Dadleuon dros herio cosb

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi wedi’ch rhybuddio y gallech chi gael eich cosbi a’ch bod yn meddwl y byddai’r gosb yn annheg, dylech egluro pam a rhoi’ch rhesymau a’ch tystiolaeth os yw hynny’n bosibl. Gallwch ddefnyddio’r dadleuon i’ch helpu.

Os ydych chi wedi’ch cosbi, gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried eu penderfyniad i’ch cosbi os ydych chi’n credu na ddylent fod wedi’ch cosbi. ‘Ailystyried gorfodol’ yw’r enw ar hyn. Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwrthod newid eu penderfyniad, gallwch apelio.

Yr ‘hysbysiad cosbi’

Os ydych chi wedi’ch cosbi, dylech fod wedi derbyn ‘hysbysiad cosbi’ a fydd yn dweud wrthych am beth rydych chi wedi’ch cosbi, e.e. peidio â mynychu cyfweliad neu fethu cwrs hyfforddiant. Bydd y wybodaeth hon mewn llythyr neu, os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth digidol, ar eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein. Os ydych wedi colli’r llythyr cysylltwch â Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol a holwch am fanylion y llythyr neu gofynnwch iddynt anfon copi atoch.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw)

Ffôn: 0800 328 9344

Ffôn testun: 0800 328 1344

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae’r galwadau i’r rhifau hyn am ddim.

Gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried

Gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried eu penderfyniad os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi.

Dadl 1 - Fe wnaethoch y gweithgaredd mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud na wnaethoch chi

Os gwnaethoch chi’r tasgau y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud na wnaethoch, dylech ofyn iddynt ailystyried y penderfyniad i’ch cosbi. Bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth iddynt eich bod wedi cyflawni’r tasgau. Er enghraifft, copi o’ch ffurflen gais am swydd, neu lythyr gan gwmni yn cadarnhau eich bod wedi mynychu hyfforddiant neu brofiad gwaith.

Dadl 2 – Roedd gennych chi reswm da dros beidio â gwneud y gweithgaredd rydych chi wedi’ch cosbi amdano

Os oedd gennych chi reswm da dros beidio â gallu cwblhau’ch gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, ni ddylid eich cosbi. Os oedd unrhyw un o’r rhesymau canlynol yn gymwys i chi, neu os oes gennych chi reswm da arall nad yw wedi’i restru isod, siaradwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau ar unwaith a gofynnwch iddynt ailystyried y gosb.

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau benderfynu eu hunain a oes gennych chi reswm da. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt fod yn rhesymol ac ystyried eich amgylchiadau.

Salwch, anabledd neu broblemau iechyd

Efallai fod gennych chi reswm da dros beidio â bodloni’r gofyniad cysylltiedig â gwaith os ydych chi’n anabl, os ydych chi’n sâl neu os oes perygl i’ch iechyd corfforol neu’ch iechyd meddwl.

Os ydych chi’n anabl

Os gallwch chi ddangos bod rheswm penodol pam mae'ch anabledd yn ei gwneud yn anodd i chi fodloni gofyniad cysylltiedig â gwaith, efallai na fydd yn rhaid i chi ei fodloni. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu gwrthod cynnig swydd gan eich bod yn defnyddio cadair olwyn ac nad oes mynediad cadair olwyn i’r adeilad lle mae’r swydd.

Os ydych chi’n byw gyda phroblem iechyd meddwl

Efallai fod gennych chi reswm da dros beidio â bodloni gofyniad cysylltiedig â gwaith os ydych chi’n byw gyda phroblem iechyd meddwl. Dylent ystyried a oeddech chi wedi deall yr hyn a oedd yn ofynnol ai peidio a sut yr effeithiodd cyflwr eich iechyd meddwl ar eich gallu i fodloni’r gofyniad.

Efallai fod gennych chi reswm da hefyd os yw’r gofyniad yn peryglu’ch iechyd meddwl, neu’n peryglu iechyd meddwl pobl eraill. Er enghraifft, gallai’r Adran Gwaith a Phensiynau ystyried ei bod yn rhesymol i chi wrthod swydd os oes yn rhaid i chi ddelio â niferoedd mawr o bobl a bod gennych chi hanes meddygol o orbryder cymdeithasol.

