Paratoi ar gyfer eich asesiad PIP

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Oni bai bod gennych chi salwch angheuol, bydd rhaid i chi gael asesiad i gwblhau’ch cais am y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) fel arfer. Mae’n gyfle i chi sôn am sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi - nid diagnosis o’ch cyflwr nac archwiliad meddygol yw e.

Os ydych yn aros am asesiad meddygol

Ar hyn o bryd bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ceisio gwneud yr asesiad drwy edrych ar eich tystiolaeth feddygol a siarad â chi dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Mae’n bwysig anfon eich tystiolaeth feddygol cyn gynted â phosibl.

Os na all yr Adran Gwaith a Phensiynau eich asesu dros y ffôn neu drwy alwad fideo, byddant yn eich gwahodd i asesiad meddygol wyneb yn wyneb.

Os ydych yn poeni am gael eich asesu dros y ffôn, gallwch gael rhywun 16 oed neu hŷn ar yr alwad gyda chi. Gallant gymryd rhan mewn trafodaethau a chymryd nodiadau.

Os oes gennych dystiolaeth am eich cyflwr iechyd nad oedd yn eich cais, soniwch am hyn yn ystod yr asesiad. Gallai hyn fod yn dystiolaeth gan weithiwr cymorth neu feddyg. Cynigiwch anfon y dystiolaeth ychwanegol hon at y penderfynwr i helpu gyda'ch asesiad.

Mae’n bwysig eich bod chi’n paratoi - bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn defnyddio tystiolaeth o’r asesiad i benderfynu a allwch chi gael PIP. Bydd yr asesiad dan ofal Gwasanaethau Asesu Annibynnol neu Capita – dylech gael llythyr yn dweud pa un.

Bydd gweithiwr iechyd proffesiynol yn cynnal eich asesiad – bydd yn ysgrifennu adroddiad ac yn ei anfon i yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Siarad am sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi

Dylech fod yn barod i siarad am sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi nodi hynny ar eich ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi’. Gall fod yn anodd gwneud hyn ond bydd o gymorth os gallwch chi sôn am:

  • y math o bethau sy’n anodd i chi, neu dydych chi ddim yn gallu eu gwneud o gwbl – er enghraifft, cerdded i fyny grisiau heb gymorth neu gofio mynd i apwyntiadau

  • sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi o ddydd i ddydd

  • sut beth yw diwrnod gwael i chi – er enghraifft, ‘Ar ddiwrnod gwael, alla i ddim cerdded o gwbl oherwydd mae fy nghoes wael yn brifo cymaint’ neu ‘Ar ddiwrnod gwael, rydw i mor isel nes alla i ddim canolbwyntio ar unrhyw beth’

Mae’n syniad da mynd â chopi o’ch ffurflen gyda chi fel y gallwch gyfeirio ato yn yr asesiad a gwneud yn siŵr eich bod chi’n dweud wrth yr aseswr popeth rydych chi eisiau iddo wybod am eich cyflwr.

Taflen gymorth ar gyfer diwrnod eich asesiad

Peidiwch â gadael i’r aseswr eich rhuthro a cheisiwch beidio ateb dim ond ‘ie/ydw/ydy’ neu ‘na/nac ydw/nac ydy’ i’w gwestiynau. Ceisiwch egluro sut byddai gwneud rhywbeth yn gwneud i chi deimlo wedyn a’r effaith gall ei chael arnoch os oes rhaid i chi wneud y peth hwnnw droeon mewn cyfnod byr.

Lawrlwytho'r daflen cymorth ar gyfer asesiad PIP - ewch â'r daflen gyda chi i'r asesiad 96.8 KB .

Argraffwch y daflen ac ewch â hi gyda chi. Mae’n cynnwys cyngor ar beth i fynd gyda chi i’ch asesiad a beth ddylech ei wneud ac na ddylech ei wneud yn yr asesiad.

