Mae'r penderfyniad am eich budd-daliadau wedi cael ei newid - Taliad Annibyniaeth Bersonol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi eisoes yn cael Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP), gallai'r penderfyniad am eich cais gael ei newid.

Mae'r dudalen hon yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwahanol amgylchiadau pan allai'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) newid eich penderfyniad a beth allwch chi ei wneud ynghylch hyn.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi derbyn tystiolaeth feddygol newydd

Gall y sawl sy'n gwneud penderfyniadau newid y penderfyniad drwy ddisodliad os yw'n derbyn tystiolaeth feddygol gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol neu rywun sydd wedi'i gymeradwyo i fwrw barn ar eich iechyd. Mae penderfyniad disodli yn newid y penderfyniad o ddyddiad y newid.

Mae'r penderfyniad yn dod i rym o'r dyddiad y mae'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau yn mynd ati i newid y penderfyniad gan amlaf.

Gwrthodwyd Taliad Annibyniaeth Bersonol i chi am nad ydych chi'n bodloni'r amodau anabledd

Os gwrthodir Taliad Annibyniaeth Bersonol i chi am nad ydych chi'n bodloni'r amodau anabledd ar gyfer yr elfen byw'n ddyddiol neu'r elfen symudedd, gellir adolygu'r penderfyniad os penderfynir maes o law bod y penderfyniad yn anghywir oherwydd gwall. Dim ond os mai'r Adran Gwaith a Phensiynau neu rywun arall wnaeth y camgymeriad ac nad oeddech chi wedi cyfrannu at y camgymeriad y bydd hyn yn digwydd.

Rhoddwyd budd-dal i chi o flaen llaw

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau benderfynu rhoi Taliad Annibyniaeth Bersonol i chi cyn i chi fodloni holl amodau'r budd-dal os ydyn nhw o'r farn y byddwch chi'n eu bodloni yn y dyfodol. Mae'r rheol hon yn sicrhau eu bod nhw'n gallu newid y penderfyniad hwnnw drwy adolygiad os nad ydych chi'n bodloni'r amodau. Er enghraifft, gallai'r Adran Gwaith a Phensiynau roi Taliad Annibyniaeth Bersonol i chi am eu bod nhw o'r farn y bydd eich cyflwr yn aros yr un fath am 12 mis. Os yw'ch cyflwr yn gwella'n annisgwyl, mae'r rheol hon yn golygu bod y sawl sy'n gwneud penderfyniadau yn gallu newid y penderfyniad.

Os cewch chi Daliad Annibyniaeth Bersonol ar hawliad o flaen llaw ac yna penderfynir maes o law nad oeddech chi'n bodloni amdoau'r budd-dal, gall y penderfyniad gael ei adolygu.

Os ydych chi eisoes wedi cael Taliad Annibyniaeth Bersonol o flaen llaw, mae'n bosib y bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian a gawsoch.

Rydych chi mewn cartref gofal

Allwch chi ddim cael elfen byw'n ddyddiol y Taliad Annibyniaeth Bersonol os ydych chi'n byw mewn cartref gofal sy'n cael ei ariannu gan bwrs y wlad fel rheol. Fodd bynnag, os mai chi neu rywun arall sy'n talu'r costau i gyd, gallwch chi gael Taliad Annibyniaeth Bersonol.

Os gwrthodir talu Taliad Annibyniaeth Bersonol i chi am eich bod chi mewn cartref gofal sy'n cael ei ariannu gan bwrs y wlad, gall y penderfyniad gael ei newid drwy adolygiad os ydych chi neu rywun arall yn talu costau'r cartref gofal o'r dyddiad y gwnaethoch chi hawlio'r Taliad Annibyniaeth Bersonol gyntaf. Bydd hyn yn golygu y bydd unrhyw fudd-dal sy'n ddyledus i chi yn cael ei ôl-ddyddio i'r dyddiad y gwnaed yr hawliad.

Os ydych chi mewn cartref gofal a'ch bod chi neu rywun arall yn dechrau talu costau'r cartref gofal ar ôl i chi gael Taliad Annibyniaeth Bersonol, gallwch gael Taliad Annibyniaeth Bersonol o'r dyddiad dechrau talu costau. Penderfyniad disodli yw'r enw ar hyn.

Dywedwyd wrthych nad ydych chi'n bodloni'r amodau anabledd

Pan roddir Taliad Annibyniaeth Bersonol i chi, bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn asesiadau achlysurol i weld a yw'ch cyflwr wedi newid.

Os nad ydych chi'n dychwelyd yr holiadur 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch' neu ddim yn cymryd rhan mewn asesiad gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol pan gewch gais i wneud hynny, gall y penderfyniad am eich cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol gael ei newid.

Bydd penderfyniad disodli'n cael ei wneud i ddweud nad ydych chi'n bodloni'r amodau anabledd ar gyfer yr elfen byw'n ddyddiol neu'r elfen symudedd ac na ellir talu Taliad Annibyniaeth Bersonol i chi. Mae hyn yn golygu y bydd eich budd-dal yn cael ei atal neu ei leihau o'r dyddiad y daeth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ymwybodol o'r newid.

Rydych chi wedi apelio yn erbyn penderfyniad

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau adolygu penderfyniad ar unrhyw adeg os ydych chi wedi apelio yn erbyn y penderfyniad ac nad yw wedi dod gerbron tribiwnlys annibynnol hyd yma.

Gallai hyn ddigwydd pe bai'r Adran Gwaith a Phensiynau yn sylweddoli bod eu penderfyniad yn anghywir neu eu bod yn cael gwybodaeth neu dystiolaeth newydd sy'n dangos ei fod yn anghywir.  

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 02 Mawrth 2022