Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Edrychwch a ydych chi’n gymwys i gael PIP

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi angen help ychwanegol oherwydd salwch, anabledd neu gyflwr iechyd meddwl, gallech chi gael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).

Does dim rhaid i chi fod chi wedi gweithio neu dalu Yswiriant Gwladol i fod yn gymwys i gael PIP, a does dim gwahaniaeth beth yw’ch incwm, a oes gennych chi unrhyw gynilion neu a ydych chi’n gweithio.

Y prif reolau cymhwysedd

Fyddwch chi ddim yn gallu gwneud hawliad newydd am PIP ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Byddwch yn parhau i gael PIP os oeddech chi'n ei gael cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, oni bai fod eich amgylchiadau'n newid.

I gael PIP, rhaid i chi fod  rhwng 16 oed a'ch odran Pensiwn y Wladwriaeth.  Gallwch weld eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Hefyd, rhaid i chi fod:

  • angen help gyda thasgau bob dydd neu i symud o gwmpas oherwydd cyflwr corfforol neu feddyliol - gallwch wneud hawliad p'un a ydych chi'n cael help gan berson arall ai peidio
  • wedi bod angen yr help hwn ers 3 mis a’ch bod chi’n disgwyl y byddwch chi angen yr help am 9 mis arall
  • yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban pan fyddwch chi’n gwneud cais
  • wedi byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban am o leiaf 2 flynedd – oni bai eich bod chi’n ffoadur neu’n perthyn yn agos i ffoadur

Mae eithriadau i’r rheolau hyn os oes gennych chi salwch angheuol neu os ydych chi yn y lluoedd arfog.

Os ydych chi’n derbyn Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) yn barod a bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn i chi hawlio PIP, mae yna reolau gwahanol.

Os oes gennych chi salwch angheuol, dydy’r rheolau ynghylch am ba hyd rydych chi angen help ac am fyw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban am 2 flynedd ddim yn berthnasol. Edrychwch ar ein cyngor ar sut i hawlio PIP os oes gennych chi salwch angheuol.

Os ydych chi yn y lluoedd arfog (neu os ydych chi’n perthyn yn agos i rywun yn y lluoedd arfog), dydy’r rheolau ynghylch byw a gwneud cais yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban ddim yn berthnasol.

Eich salwch, anabledd neu gyflwr iechyd meddwl

Dydy PIP ddim yn seiliedig ar y cyflwr sydd gennych chi na’r feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd. Mae’n seiliedig ar lefel yr help rydych chi ei angen oherwydd sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi.

Rydych chi’n cael eich asesu yn seiliedig ar lefel yr help rydych chi ei angen gyda gweithgareddau penodol. Mae’n anodd dweud a fydd lefel yr help rydych chi ei angen yn golygu eich bod chi’n gymwys i gael PIP. Ond, os ydych chi’n cael neu angen help gydag unrhyw un o’r canlynol oherwydd eich cyflwr, dylech ystyried gwneud cais:

  • paratoi a choginio bwyd
  • bwyta ac yfed
  • rheoli’ch triniaethau
  • ymolchi a mynd i’r bath
  • rheoli anghenion toiled neu anymataliaeth
  • gwisgo a dadwisgo
  • cyfathrebu â phobl eraill
  • darllen a deall gwybodaeth ysgrifenedig
  • cymysgu gydag eraill
  • gwneud penderfyniadau ariannol
  • cynllunio taith neu ddilyn llwybr
  • symud o gwmpas

Efallai bod yr help rydych chi’n ei gael yn cael ei roi gan berson, neu efallai ei fod ar ffurf teclyn neu gymorth (fel ffon gerdded neu gi tywys) neu addasiad i’ch cartref neu’ch car.

Os ydych chi mewn ysbyty neu gartref gofal

Gallwch hawlio PIP tra’ch bod chi mewn ysbyty neu gartref gofal neu nyrsio, ond mae’n gallu effeithio ar pryd fydd eich taliadau’n cychwyn.

Os ydych chi yn yr ysbyty, bydd eich taliadau’n cychwyn pan fyddwch chi’n gadael (oni bai eich bod chi’n glaf preifat).

Os yw’ch costau cartref gofal yn cael eu talu’n breifat (er enghraifft, gennych chi, ffrind neu aelod o’r teulu), mae’r taliadau’n gallu cychwyn tra’ch bod chi yn y cartref. Fel arall, dim ond elfen symudedd PIP fydd yn gallu cael ei thalu tra’ch bod chi yn y cartref.

