Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Buddion ymarferol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Beth yw buddion ymarferol

Mae buddion ymarferol yn fuddion y bydd gweithwyr neu gyfarwyddwyr yn derbyn oddi wrth eu cyflogaeth ond sy ddim yn cael eu cynnwys yn ei siec gyflog neu enillion. Weithiau fe’u gelwir yn ‘gilfanteision’ neu’n ‘fuddion ymylol’. Maen nhw’n cynnwys pethau megis ceir y cwmni, yswiriant meddygol preifat a delir gan y cyflogwr a benthyciadau rhad neu am ddim. Ni chaiff rhai buddion ymarferol eu trethu. Caiff rhai buddion ymarferol eu trethu i’r bobol hynny sy ddim ar gyflogaeth tâl isel yn unig. Caiff rhai buddion ymarferol eu trethu i bawb, beth bynnag yw eu cyflog.

Buddion ymarferol di-dreth

Mae rhai buddion ymarferol yn rhydd o dreth ac ni ddylid eu nodi ar eich ffurflen dreth os cewch chi un. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cyfraniadau a delir gan eich cyflogwr i gynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol cymeradwy i chi fel gweithiwr cyflogedig. Cynhwysir pob cynllun bron.
  • prydau bwyd rhad neu am ddim yn y ffreutur, os darperir y rhain i bob gweithiwr, hyd yn oed os darperir cyfleusterau gwahanol i grwpiau gwahanol o weithwyr
  • cyfleusterau chwaraeon mewnol
  • gwasanaethau cynghori i weithwyr di-waith
  • rhai trefniadau gofal plant arbennig
  • bysiau’r gwaith, neu gymhorthdal i wasanaethau bws cyhoeddus, i gael gweithwyr i’r gwaith ac oddi yno
  • beiciau ac offer diogelwch seiclo a ddarperir i weithwyr i fynd i’r gwaith ac oddi yno a lle parcio yn y gweithle i feiciau neu feiciau modur
  • talebau pryd bwyd neu ginio i’w defnyddio y tu allan i’r gweithle os ydyn nhw yn ddim mwy na 15 ceiniog y dydd
  • treuliau symud rhesymol os ydych chi wedi gorfod symud i ddechrau swydd newydd neu wedi’ch adleoli gan eich cyflogwr, i fyny hyd at uchafswm o £8,000 ar gyfer pob symud
  • rhoddion personol dilys a roddir am resymau heb gysylltiad â’r swydd, er enghraifft, rhoddion ymddeol ar wahân i arian, rhoddion priodas
  • rhoddion, ar wahân i arian, yr ydych yn eu derbyn oddi wrth rywun ar wahân i’ch cyflogwr, er enghraifft, seddau mewn digwyddiadau chwaraeon neu ddiwylliannol, a chymryd nad oes un rhodd neu daith yn werth mwy na £250 mewn un flwyddyn
  • os ydych chi’n anabl, offer a chyfleusterau a ddarperir ar eich cyfer i gyflawni’ch swydd. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Grŵp Diwygio Treth ar gyfer pobol ar Incwm Isel yn: www.litrg.org.uk.

Sut y pennir gwerth buddion ymarferol ar gyfer dibenion treth

Lle mae buddion ymarferol yn drethadwy, telir treth ar werth trethadwy'r budd. Mae Cyllid a Thollau EM yn diffinio hyn fel gwerth arian a’r hyn sy’n cyfateb. Fel arfer dyma’r swm y mae’n costio i’ch cyflogwr i ddarparu budd ar eich cyfer. Mae yna rai eithriadau i hyn, lle mae rheolau arbennig ar gyfer cyfrifo gwerth trethadwy'r budd ymarferol. Enghraifft o hyn ydyw ceir y cwmni sydd â rheolau arbennig.

