Gwiriwch a allwch chi gael credydau treth plant

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli credydau treth i’r rhan fwyaf o bobl.

Os ydych eisoes yn cael Credydau Treth Gwaith, gallwch ychwanegu Credydau Treth Plant at eich cais o hyd.

Os gwnaethoch gais am Gredydau Treth Plant yn y flwyddyn dreth ddiwethaf, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais newydd. Dylech siarad â chynghorydd i weld a allwch chi wneud hynny.

Os cawsoch bremiwm anabledd difrifol (SDP)

Ni allwch wneud cais newydd am gredydau treth ond gallwch hawlio Credyd Cynhwysol yn lle hynny. Gallwch hawlio Credyd Cynhwysol hyd yn oed os oeddech yn cael, neu wedi rhoi’r gorau i gael, budd-dal gyda phremiwm anabledd difrifol (SDP).

Efallai y cewch swm ychwanegol yn eich Credyd Cynhwysol – gelwir hyn yn ‘elfen drosiannol’.

Byddwch yn cael y swm ychwanegol os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn mis ar ôl i chi roi’r gorau i gael y budd-dal gyda’r premiwm anabledd difrifol.

Ni allwch gael y swm ychwanegol os:

  • dim ond gyda Budd-dal Tai yr oeddent yn cael y premiwm anabledd difrifol

  • symudoch i mewn gyda phartner sy’n hawlio Credyd Cynhwysol

Cyn 27 Ionawr 2021, ni allech hawlio Credyd Cynhwysol os oeddech yn cael, neu wedi rhoi’r gorau i gael, budd-dal gyda phremiwm anabledd difrifol yn ddiweddar.

Os gwnaethoch gais am Gredyd Cynhwysol cyn 27 Ionawr 2021, siaradwch â chynghorydd i wirio beth mae gennych hawl iddo.

Os dywedwyd wrthych am hawlio Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn atal budd-daliadau rhai pobl ac yn dweud wrthynt am hawlio Credyd Cynhwysol yn lle hynny.

Os cewch lythyr yn dweud wrthych am hawlio Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad cau penodol, mae hwn yn ‘hysbysiad mudo’. Dylech hawlio Credyd Cynhwysol erbyn y dyddiad cau yn yr hysbysiad mudo. Bydd eich hen fudd-daliadau yn dod i ben ar ôl y dyddiad cau.

Efallai y byddwch yn colli rhywfaint o arian os gwnewch gais ar ôl y dyddiad cau.

Gwiriwch beth ddylech chi ei wneud os cewch chi hysbysiad mudo.

Os ydych wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni allwch wneud cais newydd am gredydau treth plant. Dylech wirio a allwch gael Credyd Pensiwn. Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, byddwch yn cael taliad ychwanegol am bob plentyn yr ydych yn gyfrifol amdano. 

Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Fel arfer gallwch gael Credydau Treth Plant ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc yr ydych yn gyfrifol amdano tan 31 Awst ar ôl iddynt droi’n 16.

Mae faint o arian a gewch yn dibynnu ar:

  • faint o blant sydd gennych

  • pryd cafwyd eu geni

  • a ydych eisoes yn cael credydau treth plant

Bydd angen i’r plentyn yr ydych yn gyfrifol amdano fod naill ai o dan 16 oed neu rhwng 16 ac 20 ac mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy llawn amser.

Ystyrir bod person ifanc 16 oed nad yw mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy yn berson ifanc tan 31 Awst ar ôl iddo droi’n 16 oni bai:

  • eu bod yn gweithio 24 awr neu fwy'r wythnos

  • bod ganddynt hawl i Gredyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

Gallwch gael swm ychwanegol o gredydau treth ar gyfer eich plentyn os yw'n anabl - does dim ots pryd y cafodd ei eni.

Os yw'ch plentyn yn 16 oed neu'n hŷn

Gallwch hawlio ar gyfer plentyn nes ei fod yn 20 oed os yw mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy ac nad yw’n:

  • cael budd-daliadau eu hunain, er enghraifft Credyd Cynhwysol

  • priod, mewn partneriaeth sifil neu'n byw gyda'u partner

  • gweithio mewn swydd gyflogedig am 24 awr neu fwy'r wythnos ac wedi gadael addysg

Os bydd eich plentyn yn gadael addysg cyn ei fod yn 18 oed ac yn cofrestru gyda gwasanaeth gyrfaoedd neu’n ymuno â’r Lluoedd Arfog, gallwch gael credydau treth am 20 wythnos os yw'n:

  • 16 neu 17 oed

  • gweithio llai na 24 awr yr wythnos

  • ddim yn cael budd-daliadau eu hunain, er enghraifft Cymhorthdal Incwm

Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM os ydych yn cael credydau treth a bod unrhyw rai o’r pethau hyn yn newid – efallai y cewch ormod o dâl os na fyddwch.

