Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cam 1: ydych chi’n cael eich amddiffyn gan y Ddeddf Cydraddoldeb

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Nid yw pob sefyllfa dai yn dod o dan Ran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae gwahanol reolau ar gyfer:

Os nad ydych chi’n siŵr a fydd eich sefyllfa dai yn dod o dan Ran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallwch edrych ar y rheolau yn adran 32(2) a (4).


Os yw’r person sy’n eich trin yn annheg neu berthynas iddo yn byw yn y cartref hefyd


Os yw’n wahaniaethu ar sail hil, does dim gwahaniaeth pwy arall sy’n byw yn y cartref neu lety - bydd cyfraith wahaniaethu yn berthnasol i chi.

Os yw’n unrhyw fath arall o wahaniaethu, ni fyddwch yn cael eich gwarchod os yw’ch cartref neu’r cartref rydych chi’n gobeithio ei rentu yn cyfrif fel ‘eiddo bach’ o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r eithriad hwn yn gymwys os ydych chi’n ei rannu gyda’r unigolyn sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn neu berthynas iddo. Gelwir yr unigolyn hwn yn ‘breswylydd’ yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Er enghraifft, os ydych chi’n lletywr (lodger) ac yn rhannu cegin neu ystafell ymolchi gyda merch eich landlord (y preswylydd) ni fydd Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn eich amddiffyn.

Nid yw’r eithriad eiddo bach yn gymwys os ydych chi ond yn rhannu mannau storio a mynedfeydd.

Mae perthynas yn golygu unrhyw un sy'n perthyn i'r landlord neu berchennog yr eiddo fel a ganlyn:

  • priod neu bartner sifil
  • partner di-briod
  • rhiant neu daid neu nain
  • plentyn neu ŵyr neu wyres (a phriod, partner sifil neu bartner di-briod y plentyn neu ŵyr neu wyres)
  • brawd neu chwaer

Mae hefyd yn cynnwys perthnasau ‘yng nghyfraith’ y bobl uchod – er enghraifft, byddai merch yng nghyfraith eich landlord yn cyfrif fel perthynas.

Mae’r cartref yn cyfrif fel eiddo bach:

  • os oes o leiaf dwy aelwyd yn byw yno – eich aelwyd chi ac aelwyd y preswylydd
  • os na all roi llety i fwy na thair aelwyd i gyd

Mae hefyd yn cyfrif fel eiddo bach os nad yw’n gallu rhoi llety i fwy na 6 person arall (heblaw am aelwyd y preswylydd).

Gelwir y rheolau hyn yn ‘eithriad eiddo bach’ ac maent wedi'u cynnwys yn Atodiad 5, paragraff 3 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.


Os oes rhywun yn eich atal rhag prynu neu rentu cartref


Os oes rhywun yn eich atal oherwydd eich hil, mae hynny bob tro’n anghyfreithlon.

Os oes rhywun yn eich atal am reswm arall, ni fydd yn anghyfreithlon:

  • os yw’r person sy’n gwerthu neu rentu’r cartref yn berchen arno ac yn byw yno –  bod yn ‘berchen-feddiannydd’ yw'r enw ar hyn
  • os nad yw wedi rhestru'r eiddo gyda’r gwerthwr tai neu osod hysbysebion mewn mannau cyhoeddus

Gelwir y rheolau hyn yn ‘eithriad (gwaredu preifat) perchen-feddiannydd’ ac maent wedi'u cynnwys yn Atodiad 5, paragraff 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os ydych chi wedi gweld hysbyseb am gartref sy’n gwahaniaethu yn erbyn rhywun, gallwch roi gwybod i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gweld hysbyseb ar-lein sy’n dweud mai dim ond menywod all rentu fflat.

Edrychwch i weld pam eich bod yn cael eich trin yn annheg

Mae’r gyfraith yn dweud na allwch chi gael eich trin yn annheg neu’n wahanol os yw'n gysylltiedig â phwy ydych chi, fel bod yn fenyw neu’n anabl. Gelwir y rhain yn ‘nodweddion gwarchodedig’ yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Ni allwch gael eich trin yn annheg chwaith oherwydd:

  • eich bod wedi herio gwahaniaethu o’r blaen
  • nodwedd warchodedig rhywun arall
  • bod rhywun yn meddwl bod gennych chi nodwedd warchodedig, ond nad oyw hynny'n wir

Efallai nad yw’n amlwg sut mae’r driniaeth annheg yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig. Er enghraifft, efallai nad yw’ch landlord am rentu i chi os ydych chi’n rhiant sengl. Gallai hyn fod yn achos o wahaniaethu yn erbyn menywod oherwydd eu bod yn fwy tebygol o fod yn rhieni sengl.

Y nodweddion gwarchodedig yn Rhan 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw:

Anabledd

Mae’r gyfraith yn eich amddiffyn ar gyfer anabledd sydd gennych ar hyn o bryd ac unrhyw anableddau rydych chi wedi gwella ohonynt. Gallai anabledd fod yn gorfforol neu’n feddyliol - gallech gael eich amddiffyn hyd yn oed os nad ydych yn ystyried eich hun yn anabl.

Dylech gadarnhau a yw’ch anabledd wedi’i gynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mae adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio anabledd.

Ailbennu rhywedd

Mae’r gyfraith yn berthnasol i 'ailbennu rhywedd' – sef unigolion trawsryweddol.

