Help gyda chostau byw

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno, efallai y gallwch chi gael cymorth i dalu am bethau hanfodol fel biliau a bwyd. Mae hyn yn cynnwys Cronfa Gymorth i Aelwydydd a thaliadau costau byw.

Dylech wirio i weld a allwch chi hawlio budd-daliadau - efallai y byddwch chi’n gallu gwneud hyn hyd yn oed os ydych chi'n gweithio, os oes gennych chi gynilion neu’n berchen ar gartref.

Os oes arnoch chi arian a’ch bod yn cael trafferth talu

Dylech siarad â'r sefydliadau y mae arnoch chi arian iddynt - efallai y byddan nhw’n caniatáu i chi dalu symiau llai neu cynnig y gynllun seibiant dyledion.

Peidiwch ag anwybyddu biliau na llythyrau am arian sy'n ddyledus gennych.

Gallwch ddarganfod sut i ddechrau delio â'ch dyledion

Gwirio pa fudd-daliadau allwch chi eu cael

Efallai y gallwch chi hawlio budd-daliadau neu gynyddu eich budd-daliadau presennol os ydych chi:

  • o oedran gweithio ac ar incwm isel

  • yn sâl neu’n anabl

  • o oedran Pensiwn Gwladol ac ar incwm isel

  • yn ofalwr

  • yn gyfrifol am blant

Mae llawer o bobl yn colli allan ar fudd-daliadau y mae ganddyn nhw'r hawl iddyn nhw - felly mae'n werth gwirio beth allwch chi ei gael.

Gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch chi eu cael. 

Cael eich taliad budd-dal cyntaf yn gynnar

Pan fyddwch chi’n gwneud cais am fudd-daliadau, fel arfer gallwch ofyn am gael eich taliad cyntaf yn gynnar wrth i chi aros naill ai am:

  • benderfyniad ar eich cais, neu

  • eich taliad cyntaf

Y term am hwn yw 'budd-dal ymlaen llaw yn y tymor byr'. Bydd modd i chi dderbyn eich budd-dal yn gynnar ar gyfer y rhan fwyaf o fudd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol. Allwch chi ddim cael taliad ymlaen llaw ar gyfer:

  • Budd-dal Tai

  • Lwfans Gweini

  • Lwfans Byw i'r Anabl 

  • Taliad Annibyniaeth Personol 

  • Budd-dal Plant

  • Lwfans Gwarcheidwad

  • Credydau Treth Gwaith neu Blant

Bydd angen i chi dalu'r taliad a gewch chi ymlaen llaw yn ôl. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn tynnu swm oddi ar eich taliadau yn y dyfodol nes eich bod wedi ei ad-dalu. Ar gyfer Credyd Cynhwysol, gallwch ledaenu'r ad-daliadau dros 24 mis. Ar gyfer budd-daliadau eraill, byddwch fel arfer yn ad-dalu eich taliad ymlaen llaw dros 12 wythnos.

Os ydych chi wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, gallwch wirio sut i gael taliad ymlaen llaw ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi wedi gwneud cais am fudd-dal gwahanol, cysylltwch â'r swyddfa fudd-daliadau sy'n delio â'ch cais. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar unrhyw lythyr neu e-bost yr ydych chi wedi ei gael ganddyn nhw.

Gwiriwch i weld os cewch Taliad Costau Byw

Bydd y llywodraeth yn anfon 'Taliad Costau Byw' atoch os ydych chi’n:

  • cael budd-daliadau penodol - er enghraifft, Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn, Taliad Annibyniaeth Bersonol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Gweini

  • dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn cael Taliadau Tanwydd Gaeaf

Gallwch gael cymaint o Daliadau Costau Byw ag y byddwch yn gymwys i'w cael. Er enghraifft, os ydych chi’n cael Credyd Pensiwn, Lwfans Gweini a Thaliadau Tanwydd Gaeaf, fe gewch chi 3 o Daliadau Costau Byw. Fydd dim rhaid i chi dalu treth arnyn nhw a fyddan nhw ddim yn cyfrif fel incwm wrth gyfrifo eich budd-daliadau.

Os nad ydych yn hawlio budd-daliadau eto, dylech wirio a allwch hawlio budd-daliadau.  Mae'n werth dechrau cais cyn gynted â phosibl os ydych yn gymwys - mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn gallu cael Taliadau Costau Byw yn y dyfodol.