Beth yw cyflogaeth tâl isel

Os ydych chi’n ennill llai na £8,500 gros y flwyddyn yn gweithio i gyflogwr unigol neu i gyflogwyr cysylltiedig, mae hyn yn cyfri fel cyflogaeth tâl isel, hyd yn oed os ydych chi’n gweithio am ran o’r flwyddyn dreth. Mae cyflog gros yn golygu eich cyflog cyn unrhyw ddidyniadau.

Rhaid cynnwys gwerth unrhyw fuddion a dderbyniwyd yn y £8,500. Felly gall eich cyflog fod yn is na’r swm hwn, ond gallai gwerth y buddion ymarferol olygu na chyfrifir chi fel un ar dâl isel. Ni ellir cyfri cyfarwyddwyr fel arfer fel rhai ar dâl isel, faint bynnag y byddan nhw’n ei ennill.

Buddion ymarferol cyffredin

Os ydych chi’n cwblhau ffurflen dreth ac yn derbyn buddion ymarferol, rhaid i chi roi eu gwerth ar dudalen Cyflogaeth eich ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn berthnasol. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddatgan buddion ymarferol ar gyfer dibenion treth, gweler o dan y pennawd Sut y mae treth yn cael ei ddatgan a’i dalu ar fuddion ymarferol. Mae’r paragraffau canlynol yn rhestru rhai o’r buddion ymarferol mwyaf cyffredin.

Llety

Yn gyffredinol, darperir llety ar eich cyfer naill ai’n ddi-rhent neu am rent sydd yn is na phris y farchnad, mae’r gwahaniaeth rhwng y rhent yr ydych yn ei dalu, os unrhyw beth, a gwerth blynyddol yr eiddo yn drethadwy.

Mae is na rhent y farchnad yn golygu islaw'r hyn y byddech chi’n disgwyl ei dalu fel arfer i rentu eiddo cyffelyb.

Fel arfer cymerir fod Gwerth Blynyddol yr un fath â gwerth trethiannol gros. Nid oes wahaniaeth os ydych chi ar dâl isel ai peidio - mae’r budd yn drethadwy.

Codir tâl ychwanegol os yw’r llety’n costio mwy na £75,000 pan brynir ef gan y cyflogwr.

Eithriadau

Mae yna dri eithriad i’r rheol hon. Ni fydd yn rhaid talu treth ar y llety os:

  • ydyw’n angenrheidiol i chi fyw yn y llety i gyflawni’ch dyletswyddau’n iawn, er enghraifft, os ydych chi’n ofalwr ysgol, neu
  • ydyw’n cael ei ddarparu er mwyn i chi gyflawni’ch dyletswyddau’n well na phetaech chi hebddo a’i fod yn arferol yn y math hwnnw o swydd i gael llety wedi’i ddarparu, er enghraifft, os ydych chi’n swyddog gyda’r heddlu, neu
  • ydyw’r swydd yn cynnwys perygl diogelwch arbennig ac fe ddarperir llety ar gyfer eich diogelwch, er enghraifft, os ydych chi yn y lluoedd arfog.

Symud oherwydd eich swydd

Os oes rhaid i chi symud oherwydd eich swydd, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn treuliau adleoli.

Goleuo neu wresogi

Fel arfer, mae buddion ychwanegol, er enghraifft gwresogi neu oleuo a ddarperir gyda’r llety yn drethadwy i weithwyr ar dâl isel hyd yn oed os yw un o’r tri eithriad yn berthnasol. Sut bynnag, nid ydynt yn drethadwy os yw’r swm a gewch ar eu cyfer heb fod yn fwy na 10 y cant o’ch enillion net. Mae enghraifft o’r ffordd y caiff hyn ei gyfrifo ar wefan CAThEM yn: www.hmrc.gov.uk.

Treth Gyngor/trethi a thaliadau dŵr a charthffosiaeth

Lle mae’ch cyflogwr yn talu’ch treth gyngor (trethi yng Ngogledd Iwerddon) neu’ch taliadau dŵr neu garthffosiaeth, fe fydd yn rhaid i chi dalu treth arno. Ond ni fydd yn rhaid i chi dalu treth os yw un o’r tri eithriad yn berthnasol.

