Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cam 4: paratoi ar gyfer y llys

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Bydd rhaid i chi baratoi ambell beth cyn i chi fynd i'r llys. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cwblhau popeth ar yr adegau cywir - os na, gallai effeithio ar eich gobaith chi o ennill neu gallai olygu eich bod chi'n gorfod talu costau ychwanegol.

Mae'n bwysig eich bod chi’n mynd i’r gwrandawiad hyd yn oed os nad ydych chi wedi llwyddo i gwblhau a dychwelyd y gwaith papur. Mae angen i chi fod yn barod i esbonio pam rydych chi'n meddwl bod gennych chi amddiffyniad i hawliad eich landlord am feddiant.

Dylech chi wneud yn siŵr eich bod chi’n mynd ag unrhyw ddogfennau allweddol sy'n helpu'ch achos gyda chi i ddangos i'r barnwr a oes angen, ac i helpu i ddangos bod gennych chi amddiffyniad dilys i'r hawliad.

Os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent, talwch gymaint ag y gallwch chi er mwyn eu lleihau cyn y gwrandawiad. Byddwch yn barod i esbonio pa daliadau pellach allwch chi eu gwneud ac erbyn pryd.

Yn y gwrandawiad cyntaf bydd y llys naill ai'n gwneud penderfyniad ar eich achos chi neu'n rhoi cyfarwyddiadau ar sut ddylai'r achos fynd rhagddo - 'cyfarwyddiadau rheoli achos' yw'r rhain. Dylai'r llys wneud hyn os allwch chi ddangos bod eich rhesymau dros amddiffyn yr hawliad yn sylweddol. Os bydd y llys rhoi cyfarwyddiadau bydd gwrandawiad arall rywbryd eto.

Y rheolau sy'n ymdrin â hyn yw rheol 55.8(1) a (2) o’r Rheolau Trefniadaeth Sifil.

Gofyn am yr hyn rydych ei angen

Os bydd y llys yn penderfynu rhoi cyfarwyddydiadau gallwch chi eu defnyddio i ofyn am bethau fel y tystion rydych chi eu heisiau a’r amser rydych chi ei angen i baratoi eich achos.

Er enghraifft, gallech chi ofyn am:

  • ddigon o amser i gael datganiadau gan eich tystion - dywedwch sawl diwrnod rydych chi’n credu fydd hynny’n ei gymryd
  • digon o amser i baratoi ar gyfer y llys ar ôl cael datganiadau tyst eich landlord - nodwch sawl diwrnod
  • nodiadau a chofnodion eich landlord amdanoch chi - gallai hyn eich helpu chi i ddeall pam ei fod yn eich trin chi’n annheg
  • unrhyw bolisïau a all fod gan eich landlord chi sy'n berthnasol i'r sefyllfa, er enghraifft ei bolisi ar gefnogi tenantiaid anabl
  • arbenigwr i roi tystiolaeth yn y llys ar eich rhan chi, er enghraifft meddyg i'ch helpu chi i brofi eich bod chi’n anabl os yw'ch landlord yn credu nad ydych chi’n anabl - 'tystiolaeth arbenigol' yw hyn

Dylech chi ddefnyddio'r cyfarwyddiadau i ddweud wrth y llys am unrhyw ddyddiadau na allwch chi, eich arbenigwr neu'ch tystion fynd i wrandawiad llys.

Os nad ydych chi’n siŵr, gallwch chi edrych ar y rheolau pwysicaf ar ddatganiadau tystion, datgelu dogfennau a thystiolaeth arbenigol.

Gweld pa drac mae'ch achos wedi cael ei roi arno

Bydd y llys yn rhoi eich achos ar un o 3 llwybr (sef 'traciau') yn seiliedig ar ei werth a pha mor gymhleth ydyw - os yw'n llai cymhleth, bydd y broses yn llai ffurfiol. Bydd y gorchymyn cyfarwyddiadau’n dweud wrthych chi pa 'drac' mae'n rhaid rhoi'r achos arno.

Mae'n bwysig gwybod pa drac mae'r achos wedi'i roi arno oherwydd mae hyn yn effeithio ar ba reolau llys mae angen i chi eu dilyn a pha gostau y gallai fod rhaid i chi eu talu.

Bydd y llys yn penderfynu ar drac yn seiliedig ar reolau 26.8 a 55.9(1) o'r Rheolau Trefniadaeth Sifil.

