Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr gan Cyngor ar Bopeth yn genedlaethol

Os ydych yn cofrestru ar gyfer cylchlythyr gan Gyngor ar Bopeth lleol, dylech gysylltu â'r ganolfan yn uniongyrchol i gael gwybod sut mae'n defnyddio ac yn storio eich gwybodaeth bersonol.

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein cylchlythyrau, rydym yn casglu gwybodaeth bersonol gennych er mwyn:

  • anfon y wybodaeth rydych wedi gofyn amdani

  • rhoi gwybod i chi pryd a sut byddwn yn cysylltu â chi yn y dyfodol

Pan fyddwch yn tanysgrifio, rydych yn rhoi caniatâd i ni brosesu eich gwybodaeth a chysylltu â chi. Gallech wneud hyn drwy:

  • roi tic mewn bocs caniatâd mewn ffurflen gofrestru

  • cwblhau ffurflen neu arolwg ar ein gwefan

  • gofyn i staff Cyngor ar Bopeth ychwanegu eich enw at restr bostio

Gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg - cliciwch ar y ddolen 'datdanysgrifio' yn eich cylchlythyr neu e-bost.

Y wybodaeth sy'n cael ei chasglu gennym

Byddwn yn gofyn am eich enw cyntaf, eich cyfenw a'ch cyfeiriad e-bost.

Gall ein cylchlythyrau ar gyfer staff a gwirfoddolwyr Cyngor ar Bopeth ofyn am y canlynol hefyd:

  • eich Cyngor ar Bopeth lleol neu’ch llys lleol

  • eich rôl yn y sefydliad

Hefyd, mae ein cylchlythyrau ar gyfer Prosiect Cyngor ar Ddyledion y Gwasanaeth Cynghori Ariannol (MASDAP) yn gofyn am enw eich sefydliad ac enw'r prosiect rydych yn cyfrannu ato.

Rydym yn defnyddio gwasanaeth o'r enw Mailchimp i anfon cylchlythyrau. Pan fyddwch yn agor neges e-bost gennym, mae Mailchimp yn defnyddio cwcis i gofnodi'r wybodaeth ganlynol:

  • eich gwlad

  • pa fath o ddyfais rydych chi'n ei defnyddio

  • a wnaethoch agor y neges e-bost ai peidio

  • pa ddolenni rydych chi'n clicio arnynt yn y neges e-bost

Mae Mailchimp yn defnyddio'r wybodaeth hon i wella eich profiad. Mae'n rhannu'r data gyda ni er mwyn i ni olrhain ymgysylltiad ein cylchlythyrau a gwneud gwelliannau.

Darllen polisi cwcis Mailchimp.

Rhannu eich gwybodaeth â sefydliadau eraill

Mae'r rhan fwyaf o'n cylchlythyrau yn defnyddio gwasanaethau gan sefydliad o'r enw Upscribe er mwyn rheoli ein rhestrau dosbarthu. Rydym yn rhannu eich gwybodaeth ag Upscribe er mwyn iddo ychwanegu eich enw at ein rhestrau dosbarthu.

Nid ydym yn defnyddio Upscribe ar gyfer ein cylchlythyrau MASDAP.

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth â Mailchimp fel bod modd i ni anfon y negeseuon e-byst atoch yn unol â'ch cofrestriad.

Mae Upscribe a Mailchimp yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac ni fyddant yn ei rhannu ag unrhyw un arall.

Mae'r ddau gwmni yn prosesu eich data y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

Darllen polisi preifatrwydd Upscribe.
Darllen polisi preifatrwydd Mailchimp.

Storio eich gwybodaeth

Ar gyfer y rhan fwyaf o'n cylchlythyrau, rydym yn storio eich gwybodaeth ar Mailchimp gydol yr amser eich bod wedi tanysgrifio i'r cylchlythyr. Os ydych yn datdanysgrifio, mae eich gwybodaeth yn cael ei dileu o fewn 3 mis.

Ar gyfer ein cylchlythyr MASDAP, byddwn yn storio eich gwybodaeth yn ddiogel yn ein systemau mewnol.

Cysylltu â ni ynglŷn â'ch gwybodaeth

Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i holi am y canlynol:

  • pa wybodaeth amdanoch sy'n cael ei storio gennym

  • os ydych am newid neu ddiweddaru eich manylion

  • os ydych am i ni ddileu eich manylion o'n cofnodion

I gysylltu â ni am gylchlythyr MASDAP, e-bostiwch: durga.mandal@citizensadvice.org.uk.

Ar gyfer pob cylchlythyr arall, e-bostiwch: communications@citizensadvice.org.uk.

Os ydych chi eisiau cwyno

Os nad ydych yn hapus â sut rydym wedi ymdrin â'ch data, gallwch wneud cwyn ar ein gwefan.