Gwestai a llety dros dro

Ni chaiff cost gwestai a llety dros dro wrth deithio i ddibenion busnes eu trethu. Sut bynnag, os rhoddir lwfans arian cyffredinol i warchod y costau hyn, caiff hwn ei drethu, ond gellir didynnu unrhyw beth yr ydych yn ei wario ar lety i bwrpas eich gwaith o’ch incwm trethadwy, fel gostyngiad treth.

Ceir a faniau

Mae angen talu treth ar gar y cwmni sydd ar gael i’w ddefnyddio’n breifat gan weithiwr, cyfarwyddwr neu eu teulu neu gartref. Ymhob achos bron, mae defnydd preifat yn cynnwys teithiau rhwng y gwaith a’r cartref.

Mae’r tâl treth yn is i geir rhatach, ceir sydd ag allyriad C02 is a cheir sy’n rhedeg ar danwydd amgen. Nid oes tâl treth os yw’r car yn cael ei bweru gan drydan yn unig.

Nid yw ceir yn drethadwy chwaith, os:

  • darperir hwy ar gyfer busnes yn unig, a
  • nad ydynt ar gael ar gyfer defnydd preifat, a
  • nad ydynt yn cael eu defnyddio yn breifat mewn gwirionedd.

Os ydych chi’n defnyddio fen eich cyflogwr yn breifat, gall hyn hefyd fod yn drethadwy. Sut bynnag, os mai’r cyfan wnewch chi ydyw mynd â’r fen adre dros nos a dim yn ei defnyddio ar gyfer unrhyw ddiben preifat penodol arall, ni fydd treth yn ddyledus.

Treuliau Gofal Plant

Os ydych chi’n talu treuliau gofal plant eich hunan, allwch chi ddim hawlio’r treuliau hyn fel gostyngiad yn erbyn treth. Allwch chi ddim chwaith hawlio treuliau teithio i’r gwaith ac oddi yno am resymau gofal plant.

Os ydyw’ch cyflogwr yn darparu meithrinfa yn eich gweithle, fel arfer fe fydd hyn yn gwbl rydd o dreth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (NICS).

O 6 Ebrill 2011, os ydych yn dechrau cael talebau gofal plant gan eich cyflogwr o dan gynllun Talebau Plant a Gefnogir gan y Cyflogwr, fe fydd peth o’r taliad y byddwch yn ei gael yn rhydd o dreth. Mae’r swm y byddwch yn ei gael yn rhydd o dreth yn dibynnu ar y gyfradd dreth yr ydych yn ei thalu. Dyma’r terfynau:

  • ·Trethdalwr cyfradd sylfaenol  £55 yr wythnos
  • ·Trethdalwr cyfradd uwch £28 yr wythnos
  • ·Trethdalwr cyfradd ychwanegol £25 yr wythnos.

Mae’r terfynau hyn ond yn berthnasol os ydych yn cael talebau gan eich cyflogwr am ofal plant. Nid ydynt yn berthnasol os ydych yn cael budd-dal ariannol.

Os ydych yn cael mwy na’r terfyn didreth wythnosol mewn talebau, fe fydd yn rhaid i chi dalu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar unrhyw swm dros ben hyn.

Os ydych eisoes yn rhan o’r cynllun, ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch. Fe fydd yn rhaid i chi dalu treth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar symiau dros £55 yr wythnos yn unig, waeth pa gyfradd dreth yr ydych yn ei thalu.

Fel arfer bydd derbyn talebau gofal plant oddi wrth eich cyflogwr yn golygu toriad yn y cyflog arian. Gall hyn leihau’ch cyflog i swm islaw'r cyfyngiad enillion isel ar gyfer CYG (NICS), a gall effeithio’ch hawl i gael rhai buddion arbennig.