Mae'r rhan fwyaf o achosion meddiannu tai yn cael eu dyrannu i'r llwybr cyflym.

Os yw'ch achos yn cael ei ddyrannu i'r amldrac

Dylech chi gael cyngor cyfreithiol gan arbenigwr tai neu gyfreithiwr - mae hyn oherwydd bod y rheolau trefniadaeth yn fwy cymhleth ac mae'r costau’n uwch.

Mae'r rheolau am y cyfarwyddiadau'n dibynnu ar ba drac mae'ch achos wedi cael ei roi.

Os yw'ch achos ar y trac cyflym mae'n debyg y bydd y llys yn gwneud cyfarwyddiadau tebyg i'r 'cyfarwydiadau safonol trac cyflym'. Mae'r rheolau yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 28.

Os caiff eich achos ei ddyrannu i'r amldrac, bydd y llys yn gwneud cyfarwyddiadau yn seiliedig ar y rheolau ar reoli achosion yn Rhan 29 y Rheolau Trefniadaeth Sifil a Chyfarwyddyd Ymarfer 29.

Bwrw golwg ar y cyfarwyddiadau

Pan fydd y llys wedi penderfynu pa gyfarwyddyd i'w roi bydd yn gwneud 'gorchymyn cyfarwyddiadau' ac yn anfon copi atoch chi a'ch landlord.

Edrychwch ar y dyddiadau yn y cyfarwyddiadau a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw at unrhyw ddyddiadau cau.

Os ydych chi'n ceisio setlo, gallwch chi wneud cais i'r llys i oedi'r broses gyfreithiol ('oedi'r achos’ yw’r gair cyfreithiol am hyn). Byddai hyn yn newid y dyddiad cau ar gyfer eich cyfarwyddiadau ac yn rhoi amser ychwanegol i chi drafod. Dylai'r ddwy ochr geisio cytuno i wneud hyn.

Os ydych chi eisiau gwneud hyn, llenwch ffurflen N244 o GOV.UK a'i hanfon yn ôl at y llys cyn gynted ag y gallwch chi.

Os na fydd eich landlord chi’n cytuno i newid y cyfarwyddiadau, gallwch chi wneud cais i'r llys a byddan nhw’n penderfynu a ddylid caniatáu hynny ai peidio. Gofynnwch am y newid drwy ddefnyddio ffurflen N244. Gofynnwch am gyngor os oes angen cymorth arnoch chi.

Fel arfer bydd angen i chi dalu ffi o £255 i wneud y cais. Os ydych chi'n gwneud cais gyda chytundeb yr ochr arall ('trwy gydsyniad' yw’r term cyfreithiol am hyn), £100 fydd y ffi. Os ydych chi ar incwm isel efallai gallwch chi gael cymorth gyda’r ffioedd.

Enghreifftiau o gyfarwyddiadau

Os nad ydych chi’n siŵr beth i'w ysgrifennu, gallwch chi weld enghraifft o gyfarwyddiadau [ 78 kb]. Os na allwch chi agor y ddogfen, gallwch chi weld y fersiwn hon, ond nid yw’n dangos y fformat sy'n cael ei ddefnyddio gan y llys. Os na fyddwch chi'n defnyddio'r fformat sydd yn rheolau'r llys, gallai gael effaith negyddol ar eich achos. Gallwch chi gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi'n poeni am fformat eich dogfen.

Mae'r enghraifft hon yn edrych ar hawliad gan rywun sy'n dweud bod ei landlord hi heb ystyried ei hanabledd wrth ei throi allan (gwahaniaethu yn deillio o anabledd). Nid yw ei landlord hi’n cytuno bod ganddi anabledd o dan adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 felly mae’r llys wedi dweud bod angen un arbenigwr ar y cyd.

Dylech chi geisio cael cyngor cyfreithiol, os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod. Os oes angen cyngor ac arweiniad manylach arnoch, gallwch chi gael rhagor o gymorth.

Efallai na fydd y ffeithiau'n addas i'ch sefyllfa benodol chi. Peidiwch â'u copïo rhag ofn nad ydyn nhw’n berthnasol i chi.

Paratoi datganiad tyst

Bydd angen i chi ddarparu datganiad tyst ysgrifenedig ar gyfer pob person fydd yn rhoi tystiolaeth i'r llys, gan eich cynnwys chi eich hun. Bydd y cyfarwyddiadau yn dweud wrthych chi erbyn pryd fydd angen i chi eu hanfon.