Os ydych chi’n cael budd-daliadau yn seiliedig ar eich incwm

Os ydych yn gymwys, bydd y llywodraeth yn anfon:

  • taliad o £300 yn hydref 2023

  • taliad o £299 yn ystod gwanwyn 2024

I gael y taliadau hyn, bydd angen i chi fod yn gymwys ar gyfer rhai budd-daliadau. Byddwn yn diweddaru ein cyngor pan fydd y llywodraeth wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am bwy sy’n gymwys.

Mae'r llywodraeth eisoes wedi rhoi 3 Thaliad Costau Byw i bobl sy'n cael budd-daliadau penodol. Anfonodd y llywodraeth y taliad olaf rhwng 25 Ebrill a 17 Mai 2023 - taliad o £301 oedd hwn.

Os na chawsoch y Taliad Costau Byw diweddaraf

Dylech fod wedi cael y taliad hwn os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Cynhwysol

  • Credyd Pensiwn

  • Credyd Treth Gwaith

  • Credyd Treth Plant

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm

  • Cymhorthdal Incwm

Dim ond un taliad o £301 fydd gennych chi – hyd yn oed os ydych chi’n cael mwy nag 1 o’r budd-daliadau hyn.

I gael y taliad diweddarad rhaid bod gennych naill ai hawl i:

  • taliad budd-dal rhwng 26 Ionawr a 25 Chwefror 2023

  • wedi dechrau cais llwyddiannus am fudd-dal erbyn 25 Chwefror 2023 - neu erbyn 26 Ionawr 2023 os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os ydych chi’n aros am benderfyniad ar eich cais am fudd-daliadau, ni fyddwch yn cael y Taliad Costau Byw nes bydd eich cais yn llwyddiannus.

Os caiff eich budd-daliadau eu talu i rywun arall, fel eich landlord,  dylech fod wedi cael y Taliad Costau Byw o hyd.

Os credwch y dylech fod wedi derbyn taliad costau byw, gallwch roi gwybod am daliad coll ar GOV.UK. 

Os ydych chi’n cael budd-dal anabledd

Rhoddodd y llywodraeth Daliad Costau Byw o £150 i bobl a gadodd fudd-daliadau anabledd rhwng 20 Mehefin a 4 Gorffennaf 2023.

Byddech wedi bod yn gymwys ar gyfer y taliad untro hwn os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Byw i'r Anabl

  • Taliad Annibyniaeth Personol

  • Lwfans Gweini

  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog

  • Lwfans Gweini Cyson

  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

I gael y taliad hwn rhaid eich bod:

  • wedi bod yn cael un o’r budd-daliadau hyn ar 1 Ebrill 2023

  • gwneud cais am un o’r budd-daliadau hyn erbyn 1 Ebrill 2023 - ni fyddwch yn cael y taliad nes bod eich cais yn llwyddiannus

Os nad ydych wedi derbyn Taliad Costau Byw blaenorol

Os credwch y dylech fod wedi derbyn Taliad Costau Byw, gallwch roi gwybod am daliad coll ar GOV.UK.

Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn cael Taliadau Tanwydd Gaeaf

Gallwch naill ai gael Taliad Costau Byw o £300 neu £150, yn dibynnu ar eich sefyllfa. Fe gewch chi hyn ar yr un pryd â'ch Taliad Tanwydd Gaeaf arferol o Dachwedd 2023.

Fe gewch chi Daliad Costau Byw o £300 os ydych chi'n byw:

  • ar eich pen eich hun

  • gyda phobl sydd ddim yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf

Os ydych chi'n byw gyda rhywun arall sy'n gymwys ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf, mae'r swm y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar os yw un  ohonoch yn cael unrhyw un o'r canlynol:

  • Credyd Pensiwn

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm

  • Lwfans Ceiswyr Gwaith yn seiliedig ar Incwm

Os ydych chi neu'r person rydych chi'n byw gyda nhw yn cael un o'r budd-daliadau yma, bydd y ddau ohonoch yn cael £300 - cyn belled nad ydych chi'n bartneriaid. Os ydych chi'n bartneriaid, dim ond un taliad o £300 gewch chi.