Os ydych yn cael budd-daliadau eraill

Gall credydau treth gael sgil-effaith ar fudd-daliadau eraill y byddwch yn eu hawlio. Mae hyn yn golygu y gallai hawlio credydau treth eich gwneud yn waeth eich byd hynny yw ar eich colled.

Os ydych yn 18 oed neu’n hŷn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2us i weld a yw’n werth hawlio credydau treth. Bydd angen i chi nodi manylion y budd-daliadau eraill rydych yn eu hawlio.

Os byddai'n well gennych siarad â rhywun yn bersonol, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol. Gall cynghorydd eich helpu i gyfrifo a fyddai hawlio credydau treth yn eich gwneud yn well eich byd.

Os ydych yn cael help gyda chostau gofal plant

Ni allwch chi gael gofal plant di-dreth ar yr un pryd â chredydau treth plant. 

Os ydych yn defnyddio'r cynllun talebau gofal plant, gallwch gael credydau treth plant i dalu costau gofal plant nad yw eich talebau yn eu talu.

Gallwch wirio pa help y gallwch ei gael gyda chostau gofal plant ar GOV.UK.

Os nad ydych yn ddinesydd y DU

Dim ond os yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus y gallwch gael Credydau Treth plant. Mewn rhai sefyllfaoedd mae angen ‘hawl i breswylio’ arnoch hefyd.

Gallwch hawlio arian cyhoeddus os oes gennych unrhyw un o’r canlynol:

  • Dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig

  • statws cyn-sefydlog neu sefydlog o Gynllun Setliad yr UE - neu os ydych wedi gwneud cais i'r cynllun a'ch bod yn aros am benderfyniad

  • absenoldeb amhenodol – oni bai eich bod wedi dod i’r DU ar fisa perthynas sy’n oedolyn dibynnol

  • statws ffoadur neu warchodaeth ddyngarol

  • hawl i breswylio

Os oes gennych statws cyn-sefydlog o Gynllun Setliad yr UE, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio er mwyn cael Credydau Treth Plant. Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio. 

Os ydych wedi gwneud cais i Gynllun Setliad yr UE a’ch bod yn aros am benderfyniad, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio i gael Credydau Treth Plant. Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio. 

Os oes gennych unrhyw statws mewnfudo arall, gwiriwch a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus.

Gweithiwch allan faint o blant y gallwch hawlio credydau treth ar eu cyfer

Os cafodd eich plant i gyd eu geni cyn 6 Ebrill 2017, gallwch hawlio credydau treth plant ar gyfer pob plentyn.

Os ganed eich plentyn cyntaf neu ail blentyn ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, gallwch hawlio credydau treth plant ar eu cyfer.

Os cafodd eich trydydd plentyn neu unrhyw blentyn diweddarach ei eni ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, fel arfer ni allwch gael credydau treth plant ar eu cyfer. Dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EM amdanynt o hyd. Os ydynt yn anabl, efallai y byddwch yn dal i gael taliad os yw un o'r rhain yn berthnasol:

  • maent yn cael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)

  • maent yn cael Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)

  • maent wedi'u hardystio'n ddall

Mae rhai eithriadau - efallai y byddwch yn dal i gael taliad ar gyfer 3 neu fwy o blant os:

  • mae gennych enedigaeth luosog - os oes gennych blant eraill a anwyd cyn 6 Ebrill 2017 ni fyddwch yn cael taliad am y plentyn cyntaf mewn genedigaeth luosog

  • rydych wedi mabwysiadu plentyn o’r DU (oni bai mai chi oedd llys-riant y plentyn cyn ei fabwysiadu)

  • rydych yn gofalu am blentyn rhywun arall mewn trefniant gofal ffurfiol

  • rydych yn gofalu am blentyn rhywun arall mewn trefniant anffurfiol lle byddai fel arall mewn gofal

  • os oes gennych blentyn o feichiogrwydd a oedd yn deillio o dreisio neu berthynas reoli - darganfyddwch sut i roi gwybod am hyn a chael help os oes ei angen arnoch

  • rydych chi’n gyfrifol am blentyn o dan 16 oed sydd â’i blentyn ei hun ac mae’r ddau yn byw gyda chi

Gwiriwch yr eithriadau a sut i wneud cais amdanynt ar GOV.UK.

