Cael swydd neu godiad cyflog wrth dderbyn Credyd Cynhwysol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Bydd angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl os ydych chi’n cael swydd newydd neu godiad cyflog - efallai y byddwch yn cael y swm anghywir o fudd-dal os na fyddwch chi.

Bydd eich ymrwymiad hawliwr yn dweud wrthych pa ‘ofynion cysylltiedig â gwaith’ sydd angen i chi eu gwneud. Y rhain yw’r tasgau y bydd angen i chi eu cwblhau i gael Credyd Cynhwysol. Byddwch yn cael eich rhoi mewn ‘grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith’ - bydd gennych wahanol lefelau o waith y bydd yn rhaid i chi ei wneud ym mhob grŵp.

Gallwch ddefnyddio ein cyngor i wirio eich bod yn y grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith Credyd Cynhwysol cywir. Byddwch hefyd yn gallu gweld beth sydd angen i chi ei wneud ym mhob grŵp.

Derbyn cynnig swydd neu godiad cyflog

Dylech gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau ar unwaith i wneud y canlynol:

  • dweud wrthynt pwy yw’ch cyflogwr, pryd fydd y swydd yn dechrau a phryd fydd eich cyflog yn codi

  • gweld a allwch chi wneud cais am gostau gofal plant - gall eich Credyd Cynhwysol gynnwys swm os ydych chi’n talu am ofal plant ffurfiol, fel gwarchodwr plant cofrestredig neu feithrinfa

  • trefnu apwyntiad gyda’ch hyfforddwr gwaith i adolygu eich ymrwymiad hawliwr

Gallwch roi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau a chysylltu â’ch hyfforddwr gwaith drwy wneud y canlynol:

  • defnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein os oes gennych chi un

  • ffonio’r llinell gymorth

Sut mae codiad cyflog yn effeithio ar eich Credyd Cynhwysol

Os ydych chi’n cael codiad cyflog, bydd swm y Credyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael yn mynd i lawr fel arfer. Am bob £1 rydych chi neu’ch partner yn ei hennill, bydd 55c yn cael ei gyfrif fel incwm wrth gyfrifo’ch Credyd Cynhwysol.

Eich enillion yw’r hyn y byddwch yn ei gael gan eich cyflogwr bob mis ar ôl tynnu treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, mae rheolau am sut y cyfrifir eich enillion.

Os ydych chi’n gyfrifol am blentyn, neu os oes gennych chi neu’ch partner allu cyfyngedig i weithio, byddwch yn cael lwfans gwaith. Dyma faint o arian y gallwch chi ei ennill heb iddo effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol. Mae rhagor o wybodaeth am lwfansau gwaith ar gael yn GOV.UK.

Os ydych chi’n cael cymorth gan y Credyd Cynhwysol tuag at daliadau llog eich morgais, byddwch yn colli’r arian hwnnw os ydych chi’n dechrau gweithio.

Gallwch ddarllen mwy am sut mae eich enillion o'r gwaith yn effeithio ar eich Credyd Cynhwysol. Os hoffech chi gael cymorth i weld a fyddech chi ar eich ennill yn ariannol yn cael swydd neu fwy o gyflog gallwch gysylltu â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Gwrthod derbyn cynnig swydd neu godiad cyflog

Ni all yr Adran Gwaith a Phensiynau eich gorfodi i gymryd swydd newydd neu godiad cyflog, ond bydd angen rheswm da arnoch dros wneud hynny. Er enghraifft, efallai bod gennych chi argyfwng gartref neu eich bod yn yr ysbyty. Os nad oes gennych chi reswm da, mae’n debyg y byddant yn eich ‘cosbi’, sy’n golygu gostwng eich Credyd Cynhwysol dros dro.

Mae’ch ymrwymiad hawliwr yn dweud nad oes yn rhaid i chi gael swydd

Ni effeithir ar eich Credyd Cynhwysol os byddwch chi'n gwrthod derbyn cynnig swydd.

