Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Problemau gyda phrynu a gwerthu ty

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Defnyddio cwmni gwerthu tai

Os oes cwmni gwerthu tai yn gwerthu'r eiddo ar eich cyfer, mae yna gytundeb ar ffurf contract rhwng y cwmni gwerthu tai a chi. Os oes gennych broblem gyda chwmni gwerthu tai, fel arfer mae angen edrych ar gopi o unrhyw gytundeb ysgrifenedig rhyngddo chi a'r cwmni gwerthu tai a sefydlu pa gytundebau llafar a wnaethpwyd, os oedd yn rai.

Fel y gwerthwr, rydych chi'n talu'r cwmni gwerthu tai am ei wasanaethau ac mae'r cwmni gwerthu tai, felly, yn gweithredu ar eich rhan chi.  Bydd y cwmni yn cynrychioli eich buddiannau chi a dylai'r prynwr gofio hyn os ydynt â diddordeb mewn ty sy'n cael ei werthu drwy gwmni gwerthu tai.

Rhaid i bob cwmni gwerthu tai berthyn i gynllun gwneud iawn am gwynion sydd wedi'i gymeradwyo gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT). Hyd yn hyn, mae'r OFT wedi cymeradwyo dau gynllun – cynllun unioni sy'n cael ei rhedeg gan yr Ombwdsman Eiddo a chynllun sy'n cael ei rhedeg gan Wasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo.  Os oes cwyn gennych ynghylch cwmni gwerthu tai pan fyddwch chi'n prynu neu'n gwerthu eiddo, fe fyddwch yn medru cyfeirio'r gwyn at yr Ombwdsman Eiddo neu at Wasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo. Gellir codi dirwy ar gwmnïau gwerthu tai sy'n gwrthod ymuno â chynllun.

Mae'r bil yn rhy uchel

Mae'n bosib eich bod yn teimo bod y bil gan y cwmni gwerthu tai, ar ôl cwblhau'r ddêl, yn rhy uchel.  Mae'n bwysig sicrhau bod y bil yn rhoi dadansoddiad clir o'r costau, er enghraifft, y ffi comisiwn, hysbysebu, TAW.  Yna, dylid cymharu'r bil gyda'r cytundeb gwreiddiol rhyngddo chi a'r cwmni gwerthu tai.

Os nad ydych chi, fel y gwerthwr, yn gallu cytuno gyda swm bil y cwmni gwerthu tai, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori.  I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar Canolfan Cynghori agosaf.

Rydych yn penderfynu peidio â gwerthu

Os ydych yn penderfynu peidio â pharhau gyda gwerthu eich cartref, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o dâl i'r cwmni gwerthu tai, er enghraifft, ar gyfer costau y mae'r cwmni gwerthu tai wedi mynd iddynt yn barod.  Bydd hyn yn dibynnu ar y cytundeb gwreiddiol rhwng y gwerthwr a'r cwmni gwerthu tai.

Os ydych am ddadlau ynghylch faint mae'r cwmni gwerthu tai yn codi arnoch, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori.  I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar Canolfan Cynghori agosaf.

Rydych am ddefnyddio cwmni gwerthu tai ychwanegol

Os ydych wedi bod yn defnyddio un cwmni gwerthu tai, caiff hyn ei alw'n ‘asiantaeth unigol'.  Pan fyddwch yn cytuno ar asiantaeth unigol gyda chwmni gwerthu tai, fel arfer bydd y cytundeb yn nodi am ba hyd y bydd y cyfnod yma o asiantaeth unigol yn weithredol.  Ar ddiwedd y cyfnod yma, rydych yn rhydd i ddefnyddio un cwmni gwerthu tai ychwanegol, neu fwy.

Os ydych yn defnyddio un cwmni gwerthu tai ychwanegol, neu fwy, cyn i'r cyfnod asiantaeth unigol ddod i ben, rydych yn torri'r cytundeb gyda'r cwmni gwerthu tai gwreiddiol.  Mae hyn yn golygu, os bydd y cwmni gwerthu tai newydd yn dod o hyd i brynwr ar gyfer y ty, byddai'n rhaid i chi dalu comisiwn i'r cwmni gwerthu tai newydd yn ogystal â'r asiant yr oedd gennych y cytundeb asiantaeth unigol gydag ef.  Os daeth yr asiant gwreiddiol o hyd i brynwr, byddai'r swm o gomisiwn y byddai'n rhaid i'r gwerthwr ei dalu i'r cwmni gwerthu tai newydd yn dibynnu ar y math o gytundeb a oedd gennych gyda nhw.