Gall ysgrifennu eich datganiad tyst gymryd amser hir felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ei ddechrau'n gynnar.

Cyn ysgrifennu, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gallu esbonio:

  • pa ddigwyddiadau oedd yn wahaniaethu yn eich barn chi - gallai fod mwy nag un
  • pa fath o wahaniaethu oedd pob un - er enghraifft, uniongyrchol neu anuniongyrchol
  • beth sydd angen ei brofi ar gyfer pob math gwahanol o wahaniaethu
  • pa ffeithiau mae'ch landlord yn eu cyfaddef a pha rai maen nhw’n anghytuno â nhw

Dylech chi gynnwys holl ffeithiau'ch achos - dylech chi gynnwys popeth wnaethoch chi ei roi ar eich ffurflen amddiffyniad ac unrhyw fanylion ychwanegol.

Fel arfer mae'n well esbonio popeth yn y drefn wnaeth pethau ddigwydd. Fodd bynnag, os oes gennych chi amddiffyniadau eraill yn ogystal â gwahaniaethu, gallech chi nodi'r rheini ar wahân. Er enghraifft, gallech chi esbonio pam nad ydych chi’n credu bod hysbysiad eich landlord yn ddilys ac yna esbonio sut iddo aflonyddu arnoch.

Dylech chi gynnwys unrhyw ddogfennau rydych chi’n cyfeirio atyn nhw yn y datganiad. Os nad oes gennych chi gopïau, mae angen i chi esbonio pam yn eich datganiad.

Os ydych chi'n cyfeirio at ddogfennau yn eich datganiad tyst, rhowch rif i bob un. ‘Arddangosyn’ yw enw cyfreithiol pob dogfen.

Rhowch lythrennau cyntaf eich enw ar y ddogfen. Er enghraifft, os mai Angharad Williams yw'ch enw chi, gallech chi roi ‘AW1’ ar yr arddangosyn cyntaf, ac yna ‘AW2’ ar y nesaf. Defnyddiwch y llythrennau cyntaf a'r rhifau pan fyddwch chi’n cyfeirio at y dogfennau yn eich datganiad tyst.

Peidiwch â chael eich temtio i orliwio ffeithiau'ch achos neu'ch hawliadau - fydd hyn ddim yn helpu'ch achos chi ac efallai na fydd y llys yn eich credu chi. Os ydych chi’n dweud rhywbeth nad yw'n wir yn eich datganiad tyst, gallech chi fod yn euog o 'ddirmyg llys' oni bai eich bod chi’n credu'n gwbl onest ei fod yn wir.

Esboniwch unrhyw anghysondebau mawr rhwng eich datganiad chi a datganiad yr ochr arall neu'ch tystion chi eich hun. Mae hyn yn golygu bod gennych chi gyfle i gyflwyno'ch fersiwn chi yn hytrach na disgwyl i'r llys neu'r ochr arall dynnu sylw at yr anghysondebau.

Dilynwch yr arweiniad ar gwblhau datganiad llys ar GOV.UK.

Enghraifft o ddatganiad tyst

Os nad ydych chi’n siŵr beth i'w ysgrifennu, gallwch chi weld enghraifft o datganiad tyst yma [ 97 kb]. Os na allwch chi agor y ddogfen, gallwch chi weld y fersiwn hon, ond nid yw’n dangos y fformat sy'n cael ei ddefnyddio gan y llys. Os na fyddwch chi'n defnyddio'r fformat sydd yn rheolau'r llys, gallai hynny gael effaith negyddol ar eich achos. Gallwch chi gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi'n poeni am fformat eich dogfen.

Mae'r enghraifft hon yn delio â gwahaniaethu anuniongyrchol a gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd. Mae’n delio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus hefyd. Yn yr achos hwn, mae'r landlord yn ceisio troi’r tenant allan oherwydd bod ganddo ddyled rhent. Os oes angen cyngor ac arweiniad manylach arnoch chi , gallwch chi gael rhagor o gymorth.

Peidiwch â chopïo’r enghraifft hon fel y mae hi - efallai na fydd y ffeithiau'n addas i'ch sefyllfa benodol chi.

