Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cam 1: cymryd camau pan fyddwch chi’n derbyn hysbysiad troi allan

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Y cam swyddogol cyntaf y bydd eich landlord yn ei gymryd yw anfon hysbysiad atoch chi’n gofyn i chi adael eich cartref - 'hysbysiad ceisio meddiant' yw hwn. Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny dylech chi wneud yn siŵr ei fod wedi dilyn y rheolau cywir i'ch troi allan.

Mae'r rheolau’n wahanol yn dibynnu ar yr hysbysiad:

Os oes gennych chi fath gwahanol o hysbysiad troi allan efallai y byddwch chi’n dal i allu defnyddio cyfraith gwahaniaethu i geisio ei amddiffyn, ond dylech chi gael cymorth gan gynghorydd.

Efallai byddwch chi’n gallu defnyddio cyfreithiau tai eraill i herio'r penderfyniad i'ch troi allan - gallai'r rhain fod yn bethau sydd ddim yn gysylltiedig â'r gwahaniaethu. Er enghraifft, efallai na fydd eich hysbysiad troi allan wedi cael ei ysgrifennu'n gywir.

Os oes rhesymau eraill dros herio'r penderfyniad i'ch troi allan dylech eu codi’r un pryd â'r ddadl ynghylch gwahaniaethu.

Gallwch gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi wedi cael llythyr yn dweud 'hysbysiad troi allan' sy'n dweud pryd fydd beilïaid yn dod i'ch cartref. Os oes gan eich landlord orchymyn llys i'ch troi allan eisoes, mae'r ffordd y gallech chi ddefnyddio cyfraith gwahaniaethu i herio'r troi allan yn wahanol ac yn fwy cyfyngedig.

Gofyn i’ch landlord roi’r gorau i’r troi allan

Does dim rhaid i'ch landlord eich troi allan hyd yn oed os yw wedi anfon hysbysiad atoch chi, felly mae'n syniad da cysylltu ag ef. Ysgrifennwch lythyr yn gofyn iddo roi'r gorau i'r broses troi allan. Dywedwch eich bod chi’n barod i herio'r troi allan yn y llys os bydd yn parhau gyda’r broses.

Dylai'ch llythyr gynnwys y canlynol hefyd:

  • eich enw a'ch cyfeiriad
  • crynodeb o'r hyn ddigwyddodd - eglurwch ei fod yn wahaniaethu dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • y math o wahaniaethu, er enghraifft uniongyrchol neu'n anuniongyrchol
  • beth rydych chi eisiau, er enghraifft, cael aros yn eich cartref - os ydych chi'n gofyn am arian, dywedwch faint a sut i chi gyfrifo'r swm hwnnw
  • rhesymau eraill rydych chi’n herio'r troi allan, er enghraifft os yw'r hysbysiad sy'n gofyn i chi adael yn anghywir
  • eich bod am gael ateb o fewn 14 diwrnod - os bydd yr hysbysiad yn dod i ben cyn hynny, gofynnwch i'ch landlord oedi'r broses troi allan tan i chi gael cyfle i ystyried ei ymateb

Ym mhob achos, dylech chi ddweud bod yr hyn rydych chi'n ei awgrymu yw “heb ymrwymiad heblaw o ran costau”. Fel arfer mae hyn yn golygu na all y llys weld y trafodaethau hyn wrth benderfynu ar ganlyniad eich achos.

Byddai'r llys yn gallu eu gweld maes law er mwyn penderfynu pwy sy'n talu'r costau cyfreithiol.

Cadwch gopi o'r llythyr a gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio am ddim - efallai bydd angen i chi brofi pryd wnaethoch chi anfon eich llythyr.

Mae’n well talu unrhyw ôl-ddyledion rhent sydd gennych er mwyn cael y cyfle gorau o gadw'ch cartref, hyd yn oed os ydych chi'n credu bod gennych hawliad am iawndal yn erbyn eich landlord.

Os yw'ch landlord yn cytuno i beidio mynd i'r llys

Gallai geisio eich troi allan eto os bydd problemau'n parhau - er enghraifft os ydych chi'n parhau i dorri telerau'ch tenantiaeth. Mae'r rhan fwyaf o hysbysiadau yn ddilys am 12 mis, felly gallech chi gael eich troi allan heb fawr ddim rhybudd.

Ceisio dod i gytundeb y tu allan i’r llys

Mae'n syniad da parhau i siarad â'ch landlord hyd yn oed os yw am fynd i'r llys i'ch troi allan. Efallai y gallwch chi ddod i gytundeb gydag ef o hyd. Er enghraifft, gallech chi gytuno i dalu ôl-ddyledion rhent sy'n ddyledus gennych chi os yw'ch landlord yn rhoi rhywfaint o iawndal i chi.

Gwnewch yn siŵr y byddwch chi’n gallu cadw at eich ochr chi o'r cytundeb. Os na fyddwch chi'n gwneud yr hyn rydych chi wedi’i gytuno, gallai'ch landlord ddechrau'r broses troi allan eto.

Os byddwch chi’n dod i gytundeb, gallwch chi atal y broses gyfreithiol – setlo yw hyn. Efallai bydd y llys yn eich annog i geisio setlo.

Gallwch drafod hyd yn oed os ydych chi wedi ceisio dod i gytundeb cyn i'ch landlord ddechrau'r broses troi allan.