Fodd bynnag, mae'n bosib y byddwch yn medru trafod newid y cytundeb asiantaeth unigol i gytundeb asiantaeth unigol ar y cyd, gyda'r cwmni gwerthu tai gwreiddiol.

Am wybodaeth ynglyn â gwahanol fathau o gytundebau asiantaeth, gweler Gwerthu cartref.

Rydych am newid eich cwmni gwerthu tai

Mae'n bosib y byddwch yn dymuno newid eich cwmni gwerthu tai. Dylech wirio amodau'r cytundeb sydd gennych gyda'r cwmni gwerthu tai i weld a yw hyn y bosib. Os ydyw'n bosib, mae'n bosib y byddwch yn dal i orfod talu rhywfaint o o dâl i'r cwmni gwerthu tai ar gyfer costau fel hysbysebu, y mae'r cwmni gwerthu tai wedi mynd iddynt yn barod.

Os ydych am ddadlau ynglyn â'r swm y mae'r cwmni gwerthu tai yn codi arnoch, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori.  I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar Canolfan Cynghori agosaf.

Rydych wedi dod o hyd i brynwr eich hun

Mae'n bosib eich bod wedi dod o hyd i brynwr eich hun ar gyfer yr eiddo, ac nad yw'r prynwr wedi dod atoch drwy'r cwmni gwerthu tai, er enghraifft, efallai bod ffrind am brynu'r eiddo. Mae gennych yr hawl i werthu'r eiddo i brynwr sydd heb ddod atoch drwy'r cwmni gwerthu tai ond mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu'r cwmni gwerthu tai er gwaethaf hynny.  Bydd yr hyn y mae'n rhaid i chi ei dalu yn dibynnu ar y cytundeb.

Nid ydych yn hapus â'r gwasanaeth a gawsoch

Mae'n bosib nad ydych yn hapus â'r gwasanaeth y mae'r cwmni gwerthu tai yn ei ddarparu, er enghraifft:-

  • ·efallai nad yw'r cwmni gwerthu tai yn anfon manylion ynglyn â'ch heiddo allan at bobl a allai fod eisiau ei brynu
  • ·nid yw'r hysbysebu yn ateb eich disgwyliadau
  • ·mae'r manylion ynglyn â'r ty yn anghywir neu'n annigonol.
  • ·mae'r cwmni gwerthu tai yn gwahaniaethu yn eich erbyn.

Mae'n bosib y byddwch yn dymuno gwneud cwyn i'r cwmni gwerthu tai yn ysgrifenedig, neu fynd at gwmni gwerthu tai arall.

Os nad ydych yn hapus gydag ymateb y cwmni gwerthu tai i'ch cwyn, rydych yn medru cwyno i'r Ombwdsman Eiddo neu Wasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo, gan ddibynnu pa gynllun unioni y mae'r cwmni gwerthu tai yn perthyn iddo.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Ombwdsman Eiddo a Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo, yn Lloegr gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yn Lloegr, yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Nghymru neu, yng Ngogledd Iwerddon, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Ngogledd Iwerddon.

Nid yw cwmnïau gwerthu tai yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn am nifer o resymau. Er enghraifft, nid ydynt yn cael gwrthod dangos eiddo penodol i chi am nad yw’r perchennog am ei werthu i bobl o grefydd neu gred benodol. Os yw cwmni gwerthu tai yn gwahaniaethu yn eich erbyn, rydych yn medru cwyno i’r cwmni gwerthu tai. Os nad ydych yn hapus â’r ymateb, gallech hefyd gwyno i’r Ombwdsman Eiddo neu Wasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo, gan ddibynnu i ba gynllun unioni y mae'r cwmni gwerthu tai'n perthyn.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Ombwdsman Eiddo a Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo, yn Lloegr gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yn Lloegr, yng Nghymru gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Nghymru neu yng Ngogledd Iwerddon, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Ngogledd Iwerddon.

Os nad ydych yn hapus gydag ymateb y cwmni gwerthu tai i'ch cwyn, mae'n bosib gofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori.  I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar Canolfan Cynghori agosaf.

