Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Beth i ddod gyda chi i'ch ymweliad a Chyngor ar Bopeth lleol

Pan fyddwch chi'n ymweld â'ch Cyngor ar Bopeth lleol, mae'n bwysig bod gan y cynghorydd rydych chi'n siarad ag ef gymaint o wybodaeth â phosib am eich achos. 

Os nad oes gennych chi bopeth, peidiwch â phoeni - dewch â chymaint ag y gallwch chi ddod o hyd iddo.

Os na fyddwch chi'n dod â'r gwaith papur angenrheidiol gyda chi efallai y bydd yn rhaid i chi ddod yn ôl rywbryd eto. Mae hyn yn golygu y gallai gymryd mwy o amser i chi gael yr help sydd ei angen arnoch.

Gall fod yn bwysig cael cymorth cyn gynted â phosibl oherwydd efallai mai dim ond ychydig o amser sydd gennych i weithredu.

Problemau gyda budd-daliadau

Dylech ddod â:

  • pob llythyr gan adrannau’r llywodraeth, fel yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), er enghraifft, Canolfan Byd Gwaith, Gwasanaeth Pensiwn, neu’ch cyngor lleol

  • unrhyw lythyrau penderfyniad nad ydych chi’n hapus â nhw neu eisiau eu herio - mae hyn yn hanfodol

  • eich rhif yswiriant gwladol

  • prawf o'ch incwm - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth

  • cyfriflen banc - copi diweddaraf

  • manylion unrhyw gynilion sydd gennych

  • eich cytundeb tenantiaeth neu fanylion eich morgais

Gwiriad budd-dal lles

Os hoffech i gynghorydd wirio eich bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau a chredydau treth y mae gennych hawl iddynt, dewch â’r wybodaeth ganlynol i bawb sy’n byw yn eich cartref:

  • dyddiadau geni

  • os ydych chi'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig - nifer yr oriau a weithiwyd

  • incwm gros o gyflogaeth ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf - Ebrill 6 i Ebrill 5 - bydd ffurflen P60 yn darparu hyn, neu os yn hunangyflogedig, cyfrifon y llynedd

  • incwm gros ar gyfer eleni - slipiau cyflog neu amcangyfrif os ydych yn hunangyflogedig

  • os ydych yn derbyn budd-daliadau ar hyn o bryd, dewch â'r holl lythyrau dyfarnu budd-dal

  • costau gofal plant - manylion y darparwr gofal plant a faint rydych yn ei dalu

  • incwm buddsoddi - manylion buddsoddiadau a thaliadau llog diweddaraf (efallai mai cyfriflenni banc yw'r ffordd orau o ddangos hyn)

  • cytundeb tenantiaeth neu fanylion ad-dalu morgais cyfredol

  • bil treth gyngor

Problemau dyled ac arian

Dylech ddod â:

  • manylion eich incwm - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth

  • cyfriflen banc - copi diweddaraf

  • manylion pawb y mae arnoch arian iddynt a faint - dewch â'r datganiadau diweddaraf a'r galwadau am daliad

  • copïau o unrhyw gytundebau benthyciad gwreiddiol

  • copïau o unrhyw bapurau llys

  • manylion gwariant eich cartref gan gynnwys faint rydych yn ei wario ar fwyd, cludiant, biliau ffôn ac ynni

  • copïau o’r ohebiaeth ddiweddaraf yr ydych wedi’i derbyn – er enghraifft, llythyrau gan feilïaid

Problemau Tai

Dylech ddod â:

  • eich cytundeb tenantiaeth ac unrhyw lythyrau gan eich landlord - os ydych yn rhentu

  • manylion eich morgais - os oes gennych forgais

  • unrhyw bapurau llys

  • gweithredoedd teitl - os ydych yn berchen ar eich cartref

  • prawf o'ch incwm - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth

Problemau cyflogaeth

Dylech ddod â:

  • copi o'ch contract cyflogaeth

  • manylion unrhyw faterion disgyblu, achwyn neu ddiswyddo

  • unrhyw lythyrau diweddar gan eich cyflogwr

  • eich llawlyfr staff, os oes gennych un

  • copi o geisiadau tribiwnlys cyflogaeth - os ydych wedi gwneud rhai

  • prawf o'ch incwm - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth

Materion teuluol a phersonol

Dylech ddod â:

  • unrhyw waith papur neu lythyrau yn ymwneud â’r mater

  • unrhyw ddogfennau llys neu gytundebau cyfreithiol

  • prawf o'ch incwm - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth

  • copi o'ch papurau ysgariad

Problemau defnyddwyr

Dylech ddod â:

  • manylion llawn y nwyddau neu'r gwasanaethau sy'n achosi'r broblem

  • copïau o unrhyw gontractau neu gytundebau credyd

  • unrhyw lythyrau diweddar ynglŷn â’r broblem

  • prawf o bryniant - fel derbynneb neu slip cerdyn credyd

  • prawf o'ch incwm - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth

Problemau mewnfudo neu loches

Dylech ddod â:

  • eich holl lythyrau gan y Swyddfa Gartref

  • eich pasbort a manylion unrhyw fisas neu drwyddedau

  • prawf o'ch incwm neu gymorth NASS - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth

Problemau arall

Dylech ddod ag unrhyw waith papur, llythyrau neu ohebiaeth arall sy'n ymwneud â'r mater.