Beth i’w wneud os cewch eich cosbi pan ydych chi’n derbyn ESA

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Cosbau yw beth sy’n digwydd pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n lleihau’r arian rydych chi’n ei gael am eu bod nhw’n credu nad ydych chi wedi cadw at y rheolau sydd angen i chi eu cadw.

Gofalwch eich bod chi wedi cael eich cosbi’n gywir

Y pethau gallwch chi gael eu cosbi amdanynt

Allwch chi ddim cael eich cosbi os ydych chi yn y grŵp â chymorth ESA. Dim ond pobl yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith sy’n gallu cael eu cosbi.

Tra byddwch chi yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gallu eich cosbi chi:

  • os nad ydych chi’n mynd i gyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith

  • os ydych chi’n mynd, ond ddim yn cymryd rhan yn eich cyfweliad

  • os nad ydych chi’n cymryd rhan mewn gweithgaredd gorfodol sy’n gysylltiedig â gwaith maen nhw wedi gofyn i chi ei wneud

Os ydych chi wedi gwneud y tasgau mae’r DWP yn dweud eich bod chi heb eu cyflawni, dylech ofyn i’r DWP ailystyried y penderfyniad i’ch cosbi chi. Bydd rhaid i chi roi tystiolaeth iddyn nhw eich bod chi wedi gwneud y tasgau. Er enghraifft, llythyr gan gwmni sy’n cadarnhau eich bod chi wedi mynychu hyfforddiant neu brofiad gwaith.

Os ydych chi wedi cael eich cosbi am beidio â gwneud rhywbeth nad oeddech chi wedi cytuno i’w wneud, dylech herio eu penderfyniad nhw a dadlau nad oedd rhaid i chi wneud y gweithgarwch hwnnw.

Os nad ydych chi’n siŵr beth rydych wedi cael eich cosbi amdano, edrychwch ar eich llythyr ‘hysbysiad o gosb’ gan y DWP. Dylai’r llythyr ddweud wrthych chi beth rydych chi wedi cael eich cosbi amdano, e.e. peidio mynd i gyfweliad neu fethu cwrs hyfforddi. Os ydych chi wedi colli’r llythyr, ffoniwch linell gymorth ESA a gofyn iddyn nhw roi’r manylion i chi neu anfon copi o’r llythyr atoch chi.

Llinell gymorth ESA

Ffôn: 0800 055 6688

Ffôn testun: 0800 023 4888

Ffôn Cymraeg: 0800 012 1888

Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8.00am tan 6.00pm

Os oedd gennych chi reswm da dros beidio gwneud y gweithgaredd

Os oedd gennych chi reswm da dros fethu cyfweliad neu weithgaredd cysylltiedig â gwaith, ddylech chi ddim cael eich cosbi. Does dim diffiniad penodol o beth sy’n rheswm da - bydd y DWP yn penderfynu eu hunain a yw’ch rheswm chi’n un da. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn rhesymol ac ystyried eich holl amgylchiadau chi.

Enghreifftiau o resymau da yw:

  • apwyntiad meddygol nad oeddech chi’n gallu ei ail-drefnu

  • marwolaeth yn y teulu

  • roedd eich iechyd neu’ch anabledd chi’n eich rhwystro rhag mynd

Os ydych chi’n credu bod gennych chi reswm da dros fethu cyfweliad neu weithgarwch cysylltiedig â gwaith, mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cynghorydd o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad rydych chi’n cael eich bod chi wedi methu cymryd rhan yn yr apwyntiad neu’r gweithgarwch rydych wedi’i fethu, fel arall, efallai y cewch eich cosbi o hyd.

Oedd y gweithgaredd yn addas ar gyfer rhywun â’ch anabledd neu’ch cyflwr iechyd chi?

Os oes gennych chi anabledd corfforol, salwch neu broblem iechyd meddwl tymor hir, dylai’r gweithgareddau mae disgwyl i chi eu gwneud gael eu haddasu i ystyried hyn – gwneud ‘addasiadau rhesymol’ yw hyn.

Dylai eich cynghorydd personol fod wedi siarad â chi am beth oedd yn bosib i chi yn eich amgylchiadau chi, e.e. os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn efallai mai dim ond lleoliadau hyfforddi sydd â mynediad i gadeiriau olwyn fyddwch chi’n gallu mynd iddyn nhw. Dylai hyn fod wedi gwneud eich gweithgaredd cysylltiedig â gwaith yn fwy ymarferol i chi.

Os nad ydych chi’n teimlo bod hyn wedi digwydd, neu os oeddech chi’n teimlo dan bwysau i gytuno i wneud gweithgareddau oedd ddim yn realistig i chi, efallai eu bod nhw wedi gwahaniaethu yn eich erbyn chi. Rydych chi’n gallu gwneud cwyn ac apelio yn erbyn y gosb. Gallwch fynd i’ch Cyngor ar Bopeth lleol i gael help gyda hyn.

