Allwch chi weld i groesi’r ffordd yn ddiogel ar eich pen eich hun?”

  • Na

  • Gallaf

  • Mae’n amrywio

Meddyliwch am geisio croesi ffordd nad ydych chi erioed wedi’i chroesi o’r blaen – er enghraifft, ar y ffordd i apwyntiad yn rhywle newydd.

Peidiwch â theimlo cywilydd os ydych chi’n gorfod teipio “nac ydw”, er enghraifft pe baech chi angen cymorth rhywun arall.

Gallech chi dicio “mae’n amrywio” os yw’n dibynnu ar y tywydd ac a yw’n ystod y dydd neu ar ôl iddi dywyllu.

“Allwch chi symud o amgylch mewn lle nad ydych chi wedi bod ynddo o’r blaen heb help?”

  • Na

  • Gallaf

  • Mae’n amrywio

Eto, peidiwch â theimlo cywilydd os ydych chi’n gorfod ticio “nac ydw” ac y byddech chi angen cymorth gan rywun arall - er enghraifft:

  • os na fyddech chi’n gallu symud o gwmpas lle newydd heb gymorth ar ôl iddi dywyllu

  • os ydych chi’n gweld popeth yn aneglur neu’n gweld dau o bopeth

  • os yw’ch anawsterau clyw chi yn golygu na fyddech chi’n gallu gofyn am gymorth

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Mae’n bwysig eich bod yn dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs – ar gyfer croesi’r ffordd a symud o gwmpas lleoedd newydd.

Mae’n bwysig egluro pethau fel:

  • beth fyddai’n eich atal rhag croesi’r ffordd ar eich pen eich hun

  • a ydych chi wedi disgyn yn y gorffennol

  • a ydych chi’n cael dyddiau da a dyddiau drwg (er enghraifft, os ydych chi’n cael meigryn) – a sut brofiad yw hynny i chi ar wahanol ddyddiau

  • a ydych chi’n gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i symud o gwmpas - er enghraifft dydych chi ddim yn gallu gweld y rhif ar y bws, felly dydych chi ddim yn gwybod ai’r bws iawn yw e

  • os ydych chi’n gallu symud o gwmpas archfarchnad i weld am beth rydych chi’n chwilio

  • os ydych chi’n gallu ffocysu ar bethau pan mae angen – er enghraifft arwyddion ffyrdd

Enghraifft

Meddai Andrea: “Mae cyflwr fy llygaid yn gwaethygu. Rydw i wedi dechrau cael golwg twnnel ac yn ei chael yn anodd gweld wrth iddi dywyllu, neu os yw’r golau’n pylu. Dydw i heb arfer ac rydw i’n mynd yn drwsgl gan fod fy ngolwg perifferol yn mynd. Rydw i’n taro yn erbyn pobl ar y stryd gan nad ydw i wedi’u gweld yn dod - mae’n codi cywilydd mawr arna i.

Ar ôl iddi ddechrau tywyllu, rydw i ond yn gallu croesi’r ffordd gyda rhywun arall neu ar groesfan gan nad ydw i’n gallu gweld beth sy’n dod. Rydw i wedi cael ambell ddihangfa agos pan mae ceir wedi gorfod stopio’n sydyn i beidio â ’nharo i lawr.”

Camau nesaf

Cwestiwn 9: Rheoli eich coluddion a'ch pledren a defnyddio dyfais casglu

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.