Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cam 3: anfon y ffurflen amddiffyniad

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Gwnewch yn siŵr bod yr holl ffeithiau ar y ffurflen amddiffyniad yn gywir cyn i chi ei hanfon.

Gwnewch gopi neu tynnwch lun o'r ffurflen a dogfennau eraill rydych chi wedi'u cynnwys ar gyfer eich cofnodion.

Mae angen i chi anfon 3 chopi o bopeth i'r llys – bydd y llys yn cadw un copi, yn dychwelyd un atoch ac yn anfon un at eich landlord.

Dylech chi anfon y ffurflenni i'r llys neu fynd â nhw yno’n bersonol. Dylech chi gael prawf postio am ddim os byddwch chi’n eu postio nhw. Bydd cyfeiriad y llys ar y papurau llys a anfonwyd atoch chi.

Gwnewch yn siŵr bod y ffurflenni'n cyrraedd y llys o fewn 14 diwrnod i chi dderbyn papurau'r llys. Os byddwch chi’n eu hanfon nhw’n hwyr efallai na fyddwch chi’n gallu herio’r troi allan neu efallai bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol.

Os na allwch chi gadw at y dyddiad cau

Os yw hi bron yn 14 diwrnod ers i chi dderbyn papurau'r llys, cysylltwch â'r llys i ofyn a oes ffordd gyflym o anfon eich ffurflen amddiffyniad, er enghraifft drwy e-bost.

Os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau, weithiau gallwch chi anfon eich ffurflen amddiffyniad yn hwyr - efallai y caiff ei derbyn o hyd. Os ydych chi'n denant byrddaliad sicr ac wedi derbyn 'hawliad meddiannu cyflymedig' mae'n bwysig iawn gweithredu'n gyflym oherwydd gallai'r llys wneud penderfyniad am eich achos heb wrandawiad.

Ffoniwch y llys i holi a yw'r barnwr wedi gwneud penderfyniad ar eich achos yn barod. Os nad yw, dywedwch eich bod yn anfon eich ffurflen amddiffyniad yn hwyr a gofynnwch iddyn nhw nodi hyn ar eich ffeil llys.

Pan fyddwch chi'n anfon y ffurflen amddiffyniad, mae'n syniad da cynnwys llythyr yn dweud pam i chi ei hanfon hi’n hwyr, er enghraifft, roeddech chi yn yr ysbyty.

Anfonwch gopi o'r ffurflen yn uniongyrchol at eich landlord yr un pryd - mae hyn yn dangos i'r llys eich bod chi’n ceisio osgoi oedi, a gallai hyn olygu y byddan nhw’n fwy tebygol o dderbyn eich amddiffyniad. Bydd yn golygu hefyd ei bod yn llai tebygol y bydd rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol.

Os cewch chi ddyddiad llys cyn i chi lenwi'r ffurflen

Gallwch chi fynd i'r gwrandawiad a gofyn am fwy o amser i baratoi'ch achos - 'gohiriad' yw hyn. Dylech chi esbonio pam mae angen amser ychwanegol arnoch chi i baratoi'ch amddiffyniad, er enghraifft eich bod chi’n disgwyl am gyngor cyfreithiol neu'ch bod wedi bod oddi cartref.

Dylech chi ddweud eich bod chi am amddiffyn yr achos gan ddefnyddio amddiffyniad gwahaniaethu, er enghraifft bod eich landlord yn eich troi allan yn annheg oherwydd eich anabledd chi. Dylech chi sôn hefyd am unrhyw amddiffyniadau eraill sydd gennych chi.

Os ydych chi'n gwrth-hawlio

Bydd angen i chi wneud rhai pethau ychwanegol oherwydd bod eich gwrth-hawliad yn cyfrif fel hawliad cyfreithiol newydd.

Dweud wrth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Ysgrifennwch i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) i ddweud eich bod chi wedi dechrau hawliad. Weithiau gallan nhw helpu gyda’r achos – y term cyfreithiol am hyn yw ymyrryd.

Talu ffi'r llys

Bydd angen i chi dalu ffi os ydych chi'n hawlio arian. Mae'r gost yn dibynnu ar faint o arian rydych chi'n gofyn amdano - edrychwch ar y costau ar GOV.UK.

Os ydych chi'n gwneud hawliad am rywbeth sydd ddim yn ymwneud ag arian, fel gwaharddeb, bydd angen i chi dalu ffi o £308.

Os ydych chi'n hawlio am arian ac am rywbeth arall efallai bydd angen i chi dalu'r ddwy ffi.

Os ydych chi ar incwm isel, efallai bydd eich ffioedd yn cael eu gostwng neu efallai na fydd rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd. Edrychwch i weld allwch chi gael cymorth gyda’ch costau llys ar GOV.UK.

Mae'n well ceisio talu'r ffi’n bersonol yn y llys. Os na fyddwch yn talu'r ffi gywir i'r llys, efallai na fydd y llys yn caniatáu i chi wneud eich gwrth-hawliad.

Efallai gallwch chi dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd dros y ffôn - holwch eich llys lleol yn gyntaf. Mae manylion cyswllt eich llys i’w gweld ar GOV.UK.

Os nad ydych chi wedi llenwi'ch ffurflen yn gywir neu os oes rhaid i chi dalu ffi ac nad ydych chi’n gwneud hynny, efallai na fydd y llys yn gadael i chi wneud eich gwrth-hawliad.

Ar ôl i chi anfon y ffurflen amddiffyniad

Fel arfer, bydd y llys yn anfon dyddiad eich gwrandawiad llys atoch chi os nad ydyn nhw wedi'i anfon yn barod. Mewn rhai achosion gallai'r barnwr wneud penderfyniad heb i chi orfod mynd i'r llys – byddan nhw’n ysgrifennu atoch chi i ddweud wrthych chi beth sy'n digwydd nesaf.

Efallai bydd eich landlord chi’n ysgrifennu atoch chi’n ymateb i beth i chi ei ysgrifennu ar y ffurflen amddiffyniad - 'ymateb i'r amddiffyniad' yw hyn. Efallai na fyddan nhw’n ysgrifennu atoch chi os yw'r gwrandawiad llys ar fin digwydd.

Os ydych chi’n gwrth-hawlio hefyd, dylai'ch landlord ysgrifennu atoch chi yn ymateb i'r hyn rydych chi wedi'i wrth-hawlio - 'amddiffyniad i wrth-hawliad' yw hyn.

Os ydych chi wedi derbyn llythyr 'ateb i'r amddiffyniad' neu 'amddiffyniad i wrth-hawliad' dylech chi ei ddarllen yn ofalus. Efallai bydd eich landlord yn rhoi mwy o fanylion am pam ei fod yn anghytuno â chi. Er enghraifft, gallai ddweud:

  • bod y gwahaniaethu heb ddigwydd
  • bod eich sefyllfa ddim yn dod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • ei fod yn gallu cyfiawnhau'r gwahaniaethu

Dylech feddwl am sut byddwch chi’n ymateb iddow yn y llys. Meddyliwch a fydd y dystiolaeth sydd gennych chi’n ddigon da i ddadlau yn erbyn beth mae'r landlord yn ei ddweud.

Peidiwch â phoeni os oes gennych chi'r un math o dystiolaeth â'r ochr arall - er enghraifft, os mai dim ond eich gair chi yw hi yn erbyn eu gair nhw a does dim tystiolaeth annibynnol. Gallai'r barnwr benderfynu derbyn eich ochr chi o'r stori ta beth.

Previous Step 4
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.