Mae'r prynwr neu'r gwerthwr wedi colli arian oherwydd y cwmni gwerthu tai

Mae'n bosib bod y prynwr neu'r gwerthwr yn teimlo eu bod wedi colli arian oherwydd:-

  • ·ni chafodd ernes y prynwr ei ddychwelyd atynt gan y cwmni gwerthu tai, os nad aeth y ddêl yn ei blaen
  • ·ni chafodd ernes y prynwr, a gadwyd gan y cwmni gwerthu tai, ei basio ymlaen at y gwerthwr wedi cwblhau'r ddêl
  • ·mae'r gwerthwr yn credu y cafodd eu heiddo ei werthu am lai o arian na'i werth, ac roedd y cwmni gwerthu tai yn gyfrifol am hyn.

Os ydych yn credu eich bod wedi colli arian oherwydd y cwmni gwerthu tai, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar Canolfan Cynghori.

Syrfewyr a phriswyr

Gwerthwyr

Os ydych yn gwerthu’ch eiddo, fel arfer fe fydd prynwr potensial eisiau prisiwr a/neu syrfëwr i archwilio’r eiddo. Fe fydd yn rhaid i chi adael i’r prisiwr/syrfëwr edrych o amgylch yr eiddo os ydych am i’r gwerthiant fynd yn ei flaen.

Prynwyr

Mae’r benthyciwr morgais yn trefnu’r prisiad

Os ydych yn brynwr, efallai na fyddwch wedi trefnu eich arolwg eich hun ond wedi dibynnu ar adroddiad y prisiad a baratowyd ar gyfer benthyciwr y morgais. Os fydd problemau’n codi’n nes ymlaen gyda’r eiddo, a chithau’n teimlo y dylai’r prisiad fod wedi eu darganfod, dylech gael cyngor cyfreithiol.

Fel rheol gyffredinol, mae’r prisiwr yn medru bod yn atebol os fydd diffygion yn codi wedi i chi brynu’r eiddo, oherwydd mae gan y prisiwr ddyletswydd gofal tuag at y person sy’n ceisio am y morgais.

Er mwyn i’r prisiwr fod yn atebol, rhaid eich bod yn medru dangos bod syrfëwr a ddefnyddiwyd gan y prisiwr wedi bod yn esgeulus, er enghraifft, trwy beidio â nodi problemau y dylai fod wedi eu nodi. Weithiau, fe fydd y prisiad yn cynnwys datganiad sy’n dweud nad yw’r prisiwr yn atebol am ddiffygion sy’n dod i’r golwg wedi’r prisiad. Ond, os yw hyn yn ddatganiad cyffredinol ac nid yw’n cyfeirio at broblem benodol, yna fwy na thebyg na fydd y prisiwr yn medru ei ddefnyddio i osgoi atebolrwydd.

Mae’r amgylchiadau ble bydd prisiwr yn medru bod yn gyfrifol yn gyfreithiol am unrhyw golled ariannol y mae’r prynwr wedi ei gael o ganlyniad i’r prisiad, yn gyfyngedig. Os ydych yn credu bod y prisiwr yn gyfrifol, efallai y bydd angen i chi siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth.  I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Mae’r prynwr yn trefnu’r prisiad neu’r arolwg

Efallai y byddwch chi wedi trefnu eich arolwg eich hun ac yna yn gweld bod problem gyda’r eiddo wedi i chi ei brynu. Er enghraifft, rydych yn darganfod bod angen ailosod rhan o’r to.

Mewn achos fel hwn, efallai y bydd hawl gennych i iawndal gan y syrfëwr am y gwahaniaeth rhwng pris yr eiddo mewn cyflwr da a’i bris mewn cyflwr gwael.

Efallai y byddwch yn medru dal y syrfëwr yn gyfrifol ond fe fydd yn dibynnu a oedd yr arolwg yn cynnwys gwybodaeth ar yr holl bwyntiau yr oedd y syrfëwr wedi cytuno i’w harchwilio, a’r hyn sydd yn yr adroddiad. Er enghraifft, gellir dal y syrfëwr yn gyfrifol os oedd:

  • ·wedi cytuno i archwilio’r to ond heb gynnwys gwybodaeth amdano yn yr adroddiad
  • ·wedi dweud nad oedd unrhyw broblemau gyda’r to.