Gall derbyn talebau gofal plant effeithio ar faint o dreth y gallwch ei hawlio. Mae’r system credydau treth gwaith yn darparu cefnogaeth ar gyfer gofal plant ond lle mae costau’n cael eu gwarchod gan dalebau, ni ellir eu cynnwys fel rhan o’ch hawliad. Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gall talebau effeithio cais am gredyd treth ar wefan Cyllid a Thollau EM yn: www.hmrc.gov.uk. Mae Cyllid a Thollau EM yn darparu offeryn cyfrifo sy’n anelu at eich helpu i benderfynu os ydych chi’n well eich byd yn cymryd y talebau ai peidio. Defnyddiwch yr offeryn hwn yn ofalus os ydyw’ch incwm yn mynd i fyny neu i lawr, gan fod y rhan fwyaf o gredydau treth yn seiliedig ar yr incwm am y flwyddyn cynt tra mae treth ac yswiriant gwladol yn seiliedig ar y flwyddyn dreth gyfredol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â therfyn yr enillion isel a sut mae’ch hawliau i fuddion arbennig yn cael eu heffeithio os ydyw’ch cyflog yn syrthio’n is na’r terfyn enillion isel, gweler Yswiriant Gwladol - cyfraniadau a budd-daliadau.

Dillad

Nid yw dillad gwaith a diogelwch a ddarperir gan eich cyflogwr, er enghraifft, oferôls a helmedau neu esgidiau gwarchod, yn agored i’w trethu. Sut bynnag, mae unrhyw ddillad normal a ddarperir gan eich cyflogwr yn drethadwy.

Cardiau credyd a chardiau codi arian

Os ydych chi’n defnyddio cerdyn credyd i brynu nwyddau neu wasanaethau ar gyfrif eich cyflogwr, bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y gost i’r cyflogwr o ddarparu’r nwyddau neu wasanaethau hyn. Efallai y byddwch yn gallu hawlio didyniad am nwyddau neu wasanaethau a brynwyd ‘yn gyfan gwbl, yn hollol ac yn angenrheidiol’ i ddibenion eich swydd.

Tanwydd

cyflogwr ar gyfer defnydd personol yn drethadwy oni bai eich bod yn weithiwr ar dâl isel.

Gwyliau

Os nad ydych chi’n weithiwr ar dâl isel ac yn derbyn gwyliau am ddim, bydd yn rhaid i chi dalu treth ar eu gwerth. Nid oes rhaid i weithwyr ar dâl isel dalu treth ar wyliau am ddim cyhyd â bod y gwyliau heb werth ail werthu nac yn drosadwy i arian parod, er enghraifft, os gwneir y taliad yn syth i’r gwesty. Byddai taliad i asiant teithio am wyliau dramor yn drethadwy.

Buddion sy’n perthyn i swydd

Mae buddion sy’n perthyn i swydd yn fuddion i weithwyr a ddarperir oddi fewn i fusnes y cyflogwr. Maen nhw’n cynnwys seddau rhad mewn awyren i staff cwmni awyrennau, tocynnau teithio rhad mewn trên i weithwyr rheilffordd a nwyddau a gwasanaethau a ddarperir gan fusnes sy’n cael eu cynnig am ddim neu am bris gostyngol i weithwyr. Maen nhw’n drethadwy oni bai eich bod yn weithiwr ar dâl isel.

Dydyn nhw ddim yn cynnwys ceir cwmnïau a thanwydd, benthyciadau, llety neu ffonau symudol, gan fod rheolau arbennig ar gyfer yr eitemau hyn.

Mae lwfansau arian a roddir yn lle buddion sy’n perthyn i swydd yn drethadwy i bob gweithiwr. Nid yw taliadau i lowyr yn lle glo, sut bynnag, yn drethadwy.

Benthyciadau

Mae benthyciadau di-log a benthyciadau rhad yn drethadwy i bawb ar wahân i weithwyr ar dâl isel.

Prydau bwyd

Nid yw prydau bwyd a ddarperir mewn ffreutur i staff ac sydd ar gael i bob aelod o’r staff yn drethadwy ac nid oes angen i chi eu rhestru ar eich ffurflen dreth.

