Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cysylltu â ni

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni os na allwch chi ddod o hyd i'r cyngor sydd ei angen arnoch ar y wefan hon.

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Gallwch gysylltu â’n gwasanaeth Help i Hawlio am help gyda’r broses hawlio – o wneud cais i gael eich taliad cyntaf.

Os oes gennych chi broblem gyda rhywbeth rydych chi wedi'i brynu neu wasanaeth rydych chi wedi'i dderbyn

Gallwch gysylltu â'n gwasanaeth defnyddwyr os oes gennych broblem defnyddiwr fel nwyddau sydd wedi torri neu’n ddiffygiol, neu broblemau gydag ynni, dŵr neu'r post.

Gall y gwasanaeth defnyddwyr roi cyngor i chi a throsglwyddo cwynion i Safonau Masnach.

Chwiliwch am eich Cyngor ar Bopeth agosaf

Teipiwch eich cod post neu dref i gael manylion cyswllt eich Cyngor ar Bopeth agosaf.

Dim ond os ydych yn byw neu'n gweithio yn eu hardal y gall y rhan fwyaf o Gyngor ar Bopeth lleol eich helpu.

Coronafeirws - newidiadau i'n gwasanaeth

Mae rhai Cyngor ar Bopeth lleol yn dal i fethu â rhoi cyngor wyneb yn wyneb. Efallai y gallant helpu dros y ffôn, e-bost neu gwe-sgwrs yn lle hynny.

Os na allwch gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth lleol, gallwch gael help o hyd trwy ffonio ein llinell ffôn genedlaethol neu drwy siarad â chynghorydd ar-lein. Efallai y bydd amseroedd aros yn fwy nag arfer ond byddwn yn eich helpu cyn gynted ag y gallwn.

Siaradwch â ni ar-lein

Mae gwe-sgwrs yn galluogi chi i siarad â chynghorydd hyfforddedig ar-lein. Gallwch chi:

Ffoniwch ein llinell ffôn genedlaethol

Gallwch gysylltu â chynghorydd drwy ein gwasanaeth ffôn cenedlaethol, Advicelink:

Advicelink: 0800 702 2020

Relay UK (Saesneg) - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 ac yna 0800 144 8884

Gallwch ddefnyddio Relay UK trwy ap neu ffôn testun. Does dim tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Mae Advicelink ar gael o 9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae fel arfer ar ei brysuraf ar ddechrau a diwedd y dydd. Dyw’r gwasanaeth ddim ar gael ar wyliau banc.

Byddwn yn ateb eich galwad cyn gynted ag y gallwn - ar adegau prysur efallai y bydd angen i chi aros hyd at awr. Os bydd yr amser aros yn hir, byddwn yn dweud wrthych am ffyrdd eraill o gael cyngor. Gallwch hefyd geisio galw eto yn nes ymlaen.

Mae galwadau i Advicelink yn rhad ac am ddim o ffonau symudol a llinellau tir. Am ragor o wybodaeth am costau ein galwadau. 

Rhoi adborth neu wneud cwyn

Gallwch roi adborth neu wneud cwyn am ein cyngor neu sut rydych chi wedi cael eich trin wedi i chi gysylltu â ni neu ymweld â'ch Cyngor ar Bopeth lleol.

Darllen ein polisi preifatrwydd

Deall sut rydym yn storio ac yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn cysylltu â ni.

Darllen ein polisi ymddygiad

Mae gan ein staff yr hawl i wneud eu swydd heb gael eu trin yn wael - deall sut rydym yn delio ag ymddygiad annerbyniol.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.