Ar y llaw arall, nid yw’n debygol y byddwch yn medru dal y syrfëwr yn gyfrifol yn yr achosion canlynol:

·roedd wedi cynnwys manylion am y broblem gyda’r to yn yr adroddiad

  • nid oedd yn medru archwilio’r rhan yna o’r to ac roedd wedi nodi hynny yn yr adroddiad. Yn yr achos hwn, eich cyfrifoldeb chi fyddai trefnu unrhyw archwiliadau pellach sydd eu hangen am nad oedd y syrfëwr yn medru gwneud adroddiad llawn.

Os ydych am hawlio iawndal gan eich syrfëwr, dylech ysgrifennu atynt gan ddweud pam, yn eich barn chi, maen nhw’n gyfrifol am yr arian yr ydych wedi ei golli a rhoi manylion y swm yr ydych yn credu i chi ei golli. Efallai y byddwch hefyd yn medru hawlio iawndal am gostau cysylltiedig eraill, er enghraifft llety dros dro, am nad ydych yn medru byw yn eich cartref tra’i fod yn cael ei atgyweirio.

Efallai y bydd eich syrfëwr yn dweud bod yna ymwadiad yn yr adroddiad yn nodi nad ydyw’n gyfrifol am unrhyw ddiffygion a ddarganfyddir wedi gwneud yr arolwg. Ond, rhaid i’ch syrfëwr gynnal arolwg gyda gofal rhesymol ac nid yw’n medru defnyddio ymwadiad i osgoi’r cyfrifoldeb hwn.

Os nad yw’ch syrfëwr yn cytuno i’ch cais, efallai y bydd angen i chi fynd i’r llys.

Am fwy o wybodaeth ynghylch mynd ag achos i’r llys, gweler Llysoedd barn ac, yng Nghymru a Lloegr, gweler Dechrau cymryd camau yn y llys yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.

Mae’r amgylchiadau ble byddwch yn medru dal syrfëwr yn gyfrifol yn gyfreithiol am eich colled ariannol, o ganlyniad i’r arolwg, yn gyfyngedig. Os ydych am hawlio yn erbyn syrfëwr, efallai y bydd angen i chi gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth.  I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os yw’ch hawliad yn erbyn y syrfëwr dros £5,000 (£3,000 yng Ngogledd Iwerddon), efallai y byddwch am ystyried cwyno i Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, yn hytrach na dwyn achos llys.

Cwyno ynghylch prisiwr neu syrfëwr

Rydych yn medru cwyno i Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) os yw’r prisiwr neu’r syrfëwr yn aelod. Dyma un o’r cyrff proffesiynol ar gyfer syrfewyr siartredig.

Am fwy o wybodaeth ynghylch RICS, gweler Prynu gwasanaethau - eich hawliau.

Efallai y byddwch hefyd yn medru cwyno i Wasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo. Cyn i chi fedru gwneud hyn, rhaid i chi gwyno’n uniongyrchol i gwmni’r syrfëwr yn gyntaf, a rhoi cyfle i’r cwmni ddatrys y broblem.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yn Lloegr, Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Nghymru, neu Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Ngogledd Iwerddon.

Cymdeithasau adeiladu a benthycwyr eraill

Anhawster gyda dod o hyd i forgais

Fel y prynwr, mae'n bosib eich bod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i forgais, er enghraifft, nid yw eich cyflog yn ddigon uchel, neu mae'r eiddo'n anghyffredin.  Mae gan wahanol fenthycwyr reolau gwahanol ynglyn â rhoi morgeisi ac mae'n bosib y byddai'n ddoeth i chi geisio morgais gyda rhai benthycwyr eraill.

Mae yn erbyn y gyfraith i fenthyciwr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Er enghraifft, nid yw benthyciwr yn medru gwrthod rhoi morgais i chi am eich bod yn feichiog, na rhoi morgais i chi ar delerau gwaeth na rhywun arall am eich bod yn feichiog.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau, gweler Gwahaniaethu mewn nwyddau a gwasanaethau.

Mae'r prisiad yn llai na phris prynu'r tŷ

Mae'n bosib y bydd y bethycwr yn penderfynu bod gwerth y ty yn llai na'r swm yr ydych wedi cytuno ei dalu amdano.  Mae hyn yn golygu na fydd y benthycwr yn benthyg cymaint o arian ag yr oeddech wedi gofyn amdano.  Mae'n bosib, felly, y byddwch yn ceisio trafod pris yn llai gyda'r gwerthwr. Os na fydd y gwerthwr yn gostwng y pris a chithau'n dal i eisiau prynu'r ty,  mae'n bosib y byddwch yn gorfod benthyg y gweddill o rywle arall os nad yw'r arian ychwanegol ar gael gennych.