Mae enghreifftiau eraill o beryglu iechyd pobl eraill yn cynnwys:

  • mae’ch iechyd meddwl yn golygu eich bod yn gallu ymddwyn yn dreisgar yn ddireswm

  • mae’ch iechyd meddwl yn golygu bod treulio amser gyda phobl eraill yn gallu achosi straen i'r bobl hynny

Perygl o straen meddwl

Efallai nad oes gennych chi hanes blaenorol o broblemau iechyd meddwl ond yn profi sefyllfa sy’n achosi llawer o straen i chi.

Er enghraifft, os oeddech chi’n cael eich bwlio yn y gwaith, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau gytuno ei bod yn rhesymol i chi adael y swydd ac os ydych chi’n aros mewn sefyllfa fel hyn, y gallai’ch iechyd meddwl waethygu.

Bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi wedi bod yn teimlo a’r effaith y mae’r swydd neu’r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith yn ei chael arnoch chi. Er enghraifft, gallai fod yn llythyr gan feddyg, cydweithiwr neu ffrind yn amlinellu effaith y gweithgarwch neu sefyllfa ar eich lefelau straen.

Perygl sylweddol o niwed i’ch iechyd

Efallai fod gennych chi reswm da dros fethu â bodloni gofyniad cysylltiedig â gwaith os oes perygl sylweddol o niwed i’ch iechyd. Er enghraifft, os oedd gennych chi swydd mewn ffatri gemegol a’ch bod wedi datblygu salwch resbiradol hirdymor.

Mae’n debyg y bydd angen i’ch Adran Gwaith a Phensiynau weld tystiolaeth, llythyr gan eich meddyg fel arfer, y byddai bodloni gofyniad cysylltiedig â gwaith yn niweidiol i chi. Mewn rhai achosion, nid oes yn rhaid iddynt weld tystiolaeth feddygol os yw'n amlwg y byddai’r swydd neu’r gweithle yn niweidiol i chi. Er enghraifft, efallai na fyddai disgwyl i chi dderbyn cynnig swydd yn rhywle llychlyd os oes gennych chi asthma.

Cyfrifoldebau gofal plant

Efallai fod gennych chi reswm da dros fethu â bodloni’r gofyniad cysylltiedig â gwaith os oes angen i chi ofalu am blentyn neu berson ifanc yn annisgwyl ac ar fyr-rybudd.

Os ydych chi’n gofalu am blentyn 5-13 oed, efallai fod gennych chi reswm da dros adael swydd neu beidio â derbyn swydd os nad yw’n addas ar gyfer oriau ysgol eich plentyn.

Os ydych chi’n gofalu am blentyn dros 13 oed neu sydd ddim mewn ysgol, bydd yn rhaid i chi ddangos bod eich cyfrifoldebau gofalu yn ei gwneud yn afresymol i chi dderbyn y swydd.

Mae enghreifftiau o achosion lle gallech chi fod â rheswm da yn cynnwys gweithio nosweithiau neu i ffwrdd o’r cartref. Mae hefyd yn cynnwys sefyllfaoedd lle mae’r plentyn angen gofal ac nad ydych chi’n gallu dod o hyd i drefniadau gofal plant amgen. Mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod wedi gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i drefniadau amgen.

Argyfwng personol

Efallai fod gennych chi reswm da dros fethu â bodloni gofyniad cysylltiedig â gwaith os ydych chi wedi profi argyfwng personol annisgwyl, er enghraifft:

  • teulu yn chwalu

  • yr angen i ofalu am berson hŷn neu rywun sy’n sâl ar fyr-rybudd

  • argyfwng yn y cartref fel llifogydd neu fyrgleriaeth

  • profedigaeth yn y teulu

  • digartrefedd

Os oes modd, ceisiwch roi tystiolaeth o hyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Er enghraifft, lluniau o ddifrod i’r cartref neu dystysgrif marwolaeth neu lythyr gan ymgymerwyr os oes profedigaeth wedi bod yn y teulu.

Trais domestig

Efallai fod gennych chi reswm da dros fethu â bodloni gofyniad cysylltiedig â gwaith os byddai cyflawni gweithgaredd cysylltiedig â gwaith wedi’ch rhoi mewn perygl o drais domestig.

Anhawster dysgu neu ddim yn gallu darllen, ysgrifennu na gwneud mathemateg yn dda

Efallai fod gennych chi reswm da dros fethu â bodloni gofyniad cysylltiedig â gwaith os oes gennych chi anhawster dysgu neu dydych chi ddim yn gallu darllen, ysgrifennu na gwneud mathemateg yn dda – bydd yn rhaid i chi ddangos nad ydych chi’n deall neu’n methu gwneud yr hyn y gofynnir i chi ei wneud.

