Mae benthyciwr morgais eich landlord yn adfeddiannu’r eiddo
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Ynglŷn â benthyciwr morgais eich landlord yn adfeddiannu’r eiddo
Os ydych yn rhentu eich cartref gan landlord preifat, gallech wynebu’r posibilrwydd o gael eich troi allan os yw’ch landlord ar ei hôl hi gyda’i ad-daliadau morgais.
Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych pa hawliau sydd gennych, a’r hyn fedrwch chi ei wneud os digwydd i chi fod yn y sefyllfa yma.
A oes hawl gennych i aros
Os yw’ch landlord ar ei hôl hi gyda’i ad-daliadau morgais, gallai’r cwmni sy’n benthyg y morgais iddo fynd ag ef i’r llys i gael meddiant ar yr eiddo. Fel arfer, fe fydd hyn yn rhoi caniatâd i’r cwmni i droi unrhyw un arall sy’n byw yn yr eiddo allan, gan gynnwys tenantiaid.
Yn y rhan fwyaf o achosion, os yw’r cwmni morgais yn cael gorchymyn ildio meddiant, ni fydd hawl gennych i aros yn eich cartref.
Cofiwch, efallai y bydd gennych rai hawliau os yw’ch tenantiaeth yn rhwymo benthyciwr morgais eich landlord. Efallai y bydd eich tenantiaeth yn rhwymo yn yr achosion canlynol:
- fe gytunodd benthyciwr morgais y landlord i’r denantiaeth, neu
- roeddech yn byw yn yr eiddo pan gafodd eich landlord y morgais, neu
- mae benthyciwr y landlord wedi cydnabod eich tenantiaeth mewn rhyw ffordd, er enghraifft, trwy ofyn i chi dalu rhent iddo.
Os nad yw’ch tenantiaeth yn rhwymo benthyciwr morgais eich landlord, fe fyddwch yn medru gohirio’r camau i adfeddiannu eich cartref am hyd at ddeufis. Mae hyn yn medru rhoi mwy o amser i chi i ddod o hyd i rywle newydd i fyw.
Os ydych yn credu efallai bod eich tenantiaeth yn rhwymo benthyciwr morgais eich landlord, neu rydych chi angen help i geisio gohirio’r camau i adfeddiannu eich cartref, dylech gael cyngor. Mae’r cyngor hyn ar gael gan ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Sut fedrwch chi ohirio'r camau i adfeddiannu eich cartref
Os nad yw’ch tenantiaeth yn rhwymo benthyciwr eich landlord, fe fyddwch yn cael dau gyfle i ohirio’r camau i adfeddiannu eich cartref am hyd at ddeufis. Mae’r cyfle cyntaf cyn i farnwr roi gorchymyn ildio meddiant. Mae gorchymyn ildio meddiant yn orchymyn sy’n caniatáu i fenthyciwr eich landlord gael meddiant dros eich cartref ac mae’n golygu y bydd yn rhaid i chi adael erbyn dyddiad penodol.
Cyn y gwrandawiad, fe fyddwch yn medru cyflwyno cais i’r llys fel eich bod chi’n medru ymuno yn y trafodion ildio meddiant. Yna, efallai y bydd y barnwr yn cytuno i ohirio’r dyddiad y mae’n rhaid i chi adael eich cartref.
Fe fydd yn rhaid i chi dalu ffi er mwyn cyflwyno cais i’r llys. Efallai y byddan nhw’n fodlon ildio’r ffi, neu ei ostwng os ydych chi, er enghraifft, ar fudd-daliadau fel Cymhorthdal Incwm neu ar incwm isel.
Fe fyddwch yn medru cael help i gyflwyno cais i’r llys gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os nad oeddech wedi cyflwyno cais i’r llys pan roddwyd y gorchymyn ildio meddiant, mae gennych un cyfle arall i geisio gohirio’r camau i adfeddiannu eich cartref. Fe fyddwch yn cael y cyfle hwn pan fydd y benthyciwr morgais wedi ceisio am warant meddiant, neu’n bwriadu ceisio am warant meddiant. Mae’r warant meddiant yn rhoi’r awdurdod i feili’r llys eich troi chi allan o’ch cartref.
Cyn i’r benthyciwr fedru eich troi chi allan, mae’n rhaid iddo anfon rhybudd at eich cartref yn dweud ei fod yn ceisio am warant. Gelwir hyn yn hysbysiad gweithredu’r gorchymyn meddiant. Ar y cam yma, fe fyddwch yn medru gofyn i fenthyciwr y landlord ohirio’r adfeddiant am hyd at ddeufis. Os yw’r benthyciwr yn gwrthod ymateb i’ch cais, neu nid yw’n ymateb i’ch cais, fe fyddwch yn medru cyflwyno cais i’r llys yn lle. Ond, dylech wneud hyn yn fuan oherwydd mae’r llys yn medru cyhoeddi warant meddiant ar ôl 14 diwrnod ar ôl y dyddiad ar yr hysbysiad yr anfonodd y benthyciwr i’ch cartref.
Fe fyddwch chi’n medru cael help gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol i gysylltu â’r benthyciwr neu i gyflwyno cais i’r llys. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fe fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gyflwyno cais i’r llys. Efallai y byddan nhw’n fodlon ildio’r ffi, neu ei ostwng os ydych chi, er enghraifft, ar fudd-daliadau fel Cymhorthdal Incwm neu ar incwm isel.
Os ydyn nhw’n gohirio’r adfeddiant, efallai y gofynnir i chi dalu’r rhent hyd nes i chi adael.
Gellir gohirio adfeddiant am hyd at uchafswm o ddeufis yn unig, ac fe fyddwch ond yn medru cyflwyno un cais i ohirio.
Oes unrhyw beth arall fedrwch chi ei wneud
Efallai y byddwch am ystyried erlyn eich landlord am iawndal am i chi golli eich tenantiaeth, unrhyw gostau storio a llety brys. Os gymerwch chi gamau ar unwaith, efallai y byddwch yn medru cael iawndal pan fydd yr eiddo’n cael ei werthu, ond mae hyn yn dibynnu os oes arian ar ôl wedi gwerthu’r eiddo ar ôl ad-dalu’r morgais.
Os ydych yn wynebu’r posibilrwydd o gael eich troi allan oherwydd ôl-ddyledion morgais eich landlord, dylech gael cyngor, er enghraifft, gan ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn ddigartref, neu ar fin dod yn ddigartref oherwydd ôl-ddyledion morgais eich landlord, efallai y byddwch yn medru cael help gan eich awdurdod lleol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr help y mae’ch awdurdod lleol yn medru ei rhoi i chi os ydych yn ddigartref, gweler Dod o hyd i lety.