Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau'n adolygu'ch hawliad PIP

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r rheolau ar gyfer cael yr elfen symudedd o PIP wedi newid. Bellach gallwch wneud cais am yr elfen hon os oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi gynllunio neu gwblhau taith.

Yn dilyn y newid hwn mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn bwriadu adolygu pob hawliad PIP i weld a allech chi elwa ar y newid – mae hyn yn cynnwys os cawsoch chi sgôr o sero pwynt.

Os ydych chi eisoes wedi gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau fwrw golwg arall ar eich dyfarniad PIP neu os ydych chi’n meddwl gofyn iddynt wneud hynny, dylech barhau â’ch cais. Nid yw adolygiadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau o hawliadau yn effeithio ar eich hawl i ofyn iddynt fwrw golwg arall ar eich hawliad.

Os nad oeddech chi’n cael yr elfen symudedd

Os oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi fynd allan ac na chawsoch yr elfen symudedd pan i chi hawlio, gallech gael mwy o arian ar ôl yr adolygiad. Mae hyn yn cynnwys cael arian wedi’i ôl-dalu i wneud iawn am yr arian y dylech fod wedi ei gael.

Nid oes dyddiad wedi ei bennu ar gyfer yr adolygiadau ar hyn o bryd.

Does dim angen i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ysgrifennu atoch os ydynt yn penderfynu y dylech gael rhagor o arian.

Os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n gymwys i gael yr elfen symudedd nawr, gallwch wneud hawliad newydd – does dim rhaid i chi aros nes bod eich hen hawliad wedi cael ei adolygu. Fel hyn gallech gael yr arian ychwanegol yn gynt.

Sut bydd eich hawliad yn cael ei adolygu

Fydd dim rhaid i chi fynd i asesiad wyneb yn wyneb arall. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n adolygu’ch achos drwy ddefnyddio’r holl wybodaeth i chi ei hanfon gyda’ch cais.

Os byddant angen mwy o wybodaeth, hwyrach y byddant yn cysylltu â chi neu’ch meddyg.

Os ydych chi’n gallu cael rhagor o arian

Byddwch yn cael llythyr yn dweud faint o fudd-dal fyddwch chi’n ei gael.

Byddwch yn cael ôl-daliad o ddyddiad eich hawliad neu’r dyddiad i reolau’r elfen symudedd newid gyntaf (28 Tachwedd 2016), pa un bynnag sydd hwyraf.

Os i chi hawlio cyn 28 Tachwedd 2016 ac na chawsoch yr elfen symudedd neu i chi gael cyfradd is na’r disgwyl, cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf. Mae’n bosib y gallwch ofyn i’ch hawliad gael ei ôl-ddyddio ymhellach.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 28 Hydref 2019