Rhesymau cyfreithiol

Efallai fod gennych chi reswm da dros fethu a bodloni gofynion cysylltiedig â gwaith os oes rheswm cyfreithiol, e.e. methu archwiliad y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Credoau crefyddol neu gydwybodol

Efallai fod gennych chi reswm da dros fethu â bodloni gofyniad cysylltiedig â gwaith os yw’r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith yn gwrthdaro â’ch credoau crefyddol neu gydwybodol. Mae angen i chi ddarparu tystiolaeth bod eich credoau yn ddiffuant ac yn dangos sut maent yn gwrthdaro â’r math o waith a gynigiwyd i chi.

Darparu tystiolaeth o’ch rhesymau

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth pam nad oeddech chi’n gallu bodloni gofyniad cysylltiedig â gwaith. Os oes modd, dylech ddarparu tystiolaeth cyn gynted â phosibl yn ysgrifenedig a chadw copi ohono. Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o dystiolaeth ddylech chi ei darparu, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw)

Ffôn: 0800 328 9344

Ffôn testun: 0800 328 1344

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 4pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim.

Dadl 3 – Rydych chi wedi’ch cosbi am rywbeth nad oedd yn eich ymrwymiad hawliwr

Os ydych chi cael wedi’ch cosbi am beidio â gwneud rhywbeth nad oedd eich hyfforddwr gwaith wedi’i gynnwys yn eich ymrwymiad haliwr, dylech herio eu penderfyniad a dadlau nad oedd yn rhaid i chi gyflawni’r gweithgaredd hwnnw.

Dadl 4 – Roedd eich ymrwymiad hawliwr gwreiddiol yn amhriodol ar gyfer eich amgylchiadau

Dylid gwneud addasiadau i’r rhai ag anabledd corfforol neu broblem iechyd meddwl hirdymor.

Os oes gennych chi anabledd corfforol, salwch neu broblem iechyd meddwl hirdymor, dylech fod wedi addasu ymrwymiad eich hawliwr i ystyried hyn. Er enghraifft, dylai’ch hyfforddwr gwaith fod wedi siarad gyda chi ynglŷn â’r hyn y gallwch chi ei wneud o dan eich amgylchiadau. Os nad ydych chi’n teimlo bod hyn wedi digwydd, neu eich bod wedi’ch rhoi dan bwysau i gytuno i gyflawni gweithgareddau nad oedd yn realistig i chi, efallai eich bod wedi bod yn destun gwahaniaethu. Gallwch wneud cwyn neu apelio yn erbyn y gosb. Gallwch fynd i’ch Cyngor ar Bopeth lleol am gymorth gyda hyn.

Nid oedd yr ymrwymiad hawliwr yn iawn i chi o’r dechrau

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi methu â chyflawni eich gweithgaredd cysylltiedig â gwaith oherwydd nad oedd yr ymrwymiad hawliwr yn realistig neu o fewn eich cyrraedd, gallwch ddadlau hyn gyda’r Adran gwaith a Phensiynau. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i chi egluro pam eich bod wedi derbyn a llofnodi’r ymrwymiad hawliwr yn flaenorol. Gallai fod yn anodd dadlau’r pwynt hwn. Os ydych chi am gael rhywfaint o gymorth gyda hyn, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth lleol.

Gofyn am gael newid eich ymrwymiad hawliwr

Dadl 5 – Os ydych chi wedi’ch cosbi am beidio â chymryd swydd, rhoi’r gorau i weithio neu golli cyflog

Fel arfer, os ydych chi’n gwrthod cymryd swydd, yn rhoi’r gorau i weithio'n wirfoddol neu’n derbyn cyflog is, gellir eich cosbi ar lefel uwch.

Fodd bynnag, mewn rhai sefyllfaoedd ni chaiff yr Adran Gwaith a Phensiynau eich cosbi am beidio â chymryd swydd, rhoi’r gorau i weithio neu dderbyn cyflog is. Os ydych chi mewn un o’r sefyllfaoedd canlynol a’u bod yn eich cosbi, gallwch herio eu penderfyniad.

Cawsoch gynnig swydd dim ond oherwydd streic

Os cawsoch gynnig swydd dim ond oherwydd streic, ac nad oeddech chi wedi gwneud cais am y swydd neu dderbyn y cynnig swydd, ni ellir eich cosbi.