Os na fydd y gwerthwr yn gostwng y pris neu os na allwch dalu'r gwahaniaeth, mae'n bosib y byddwch yn ystyried a fydd benthycwr arall yn fodlon rhoi pris uwch ar y ty.

Oedi gyda derbyn cynnig am forgais

Mae'n bosib y bydd y benthycwr yn oedi rhag cynnig morgais i chi'n swyddogol.  Tan i chi dderbyn y cynnig morgais, ni ellir cyfnewid cytundebau.  Dylech gysylltu â'r benthycwr i ddarganfod a oes yna reswm dros yr oedi, er enghraifft, mae'r benthycwr yn aros am fanylion am eich cyflog gan eich cyflogwr.  Mae'n bosib y bydd modd i chi wneud rhywbeth ynglyn â'r broblem, er enghraifft, cysylltu â'ch cyflogwr eich hun.

Os oes oedi cyn i chi gael y morgais, fe fyddwch yn medru ceisio am fenthyciad pontio i dalu am eich cartref newydd hyd nes i’r morgais ddod trwyddo. Rydych yn medru cyflwyno cais i’r banc neu sefydliad ariannol arall am fenthyciad pontio Fel arfer, rhoddir y benthyciad am gyfnod sefydlog o amser ac mae’r gyfradd llog yn uwch na’r llog a godir fel arfer ar forgeisi. Dylech holi faint fydd y taliadau llog cyn i chi gymryd benthyciad pontio.

Problemau gyda'r prynwr

Mae'r cynnig i brynu yn cael ei dynnu yn ôl

Mae'n bosib y bydd y prynwr yn tynnu'r cynnig a wnaethant yn ôl cyn i chi gyfnewid cytundebau.  Tan i'r cytundebau gael eu cyfnewid, nid yw'r prynwr o dan unrhyw orfodaeth cyfreithlon i brynu'r cartref ac nid oes rhaid iddynt dalu am unrhyw gostau yr ydych chi, fel y gwerthwr, wedi mynd iddynt.  Fodd bynnag, mae'n bosib y byddwch am ofyn i'r prynwr gyfrannu tuag at y costau yma.

Mae'r pris a gynigiwyd yn cael ei ostwng

Mae'n bosib y bydd y prynwr yn penderfynu gostwng y cynnig a roddwyd am y ty.  Os yw hyn yn digwydd, cyn cyfnewid cytundebau, mae i fyny i chi fel y gwerthwr i benderfynu a ydych am dderbyn y cynnig is yma ai peidio.  

Unwaith y caiff cytundebau eu cyfnewid, mae'r prynwr wedi ymrwymo'n gyfreithiol i dalu'r pris a nodwyd yn y cytundeb.  Os ydynt yn ceisio gostwng y pris ar y cam yma, nid oes yn rhaid i chi dderbyn y pris is yma.  

Os yw’r prynwr yn tynnu nôl o’r gwerthiant ar ôl cyfnewid cytundebau, fe fyddwch yn medru ei erlyn am unrhyw golled sydd wedi codi oherwydd hyn ac efallai y byddwch yn medru cadw’r blaendal.  Fe fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol.

Problemau gyda'r gwerthwr

Mae'r gwerthwr yn gasympio'r prynwr

Mae'n bosib y bydd y gwerthwr yn derbyn cynnig am y ty ac yna'n eich hysbysu chi, fel y prynwr, eu bod wedi cael cynnig pris uwch gan rywun arall.  Cyfeirir at hyn fel 'gasympio'.  Mae'n bosib y byddwch yn penderfynu cynnig pris uwch eto er mwyn ceisio sicrhau'r ty ond nis oes unrhyw warant na fyddwch yn cael eich gasympio eto.  Nid oes unrhyw beth anghyfreithlon ynglyn â gasympio ac mae pris prynu ty ond yn cael ei setlo'n gyfreithiol pan fydd cytundebau'n cael eu cyfnewid.  Mae'n bosib, fodd bynnag, y byddwch wedi dod i gytundeb gyda'r gwerthwr na fydd y gwerthwr yn ystyried unrhyw gynigion eraill yn ystod cyfnod penodol cyn cyfnewid cytundebau.  Os yw'r fath gytundeb yn bodoli, a chithau'n cael eich gasympio yn ystod y cyfnod yma, byddwch yn medru erlyn y gwerthwr am dorri'r cytundeb.

