Cael help i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Coronafirws - newidiadau i’n gwasanaeth
Mae pob Cyngor ar Bopeth lleol bellach ar gau - ni allwch gael cyngor wyneb yn wyneb.
Gallwch barhau i gael cymorth drwy ffonio ein llinell ffôn cenedlaethol neu drwy siarad ag ymgynghorydd ar-lein. Mae amseroedd aros yn hirach na'r arfer ond byddwn yn eich helpu cyn gynted ag y gallwn.
Gallwch ddarllen ein cyngor ar-lein ar Gredyd Cynhwysol ar unrhyw adeg.
Ein gwasanaeth Help i Hawlio
Gall ein gwasanaeth Help i Hawlio eich cefnogi chi yng nghyfnodau cynnar eich hawliad Credyd Cynhwysol, o’r cais i’ch taliad cyntaf.
Mae Help i Hawlio yn wasanaeth pwrpasol gan Cyngor ar Bopeth. Mae’n annibynnol, yn gyfrinachol, yn ddiduedd ac am ddim. Gall ein cynghorwyr hyfforddedig helpu gyda phethau fel sut i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich cais neu sut i baratoi ar gyfer eich apwyntiad cyntaf yn y Ganolfan Waith.
Gallwch chi ddarllen ein cyngor ar-lein ar Gredyd Cynhwysol unrhyw bryd.
Ffonio ein llinell ffôn genedlaethol
Gallwch chi gysylltu â chynghorydd trwy ein gwasanaeth ffôn Help i Hawlio cenedlaethol am ddim:
Cymru: 08000 241 220
Ffôn testun Cymru: 18001 08000 241 220
Lloegr: 0800 144 8 444
Ffôn testun Lloegr: 18001 0800 144 8 444
Yr Alban: 0800 023 2581
Mae cynghorwyr ar gael o 8am tan 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ffoniwch rif Cymru os hoffech chi siarad â chynghorydd Cymraeg.
Os ydych chi angen dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain, ffoniwch y rhif ffôn testun. Gall cynghorydd drefnu i ddehonglydd ddehongli i chi dros alwad fideo.
Siarad â ni ar-lein
Mae’r cyfleuster Sgwrsio yn eich galluogi chi i siarad â chynghorydd hyfforddedig ar-lein am y broses o wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Mae’r cyfleuster Sgwrsio fel arfer ar gael o 8am tan 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Nid yw ar gael ar wyliau cyhoeddus. Os na fydd cynghorwyr ar gael, ni fydd y botwm Sgwrsio yn ymddangos ar y dudalen hon.
Os hoffech chi siarad â chynghorydd am unrhyw fater arall, gallwch chi siarad â ni ar ein prif dudalen sgwrsio.
Er mwyn eich cysylltu chi â’r cynghorydd priodol, byddwn ni’n gofyn i chi roi rhai manylion i ni, gan gynnwys eich cod post. Darllenwch ein polisi preifatrwydd i ddysgu sut rydyn ni’n storio a defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Mae rhai mathau o feddalwedd ‘atal hysbysebion’ yn gallu atal y cyfleuster Sgwrsio rhag gweithio. Os ydych chi’n defnyddio meddalwedd atal hysbysebion, gofalwch eich bod chi’n ychwanegu ‘citizensadvice.org.uk’ fel gwefan i ymddiried ynddi.
Dod o hyd i’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol
Nodwch eich cod post neu eich tref i gael manylion cyswllt ac oriau agor eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Cwyno am y gwasanaeth Help i Hawlio
Gallwch chi ddefnyddio ein gweithdrefn gwyno os ydych chi eisiau cwyno am ein gwasanaeth Help i Hawlio.