C9 – rheoli eich coluddion a’ch pledren a defnyddio dyfais casglu

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 12 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

Sut mae ateb y cwestiwn

Mae’r cwestiwn hwn yn holi a oes gennych chi broblem gyda’ch coluddyn neu’ch pledren tra byddwch chi ar ddihun – nid tra byddwch chi’n cysgu.

Mae’r cwestiwn hwn yn arbennig o berthnasol i bobl â chyflyrau fel IBS a chlefyd Crohn.

Gallech gael problemau o ganlyniad i’ch meddygaeth neu i salwch neu anabledd arall - er enghraifft, os na allwch chi reoli’ch pledren wrth gael ffit epilectic.

Does dim angen i chi deimlo’n embaras – mae’n bwysig bod DWP yn deall mwy am eich sefyllfa fel y gallwch chi gael yr help sydd ei angen arnoch.

"Oes raid i chi ymolchi neu newid eich dillad oherwydd anhawster wrth reoli eich

pledren, coluddion neu ddyfais casglu?"

  • Na

  • Oes – bob wythnos

  • Oes – bob mis

  • Oes – llai na bob mis

  • Oes – ond dim ond pan na allaf gyrraedd y toiled yn gyflym

Os oes rhaid i chi lanhau eich hun a newid eich dillad oherwydd anymataliaeth, dywedwch pa mor aml mae hyn yn digwydd.

Os nad yw hyn wedi digwydd, ond eich bod yn poeni y gallai ddigwydd, neu os nad yw wedi digwydd am eich bod chi’n gwneud yn siŵr bod toiled gerllaw, ticiwch y bocs olaf.

Os ydych chi’n gallu rheoli’ch cyflwr gyda phadiau anymataliaeth, er enghraifft, dylech roi tic wrth “na”. Os oes rheswm pam nad ydych chi’n eu defnyddio, neu os ydych chi dal i fod angen newid eich dillad ar brydiau, ticiwch “oes” ac esboniwch yn y bocs.

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Mae’n bwysig i chi ddweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.

Dylech egluro pethau fel:

  • beth sy’n digwydd os na allwch chi gyrraedd toiled yn gyflym

  • pa mor aml y mae angen i chi ymolchi neu newid eich dillad oherwydd eich bod chi’n ei chael hi’n anodd rheoli’ch pledren neu’ch coluddion

  • a ydych chi’n cario dillad sbâr gyda chi rhag ofn gewch chi argyfwng

  • a ydych chi’n cymryd meddyginiaeth i reoli’ch pledren neu’ch coluddion, ac a yw’n gweithio

  • y problemau rydych chi’n eu cael os ydych chi eisiau mynd allan – er enghraifft, os oes angen i chi aros yn agos at doiled er mwyn osgoi damweiniau

  • pa mor aml mae’ch cyflwr yn gwaethygu, er enghraifft, os yw meddyginiaeth yn cadw’ch clefyd Crohn dan reolaeth gan amlaf, ond eich bod chi’n cael dolur rhydd difrifol unwaith bob 6 mis

Os oes gennych chi gyflwr sy’n newid llawer (er enghraifft, syndrom coluddyn llidus), mae’n bwysig dweud cymaint ag y gallwch am sut mae’n effeithio arnoch chi wrth DWP.

Dylech egluro’ch symptomau, a sut maent yn gallu newid o ddydd i ddydd, neu o fis i fis.

Enghraifft

Meddai Sam: "Ers y ddamwain, rydw i’n ei chael hi’n anodd rheoli fy mhledren, ac rydw i’n poeni os nad ydw i’n agos i doiled neu os nad ydw i’n gwybod ble mae’r toiled agosaf.

Rwy’n tueddu i aros gartref oherwydd rwy’n poeni am golli rheolaeth dros fy mhledren os ydw i allan - mae e wedi digwydd o’r blaen ac mae’n achosi cymaint o embaras. Os oes rhaid i fi fynd allan, rydw i’n mynd â dillad sbâr rhag ofn iddo fe ddigwydd. Mae’n ofnadwy ac mae’n gwneud i mi deimlo fel plentyn."

Camau nesafCwestiwn 10: Aros yn ymwybodol pan yn effro

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.