Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gweld a ydych chi’n anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amlinellu pryd mae rhywun yn cael ei ystyried yn anabl a’r sefyllfaoedd pan fydd pobl anabl yn cael eu hamddiffyn yn erbyn gwahaniaethu. Mae’r diffiniad yn gymharol eang – felly dylech ei ddarllen hyd yn oed os nad ydych yn meddwl eich bod yn anabl. Er enghraifft, gallai’r ddeddf fod yn berthnasol i chi os oes gennych anhawster dysgu, dyslecsia neu awtistiaeth.

Mae’r diffiniad wedi’i gynnwys yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n datgan eich bod yn anabl:

  • os oes gennych nam corfforol neu nam meddyliol
  • os yw'r nam hwnnw'n cael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd 

Mae rhai namau’n cael eu hystyried yn anabledd yn awtomatig. Bydd y ddeddf yn berthnasol i chi os oes gennych:

  • ganser, gan gynnwys tyfiant ar eich croen y mae angen ei dynnu cyn iddo droi’n ganser
  • nam ar y golwg – mae hyn yn golygu eich bod yn unigolyn dall ardystiedig, bod gennych nam difrifol ar eich golwg, nam ar eich golwg, neu’ch bod yn rhannol ddall
  • sglerosis ymledol
  • haint HIV – hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau
  • anffurfiad difrifol, hirdymor – er enghraifft, craith ddifrifol ar eich wyneb neu glefyd croen 

Mae Atodlen 1, Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliad 7 o Reoliadau (Anabledd) 2010 Deddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol i’r rhain.

Gweld a oes gennych nam

Bydd gennych ‘nam’ os yw’ch galluoedd corfforol neu feddyliol wedi’u lleihau mewn rhyw ffordd o gymharu â’r rhan fwyaf o bobl. Gallai ddeillio o gyflwr meddygol – fel arthritis yn eich dwylo sy’n golygu na allwch gario neu afael mewn pethau cystal â phobl eraill.

Nid yw nam yn gyflwr meddygol sydd wedi cael diagnosis o reidrwydd. Os ydych yn dioddef straen mae’n bosibl y bydd gennych namau meddyliol – fel problemau canolbwyntio – yn ogystal â namau corfforol fel blinder eithafol ac anawsterau cysgu. Mae’n rhaid i’r nam gael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Ni fydd eich nam yn eich atal rhag gwneud unrhyw beth o reidrwydd, ond bydd yn gwneud pethau’n anos i chi. Gallai achosi poen i chi, golygu bod angen llawer mwy o amser arnoch i wneud pethau, neu’ch atal rhag gwneud rhywbeth mwy nag unwaith.

Enghraifft

Mae Jodi wedi wynebu anawsterau iechyd meddwl ers i’w phartner ei gadael flwyddyn yn ôl. Nid yw’n gallu cynllunio gweithgareddau bob dydd fel siopa neu ddilyn rysáit i goginio pryd o fwyd. Ni fyddai’n codi ac yn gwisgo yn y bore heb anogaeth ei merch. Mae wedi rhoi’r gorau i fynd allan achos nad yw eisiau siarad â phobl.

Mae gan Jodi nam meddyliol. Nid oes gwahaniaeth a yw wedi cael diagnosis o gyflwr meddygol fel iselder – er y gall hynny helpu i brofi bod ganddi nam. Hefyd, bydd angen iddi ddangos bod y nam yn un hirdymor a’i fod yn cael effaith niweidiol sylweddol ar ei gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Enghraifft

Mae gan Ahmed Syndrom Asperger. Mae’r byd yn ei lethu ac mae hyn yn achosi pryder sylweddol iddo. Hefyd, mae’n anodd iddo gyfathrebu a rhyngweithio â phobl eraill.

Nid yw Ahmed yn meddwl ei fod yn anabl gan nad oes ganddo nam corfforol. Fodd bynnag, mae effaith ei gyflwr yn golygu nad yw’n gallu cyflawni rhai gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd fel mynd i’r siopau ar ei ben ei hun a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. O ganlyniad, mae ganddo nam.

Cyflyrau nad ydynt yn namau

Nid yw rhai cyflyrau yn anableddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys:

  • clefyd y gwair
  • tatŵs neu dyllau croen
  • voyeuriaeth neu duedd i ddangos eich hun
  • tuedd i roi pethau ar dân
  • tuedd i ddwyn pethau
  • tuedd i gam-drin eraill yn gorfforol neu’n rhywiol

Mae’r rhestr lawn ar gael yn Rheoliadau (Anabledd) Deddf Cydraddoldeb 2010.