Mae'r gwerthwr yn tynnu eu penderfyniad i dderbyn y cynnig yn ôl

Mae'n bosib y bydd y gwerthwr yn tynnu'r penderfyniad i dderbyn y cynnig yn ôl ar unrhyw adeg cyn cyfnewid cytundebau, er enghraifft, maen nhw wedi dod o hyd i brynwr arall neu wedi penderfynu peidio â gwerthu.  Ni allwch chi, fel prynwr, wneud dim byd ynglyn â hyn, ond dylech ofyn i'r gwerthwr am gyfraniad tuag at unrhyw gostau yr ydych wedi mynd iddynt, er enghraifft, costau syrfëwr.  Fodd bynnag nid oes unrhyw orfodaeth gyfreithiol ar y gwerthwr i gyfrannu.

Mae'r gwerthwr yn derbyn mwy nag un cynnig (râs cytundebau)

Mae'n bosib y bydd y gwerthwr yn derbyn mwy nag un cynnig ac yn dweud wrth eu cyfreithiwr am anfon cytundebau drafft i fwy nag un prynwr posib.  Mae'n rhaid i'r cyfreithiwr hysbysu pob prynwr posib fod mwy nag un cytundeb wedi mynd allan ac mai'r cytundeb cyntaf sydd wedi'i ddychwelyd, ei arwyddo ac sy'n barod i'w gyfnewid, a fydd yn cael y ty.  Cyfeirir at hyn fel râs gytundeb ac mae'n gyfreithiol.  Nid oes dim byd y gallwch chi fel y prynwr wneud heblaw am dynnu yn ôl os nad ydych am fynd i'r costau sydd ynghlwm â chwblhau'r cytundeb yn gyflym.

Mae'r prynwr neu'r gwerthwr yn rhan o gadwyn o brynu a gwerthu

Mae'n bosib y bydd prynwr neu werthwr yn darganfod bod ganddynt broblemau am eu bod yn rhan o gadwyn o brynu a gwerthu.  Mae hyn yn digwydd pan fydd prynwr neu werthwr yn gwerthu a/neu brynu ar yr un pryd gyda'r bobl sydd ynghlwm â nhw hefyd yn prynu a gwerthu.  Mae hyn yn creu cadwyn o brynwyr a gwerthwyr a allai fod yn hir iawn.

Nid oes llawer y byddwch yn medru ei wneud os ydych mewn cadwyn, ond oes yw’r broblem yn ymwneud â’r prynwr neu mae ymhellach i lawr cadwyn y prynwr, efallai y bydd prynwr yn medru:

  • ·chwilio am brynwr arall
  • ·gofyn i’r cwmni gwerthu tai ystyried prynu’r cartref
  • ·trefnu benthyciad pontio hyd nes gwerthu’r cartref.

Os oes problem gyda’r gwerthwr, mae’n bosib i’r prynwr ystyried chwilio am gartref arall, mynd ymlaen i werthu eu cartref a threfnu llety dros dro.

Ond, mae angen i’r prynwr gofio, hyd nes cyfnewid cytundebau, nid yw’n medru bod yn sicr y bydd pryniant neu werthiant y cartref yn mynd yn ei flaen.

Cyfreithwyr a throsglwyddwyr eiddo trwyddedig

Mae trosglwyddwyr eiddo trwyddedig ar gael yng Nghymru a Lloegr yn unig.

Oedi gyda'r trosglwyddo

Fel y prynwr neu'r gwerthwr, mae'n bosib y byddwch yn credu bod yna oedi afresymol gyda'r trosglwyddo.  Dylech holi'ch cyfreithiwr neu drosglwyddwr eiddo am y rheswm dros yr oedi.

Os nad ydych yn fodlon gydag ymateb eich cyfreithiwr neu drosglwyddwr eiddo, mae'n bosib y byddwch yn dymuno gofyn am am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori.  I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar Canolfan Cynghori agosaf.

