Cam 2: yn erbyn pwy allwch chi gymryd camau
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud eich bod yn gallu cymryd camau yn erbyn cwmnïau neu bobl sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn os ydynt:
- yn gwerthu neu rentu cartref, fel rhentu eiddo drwy asiant gosod – gelwir hyn yn ‘cael gwared ar eiddo’ yn y gyfraith
- angen cytuno i werthu neu rentu cartref, fel cydberchennog – gelwir hyn yn ‘ganiatâd i gael gwared ar eiddo’ yn y gyfraith
- yn rheoli cartref, fel landlordiaid, asiantau a phobl sy’n casglu rhent - gelwir hyn yn ‘rheoli eiddo’ yn y gyfraith.
Efallai y bydd gwerthwr eiddo yn gweithredu ar ran landlord felly os yw landlord wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y byddwch yn gallu cymryd camau yn erbyn y naill a’r llall.
Mae adrannau 33 i 35 Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi gwybodaeth am bwy y gallwch gymryd camau yn eu herbyn.
Os ydych chi wedi gofyn am newidiadau i helpu gyda’ch anabledd
Gallwch gymryd camau yn erbyn y rhan fwyaf o bobl sy’n gofalu am eiddo – sef ‘rheolyddion eiddo’ yn y gyfraith:
- landlordiaid
- rheolwyr eiddo
Os mai cymdeithas cyd-ddeiliaid sy’n berchen ar eich adeilad, gallwch gymryd camau yn eu herbyn hwythau hefyd.
Mae adran 26 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi gwybodaeth am bwy y gallwch gymryd camau yn eu herbyn.
Os yw’ch problem yn gysylltiedig ag unrhyw un o’r bobl hyn, gallwch weld a yw'r hyn maent yn ei wneud yn torri cyfraith wahaniaethu yng ngham 3.
Os oes rhywun arall wedi’ch trin yn annheg neu’n wahanol
Efallai y byddwch yn gallu cymryd camau yn erbyn darparwyr gwasanaethau os ydych chi wedi cael eich trin yn annheg neu’n wahanol gan rywun arall sy’n delio â’ch cartref, er enghraifft:
- syrfewyr a phriswyr
- cyfreithwyr
- benthycwyr morgeisi
Os ydych chi’n cael eich trin yn wael gan denantiaid eraill neu gymdogion
Gallwch gwyno am eich cymydog.