Dibyniaeth

Nid yw dibyniaeth ar alcohol, nicotin neu unrhyw sylwedd arall yn anabledd.

Ond gallech fod yn anabl os yw’ch dibyniaeth wedi achosi nam. Er enghraifft, os oes gennych glefyd yr afu neu iselder sy’n deillio o ddibyniaeth ar alcohol, byddai hynny’n nam.

Hefyd, gallai fod yn anabledd os yw’ch dibyniaeth wedi’i hachosi’n wreiddiol gan driniaeth feddygol neu gyffuriau presgripsiwn.

Gweld a oes gennych nam hirdymor

Ystyr effaith hirdymor yw rhywbeth sydd wedi effeithio arnoch neu sy’n debygol o effeithio arnoch am flwyddyn o leiaf. Er enghraifft, os ydych wedi cael llawdriniaeth a fydd yn amharu ar eich gallu i gerdded am o leiaf blwyddyn, nam hirdymor yw hwnnw.

Bydd eich nam yn parhau i gael ei ystyried yn un hirdymor os yw’r effeithiau yn debygol o fynd a dod. Cyfeirir atynt fel effeithiau ‘newidiol neu gylchol’.

Er enghraifft, os ydych chi’n cael cyfnodau o iselder am ychydig fisoedd ond nid yw’r cyflwr yn effeithio arnoch yn gyson. Mae pob cyfnod o iselder yn para llai na 12 mis, ond mae’n gallu bodloni diffiniad ‘hirdymor’ os:

  • yw’n cael effaith niweidiol sylweddol ar y pryd, ac
  • y gallai ddigwydd eto

Hefyd, bydd eich nam yn cael ei ystyried yn nam hirdymor os yw’n debygol o effeithio arnoch am weddill eich oes, hyd yn oed os bydd hynny’n llai na blwyddyn.

Mae’r diffiniad o ‘hirdymor’ wedi’i gynnwys yn Atodlen 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Enghraifft

Mae gan John epilepsi sy’n arwain at ffitiau. Mae’n cael effaith sylweddol a niweidiol ar ei allu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd, er enghraifft nid yw’n gallu mynd allan ar ei ben ei hun oherwydd ei fod yn debygol o syrthio.

Mae ei gyflwr yn gwella dros dro ond mae’r effeithiau niweidiol sylweddol yn debygol o ddychwelyd, felly maent yn cael eu trin fel effeithiau parhaus. Dyma enghraifft o effaith hirdymor.

Cadarnhau a yw effaith eich nam yn sylweddol

Mae effaith sylweddol ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd yn golygu effaith sy’n ‘fwy na mân neu ddibwys’.

Gall yr effaith ar eich gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd fod yn sylweddol os oes gennych fwy nag un nam. Mae enghreifftiau eraill o effaith sylweddol yn cynnwys:

  • cymryd mwy o amser i gyflawni tasgau bob dydd fel gwisgo, mynd i’r toiled neu baratoi prydau bwyd oherwydd poen, pe na baech yn cymryd eich cyffuriau lladd poen
  • ei chael hi'n anodd mynd allan ar eich pen eich hun oherwydd ffobia, cyfyngiad corfforol neu anabledd dysgu
  • methu canolbwyntio ar wylio’r teledu neu ddarllen papur newydd oherwydd problemau iechyd meddwl
  • ei chael hi'n anodd siarad â phobl, ac osgoi cymdeithasu, oherwydd bod Syndrom Asperger arnoch ac nad ydych yn deall beth mae pobl yn ei feddwl bob amser
  • cael ffitiau sy’n golygu nad ydych yn ymwybodol o’ch amgylchiadau
  • methu darllen llyfr heb declyn cymorth oherwydd nam dysgu fel dyslecsia

Enghraifft

Mae gan Mary gyflwr sy’n effeithio ar gyhyrau ei llaw dde sy’n golygu na all afael mewn pethau yn dda. Nid yw’n gallu defnyddio ei llaw dde i gario bagiau siopa, sgwrio padellau, plicio llysiau, gwnïo na rhoi rholeri yn ei gwallt. Weithiau mae’n rhaid iddi ddefnyddio ei llaw chwith i roi colur ar ei hwyneb a bwyta. Dyma enghraifft o nam sylweddol.

