Rydych chi wedi cael damwain ar wyliau pecyn
Os ydych yn cael damwain tra'ch bod ar wyliau pecyn, ac nid chi oedd ar fai, efallai y bydd trefnydd eich gwyliau pecyn yn cael ei ddal yn gyfrifol. Mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn medru hawlio am anaf personol yn y Deyrnas Unedig, hyd yn oed os digwyddodd y ddamwain dramor. Mae'r dudalen hon yn esbonio'r hyn ddylech chi ei wneud os ydych yn cael damwain tra'ch bod ar wyliau pecyn.
Gair o gyngor
Peidiwch ag anghofio
Os ydych wedi trefnu gwyliau pecyn, rydych yn cael eich diogelu gan reoliadau arbennig. Os ydych wedi trefnu'ch gwyliau eich hun, gan drefnu'r daith awyren, llety a gwasanaethau ar wahan, yna rydych yn deithiwr annibynnol. Fel teithiwr annibynnol, os ydych wedi trefnu'ch gwyliau yn y Deyrnas Unedig rydych wedi eich amddiffyn gan gyfraith gyffredinol defnyddwyr.
Mae'r dudalen hon yn esbonio sut i ddelio gyda damweiniau ar wyliau pecyn.
Sut i benderfynu os yw'ch gwyliau'n wyliau pecyn
Gwybodaeth ar ddamweiniau pan fyddwch chi'n teithio'n annibynnol
Ble ddigwyddodd eich damwain?
Cyn bod trefnydd eich gwyliau pecyn yn cael ei ddal yn gyfrifol, rhaid bod eich damwain wedi digwydd:
- ar dir eich gwesty
- neu ar daith neu yn ystod gwasanaeth gwyliau a ddarperir fel rhan o'ch pecyn.
Er enghraifft, os oeddech wedi baglu ar lwybr sydd heb gael ei gynnal a chadw'n dda yn eich gwesty, efallai y bydd eich trefnydd yn medru cael ei ddal yn gyfrifol. Fwy na thebyg na fydd eich trefnydd yn cael ei ddal yn gyfrifol am ddamwain a gawsoch oddi ar dir eich gwesty, onid oedd yn ystod taith yr oeddech wedi ei phrynu yn y Deyrnas Unedig fel rhan o'ch pecyn. Er enghraifft, os oeddech wedi baglu ar balmant sydd heb gael ei gynnal a chadw'n dda yng nghanol y dref leol, fwy na thebyg na fydd eich trefnydd yn gyfrifol.
Pam mae'r ddamwain wedi digwydd?
Os mai chi oedd ar fai am eich damwain, ni fyddwch yn medru hawlio unrhyw iawndal. Er enghraifft, os oeddech wedi torri rheolau diogelwch tra'n defnyddio pwll nofio'r gwesty, a chawsoch ddamwain.
Er mwyn ennill iawndal, fe fydd angen i chi brofi bod eich trefnydd - neu ei gynrychiolydd yn y gyrchfan, er enghraifft staff lleol y gwesty - yn esgeulus. Mae hyn yn golygu, os nad oedd eich gwesty neu'ch llety wedi ei gynnal a chadw'n dda neu os oedd yn beryglus, neu ni chawsoch rybudd ynghylch y posibilrwydd o ddamwain, fe fydd eich trefnydd yn cael ei ddal yn gyfrifol.
Er enghraifft, nid oedd eich gwesty wedi cynnal a chadw'r plymio yn ystafell ymolchi eich gwesty’n iawn, ac mae hyn wedi arwain at lifogydd sydd wedi peri i chi faglu a thorri'ch arddwrn. Yn yr amgylchiadau hyn, fel arfer fe fydd eich trefnydd yn cael ei ddal yn gyfrifol am eich damwain.
Riportiwch y ddamwain
Dylech riportio'ch damwain cyn gynted â phosib i:
- gynrychiolydd trefnydd eich pecyn yn y gyrchfan
- neu os nad oes cynrychiolydd yno, i bencadlys eich trefnydd yn y Deyrnas Unedig
- rheolwyr y gwesty
Sicrhewch fod eich damwain wedi cael ei chofnodi mewn unrhyw lyfr damweiniau sydd ar gael a gofynnwch am gopi o'r cofnod.
Os oes yswiriant teithio gennych, dylech gysylltu â'r cwmni yswiriant cyn gynted â phosib, ac fe fydd yn medru rhoi cyngor i chi ynghylch y sefyllfa feddygol a chyfreithiol. Mae rhai polisïau yswiriant yn nodi terfynau amser llym iawn ar gyfer eu hysbysu ynghylch damweiniau, felly mae'n werth darllen amodau a thelerau eich yswiriant cyn i chi fynd ar eich gwyliau.
Cadwch gofnod
Mae'n bwysig cael cymorth meddygol cyn gynted ag y byddwch yn sylweddoli eich bod wedi cael eich anafu. Oni chewch chi gymorth meddygol cyn gynted â phosib, fe allai effeithio ar unrhyw hawliad am iawndal a wneir gennych wedi i chi ddychwelyd adref. Gofynnwch am gopi o'ch adroddiad meddygol a chadwch dderbynebau unrhyw ffioedd meddygol. Os yn bosib, dylech:
- gael enwau a chyfeiriadau gwesteion eraill sydd wedi gweld eich damwain yn digwydd, neu wedi gweld y sefyllfa sydd wedi ei hachosi, ac sy'n fodlon gwneud datganiad.
- dynnu ffotograffau o'r hyn sydd wedi achosi'r ddamwain a'ch anaf.
- fraslunio neu gofnodi’r olygfa'n ysgrifenedig
- gael copi o adroddiad y meddyg.
Ar gyrraedd gartref
Os mai'r trefnydd neu'r staff gwyliau lleol sydd wedi achosi'r ddamwain, efallai y byddwch yn medru hawlio iawndal am:
- golli'r cyfle i fwynhau - er enghraifft oherwydd eich damwain rydych wedi gorfod aros yn y gwely am y rhan fwyaf o'ch gwyliau
- dreuliau o'ch poced - er enghraifft cost eich triniaeth feddygol a chostau cludiant
- os yw'ch damwain yn ddifrifol, efallai y byddwch yn medru hawlio am bethau fel colli enillion
Mae'n bwysig cael cyngor cyfreithiol o ffynhonnell y gallwch ymddiried ynddi oherwydd mae hawliadau anaf personol ar wyliau yn medru bod yn gymhleth iawn. Dylech fod yn medru talu am eich achos ar delerau dim llwyddiant dim ffi. Mae hyn yn golygu na ddylech orfod talu unrhyw arian o flaen llaw na chymryd polisi yswiriant i'ch diogelu rhag ofn i chi golli'ch achos llys.
Camau nesaf
Am gyngor ar hawlio am anaf personol, cysylltwch â Llinell Ddamweiniau Cymdeithas y Cyfreithwyr
Ffon: 0800 19 29 39
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Cymdeithasau masnach gwyliau a fydd efallai'n medru helpu
ABTA
Rhif Ffon: 0901 201 5050
Gwefan: www.abta.com/consumer-services
AITO
Rhif Ffôn: 020 8744 9280
Gwefan: www.aito.co.uk