Coronafirws - mynd allan a chyfarfod â phobl
Mae fel arfer yn erbyn y gyfraith i cwrdd y tu mewn i gartref rhywun gyda mwy na 6 o bobl, oni bai eich bod yn byw gyda nhw neu eu bod yn rhan o'ch ‘cartref estynedig’
Gallwch chi gwrdd ag unrhyw nifer o bobl:
-
yn yr awyr agored
-
yn eich gweithle
-
mewn digwyddiad wedi'i drefnu
-
mewn bwyty neu fusnes arall - ond efallai bod ganddyn nhw eu rheolau eu hunain ar faint y grŵp
-
mewn man addoli
-
mewn llys
Mae'r llywodraeth yn argymell eich bod yn cadw o leiaf 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl nad ydynt yn aelodau o'ch cartref. Os oes gennych blant o dan 11 oed, nid oes angen iddynt gadw 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl eraill.
Gwiriwch beth sy'n digwydd os byddwch chi'n torri'r rheolau
Gall yr heddlu ddweud wrthych am fynd adref neu roi dirwy o £60 i chi. Bydd y ddirwy yn codi os byddwch chi'n torri'r rheolau eto.
Gwiriwch a oes eithriad i'r rheolau ynghylch cwrdd â phobl
Mewn rhai sefyllfaoedd, gallwch gwrdd y tu fewn mewn grŵp o fwy na 6 o bobl o wahanol aelwydydd. Gallwch wneud hyn os ydych chi'n:
-
addysgu neu ofalu am blant
-
cael neu roi cymorth meddygol - er enghraifft os ydych chi'n gofalu am rywun nad ydynt yn byw gyda chi
-
helpu rhywun mewn argyfwng
Gallwch wirio a ydych chi mewn sefyllfa lle nad yw'r rheolau ynghylch cwrdd â phobl yn berthnasol ar wefan llywodraeth Cymru.
Mynd i briodas neu angladd
Gallwch fynd i briodas, cofrestru partneriaeth sifil neu angladd ar yr amod eich bod wedi cael gwahoddiad.
Gallwch chi gael priodas neu dderbynfa dan do gyda hyd at 1,000 o bobl os yw pawb yn eistedd, neu 200 o bobl os ydyn nhw'n sefyll.
Gallwch hefyd gael derbyniad neu wylnos y tu fewn gyda hyd at 30 o bobl.
Ymuno ag aelwyd estynedig
Gall eich cartref ffurfio ‘cartref estynedig’ gydag hyd at 3 aelwyd arall.
Gallwch:
-
cwrdd yn y gartref mewn grŵp o fwy na 6
-
aros yng nghartrefi ei gilydd
-
cael cyswllt corfforol.
Gallwch fod mewn hyd at 3 chartref estynedig gwahanol ar yr un pryd. Gallwch newid i aelwyd estynedig wahanol os nad ydych wedi bod mewn cysylltiad â'ch hen un am 10 diwrnod.
Os oes gennych 'swigen gefnogol' gydag aelwyd arall, gallwch barhau i'w gweld a hefyd fod yn rhan o hyd at 3 chartref estynedig.
Gallwch wirio beth yw'r rheolau ar wefan llywodraeth Cymru.
Os ydych chi wedi gwahanu oddi wrth riant arall eich plant
Gall eich plant fod yn rhan o aelwyd y ddau rhiant os ydynt:
-
o dan 18 oed
-
gweld chi a'r rhiant arall