Cynllun Helpu Dŵr Cymru – help i dalu biliau dŵr

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi’n cael help trwy gynllun HelpU Dŵr Cymru, bydd terfyn uchaf yn cael ei roi ar eich bil dŵr. Felly fyddwch chi ddim yn talu mwy na chyfanswm penodol am y flwyddyn.

Os oes gennych chi fesurydd dŵr a bod y gost yn is na swm HelpU Dŵr Cymru, bydd eich bil yn cyfateb i’r darlleniad ar eich mesurydd. Fel arall bydd terfyn isaf yn cael ei roi ar eich bil ar lefel HelpU Dŵr Cymru.

Ydych chi’n gymwys ar gyfer cynllun HelpU Dŵr Cymru

Byddwch chi’n addas os yw’r ddau isod yn berthnasol i chi:

  • rydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn cael rhai budd-daliadau penodol

  • mae incwm blynyddol eich aelwyd yn llai na chyfanswm penodol

Dyma’r budd-daliadau sy’n eich gwneud chi’n addas

Rhaid eich bod chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Cynhwysol

  • Credyd Pensiwn

  • Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm (ESA)

  • Cymhorthdal Incwm

  • Budd-dal Tai

  • Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

  • Credydau treth

Faint ddylai incwm eich aelwyd fod er mwyn i chi fod yn gymwys

Rhaid i incwm blynyddol eich aelwyd fod yn llai na swm penodol – mae hyn yn seiliedig ar faint o bobl sy’n byw gyda chi.

Eich aelwyd Uchafswm incwm eich aelwyd
Eich aelwyd
Rydych chi’n byw ar eich pen eich hun
Uchafswm incwm eich aelwyd
£8,900
Eich aelwyd
Rydych chi’n byw gydag un person arall
Uchafswm incwm eich aelwyd
£13,400
Eich aelwyd
Rydych chi’n byw gyda dau berson arall neu ragor
Uchafswm incwm eich aelwyd
£15,300

Mae rhestr ar wefan Dŵr Cymru o’r mathau o incwm y maen nhw’n eu cyfrif yn incwm aelwyd. Bydd angen i chi ddweud wrthyn nhw am eich incwm pan fyddwch chi’n gwneud cais.

Gwneud cais am gynllun HelpU Dŵr Cymru

I wneud cais am gynllun HelpU Dŵr Cymru gallwch:

Os ydych chi angen help i wneud eich cais gallwch:

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn gymwys, fel slip cyflog, neu gopi o hysbysiad budd-daliadau.

Pryd fyddwch chi’n dechrau cael help

Byddwch yn dechrau cael help o gyfnod cychwynnol y bil pan wnaethoch chi eich cais.

Os bydd eich gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yn cael eu darparu gan gwmnïau gwahanol, dylai’r cwmni dŵr ddweud wrth y cwmni carthffosiaeth eich bod yn derbyn cymorth. Wedyn dylai’r cwmni carthffosiaeth addasu eu prisiau.

Efallai y bydd rhaid i chi ddangos tystiolaeth bob blwyddyn eich bod yn parhau i fod yn gymwys i gael help. Bydd Dŵr Cymru yn dweud wrthych chi pryd fydd angen i chi wneud hyn.

Os ydych chi’n credu nad ydych chi’n gymwys i gael help mwyach

Os ydych chi’n credu nad ydych chi’n addas i gael help mwyach gan gynllun HelpU Dŵr Cymru, dylech roi gwybod i Dŵr Cymru. Bydd eich help yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod y bil presennol.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 24 Chwefror 2020