Pa mor hir ddylai cosb bara

Dylai’r gosb bara tan i chi fynd i gymryd rhan yn y cyfweliad neu’r gweithgarwch rydych chi wedi’i fethu. Maen nhw’n ychwanegu amser ychwanegol hefyd, yn dibynnu os mai dyma’r tro cyntaf i chi fethu rhywbeth, neu os yw hyn wedi digwydd o’r blaen:

Eich sefyllfa chi: Amser ychwanegol sy’n cael ei ychwanegu at eich cosb:
Eich sefyllfa chi:
Dyma’r tro cyntaf rydych chi wedi cael eich cosbi 
Amser ychwanegol sy’n cael ei ychwanegu at eich cosb:
Wythnos
Eich sefyllfa chi:
Rydych chi wedi cael eich cosbi o’r blaen, o fewn y flwyddyn ddiwethaf 
Amser ychwanegol sy’n cael ei ychwanegu at eich cosb:
2 wythnos
Eich sefyllfa chi:
Rydych chi wedi cael eich cosbi fwy nag unwaith o’r blaen, o fewn y flwyddyn ddiwethaf 
Amser ychwanegol sy’n cael ei ychwanegu at eich cosb:
4 wythnos

Os ydych chi’n credu na ddylech chi fod wedi cael eich cosbi

Os ydych chi wedi cael eich cosbi a’ch bod chi’n meddwl na ddylech chi fod wedi cael cosb, gallwch ofyn i’r DWP edrych ar hyn eto. ‘Ailystyriaeth orfodol’ yw hyn ac mae’n rhaid i chi fynd drwy’r cam hwn gyda’r DWP cyn y gallwch chi apelio.

Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn mis i’r dyddiad y cafodd y penderfyniad cosb ei anfon atoch chi. Bydd y dyddiad ar yr hysbysiad am y penderfyniad.

Herio penderfyniad y DWP am eich ESA.

Taliadau caledi - arian os ydych chi’n cael trafferth yn ymdopi

Os ydych chi wedi cael eich cosbi ac yn cael trafferth cael arian, gallwch ofyn i’r Ganolfan Waith am daliad caledi. Arian yw hwn i’ch helpu chi i dalu am bethau hanfodol fel bwyd, dillad a gwresogi.

Mae gwneud yn siŵr eich bod chi’n hawlio’r holl fudd-daliadau mae gennych chi hawl i’w cael yn syniad da bob amser. Gallwch chi ddefnyddio’n adnodd ar-lein syml a chyflym i weld pa fudd-daliadau a help ychwanegol allech chi eu cael.

Sut i osgoi cosb arall

Mynd i apwyntiadau

Os bydd angen i chi golli cyfweliad neu weithgarwch am reswm da (er enghraifft, rydych chi’n sâl iawn neu rydych chi yn yr ysbyty) dywedwch wrth eich cynghorydd cyn gynted ag y gallwch chi. Dylech gadw nodyn o ddyddiad ac amser yr alwad ffôn, pwy rydych chi’n siarad â nhw a beth gafodd ei ddweud.

Os ydych chi angen help gyda chost teithio i apwyntiadau, gofynnwch i’r Ganolfan Waith pa help sydd ar gael.

Tystiolaeth o weithgareddau cysylltiedig â gwaith

Dylech gadw dyddiadur bob wythnos o’r cyfweliadau neu weithgareddau cysylltiedig â gwaith rydych chi wedi mynd iddyn nhw. Er enghraifft, y dyddiad aethoch chi ar gwrs hyfforddi a lle cafodd y cwrs ei gynnal. Os oes rhywbeth dydych chi ddim wedi gallu ei wneud, byddwch yn barod i esbonio pam. Os oes rheswm, ceisiwch gael tystiolaeth ohono i ddangos i’ch cynghorydd. Er enghraifft, os oeddech chi’n sâl, cofiwch gael nodyn gan y meddyg.

Rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud wrth linell gymorth ESA am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau personol ar unwaith. Er enghraifft, os yw’ch iechyd neu’ch cyflwr yn gwaethygu neu os byddwch chi’n feichiog neu’n cael plentyn. Gallai hyn olygu eich bod chi’n cael eich trosglwyddo i’r Grŵp Cymorth neu y bydd disgwyl i chi wneud llai o weithgareddau cysylltiedig â gwaith.

Llinell gymorth ESA

Ffôn: 0800 055 6688

Ffôn testun: 0800 023 4888

Ffôn Cymraeg: 0800 012 1888

Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8.00am tan 6.00pm

Gofynnwch am addasiadau i’ch gofynion sy’n ymwneud â gwaith os oes gennych chi anabledd corfforol neu broblem iechyd meddwl tymor hir

Os oes gennych chi anabledd corfforol, salwch neu broblem iechyd meddwl tymor hir, dylai’r gweithgareddau y gallai’r DWP ddisgwyl i chi eu gwneud gael eu haddasu i ystyried hyn - ‘addasiadau rhesymol’ yw’r enw ar y rhain. Siaradwch â’ch cynghorydd personol am beth sy’n ymarferol yn eich amgylchiadau chi e.e. os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn efallai mai dim ond lleoliadau hyfforddi sydd â mynediad i gadeiriau olwyn fyddwch chi’n gallu mynd iddyn nhw. Dylai hyn fod wedi gwneud eich gweithgarwch cysylltiedig â gwaith yn fwy ymarferol i chi a lleihau’r posibilrwydd y byddwch chi’n cael eich cosbi.

Os byddwch chi’n gofyn am addasiad rhesymol ac nad yw hynny’n digwydd, gallai hyn fod yn wahaniaethu ac efallai gallwch chi gwyno. Os ydych chi angen help gyda mater yn ymwneud â gwahaniaethu, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth lleol.

Camau nesaf

Herio penderfyniad gan y DWP.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 10 Awst 2022