Yn ychwanegol at hyn, os cewch chi brydau bwyd am ddim neu gymorthdaledig yn y gwaith, a bod y prydau bwyd ar gael i’r holl weithwyr, fyddan nhw ddim yn drethadwy chwaith ac nid oes angen eu rhestru ar eich ffurflen dreth. Mae hyn yn ymestyn hefyd i docynnau neu dalebau a roddir i weithwyr am brydau bwyd am ddim neu gymorthdaledig lle nad yw’r prydau bwyd yn cael eu darparu gan y cyflogwr cyhyd â’u bod yn cael eu darparu yn eich gweithle.

Os bydd y cyflogwr yn rhoi talebau pryd bwyd neu brydau canol dydd eraill i’w defnyddio i ffwrdd o’ch gweithle, gweler o dan y pennawd Talebau.

Yswiriant meddygol

Os yw’ch cyflogwr yn darparu yswiriant meddygol preifat, mae hwn yn drethadwy i bawb ac eithrio gweithwyr ar dâl isel.

Lwfans yn ôl y filltir

Os ydych chi’n cael lwfans yn ôl y filltir am ddefnyddio’ch car eich hunan, fen, beic modur neu feic ar gyfer teithiau gwaith, nid yw’r taliadau hyn yn drethadwy cyhyd â’u bod o fewn y terfynau a osodir gan y Llywodraeth. Gelwir y terfynau yn gyfraddau milltiroedd cymeradwy. Gellir dod o hyd i wybodaeth am gyfraddau milltiroedd cymeradwy cyfredol ar wefan Cyllid a Thollau EM yn: www.hmrc.gov.uk.

Mae lwfansau milltiroedd di-dreth yn berthnasol i deithiau gwaith yn unig, hynny yw, teithiau y mae’n rhaid i chi eu gwneud yn rhinwedd eich swydd. Mae teithiau gwaith yn cynnwys, er enghraifft, dosbarthu nwyddau neu alw gyda chwsmeriaid. Dydyn nhw ddim yn cynnwys teithiau i’ch gweithle arferol ac oddi yno.

Fe allwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â defnyddio eich cerbyd eich hun ar wefan Cyllid a Thollau EM yn: www.hmrc.gov.uk.

Treuliau dros nos

Os ydych chi’n aros o gartref dros nos ar fusnes ac yn gwario arian ar dreuliau personol, er enghraifft, papurau newyddion, galwadau ffôn preifat neu ddillad golch, fe allwch chi gael swm cyfyngedig o’r treuliau hyn wedi’u talu’n ôl gan eich cyflogwr heb i’r taliad fod yn drethadwy. Y terfyn yw £5 y noson am aros yn y DU neu £10 y nos am aros ymhobman arall.

Treuliau adleoli

Os ydyw’ch cyflogwr yn talu eich treuliau symud i fyny hyd at £8,000, mae hwn yn ddi-dreth. Mae’r terfyn hwn yn berthnasol i bob symud. Fe allwch ddod o hyd i fwy o fanylion ar wefan Cyllid a Thollau EM yn: www.hmrc.gov.uk.

Cyfranddaliadau

Yn gyffredinol, mae gwerth cyfranddaliadau a drosglwyddir i weithiwr neu gyfarwyddwr ar ostyngiad yn gymwys i’w drethu. Sut bynnag mae nifer o gynlluniau sy’n gallu rhoi manteision treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol os cewch chi gyfranddaliadau (fel arfer yn y cwmni y byddwch yn gweithio iddo) am bris gostyngol neu am ddim.

Os ydych chi am gyngor pellach ynglŷn â sut yr ymdrinir â chyfranddaliadau i ddibenion treth, cysylltwch ag ymgynghorydd arbenigol, neu gweler Cymorth gyda phroblemau treth.

Hyfforddiant

Os ydyw’ch cyflogwr yn talu am gwrs hyfforddiant sy’n perthyn i’ch swydd, nid yw gwerth y taliad a wneir gan eich cyflogwr yn drethadwy. Mae’r eithriad hwn yn cynnwys costau ychwanegol megis teithio i’r cwrs ac oddi yno ac unrhyw gostau ynghlwm wrth asesiad o’r hyfforddiant- er enghraifft, cost sefyll arholiad.