Ym mhob achos, dylech chi ddweud bod yr hyn rydych chi'n ei awgrymu “heb ymrwymiad heblaw o ran costau”. Fel arfer mae hyn yn golygu na all y llys weld y trafodaethau hyn wrth benderfynu ar ganlyniad eich achos. Byddai'r llys yn gallu eu gweld nhw maes o law er mwyn penderfynu pwy sy'n talu'r costau cyfreithiol.

Hefyd, mae gan y llys broses ffurfiol y gallwch chi ei dilyn i geisio cael setliad. Setliad 'Rhan 36' yw hyn.

I gael setliad Rhan 36 mae angen i chi ysgrifennu at eich landlord yn rhoi'ch cynnig setlo a dyddiad olaf iddo ei dderbyn neu ei wrthod. Byddech chi’n esbonio a yw'n berthnasol i'r hawliad troi allan cyfan neu ran ohono ac a ydych chi’n gwneud gwrth-hawliad. Byddech chi’n esbonio'r costau hefyd a beth fyddai'n digwydd pe bai’n derbyn neu'n gwrthod.

Mae mwy o reolau y mae angen i chi eu dilyn os ydych chi'n gwneud cynnig Rhan 36 - mae rhagor o wybodaeth am setliadau rhan 36 ar GOV.UK.

Does dim rhaid i chi ddefnyddio'r broses Rhan 36 - gallwch chi wneud cynnig i setlo'ch achos ym mha bynnag ffordd a ddewiswch chi.

Os ydych chi'n cytuno ar setliad, dylech gael cadarnhad ysgrifenedig - yna bydd gennych chi gofnod rhag ofn y bydd yn newid ei feddwl.

Cael y llys i gymeradwyo setliad

Dylech chi ofyn i'r llys gymeradwyo'r cytundeb rydych chi wedi'i gyrraedd. Mae hyn yn golygu y bydd y llys yn gwneud gorchymyn ar y telerau rydych chi wedi cytuno arnyn nhw ac mae angen i'r naill ochr a’r llall gadw ato. Os nad yw un ochr yn cadw at y gorchymyn, gall yr ochr arall gymryd camau i'w orfodi.

Bydd angen i chi:

  • ddefnyddio ffurflen N244 i ofyn i'r llys am 'orchymyn cydsynio'
  • cytuno â'r ochr arall beth ddylai'r gorchymyn ei ddweud ac anfon drafft i'r llys gyda'ch cais
  • talu ffi i'r llys - £100 fel arfer
  • penderfynu pa barti fydd yn gwneud y cais a thalu'r ffi

Gallwch ofyn i'r llys ddelio â'ch cais heb wrandawiad i arbed amser a chostau. Os na all y llys ddelio â'ch cais heb wrandawiad, efallai y byddwch yn cael cais i gofynnir i fynd i'r llys.

Dylech chi gael cymorth gan gynghorydd os ydych chi'n ystyried cytuno i orchymyn adennill meddiant.

Rhoi cynnig ar gyfryngu

Os na allwch chi datrys eich problem o hyd, gallech chi ofyn i gyfryngwr helpu. Mae cyfryngwr yn rhywun sydd ddim yn adnabod y naill ochr na’r llall ac sydd wedi'i hyfforddi i helpu pobl i ddatrys anghydfod. Bydd yn gwneud penderfyniad teg yn seiliedig ar y ffeithiau a beth mae’r naill ochr a’r llall ei eisiau. Efallai y bydd yn siarad â chi gyda'ch gilydd neu ar wahân.

Nid yw cyfryngu’n orfodol, felly gallai'r ochr arall wrthod. Os yw'r ochr arall yn awgrymu cyfryngu a'ch bod chi’n gwrthod, gallai hynny gael ei ddefnyddio yn eich erbyn maes o law os byddwch chi’n mynd i'r llys. Efallai bydd rhaid i chi dalu costau ychwanegol.

Bydd rhoi cynnig ar gyfryngu’n eich helpu chi i ddangos eich bod chi wedi ceisio datrys eich achos cyn i chi fynd i'r llys. Dylech chi gadw copïau o unrhyw lythyrau neu nodiadau o sgyrsiau lle rydych chi wedi awgrymu setlo'r achos neu roi cynnig ar gyfryngu fel y gallwch chi eu defnyddio nhw fel tystiolaeth.

Hyd yn oed os yw'ch landlord chi eisoes wedi gwneud cais i'r llys, gallai gael ei ohirio (‘oedi’ yw'r term cyfreithiol am hyn) tra byddwch chi’n ceisio datrys yr anghydfod trwy gyfryngu.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall a fydd y cyfryngu yn 'rhwymol'. Mae hyn yn golygu y byddai'n rhaid i chi gytuno bod penderfyniad y cyfryngwr yn derfynol ac na fyddech chi, er enghraifft, yn gallu cymryd camau cyfreithiol i geisio cael penderfyniad gwahanol.

Efallai y bydd rhaid i chi dalu am gyfryngwr neu rannu'r costau gyda'ch landlord. Dylech chi holi am hyn cyn i chi gytuno rhoi cynnig ar gyfryngu.

Os nad ydych chi'n siŵr a ddylech chi weld cyfryngwr gallwch chi gael cymorth.

Dod o hyd i gyfryngwr

Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol - efallai y gallan nhw helpu hyd yn oed os nad ydych chi'n denant i'r cyngor. Gallwch chi ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK

Gallwch chi chwilio am gyfryngwr ar GOV.UK hefyd.

Previous Step 2
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.