Llog ar ernes

Pan fydd prynwr yn talu ernes ar eiddo, mae cyfreithiwr neu drosglwyddwr eiddo trwyddedig y gwerthwr yn ei ddal.  Mae'r cyfreithiwr neu, yng Nghymru a Lloegr, y trosglwyddwr eiddo trwyddedig, yn cadw unrhyw log a enillir ar yr ernes yn ystod y cyfnod yma a dylid ei basio ymlaen at y gwerthwr wedi cwblhau'r ddêl.  Mae'n bosib y bydd angen i'r gwerthwr ofyn am y llog gan nad ydyw'n cael ei basio ymlaen ar bob achlysur.  Os yw'r cyfreithiwr neu'r trosglwyddwr eiddo trwyddedig yn gwrthod pasio'r llog ymlaen, yng Nghymru a Lloegr, dylai'r gwerthwr drafod hyn gyda'r Gwasanaeth Cwynion Cyfreithiol neu’r Cyngor Trosglwyddwyr Eiddo Trwyddedig. Yng Ngogledd Iwerddon, dylai’r gwerthwr drafod y mater gyda Chymdeithas y Gyfraith.

Am wybodaeth ynglyn â chwynion ynglyn â chyfreithwyr, gweler Defnyddio cyfreithiwr.
I ddod o hyd i gyfeiriad y Cyngor Trosglwyddwyr Eiddo Trwyddedig, gweler Prynu cartref.

Mae'r bil ar gyfer y trosglwyddo yn rhy uchel

Os ydych chi, fel y prynwr neu'r gwerthwr, yn credu bod bil y cyfreithiwr neu'r trosglwyddwr eiddo trwyddedig yn rhy uchel, ni ddylech dalu'r bil.  Yn gyntaf, dylech sicrhau bod yr holl gostau amrywiol wedi'u rhestru'n glir.  Dylech ofyn i'r cyfreithiwr neu drosglwyddwr eiddo trwyddedig esbonio unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall.  Os nad ydych yn hapus gyda swm eich bil o hyd, mae'n bosib y byddwch yn dymuno cymryd camau pellach yn erbyn y cyfreithiwr neu gwyno i'r Cyngor Trosglwyddwyr Eiddo Trwyddedig.

Am wybodaeth ynglyn â sut i ddadlau ynghylch bil cyfreithiwr, gweler Defnyddio cyfreithiwr.
I ddod o hyd i gyfeiriad y Cyngor Trosglwyddwyr Eiddo Trwyddedig, gweler Prynu cartref.

Mae'r prynwr yn credu bod y cyfreithiwr neu drosglwyddwr eiddo trwddedig wedi bod yn esgeulus

Fel y prynwr, mae'n bosib y byddwch yn credu bod y cyfreithiwr neu'r trosglwyddwr eiddo trwyddedig wedi bod yn esgeulus, er enghraifft, wedi cwblhau'r ddêl, mae'n bosib y byddwch yn darganfod bod problem gyda'r mur ffiniol neu bod yna gynllun lledu'r ffordd a fydd yn lleihau maint yr ardd, gan olygu, efallai, bod gwerth eich ty wedi gostwng.  Os yw hyn yn digwydd yng Nghymru a Lloegr, a chithau eisiau iawndal, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol ynglyn ag erlyn eich trosglwyddwr eiddo.  Os oes gennych gwyn ynglyn â gwasanaeth gwael neu ymddygiad gwael, dylech ddilyn gweithdrefn gwyno fewnol y cwmni perthnasol.  Os nad ydych yn hapus gyda'r canlyniadau, dylech wneud cwyn i’r Gwasanaeth Cwynion Cyfreithiol  os oeddech wedi defnyddio cyfreithiwr, neu'r Cyngor Trosglwyddwyr Eiddo Trwyddedig os oeddech wedi defnyddio trosglwyddwr eiddo trwyddedig, ac mae'n bosib y byddwch yn gallu cael iawndal.  Yng Ngogledd Iwerddon, mae Cymdeithas y Gyfraith Gogledd Iwerddon yn delio gyda phroblemau ynglyn â throsglwyddo eiddo.

I ddod o hyd i gyfeiriad y GCC, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Am gyfeiriad Cyngor Trosglwyddwyr Eiddo Trwyddedig, gweler Prynu Ty.

