Gwybodaeth i landlordiaid yng Nghymru
Hawliau a chyfrifoldebau
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid ar wefan GOV.UK. Mae’r wybodaeth yn cynnwys:
• Rhentu ystafelloedd yn eich cartref – canllaw i landlordiaid preswyl
Mae gwybodaeth am eich cyfrifoldeb cyfreithiol i gadw offer nwy mewn cyflwr diogel ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch www.hse.gov.uk.
Mae gwybodaeth am ymrwymiadau diogelwch trydanol ar gael ar wefan y Cyngor ar Ddiogelwch Trydan yn www.esc.org.uk.
Mae gwybodaeth ar gael am sut i ddod yn landlord achrededig ar wefan Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru.
Ewch i www.welshlandlords.org.uk
Cofrestru a thrwyddedu landlordiaid gorfodol
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord ag eiddo yng Nghymru gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru a meddu ar drwydded ei hunan os yw’n rheoli’r eiddo ei hun neu ddefnyddio asiant trwyddedig.
Os bydd landlord heb gofrestru, os yw heb drwydded neu os yw’n defnyddio asiant sydd heb drwydded, gall Rhentu Doeth Cymru ei ddirwyo gyda dirwy cosb benodedig. Gallai’r landlord hefyd golli ei drwydded.
Rhaid i landlordiaid sy’n gosod eiddo eu hunain neu asiantau fod yn drwyddedig a dylent ddilyn cod ymarfer. Rhaid cael hyfforddiant ar y Cod Ymarfer cyn y gellir cael eich cymeradwyo i dderbyn trwydded.
Darllen rhagor am gofrestru landlordiaid
Darllen rhagor am drwyddedu landlordiaid
Faint yw cost trwydded landlordiaid?
Helpu i sicrhau bod eiddo yn addas i’w osod
Gall cynllun Llywodraeth Cymru, Troi Tai’n Gartrefi, ddarparu benthyciad sy’n galluogi i eiddo gael ei wneud yn addas i’w osod. Cyflwynir ceisiadau trwy’r awdurdod lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru – www.llyw.cymru
Cymdeithasau Landlordiaid
Efallai y gall cymdeithas landlordiaid eich helpu hefyd. Dyma rai ohonyn nhw – Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid sef www.landlords.org.uk a Chymdeithas Landlordiaid Preswyl yn www.rla.org.uk.
Gwneud cwyn am asiantaeth eiddo neu rentu
Rhaid i asiantaeth sy’n rhentu neu reoli llety rhent preifat ar ran landlord berthyn i gynllun iawndal a gymeradwyir gan y llywodraeth er mwyn ymdrin â chwynion.
Os oes gennych chi gŵyn sydd heb ei datrys trwy ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r asiantaeth ei hun, gallwch gwyno i’r cynllun y mae'r asiantaeth yn perthyn iddi.
Twyll Eiddo
Os nad ydych chi’n byw yn yr eiddo rydych chi’n ei osod ar rent, mae’n bwysig eich bod yn hysbysu’r Gofrestrfa Tir o’ch cyfeiriad diweddaraf. Mae hyn yn helpu i leihau’r achosion o dwyll eiddo. Gallwch ddysgu rhagor am hyn ar wefan GOV.UK yn www.gov.uk.