Os yw’ch cyflogwr yn talu am eich cwrs hyfforddi er mwyn eich ail-hyfforddi chi ar gyfer swydd arall, nid yw gwerth y taliad a wneir gan eich cyflogwr yn drethadwy.

Am fwy o fanylion, gweler Gostyngiadau Treth.

Costau teithio

Os yw’ch cyflogwr yn ad-dalu unrhyw gostau teithio i’r gwaith ac oddi yno neu’n talu amdanynt yn uniongyrchol, er enghraifft, trwy brynu tocyn tymor i chi, mae gwerth y budd hwn fel arfer yn drethadwy. Sut bynnag, fe allwch chi hawlio gostyngiad treth ar unrhyw gostau teithio y telir amdanynt gan eich cyflogwr i warchod cost teithiau a wneir gennych chi fel rhan angenrheidiol o’ch swydd, ac eithrio teithiau i’r gwaith ac oddi yno. Ar gyfer triniaeth treth o lwfansau milltiroedd, gweler o dan y pennawd Lwfansau yn ôl y filltir.

Talebau

Os ydych chi’n derbyn talebau, yn cynnwys talebau prydau bwyd canol dydd o fwy nag 15 ceiniog y dydd a thalebau siec sy’n gyfnewidiadwy am nwyddau a gwasanaethau, fe gewch eich trethu ar y gost i’ch cyflogwr am ddarparu’r daleb a’r nwyddau a gwasanaethau. Mae talebau Gofal Plant yn eithriad. Mae talebau arian, megis cynlluniau Stamp Gwyliau a ddefnyddir yn y diwydiant adeiladu, yn atebol i dreth ymhob achos. Os gellir cyfnewid y daleb am arian, telir y dreth fel arfer trwy TWE, hynny yw, fe’i didynnir o’ch cyflog, fel petai’n daliad arian.

Sut y caiff treth ei ddatgan a’i dalu ar fuddion ymarferol

Os cewch chi unrhyw fuddion ymarferol, a chwblhau ffurflen dreth, rhaid i chi roi eu gwerth ar y dudalen Cyflogaeth yn eich ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn berthnasol, hyd yn oed os talwyd treth arnynt eisoes o dan TWE. Rhaid i’ch cyflogwr hefyd anfon ffurflen at Gyllid a Thollau EM gyda manylion am unrhyw fuddion ymarferol a roddwyd i chi. Mae’ch cyflogwr yn anfon y manylion hyn ar ffurflen P11D, sy’n rhestru'r buddion a’r treuliau ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol. Fe ddylech chi gael copi o’r ffurflen hon erbyn 6 Gorffennaf yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth.

Os ydych chi’n weithiwr ar dâl isel, fe ddylai eich cyflogwr roi ffurflen P9D i chi, neu’r un wybodaeth, yn dangos i chi unrhyw fuddion ymarferol yr ydych yn eu derbyn.

Gellir trethu buddion ymarferol o dan TWE trwy eu gosod yn erbyn lwfansau treth personol yn eich cod TWE. Fe ddylech chi o hyd wirio eich Hysbysiad Cod TWE a dweud wrth Gyllid a Thollau EM os nad ydych yn ei ddeall neu os ydych yn credu nad ydych yn talu'r swm cywir o dreth.

Os na chynhwysir y buddion ymarferol yn eich cod treth ar gyfer y flwyddyn y derbyniwch hwy, gellir casglu’r dreth arnynt ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Os nad ydych yn cwblhau ffurflen dreth Hunan Asesiad, efallai y cewch chi ffurflen P800 yn dweud wrthych am ordaliadau neu dalu rhy ychydig o dreth.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â TWE, gweler System Talu Wrth Ennill (TWE/PAYE).

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thalu rhy ychydig o dreth o dan TWE, gweler Talu Wrth Ennill: problemau cyffredin.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.