Rydych chi wëid rhoi’r gorau i weithio neu wedi colli cyflog yn wirfoddol oherwydd streic

Ni chaiff yr Adran Gwaith a Phensiynau eich cosbi os ydych chi’n rhoi’r gorau i weithio neu'n colli cyflog yn wirfoddol oherwydd streic.

Rhoi’r gorau i weithio neu golli cyflog yn ystod cyfnod prawf

Gall y Ganolfan Waith eich rhoi ar gyfnod prawf 56 diwrnod lle’r ydych yn rhoi cynnig ar waith â thâl neu'n ceisio gweithio mwy o oriau na’r arfer. Efallai eich bod wedi cytuno gyda’ch hyfforddwr gwaith i weithio nifer penodol o oriau'r wythnos yn ystod y cyfnod prawf. Os felly, a’ch bod yn gweithio mwy na’r oriau y cytunwyd arnynt dros dro, ond yna'n gostwng eich oriau yn ôl i’r lefel y cytunwyd arni, ni chaiff yr Adran Gwaith a Phensiynau eich cosbi am roi’r gorau i weithio neu golli cyflog.

Bydd eich cyfnod prawf yn dechrau ddiwrnod 29 y gwaith newydd neu oriau ychwanegol, ac yn dod i ben ar ddiwrnod 84.

Os ydych chi’n gweithio yn y lluoedd arfog neu fel milwr wrth gefn

Ni chaiff yr Adran Gwaith a Phensiynau eich cosbi am roi’r gorau i weithio neu golli cyflog yn wirfoddol yn y lluoedd arfog neu fel milwr wrth gefn.

Rydych chi wedi rhoi’r gorau i weithio neu wedi derbyn cyflog is cyn i chi hawlio’r Credyd Cynhwysol

Weithiau gallwch gael eich cosbi ar lefel uwch os ydych chi wedi gwneud un o’r canlynol cyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol.

Gellir eich cosbi os ydych chi wedi gwneud un o’r canlynol cyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol:

  • gwrthod cynnig am swydd heb reswm da

  • rhoi’r gorau i weithio am dâl yn wirfoddol heb reswm da neu oherwydd camymddwyn

  • wedi derbyn cyflog is yn wirfoddol heb reswm da

Fodd bynnag, gallwch ond cael eich cosbi yn yr achosion hyn pe bai hyd y gosb yn hirach na’r cyfnod rhwng y diwrnod ar ôl y diwrnod y gwnaethoch chi’r pethau hyn a dyddiad eich cais am y Credyd Cynhwysol.

Fel arfer mae cosbau lefel uwch yn para 91 diwrnod (14 diwrnod os ydych chi o dan 18 oed).

Nid oes diffiniad pendant o’r term ‘rheswm da’, ond mae’n rhaid i’r Adran Gwaith a Phensiynau ystyried yr hyn yr oedd yn rhesymol i chi ei wneud o dan eich amgylchiadau. Er enghraifft, gallai cael eich bwlio yn y gwaith fod yn rheswm da am roi’r gorau i’ch swydd.

Enghraifft

Ar 4 Mehefin mi wnaethoch chi roi’r gorau i’ch swydd yn wirfoddol am nad oeddech chi’n ei mwynhau mwyach. Buoch yn chwilio am swydd newydd am 4 wythnos, ond heb lwyddiant. Felly, ar 6 Gorffennaf fe wnaethoch gais am Gredyd Cynhwysol. Roedd 31 diwrnod rhwng y diwrnod wedi'r diwrnod i chi roi’r gorau i’ch swydd a dyddiad eich cais. Gan fod 31 diwrnod yn llai na hyd cyffredin cosb lefel uwch (91 diwrnod), gallai’r Adran Gwaith a Phensiynau eich cosbi am roi’r gorau i’ch swydd yn wirfoddol.

Fodd bynnag, pe baech chi wedi treulio 12 wythnos yn ceisio dod o hyd i swydd newydd ac wedi hawlio Credyd Cynhwysol ar 6 Medi, byddai nifer y diwrnodau rhwng y diwrnod ar ôl y diwrnod i chi roi’r gorau i’ch swydd a dyddiad eich cais yn 93 diwrnod. Gan fod hynny’n fwy na hyd cyffredin cosb lefel uwch, ni allai’r Adran gwaith a Phensiynau eich cosbi am roi’r gorau i’ch swydd yn wirfoddol.