Os ydych chi mewn coleg neu ysgol breswyl, gallwch gael help gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yng Nghymru a Lloegr neu yn yr Alban gan fod eich cymhwysedd i gael PIP yn gallu cael ei effeithio os mai awdurdod lleol sy’n talu’r ffioedd.

Os ydych chi’n derbyn PIP yn barod, mae cyfnodau yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal yn gallu effeithio ar eich taliadau PIP.

Os ydych chi wedi byw y tu allan i'r DU

Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ddangos mai'r DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref a'ch bod chi'n bwriadu aros. Gelwir hyn yn ‘preswylio fel arfer’.

Gwiriwch sut i brofi eich bod chi'n preswylio

Mae'n rhaid eich bod wedi byw ym Mhrydain am o leiaf 2 allan o'r 3 blynedd diwethaf. Mae Prydain yn cynnwys - Lloegr, Cymru a'r Alban. Nid yw'n cynnwys Gogledd Iwerddon.

Nid oes angen i'ch amser a dreuliwyd ym Mhrydain Fawr fod ar yr un pryd. Er enghraifft, fe allech chi fod wedi byw yn Lloegr am flwyddyn, UDA am flwyddyn a Chymru am flwyddyn.

Os nad ydych wedi byw ym Mhrydain am ddigon o amser

Efallai y byddwch chi'n gymwys os ydych chi wedi gweithio neu hawlio budd-daliadau am 2 allan o'r 3 blynedd diwethaf yn yr UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.

Mae'r rheolau yn y maes hwn yn gymhleth ac mae'n well cael cyngor cyn i chi wneud cais. Gallwch gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os oes gennych gyswllt ‘dilys a digonol’ â’r DU.

Mae gennych chi ‘gyswllt dilys a digonol’ os oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol:

  • rydych chi wedi byw yn y DU ers bron i 2 flynedd

  • rydych chi'n gweithio neu'n hunangyflogedig yn y DU
  • mae gennych chi aelod o'r teulu sy'n gweithio neu'n hunangyflogedig yn y DU
  • mae gennych deulu agos yn y DU yr ydych yn dibynnu arnynt am ofal a chefnogaeth
  • eich bod yn cael budd-daliadau penodol yn y DU

Mae'r rheolau yn y maes hwn yn gymhleth ac mae'n well cael cyngor cyn i chi wneud cais. Gallwch gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.

Os ydych yn cael pensiwn neu fudd-dal gan yr UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein

Gellid effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer PIP. Mae'r rheolau yn y maes hwn yn gymhleth ac mae'n well cael cyngor cyn i chi wneud cais. Gallwch gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.

Os ydych chi'n dod o'r UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein

I wneud cais am PIP mae angen i chi ddangos:

  • gwnaethoch yr hawliad tra roeddech chi yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban
  • y DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref ac rydych chi'n bwriadu aros - gelwir hyn yn 'preswylio'
  • rydych chi wedi byw yn Lloegr, yr Alban neu Gymru am y 2 allan o 3 blynedd ddiwethaf

Os ydych chi wedi byw yn y DU ers 5 mlynedd neu fwy

Dylech wneud cais am 'statws sefydlog'. Gwiriwch sut i wneud cais am statws sefydlog o dan Gynllun Setliad yr UE.

Efallai y bydd eich PIP yn dod i ben os nad oes gennych statws sefydlog erbyn 31 Rhagfyr 2020.

Os ydych chi wedi byw yn y DU am lai na 5 mlynedd

Dylech wneud cais am 'statws wedi'i setlo ymlaen llaw'. Os oes gennych statws wedi'i setlo ymlaen llaw, bydd angen i chi ddangos eich bod yn preswylio i gael PIP.

Gwiriwch sut i wneud cais am statws wedi'i setlo ymlaen llaw o dan Gynllun Setliad yr UE.

Darganfyddwch fwy am aros yn y DU ar ôl Brexit.

Os ydych chi'n dod o wlad y tu allan i Ewrop

Os ydych yn 'destun rheolaeth fewnfudo' neu os oes gennych fisa sy'n dweud 'dim hawl i gael arian cyhoeddus' ni ddylech wneud cais am PIP. Os gwnewch hynny, gallai effeithio ar eich hawl i aros yn y DU.


Gallwch gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.

Os nad ydych chi'n gymwys i gael PIP

Edrychwch i weld pa fudd-daliadau a help ychwanegol y gallech chi eu cael . Efallai eich bod chi’n gymwys i gael Lwfans Presenoldeb, Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth neu Gredyd Cynhwysol. 

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.