Arsylwadau ar yr hyn rydych chi’n ei ddweud a’i wneud yn ystod yr asesiad

Bydd yr aseswr yn defnyddio’r wybodaeth roesoch chi ar eich ffurflen  ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi’ ond bydd yr hyn rydych chi’n ei ddweud a’i wneud ar y diwrnod yn dylanwadu ar ei farn hefyd. Er enghraifft, gallai ofyn i chi sut gwnaethoch chi gyrraedd y ganolfan asesu. Os ydych chi’n dweud eich bod chi wedi dod ar y bws, bydd yn nodi eich bod chi’n gallu teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar eich pen eich hun.

Mae’n bosib y bydd gofyn i chi wneud tasgau corfforol yn ystod yr asesiad. Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi wneud pethau yn yr asesiad na fyddech chi’n gallu eu gwneud fel arfer. Os byddwch chi’n eu gwneud nhw ar ddiwrnod yr asesiad, mae’n bosib bydd yr aseswr yn meddwl eich bod chi’n gallu eu gwneud drwy’r amser. Os nad ydych chi’n gyfforddus, cofiwch ddweud.

Bydd yr aseswr yn gwneud nodyn o’ch cyflwr meddyliol yn ystod yr asesiad hefyd – er enghraifft, bydd yn cofnodi a ydych chi’n ymddangos yn isel neu’n hapus, ar bigau’r drain neu wedi ymlacio, a sut rydych chi’n ymdopi â rhyngweithio cymdeithasol.

Ewch â rhywun gyda chi i fod yn gefn

Gallwch fynd â rhywun i mewn i’r asesiad gyda chi os yw’n 16 oed neu’n hŷn. Gallai fod yn unrhyw un rydych chi’n gysurus yn ei gwmni, fel ffrind, perthynas neu ofalwr. Os ydych chi’n dymuno, gall gymryd rhan mewn trafodaethau a chymryd nodiadau ar eich rhan.

Gofynnwch am addasiad

Gwiriwch gyda darparwr yr asesiad bod popeth sydd ei angen arnoch yn y ganolfan asesu – os na, gallwch ofyn amdano. Gall hyn eich helpu i deimlo’n fwy cyfforddus ar y diwrnod. Er enghraifft:

  • gofynnwch a fydd rhaid i chi fynd i fyny grisiau, ac a oes lifft ar gyfer cadair olwyn os ydych chi angen un

  • gofynnwch a oes digon o le yn y ganolfan os ydych chi’n mynd yn bryderus mewn llefydd caeedig – os yw’r ystafelloedd neu’r coridorau’n fach, dywedwch wrthyn nhw y gallai hyn eich gwneud chi’n bryderus a gweld beth allan nhw ei gynnig i chi

  • gofynnwch am ddehonglwr neu arwyddwr os ydych chi angen un – gwnewch hyn o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn eich asesiad fel bod amser iddynt wneud trefniadau

  • gofynnwch fod y sawl sy’n cynnal yr asesiad yr un rhyw â chi os yw hynny’n bwysig i chi

  • gofynnwch iddynt wneud  recordiad sain o’r asesiad

Recordio eich asesiad

Gallai fod yn ddefnyddiol gwneud recordiad o'ch asesiad rhag ofn y bydd angen i chi herio'r penderfyniad.

Os yw eich asesiad wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, gallwch chi a'r aseswr wneud recordiad sain. Ni allwch wneud recordiad fideo.

Bydd angen i chi ofyn a ellir ei recordio - dylech ffonio’r aseswr cyn gynted â phosibl cyn eich asesiad.

Bydd angen i chi gytuno mai dim ond ar gyfer rhai pethau penodol y byddwch yn defnyddio’r recordiad – bydd yr aseswr yn gofyn i chi lofnodi ffurflen neu gytuno ar lafar i hyn.

Bydd yr aseswr yn anfon ei recordiad atoch ar ôl eich asesiad.

Os yw'r aseswr yn gwrthod ei recordio neu'n dweud wrthych am beidio â'i recordio, gallwch gwyno i'ch darparwr asesiad.