Mae’r gyfraith yn eich amddiffyn:

  • os ydych chi’n bwriadu ailbennu’ch rhywedd – nid yw’n ofynnol eich bod wedi cael unrhyw driniaeth feddygol
  • os ydych chi yn y broses o ailbennu’ch rhywedd
  • os ydych chi eisoes wedi ailbennu’ch rhywedd

Os ydych chi’n arddel hunaniaeth anneuaidd ond nad ydych yn ailbennu’ch rhywedd, gallai’r gyfraith fod yn berthnasol i chi, ond mae’n gymhleth. Bydd angen i chi ofyn am gyngor arbenigol cyn mynd ymhellach.

Mae adran 7 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio ailbennu rhywedd.

Beichiogrwydd a mamolaeth

Mae'r gyfraith yn eich amddiffyn os ydych chi’n feichiog.

Mae'n eich amddiffyn yn y 26 wythnos ar ôl i chi roi genedigaeth hefyd, yn cynnwys marw-enedigaethau. Gelwir hyn yn ‘gyfnod gwarchodedig’.

Os yw’n fwy na 26 wythnos ar ôl i chi roi genedigaeth, efallai y gallwch chi hawlio gwahaniaethu ar sail rhyw o hyd.

Mae adran 9 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio beichiogrwydd a mamolaeth.

Hil

Mae hyn yn cynnwys eich:

  • lliw – er enghraifft, os ydych chi’n ddu neu'n wyn
  • cenedligrwydd
  • tarddiad ethnig – er enghraifft os ydych chi’n Sipsi Romani
  • tarddiad cenedlaethol – gallai hwn fod yn wahanol i’ch cenedligrwydd, er enghraifft os yw’ch teulu’n dod o India ond bod gennych chi basbort Prydeinig

Mae adran 9 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio hil.

Crefydd neu gredo

Mae hyn yn cynnwys:

  • perthyn i grefydd cyfundrefnol, er enghraifft os ydych chi’n Iddew
  • os oes gennych gred grefyddol, er enghraifft bod angen i chi weddïo ar amseroedd penodol
  • os nad oes gennych grefydd, fel bod yn anffyddiwr
  • eich credoau athronyddol, fel bod yn heddychwr 

Mae adran 10 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio crefydd neu gredo.

Rhyw

Mae hyn yn ymwneud ag a ydych chi’n ddyn neu’n fenyw.

Os ydych yn arddel hunaniaeth anneuaidd ond nad ydych yn ailbennu’ch rhywedd, gallai’r gyfraith fod yn berthnasol i chi, ond mae’n gymhleth. Bydd angen i chi ofyn am gyngor arbenigol cyn mynd ymhellach.

Mae adran 11 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio rhyw.

Cyfeiriadedd rhywiol

Mae’r gyfraith yn berthnasol os ydych chi’n hoyw, yn lesbiad, yn heterorywiol neu’n ddeurywiol.

Mae adran 12 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio cyfeiriadedd rhywiol.

Os oes rhywun wedi aflonyddu arnoch

Gallwch gymryd camau am aflonyddu o dan Ran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 os oes rhywun wedi aflonyddu arnoch oherwydd eich:

  • cyfeiriadedd rhywiol
  • crefydd neu gredo

Os oes rhywun wedi aflonyddu arnoch am resymau beichiogrwydd neu famolaeth, ni allwch gymryd camau o dan gyfraith aflonyddu ond efallai y byddwch chi’n gallu dadlau bod rhywun wedi aflonyddu arnoch oherwydd eich rhyw (oherwydd eich bod yn fenyw).

Os yw’ch problem yn ymwneud â mwy nag un nodwedd warchodedig

Gallwch gymryd camau ynghylch mwy nag un nodwedd warchodedig, neu ddewis y nodweddion y mae gennych y dystiolaeth orau ar eu cyfer.

Os ydych chi’n gweithredu ynghylch cyfuniad o nodweddion gwarchodedig, mae’n rhaid i chi gyflwyno achos ar wahân ar gyfer pob un. Er enghraifft, os ydych chi’n cael eich gwahaniaethu yn eich erbyn achos eich bod yn fenyw ddu, byddai’n rhaid i chi nodi gwahaniaethu ar sail hil a gwahaniaethu ar sail rhyw yn eich hawliad.

Os nad yw’ch problem yn gysylltiedig â’ch nodwedd warchodedig eich hun

Gallai fod yn wahaniaethu os ydych chi’n cael eich trin yn annheg oherwydd:

  • nodwedd warchodedig rhywun arall
  • bod rhywun yn meddwl bod gennych chi nodwedd warchodedig, ond nad yw hynny'n wir

Ni fyddwch yn cael eich gwarchod gan Ran 4 o’r Ddeddf Cydraddoldeb os yw’r gwahaniaethu yn gysylltiedig ag:

  • oedran
  • priodas neu bartneriaeth sifil

Os ydych chi’n cael eich trin yn annheg oherwydd eich bod wedi cwyno am wahaniaethu yn y gorffennol

Gallai fod yn wahaniaethu hyd yn oed os nad yw’r driniaeth annheg yn gysylltiedig â’ch nodwedd warchodedig. Os ydych chi wedi herio neu helpu rhywun arall i herio gwahaniaethu yn y gorffennol, gallai fod yn fath o wahaniaethu a elwir yn ‘erledigaeth'.

Camau nesaf

Os nad yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol i'ch sefyllfa efallai y byddwch yn gallu cwyno am eich landlord preifat.

Os ydych chi’n credu’ch bod yn cael eich gwarchod gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ewch ymlaen i gam 2.

Previous Step 2
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.