Os byddwch chi'n gwrthod codiad cyflog, chewch chi ddim eich cosbi ond gallai'r Adran Gwaith a Phensiynau eich trin fel petai gennych chi'r incwm hwnnw. Penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau yw ei gynnwys ai peidio wrth gyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol a gewch chi.

Mae’ch ymrwymiad hawliwr yn dweud bod yn rhaid i chi gael swydd

Rydych chi wedi cytuno â'ch hyfforddwr gwaith pa fath o waith fyddech chi'n chwilio amdano, gan gynnwys oriau a chyflog. Os na fyddwch chi'n derbyn cynnig sy'n cyd-fynd (neu bron yn cyd-fynd) â'r un rydych chi wedi cytuno arno, mae'n debygol y cewch chi'ch cosbi.

Os nad yw'r cynnig swydd yn briodol i chi a'ch amgylchiadau

Os ydych chi'n credu bod gennych chi reswm da dros wrthod derbyn cynnig swydd, bydd angen i chi siarad â'ch hyfforddwr gwaith am hyn ar unwaith. Nid oes diffiniad o'r hyn sy'n cyfrif fel rheswm da, ond dylai'r Adran Gwaith a Phensiynau fod yn rhesymol ac ystyried eich amgylchiadau a’ch safbwyntiau.

Mae enghreifftiau o'r hyn y gellid ei ystyried wrth benderfynu a yw rhywbeth yn rheswm da yn cynnwys:

  • byddai'n cymryd mwy na 90 munud i gyrraedd y gwaith (mae disgwyl i chi deithio hyd at 90 munud i'r gwaith fel rheol)

  • byddai costau teithio i'r gwaith a gofal plant yn rhy uchel i'w wneud yn werth chweil

  • byddai'r swydd yn cael effaith negyddol ar eich iechyd corfforol neu feddyliol

  • byddai'r swydd yn cael effaith negyddol ar eich cyfrifoldebau gofalu

  • mae gennych chi wrthwynebiad crefyddol neu foesegol i'r math o waith

Er y bydd eich rhesymau yn cael eu hystyried, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystyried eich amgylchiadau personol i gyd wrth benderfynu a ddylid eich cosbi am wrthod derbyn y cynnig. Efallai na fydd un rheswm da ynddo'i hun, fel iechyd gwael, yn ddigon i'ch atal rhag cael eich cosbi.

Os yw'r cynnig swydd yn golygu llai o oriau, cyflog is neu fath gwahanol o swydd na'r hyn rydych chi wedi cytuno arno yn eich ymrwymiad hawliwr, bydd disgwyl i chi dderbyn y swydd serch hynny. Ni ystyrir bod y rhain yn rhesymau da dros wrthod derbyn cynnig swydd, oni bai eich bod yn gallu dadlau y bydd eich costau teithio neu ofal plant yn rhy uchel i wneud swydd â chyflog is yn werth chweil. Os na fyddwch chi'n derbyn y cynnig swydd, mae'n debygol y cewch chi'ch cosbi.

Os yw'r swydd am fwy o oriau nag y cytunwyd, efallai y bydd eich hyfforddwr gwaith yn dal i’ch annog i'w derbyn. Os nad ydych chi eisiau derbyn y swydd, eglurwch pam wrth eich hyfforddwr gwaith a'i atgoffa pam eich bod wedi cytuno i weithio oriau cyfyngedig yn y lle cyntaf, e.e. oherwydd eich iechyd neu'ch ymrwymiadau gofal plant. Os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu eich cosbi am wrthod derbyn cynnig swydd o dan yr amgylchiadau hyn, mae'n bosibl y gallech herio'r gosb.

Newid eich ymrwymiad hawliwr

Efallai y bydd eich amgylchiadau personol wedi newid ers i chi drafod eich ymrwymiad hawliwr ddiwethaf. Os yw hyn yn effeithio ar y math o oriau y gallwch chi weithio, efallai y gellir newid eich ymrwymiad hawliwr. Er enghraifft, os yw’ch plentyn wedi dechrau yn yr ysgol efallai y byddwch yn dymuno lleihau’r oriau y gallwch chi eu gweithio.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2018