Cael datganiadau gan eich holl dystion

Os oedd rhywun yn dyst i'r gwahaniaethu neu os oes ganddo wybodaeth sy'n cefnogi'ch achos chi, dylech chi ofyn iddo ysgrifennu datganiad ar wahân ar eich cyfer – dylen nhw ddilyn yr un canllawiau â chi. Bydd angen iddo lofnodi'r datganiad hefyd.

Rhowch lythrennau cyntaf enwau’r tyst ar ei ddatganiadau hefyd.

Gofynnwch i'ch tyst ddod i'r llys i roi tystiolaeth yn bersonol - gwnewch yn siŵr ei fod yn gwybod beth yw dyddiadau'r llys. Os nad yw'n mynd i’r gwrandawiad, fydd y llys ddim yn rhoi llawer o bwys ar ei dystiolaeth - 'tystiolaeth ail law' yw hyn.
Os ydych chi'n gwybod na all eich tyst fod yn bresennol, gallwch chi ddefnyddio ei ddatganiad fel tystiolaeth ond bydd angen i chi gyflwyno 'hysbysiad ail law' pan fyddwch chi’n anfon ei ddatganiad yn dweud pam nad yw'n gallu bod yn bresennol. Os na wnewch chi hyn, bydd llai o bwys yn cael i roi ar ei dystiolaeth. Gallwch chi ddarllen y rheolau llawn yn Rheol Trefniadaeth Sifil 33 ar GOV.UK.

Gweld a oes angen tystiolaeth feddygol arbenigol arnoch chi

Os yw'ch landlord yn anghytuno ag unrhyw ran o'ch achos am eich anabledd chi, gallai'r llys ddweud wrthych chi nad yw'ch tystiolaeth feddygol chi eich hun yn ddigon.

Bydd angen i chi fynd at arbenigwr meddygol annibynnol i gael 'adroddiad arbenigol ar y cyd'. Efallai y bydd angen adroddiad arbenigol ar y cyd arnoch chi i:

  • brofi eich bod yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • dangos sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch chi
  • esbonio sut byddai addasiad rhesymol yn eich atal chi rhag bod dan anfantais oherwydd eich anabledd
  • dangos, oherwydd eich anabledd, eich bod chi dan anfantais o gymharu â phobl sydd ddim yn anabl
  • dangos yr effaith mae’r gwahaniaethu wedi’i chael arnoch chi
  • dangos bod eich ymddygiad chi a arweiniodd at eich landlord yn ceisio eich troi allan wedi digwydd oherwydd eich anabledd
  • awgrymu ffyrdd eraill y gallai'ch landlord fod wedi delio â'r broblem a fyddai'n gwahaniaethu llai yn eich erbyn chi

Dyma'r math cryfaf o dystiolaeth gan y bydd yn cael ei hysgrifennu gan arbenigwr annibynnol, ond gall gostio cannoedd o bunnoedd.

Mae'n debyg y bydd angen i chi wneud apwyntiad i weld yr arbenigwr meddygol.

Bydd angen i chi sicrhau eich bod chi’n cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau fydd y llys yn eu rhoi am y math o adroddiad arbenigol ar y cyd maen nhw am i chi ei gael. Gallai'r llys orchymyn eich bod chi’n:

  • gwneud yn siŵr bod y cais am yr adroddiad yn gofyn cwestiynau penodol neu'n rhoi sylw i faterion penodol, er enghraifft, effaith eich anabledd chi
  • cytuno â'ch landlord ar eiriad y llythyr at yr arbenigwr a sut byddwch chi’n gofyn unrhyw gwestiynau dilynol
  • cytuno pwy fydd yn darparu'r adroddiad
  • cytuno pwy fydd yn talu'r ffioedd, neu sut byddan nhw’n cael eu rhannu - fel arfer maen nhw'n cael eu rhannu'n gyfartal oni bai bod y llys yn dweud fel arall
  • gwneud yn siŵr bod yr adroddiad yn cael ei anfon at y llys erbyn dyddiad penodol
  • gwneud yn siŵr bod yr adroddiad yn cael ei anfon at eich landlord ar yr un pryd ag y caiff ei anfon atoch chi

Gwnewch yn siŵr bod yr arbenigwr yn gwybod bydd ei adroddiad yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth mewn llys. Bydd angen iddo gynnwys datganiad yn dweud ei fod yn deall ei ddyletswydd i'r llys a’i fod wedi cydymffurfio â rheolau'r llys yn Rhan 35 o’r Rheolau Trefniadaeth Sifil a Chyfarwyddyd Ymarfer 35. Dylech chi ofyn iddo roi'r datganiad hwn yn yr adroddiad a'i lofnodi:

Rwy’n cadarnhau fy mod wedi nodi’n glir pa ffeithiau a materion y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn sydd o fewn fy ngwybodaeth a pha rai nad ydynt o fewn fy ngwybodaeth. Rwy’n cadarnhau bod y rhai sydd o fewn fy ngwybodaeth yn wir. Mae’r safbwyntiau rwyf wedi’u mynegi yn cynrychioli fy safbwyntiau proffesiynol gwir a chyflawn ar y materion y maent yn cyfeirio atynt.