I ddod o hyd i gyfeiriad Cymdeithas y Gyfraith Gogledd Iwerddon, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Os nad ydych yn hapus gyda chanlyniad eich cwyn, mae'n bosib y byddwch yn dymuno gofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori.  I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar Canolfan Cynghori agosaf

Problemau gyda'r eiddo

Nid yw'r prynwr yn fodlon gyda'r cyflwr yr oedd yr eiddo ynddo

Fel y prynwr, mae'n bosib y byddwch yn anfodlon gyda chyflwr yr eiddo pan fyddwch yn symud i mewn, er enghraifft, mae'n fudr.  Ni allwch wneud dim ynglyn â hyn, gan nad yw'r gwerthwr o dan unrhyw orfodaeth cyfreithiol i adael y ty mewn cyflwr glân.  Fodd bynnag, mae'r gwerthwr yn gorfod gwacau'r ty rhag yr holl ddodrefn ac eiddo, onid ydych wedi cytuno fel arall gyda nhw.  Os yw'r gwerthwr wedi gadael peth o'r eiddo yn y ty, dylech ofyn i'r gwerthwr eu symud.  Os na fydd y gwerthwr yn gallu symud yr eitemau, neu yn gwrthod gwneud, bydd yn rhaid i chi drefnu eu symud.  Gallai symud yr eitemau fod yn gostus a gallech geisio gael yr arian yma yn ôl gan y gwerthwr.  Fodd bynnag, os yw'r gwerthwr yn gwrthod talu'r costau mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi fynd â'r gwerthwr i'r llys i gael yr arian yn ôl ac mae'n debyg iawn na fydd hyn yn broses gwerth chweil.

Mae eiddo'r gwerthwr yn werth llai na thalwyd amdano (ecwiti negyddol)

Fel y gwerthwr, mae'n bosib y byddwch yn darganfod bod gwerth eich ty wedi gostwng ers i chi ei brynu.  Gallai hyn olygu, os ydych yn ei werthu ar hyn o bryd, y bydd arian yn dal i fod yn ddyledus i'ch benthycwr.  Gelwir hyn yn 'ecwiti negyddol’. Os ydych yn y sefyllfa yma, fe fydd angen i chi gael caniatâd eich benthycwr i werthu’r eiddo.

Efallai y bydd cynllun gan eich benthyciwr sy’n eich helpu os ydych ag ecwiti negyddol.  Er enghraifft, efallai y bydd yn bosib trosglwyddo'r morgais cyfredol i eiddo newydd yn hytrach na'i dalu a chymryd morgais newydd.  Bydd benthycwyr gwahanol yn cynnig cynlluniau gwahanol a dylech drafod y sefyllfa gyda'ch benthycwr.

Mae dodrefn a ffitiadau wedi eu tynnu allan

Mae'n rhaid i'r gwerthwr adael yr holl ffitiadau, er enghraifft, lle tân, ac unrhyw ffitiadau y cytunwyd y byddent wedi eu cynnwys yn y ddêl neu yr ydych wedi eu talu amdanynt ar wahân, er enghraifft, carpedi sefydlog.  Os byddwch chi, fel y prynwr, yn darganfod bod rhywbeth wedi ei dynnu allan, dylech ofyn i'ch cyfreithiwr neu drosglwyddwr eiddo trwyddedig a ddylai'r eitem fod wedi'i adael.  Mae'n bosib y bydd y cyfreithiwr neu'r trosglwyddwr eiddo trwyddedig yn gallu datrys y broblem.

Os na chaiff y broblem ei datrys, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori.  I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar Canolfan Cynghori agosaf.

Niwed i'r eiddo wedi cyfnewid cytundebau

Niwed a achoswyd cyfnewid cytundebau a chwblhau'r ddêl

Mae'n bosib y caiff ty ei niweidio wedi cyfnewid cytundebau ond cyn cwblhau'r ddêl, er enghraifft, twll mewn piben ddwr neu ffenest wedi'i thorri.  Cyfrifoldeb y gwerthwr yw hysbysu'r prynwr ynglyn ag unrhyw niwed.  Cyfrifoldeb y prynwr, fodd bynnag, yw yswirio'r eiddo o ddyddiad cyfnewid y cytundebau a gwneud yr atgyweiriadau.  Yna, bydd yn rhaid i'r prynwr hawlio am hyn ar eu polisi yswiriant.

Gwahaniaethu

Os ydych yn gwerthu eich cartref trwy gwmni gwerthu tai, nid ydych yn medru gwrthod cynnig gan rywun, na’u trin yn annheg, oherwydd eu hanabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Fe allai hyn fod yn wahaniaethu anghyfreithlon.

Mae rheolau gwahanol yn berthnasol pan fyddwch chi’n gwerthu eiddo’n uniongyrchol i rywun heb fynd trwy gwmni gwerthu tai. Yn yr achos hwn, mae fel arfer ond yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd eu hil.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu, porwch drwy ein tudalennau Gwahaniaethu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.