Os yw’ch Credyd Cynhwysol yn cael ei atal neu ei leihau

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os yw swm y Credyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael yn newid, byddwch naill ai’n cael llythyr neu neges pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein. Os oes gennych chi gyfrif ar-lein, gallwch gofrestru i gael hysbysiadau neges testun neu e-bost hefyd.

Gall eich Credyd Cynhwysol gael ei leihau:

Gallech hefyd gael llai o arian os ydych chi wedi cael gormod o Gredyd Cynhwysol neu fudd-dal arall. Gelwir hyn yn ‘ordaliad’. Byddwch yn cael llai o Gredyd Cynhwysol bob mis nes i chi dalu'r gordaliad yn ôl.

Os oes arnoch chi arian, efallai y bydd eich credydwr yn gallu gwneud cais i gael ei dalu o’ch taliad - gelwir hyn yn ‘ddidyniad trydydd parti’. Er enghraifft, os nad ydych chi wedi talu bil dŵr, gallai eich cwmni dŵr wneud cais i gymryd taliadau rheolaidd o'ch Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi wedi cael gordaliad

Byddwch chi’n cael llai bob mis hyd y byddwch wedi’i dalu yn ôl. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gostwng eich taliad rhwng 15% a 25% o’ch ‘lwfans safonol’ - dyma'r swm sylfaenol a gewch, heb gynnwys symiau ychwanegol a elwir yn 'elfennau'.

Er enghraifft - os yw’ch taliad yn cael ei leihau 15% o’ch lwfans safonol a bod eich lwfans safonol yn £334.91 y mis fel arfer, bydd cyfanswm eich taliad yn cael ei leihau £50.24.

Gellir lleihau eich taliad hefyd os digwyddodd eich gordaliad drwy dwyll. Fel arfer, ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cymryd mwy na 25% o'ch lwfans safonol.

Os ydych chi’n meddwl na fydd gennych chi ddigon o arian i fyw arno oherwydd eich bod yn ad-dalu gordaliad dylech siarad â chynghorydd. Gall eich helpu i gyllidebu neu ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau gymryd ad-daliadau ar gyfradd is neu roi’r gorau i gymryd ad-daliadau yn gyfan gwbl.

Os yw’ch Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau i dalu’ch dyledion

Byddwch ond yn cael didyniad os yw’r credydwr yn gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau - fe’i gelwir yn ‘ddidyniad trydydd parti’. Fel arfer mae’n 5% o’ch lwfans safonol ond gallai fod yn fwy. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthych os yw hyn wedi digwydd - un ai ar eich cofnod ar-lein os oes gennych chi un, neu mewn llythyr.

Gellir ond gwneud didyniadau ar gyfer:

  • ôl-ddyledion rhent a chostau tai eraill fel taliadau gwasanaeth - gall y didyniad fod rhwng 10% a 20% am ôl-ddyledion rhent

  • ôl-ddyledion nwy, trydan neu ddŵr

  • ôl-ddyledion biliau’r dreth gyngor

  • cynhaliaeth cynnal plant

  • rhai benthyciadau

  • rhai cosbau

Bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau 5% o’ch ‘lwfans safonol’ ar gyfer y rhan fwyaf o ddidyniadau trydydd parti - gellir cymryd mwy o arian ar gyfer rhai dyledion. Er enghraifft, ar gyfer ôl-ddyledion rhent.

Ni fyddwch chi fyth yn cael mwy na 3 didyniad trydydd parti ar yr un pryd ac yn y mwyafrif o achosion ni fydd mwy na 25% o’ch lwfans safonol yn cael ei gymryd.

Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n credu na fydd gennych chi ddigon o arian i fyw arno. Gall cynghorwr eich helpu i gyllidebu a gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau newid y penderfyniad neu apelio os yw hynny’n addas. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gallu apelio faint sy’n cael ei dynnu o’ch Credyd Cynhwysol ar gyfer ôl-ddyledion rhent.

Os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno

Gallwch ofyn am ddidyniad llai os yw'r swm sy'n cael ei dynnu o'ch Credyd Cynhwysol yn golygu nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno. Efallai y bydd didyniad o'ch Credyd Cynhwysol ar gyfer:

  • dyled budd-daliadau

  • benthyciad Cronfa Gymdeithasol

  • ôl-ddyledion rhent

Bydd angen i chi ddangos i’r Adran Gwaith a Phensiynau nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno - gelwir hyn yn galedi ariannol. Bydd angen i chi roi datganiad ariannol iddynt yn dangos eich incwm ac ar beth rydych chi’n gwario’ch arian. Bydd angen i chi hefyd ddangos nad ydych chi’n gallu talu’ch costau byw sylfaenol gyda chyfradd bresennol y didyniad. Gallwch anfon yr wybodaeth hon drwy’ch cofnod ar-lein neu mewn llythyr os nad oes gennych chi gyfrif ar-lein.

Os ydych chi’n credu bod eich taliad yn anghywir

Dylech ffonio'r llinell gymorth Credyd Cynhwysol neu ofyn am esboniad gan ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein os oes gennych chi un. Dylech wneud hyn:

  • os yw’ch taliad yn llai na’r hyn y byddech wedi’i ddisgwyl a’ch bod heb gael gwybod pam

  • os ydych chi’n credu bod camgymeriad wedi bod gyda’r ffordd y cyfrifwyd eich Credyd Cynhwysol

Darparu unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi

Mae’n syniad da rhoi rhywfaint o dystiolaeth iddynt o’r camgymeriad os gallwch chi. Bydd angen i chi wneud hyn drwy’ch cyfrif ar-lein os oes gennych chi un, neu mewn llythyr. Gallai’r dystiolaeth gynnwys, er enghraifft:

  • eich contract meddiannaeth - os ydych chi’n credu bod eich costau tai yn anghywir

  • slipiau cyflog neu gyfriflenni banc - os oes camgymeriad wedi bod â’ch enillion (gofynnwch i’ch cyflogwr am slipiau cyflog os nad oes gennych chi gopi)

  • biliau gofal plant - os ydynt wedi cael eich costau gofal plant yn anghywir

Os ydych chi’n dal i anghytuno â’r didyniad

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi esboniad i chi a’ch bod yn dal i anghytuno â’r penderfyniad, gallwch ei herio - gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Rhif ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888

Rhif ffôn: 0800 328 5644 Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2018