Newid y lleoliad

Os yw lleoliad eich asesiad mwy na 90 munud i ffwrdd ar drafnidiaeth gyhoeddus a’ch bod yn cael trafferth teithio pellter hir, gallech gael cynnig lleoliad arall neu ymweliad cartref.

Os yw’ch meddyg teulu’n ymweld â chi gartref fel arfer, gallech gael cynnig ymweliad cartref yn lle gorfod mynd i ganolfan asesu.

Gallai’ch canolfan asesu ofyn am lythyr gan eich meddyg teulu neu dystiolaeth arall fod angen ymweliad cartref neu leoliad amgen ar gyfer eich asesiad.

Sut i ofyn am addasiad

I ofyn am addasiad, ffoniwch ddarparwr yr asesiad ar y rhif ar y llythyr apwyntiad. Os byddwch chi’n gofyn am addasiad ac nid yw’n cael ei wneud, gallai hyn fod yn achos o wahaniaethu - cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth lleol i gael mwy o help.

Pwysig

Rhybudd: mae’n rhaid i chi fynd i’ch asesiad

Mae’n rhaid i chi fynd i’ch asesiad. Fel arall, bydd eich cais am PIP yn cael ei wrthod a bydd rhaid i chi ddechrau’r broses ymgeisio eto.

Cysylltwch â darparwr eich asesiad ar unwaith os na allwch chi fynd i’ch apwyntiad neu os ydych chi eisoes wedi ei golli. Os oes gennych chi reswm da dros beidio â mynd, mae’n bosib y gwnân nhw aildrefnu. Mae’r rhif i’w ffonio ar eich llythyr apwyntiad.

Does dim rheolau ynghylch beth sy’n rheswm da dros golli asesiad ond dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau ystyried eich iechyd a phethau a allai effeithio arnoch fel profedigaeth yn y teulu.

Os yw’ch cais am PIP yn cael ei wrthod am i chi golli’ch asesiad, gallwch ofyn i yr Adran Gwaith a Phensiynau newid y penderfyniad. Rhaid eich bod chi wedi cael o leiaf 7 diwrnod o rybudd ysgrifenedig o ddyddiad yr asesiad (oni bai i chi gytuno i gyfnod rhybudd byrrach).

Costau teithio

Gallwch gael eich ad-dalu am gost y daith o’ch cartref i’r ganolfan asesu (ac yn ôl), parcio a thanwydd. Os byddwch chi’n mynd â rhywun gyda chi i’r asesiad, gall eu costau teithio gael eu had-dalu ond dim ond os byddant yn teithio gyda chi.

Allwch chi ddim cael eich costau teithio wedi’u talu cyn yr asesiad ac allwch chi ddim cael eich ad-dalu am bethau fel prydau a cholli cyflog.

Os ydych chi’n teithio mewn tacsi, rhaid i chi ofyn i’r ganolfan gymeradwyo’r defnydd o dacsi cyn eich asesiad. Fel arall, efallai na fydd yn ad-dalu cost y daith.

Os ydych chi’n teithio mewn car, gellir ad-dalu costau parcio a 25c y filltir tuag at gost tanwydd.

Sut i hawlio costau teithio

Gofynnwch i’r derbynnydd yn y ganolfan asesu am ffurflen hawlio costau teithio ac amlen wedi’i rhagdalu â chyfeiriad y ganolfan arni. Dylech bostio’ch tocynnau a’ch derbynebau gyda’r ffurflen hawlio.

Mwy o wybodaeth am eich asesiad

Mae mwy o wybodaeth am sut bydd Gwasanaethau Asesu Annibynnol neu Capita yn cynnal eich asesiad a sut gallant eich helpu ar eu gwefannau.

Mwy o wybodaeth am asesiadau dan ofal Capita.

Mwy o wybodaeth am asesiadau dan ofal Gwasanaethau Asesu Annibynnol.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.