Os daethoch chi oddi ar y Credyd Cynhwysol a dechrau ei dderbyn eto o fewn 6 mis

Os dechreuoch chi gael y Credyd Cynhwysol eto o fewn 6 mis i’ch taliad diwethaf, ni all yr Adran Gwaith a Phensiynau roi cosb i chi am gamymddwyn a ddigwyddodd cyn i chi ddechrau derbyn y Credyd Cynhwysol eto.

Os ydych chi wedi cael eich diswyddo, yn cael eich atal rhag gweithio neu wedi cael gwybod bod yn rhaid i chi weithio llai o oriau

Ni chaiff yr Adran Gwaith a Phensiynau roi cosb lefel uwch i chi am roi’r gorau i weithio’n wirfoddol os ydych chi yn unrhyw un o’r sefyllfaoedd canlynol:

  • rydych chi wedi derbyn trefniant dileu swydd yn wirfoddol

  • mae’ch cyflogwr wedi dweud wrthych chi am gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith yn ddi-dâl gan nad oes ganddynt ddigon o waith i chi ar hyn o bryd

  • mae’ch cyflogwr wedi dweud wrthych chi bod yn rhaid i chi weithio llai o oriau am gyfnod byr gan nad oes digon o waith. 'Gweithio amser byr’ yw hyn.

Os ydych chi yn un o’r sefyllfaoedd hyn mae’r rheolau’n gymhleth, felly cofiwch gael cyngor gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf cyn herio cosb ar y seiliau hyn.

Os yw’ch enillion yn aros yn uwch na lefel benodol

Ni chaiff yr Adran Gwaith a Phensiynau roi cosb i chi os ydych chi’n bodloni’r holl amodau hyn:

  • rydych chi wedi rhoi’r gorau i weithio neu wedi colli cyflog (hyd yn oed os oedd hyn oherwydd camymddwyn neu’n wirfoddol heb reswm da)

  • mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu bod eich enillion (neu eich enillion ar y cyd os ydych chi’n gwpl) mor uchel o hyd fel nad oes rhaid i chi fodloni’r gofyniad chwilio am waith neu’r gofyniad i fod ar gael i weithio

Dadl 6 – Os ydych chi yn y ‘grŵp yr holl ofynion cysylltiedig â gwaith’ ac wedi wynebu amgylchiadau penodol sy’n golygu na ddylech chi fod wedi’ch cosbi

Os ydych chi yn y grŵp holl ofynion cysylltiedig â gwaith, ni ddylech gael eich cosbi am beidio â gwneud rhywbeth yn eich gofyniad chwilio am waith a gofyniad i fod ar gael i weithio os ydych chi:

  • wedi gorfod mynd i’r llys fel tyst neu ddiffynnydd

  • wedi cael eich anfon i’r carchar

  • wedi bod i ffwrdd o Brydain dros dro

  • wedi dioddef profedigaeth neu’n gorfod trefnu angladd

  • yn cael triniaeth alcohol neu gyffuriau

  • yn cael eich amddiffyn gan yr heddlu neu sefydliad arall

  • yn gwneud dyletswydd gyhoeddus a gymeradwyir gan y llywodraeth, er enghraifft rydych chi’n ddiffoddwr tân gwirfoddol

  • ddim yn ffit i weithio am gyfnod byr yn sgil salwch neu anaf

  • angen amser i baratoi ar gyfer gwaith

  • gyda chyfrifoldebau gofal plant

  • yn delio ag argyfwng yn y cartref

  • yn gweithio a bod eich enillion yn ddigon uchel

  • yn dioddef trais domestig

  • gyda phlentyn sydd wedi’i effeithio gan farwolaeth neu drais

Os yw’r rhain yn gymwys i chi a’ch bod wedi cosbi am beidio â gwneud rhywbeth yn eich gofyniad chwilio am waith neu fod ar gael i weithio, gallech ofyn am gael newid y penderfyniad i’ch cosbi.

Camau nesaf

Gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried eu penderfyniad i'ch cosbi os ydych chi’n meddwl na ddylent fod wedi’ch cosbi. ‘Ailystyried gorfodol’ yw’r enw ar hyn. Os ydych chi am gael rhywfaint o gymorth gyda hyn, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf. Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwrthod newid eu penderfyniad, gallwch apelio.

Os ydych chi’n cytuno y dylech fod wedi’ch cosbi, dylech edrych i weld a ydych chi wedi'ch cosbi am y cyfnod cywir, ac wedi'ch cosbi ar y lefel gywir.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2018