Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

One day at a time

8 Gorffennaf 2014
onedayatatime cover

One day at a time: examining the cumulative impact of welfare reform on benefit claimants in Wales

This report examines the cumulative impact of welfare reform on benefit claimants in Wales. It is based on evidence from across the Citizens Advice Bureaux network in Wales as well as bespoke qualitative research commissioned by Citizens Advice Cymru to explore the ‘lived experience’ of the recent benefit changes.

The latter research looks in detail at how the changes are affecting important areas of claimants’ lives including their physical and mental health, living arrangements, work and job seeking behaviour, and personal relationships. It also investigates what coping mechanisms people have adopted to help them manage the changes; their knowledge and understanding of future changes, including the introduction of universal credit, and their perceived capacity to cope in the future.

Un dydd ar y tro: archwilio effaith gynyddol y diwygiadau lles ar hawlwyr budd-daliadau yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar effaith gronnol diwygio lles ar hawlwyr budd-daliadau yng Nghymru. Mae’n seiliedig ar dystiolaeth gan y rhwydwaith o Ganolfannau Cyngor ar Bopeth yng Nghymru yn ogystal ag ymchwil ansoddol bwrpasol a gomisiynwyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru i ystyried y ‘profiad ymarferol’ o’r newidiadau diweddar i fudd-daliadau.

Mae’r ymchwil olaf hwn yn edrych yn fanwl ar sut mae’r newidiadau yn effeithio ar feysydd pwysig ym mywydau hawlwyr yn cynnwys eu hiechyd corfforol a meddyliol, trefniadau byw, gwaith a’u harferion chwilio am waith, a’u perthynas ag eraill. Mae’n edrych hefyd ar y dulliau ymdopi mae pobl yn eu defnyddio i’w helpu i reoli’r newidiadau; eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o newidiadau a gyflwynir yn y dyfodol, yn cynnwys cyflwyno’r credyd cynhwysol, a’u gallu yn eu tyb nhw i ymdopi yn y dyfodol