Enghraifft

Mae gan Philip 3 o blant a gafodd eu geni i gyd cyn 6 Ebrill 2017. Mae'n cael credydau treth plant ar gyfer pob un ohonynt. Bydd yn dal i gael yr un faint oherwydd iddynt gael eu geni cyn 6 Ebrill 2017.

Enghraifft

Mae gan Yasmin 2 o blant a gafodd eu geni cyn 6 Ebrill 2017 ac mae hi’n cael credydau treth plant ar gyfer y ddau ohonyn nhw. Mae'n disgwyl babi arall, a ddisgwylir ar ôl 6 Ebrill 2017. Ni fydd yn cael credydau treth plant ar gyfer ei babi oherwydd dyma'i thrydydd plentyn.

Enghraifft

Mae Jane yn cael credydau treth ar gyfer 1 plentyn a aned cyn 6 Ebrill 2017. Mae’n disgwyl efeilliaid ar ôl 6 Ebrill 2017. Bydd yn cael credydau treth plant ar gyfer y ddau ohonynt pan fyddant yn cael eu geni.

Pwy sy'n cael ei gyfrif fel un sy'n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc

Rydych chi'n gyfrifol am blentyn os ydynt yn naill ai:

  • byw gyda chi drwy'r amser

  • byw gyda chi a chi yw eu prif ofalwr

Os ydych yn rhannu cyfrifoldeb am blentyn, er enghraifft os ydych chi a’ch partner wedi gwahanu, dim ond un ohonoch all hawlio credydau treth ar gyfer y plentyn. Dylai hwn fod y person sy’n bennaf gyfrifol am y plentyn.

Os bydd un rhiant yn gwario mwy ar ofal plant, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu mai nhw sy’n bennaf gyfrifol. Dylai'r person sy'n gofalu am y plentyn y rhan fwyaf o'r amser hawlio.

Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth lleol os na allwch chi benderfynu pwy ddylai hawlio credydau treth – gall cynghorydd eich helpu i benderfynu.

Os ydych yn ofalwr maeth

Ni allwch hawlio credydau treth plant ar gyfer plentyn maeth os ydych yn cael lwfans maethu, neu os telir am gynhaliaeth neu lety’r plentyn gan rywun heblaw chi eich hun.

Os nad ydych yn siŵr, ffoniwch y llinell gymorth credydau treth i wirio.

Llinell gymorth credydau treth Cyllid a Thollau EM (HMRC).

Ffôn: 0345 300 3900

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0345 300 3900

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Os ydych chi'n ffonio y tu allan i'r DU: +44 2890 538 192

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Ffôn (Cymraeg): 0300 200 1900

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm

Mae'n debygol y bydd eich galwad yn rhad ac am ddim os oes gennych chi becyn ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - darganfyddwch fwy am ffonio rhifau 0345.

Gwirio eich bod o dan y terfyn incwm

Nid oes angen i chi fod yn gweithio i hawlio credydau treth plant, ond os ydych chi mae angen i chi ennill llai na swm penodol.

Mae'r swm y gallwch ei ennill yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae Cyllid a Thollau EM yn edrych ar bethau fel:

  • nifer yr oriau rydych chi'n eu gweithio

  • faint o blant sydd gennych

  • os ydych yn rhiant sengl

Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2us i wirio a allwch gael credydau treth plant.

Os ydych chi'n gwpl

Os ydych mewn cwpl, bydd angen i chi wneud cais ar y cyd gyda’ch partner. Rydych chi’n cael eich cyfrif fel cwpl os ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil, neu os ydych chi’n byw gyda’ch gilydd.

Os ydych chi wedi gwahanu dros dro, ond yn dal yn briod yn gyfreithiol, bydd angen i chi wneud cais ar y cyd. Mae Cyllid a Thollau EM yn eich trin fel cwpl oni bai eich bod naill ai:

  • wedi ysgaru

  • wedi gwahanu'n gyfreithiol o dan orchymyn llys

  • wedi gwahanu'n barhaol - hy nid ydych yn bwriadu dod yn ôl at eich gilydd

Gwiriwch a allwch chi gael budd-daliadau eraill

Os gallwch gael credydau treth plant mae'n bosibl y gallwch gael budd-daliadau eraill hefyd. Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2us i weld pa fudd-daliadau y gallwch eu cael.

Camau nesaf

Credydau treth plant - faint y gallwch ei gael

Sut i hawlio credydau treth gwaith a phlant

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.