Tarfu ar eich cyflenwad dŵr

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Rhaid i'ch cwmni dwr ddarparu cyflenwad cyson o ddwr.  Weithiau, efallai y bydd tarfu ar y gwasanaeth er mwyn gwneud atgyweiriadau neu oherwydd argyfwng fel prif biben ddwr wedi byrstio. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y bydd hawl gennych i iawndal.

Mae'r dudalen hon yn esbonio'ch hawliau pan fydd rhywbeth yn tarfu ar eich cyflenwad dwr ac ar ba adegau fyddwch chi'n medru hawlio iawndal.

Cynlluniau i darfu ar eich gwasanaeth dwr

Os oes cynlluniau i darfu ar y cyflenwad dwr ac mae disgwyl iddo bara mwy na phedair awr, rhaid i'r cwmni roi 48 awr o rybudd ysgrifenedig.  Rhaid iddo hefyd adfer y cyflenwad erbyn yr amser a nodwyd yn yr hysbysiad.

Os nad yw'n adfer y cyflenwad erbyn yr amser a nodir yn yr hysbysiad, fel arfer cewch hawlio £20 o iawndal.  

Fel arfer, mae gennych yr hawl i daliad o £20 hefyd os na gawsoch 48 awr o rybudd ynghylch tarfu ar y cyflenwad.

Os nad ydych wedi derbyn yr iawndal hwn o fewn 20 diwrnod gwaith, cewch hawlio taliad pellach o £20.

Tarfu ar eich gwasanaeth dwr mewn argyfwng

Os ydyn nhw'n tarfu ar eich cyflenwad dwr oherwydd argyfwng, er enghraifft prif biben cyflenwi dwr yn byrstio, rhaid i'ch cwmni adfer y cyflenwad o fewn deuddeg awr i'r amser y daeth i wybod am y broblem. Ond, os ydyw yn brif biben ddwr strategol, rhaid iddo adfer y cyflenwad o fewn 48 awr.

Rhaid i'ch cwmni dwr gymryd camau rhesymol cyn gynted â phosib i adael i chi wybod:

  • o ble fedrwch chi gael cyflenwad dwr arall

  • pryd mae'n bwriadu adfer y cyflenwad

  • rhif ffôn er mwyn i chi gael mwy o wybodaeth.

Os nad yw'r cyflenwad yn cael ei adfer erbyn yr amser y mae'r cwmni'n dweud y bydd yn cael ei adfer, fel arfer mae hawl gennych i iawndal o £20 am y 24 awr cyntaf a £10 am bob cyfnod pellach o 24 awr y mae'r cyflenwad heb ei adfer.

Os nad ydych wedi derbyn y taliad hwn o fewn 20 diwrnod gwaith, cewch hawlio taliad pellach o £20.

Os yw hyn yn tarfu am fwy na 12 awr, dylai'r cwmni ddarparu cyflenwad arall, er enghraifft dwr potel neu danceri yn y stryd a elwir yn ‘bowsers’.

Os oes angen cyflenwad cyson o ddwr arnoch am resymau meddygol, neu os ydych yn credu y byddwch chi angen help os ydych yn colli'ch cyflenwad, dylech siarad â'ch cwmni dwr. Mae pob cwmni'n cadw cofrestr o gwsmeriaid sydd efallai angen help ychwanegol pan fydd tarfu ar eu cyflenwad dwr.

Pryd na fedrwch chi gael iawndal

Mae yna rai amgylchiadau pan na fydd hawl gennych i iawndal, hyd yn oed os ydych chi wedi colli'ch cyflenwad dwr am hirach nag y dylech fod wedi ei golli. Er enghraifft, efallai na chewch iawndal os nad yw'r cyflenwad yn cael ei adfer oherwydd tywydd garw neu am fod cyflogedigion y cwmni dwr yn gweithredu'n ddiwydiannol.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr yn: www.ccwater.org.uk.

  • I gael help pellach ar faterion dwr,  ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020