Gallwch chi ddarllen y rheolau ar arbenigwyr ar y cyd yn Rhan 35 o’r Rheolau Trefniadaeth Sifil a Chyfarwyddyd Ymarfer 35 ar GOV.UK. Os yw'r hawliad yn y trac hawliadau bach, dim ond rhai o'r rheolau arferol ar arbenigwyr sy'n berthnasol (mae hyn yn Rheolau Trefniadaeth Sifil, rheol 27.2).

Dangos yr holl dystiolaeth sydd gennych chi

Efallai bydd y llys yn dweud wrthych chi am ddangos dogfennau penodol i'r ochr arall - gallai hyn gynnwys tystiolaeth sy'n helpu'ch achos a thystiolaeth sydd ddim yn gwneud hynny. ‘Datgelu’ yw’r term cyfreithiol am hyn. Fel arfer bydd y llys yn dweud wrthych chi yn ei gyfarwyddiadau erbyn pryd fydd angen i chi eu datgelu nhw.

'Dogfen' yw unrhyw fath o wybodaeth sydd wedi'i chofnodi - nid dim ond rhywbeth wedi’i ysgrifennu ar bapur. Gallai fod yn e-bost, llun, neges destun neu fideo.

Bydd disgwyl i chi chwilio drwy'ch cofnodion a datgelu unrhyw beth sy'n berthnasol i'r achos i'r ochr arall, hyd yn oed os nad yw'n helpu'ch achos chi. Mae'n rhaid i chi ddweud wrthyn nhw hefyd os oes yna ddogfennau perthnasol oedd yn arfer bod yn eich meddiant chi, ond nad ydyn nhw gennych chi mwyach. Darllenwch ragor am y dogfennau mae angen i chi eu datgelu ar GOV.UK.

Does dim rhaid i chi gynnwys rhai dogfennau. Gelwir y rhain yn ddogfennau 'breintiedig' a gallen nhw gynnwys pethau fel llythyrau gan eich cyfreithiwr yn rhoi cyngor cyfreithiol i chi ar yr achos. Bydd y cyfarwyddiadau yn dweud wrthych chi beth i'w wneud ond gallwch chi ddarllen rhagor yn Rheol Trefniadaeth Sifil 31 ar GOV.UK.

Nid yw'r rheolau ar ddatgelu mor gaeth os ydych wedi cael gwybod bod eich achos ar y 'trac hawliadau bach'. Bydd y cyfarwyddiadau'n dweud wrthych chi beth i'w wneud. Gallwch chi ddarllen rhagor yn Rheol Trefniadaeth Sifil 27 ar GOV.UK.

Bwrw golwg ar y ‘bwndel treial’

Bydd yr ochr arall yn creu 'bwndel' ar gyfer y gwrandawiad - ffolder yw hon sy’n cynnwys yr holl ddogfennau sy'n ymwneud â'r achos a fydd yn cael ei hanfon at y llys. Dylai'r llys anfon copi o'r dudalen fynegai atoch chi sy'n grynodeb o beth sydd yn y bwndel ac gofyn i chi os ydych chi'n cytuno â'r cynnwys.

Darllenwch drwy'r rhestr o ddogfennau’n ofalus ac os oes rhywbeth rydych chi am iddo gael ei gynnwys sydd ddim ar y rhestr, mae angen i chi ddweud wrthyn nhw. Os na allwch chi gytuno, bydd angen i chi ofyn i'r llys benderfynu ydyw'n gallu cael ei gynnwys.

Enghraifft o fynegai bwndel [ 58 kb]

Os nad ydych chi'n gallu agor yr enghraifft ac nad ydych chi’n siŵr beth i'w roi ar fynegai'ch bwndel, gallwch chi gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.

Previous Step 5
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.