Gallai’r effeithiau fod yn ‘fân neu’n ddibwys’ os nad ydynt yn cael llawer o effaith ar eich bywyd bob dydd. Er enghraifft, os mai’r unig effaith arnoch yw’r angen i chi orffwys am ychydig funudau ar ôl cerdded am filltir ar gyflymder arferol.

Os yw’ch cyflwr yn gwaethygu

Os oes gennych gyflwr hirdymor sy’n gwaethygu, nid oes angen i’r effaith ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd fod yn sylweddol cyn belled â’i bod yn debygol o ddatblygu’n effaith sylweddol yn y dyfodol. Yr enw am hyn yw ‘cyflwr sy’n gwaethygu’.

Os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth neu’n cael triniaeth ar gyfer eich anabledd

Y prawf cyfreithiol yw ystyried effaith eich nam heb unrhyw feddyginiaeth neu driniaeth. Mae triniaeth yn cynnwys pethau fel cwnsela yn ogystal â meddyginiaeth. Er enghraifft, os oes arthritis arnoch a’ch bod yn defnyddio ffon gerdded, dylech ystyried pa mor anodd fyddai i gerdded hebddi.

Os oes gennych nam ar y golwg y mae modd ei wella trwy ddefnyddio sbectol neu lensiau cyffwrdd, bydd angen i chi ystyried yr effaith ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd pan fyddwch yn eu defnyddio.

Enghraifft

Mae gan Tom ddiabetes math 1. Mae’n cael pigiadau inswlin bob dydd, sy’n golygu nad oes ganddo unrhyw symptomau fel arfer.

Mae’n anabl oherwydd heb y pigiadau, byddai’r diabetes yn cael effaith niweidiol hirdymor ar ei weithgareddau o ddydd i ddydd. Byddai’n llewygu ac mae’r cyflwr yn debygol o ddychwelyd.

Os nad ydych yn siŵr a yw’ch nam yn nam sylweddol neu hirdymor

Dylech ofyn am gyngor eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall. Gallech ofyn iddo ddweud wrthych:

  • am faint o amser mae’ch nam yn debygol o bara ac a yw’n debygol o waethygu
  • beth fyddai’n digwydd pe baech chi’n rhoi’r gorau i gymryd eich meddyginiaeth neu gael eich triniaeth
  • a ddylech osgoi unrhyw weithgareddau penodol

Hefyd, gallai’ch meddyg eich helpu i brofi bod gennych anabledd maes o law os oes angen.

Hefyd, gallwch geisio cadw dyddiadur am gyfnod gan gofnodi beth rydych chi’n ei wneud, beth sy’n anodd i chi a pham. Gallai hyn eich helpu i ddeall i ba raddau y mae’ch nam yn effeithio ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd. Hefyd, gallai’ch ffrindiau a’ch teulu eich helpu i feddwl am ffyrdd mae'n effeithio arnoch.

Os yw'r sawl wnaeth wahaniaethu yn eich erbyn yn dweud nad yw’n meddwl bod gennych anabledd

Dylech egluro pam rydych chi’n meddwl bod gennych anabledd.a sôn am bob elfen Bydd angen i chi egluro:

  • beth yw natur eich nam – os nad ydych yn gwybod beth yw’r nam, dylech egluro ei effeithiau
  • pam y mae’n nam hirdymor
  • beth yw’r effaith niweidiol sylweddol – heb gymhorthion, meddyginiaeth neu driniaeth 

Wedyn gofynnwch iddo pam yn union y mae’n anghytuno.

Os yw’n anghytuno o hyd, gallwch barhau â’ch hawliad, ond gallai’r unigolyn barhau i ddadlau nad oes gennych anabledd. Os ydych yn penderfynu cymryd camau cyfreithiol, gallai herio sail eich achos trwy ddweud nad ydych yn bodloni'r diffiniad o rywun ag anabledd.

Yn gyntaf, byddai’r tribiwnlys angen dod i benderfyniad trwy ystyried tystiolaeth y ddwy ochr. Bydd yn gwrando ar eich sylwadau, ond mae’n bosibl y bydd angen i chi ddangos tystiolaeth feddygol hefyd – fel llythyr gan eich meddyg teulu neu ymgynghorydd.

Os oes angen rhagor o gyngor neu wybodaeth arnoch

Gallwch ddarllen y canllawiau llawn ar sut i ddiffinio anabledd ar GOV.UK neu gofynnwch am gymorth cynghorydd.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.