Os nad yw'r un ohonoch chi'n cael un o'r budd-daliadau yma, bydd y ddau ohonoch yn cael £150.

Os ydych chi’n byw mewn cartref gofal preswyl ac yn gymwys am y Taliad Tanwydd Gaeaf, fe gewch chi £150 oni bai eich bod yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau yma.

Gwiriwch a oes angen i chi wneud cais am Daliadau Tanwydd Gaeaf

Fel arfer mae gennych hawl i Daliadau Tanwydd Gaeaf os ydych chi o oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn nhrydedd wythnos mis Medi. Oedran Pensiwn Gwladol yw 66 oed.

Dylech ddechrau cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig unwaith y byddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Efallai y bydd angen i chi wneud cais os ydych chi yn un o'r sefyllfaoedd yma:

  • ddim yn cael Pensiwn y Wladwriaeth

  • ddim yn cael budd-dal arall

  • os ydych chi'n byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein

Mae gwybodaeth am sut i wneud cais am y Taliad Tanwydd Gaeaf ar GOV.UK.

Help gyda'ch biliau ynni

Ar ôl 1 Gorffennaf 2023 ni fydd y Warant Pris Ynni yn berthnasol i’r rhan fwyaf o dariffau. Mae hyn oherwydd y bydd y ‘Cap Pris Ynni’ yn rhatach.

Gwiriwch sut y gallai eich biliau newid ar ôl 1 Gorffennaf 2023.

Os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau ynni neu ychwanegu at eich mesurydd rhagdalu, efallai y gallwch chi gael help – er enghraifft taleb tanwydd neu grant gan eich cyflenwr ynni.

Gwiriwch a allwch chi gael help i dalu eich biliau ynni.

Os nad ydych yn defnyddio trydan neu nwy

Efallai y gallwch gael help gyda'ch costau tanwydd gan y Gronfa Cymorth Ddewisol. Mae hyn yn cynnwys:

  • taliad unwaith ac am byth o hyd at £250 tuag at danc o olew

  • hyd at 3 thaliad o £70 am nwy petrolewm hylifedig (LPG) - telir hwn dros 12 mis

Os ydych am wneud cais am help gyda’ch costau tanwydd, bydd angen i chi siarad â chynghorydd. Gallwch hefyd wneud cais trwy eich gweithiwr cymdeithasol neu swyddog tai.

Gwiriwch sut i wneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon

Os yw eich cartref yn ynni-effeithlon, byddwch yn talu llai i wresogi eich cartref a bydd yn aros yn gynnes am gyfnod hwy.

Mae’n syniad da ymchwilio i wneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae hyn oherwydd ei fod yn gallu cymryd rhai misoedd i roi trefn ar bethau - er enghraifft, i ddod o hyd i rywun sy'n gallu gwneud y gwaith.

Efallai y gallwch wneud cais am help gyda chost:

  • boeler newydd

  • trwsio boeleri

  • inswleiddio atig neu wal geudod

  • pwmp gwres

Gwiriwch a allwch chi gael help gyda chost effeithlonrwydd ynni. 

Cael cymorth gyda chostau hanfodol

Efallai bydd eich cyngor lleol yn eich helpu i dalu am bethau fel:

  • eich biliau ynni a dŵr

  • bwyd

  • eitemau hanfodol - er enghraifft, dillad neu bopty

Cyfeirir at y cymorth yma fel 'cymorth lles' neu'r 'Gronfa Cymorth i Aelwydydd'. Mae gan bob cyngor ei gynllun ei hun. Bydd angen i chi wirio os gallwch chi gael cymorth a pha fath o gymorth y gallwch ei gael.

Gofynnwch i'ch cyngor lleol os oes ganddyn nhw gynllun Cymorth Lles neu Gronfa Cymorth i Aelwydydd. Mae gwybodaeth am sut i gysylltu â'ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Does dim rhaid i chi fod yn cael budd-daliadau i gael cymorth gan eich cyngor lleol. Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau, fyddan nhw ddim yn cael eu heffeithio os byddwch chi’n dechrau cael arian o gynllun Cymorth Lles neu Gronfa Cymorth i Aelwydydd.

Cael help gan y Gronfa Cymorth Ddewisol

Efallai y byddwch chi’n gallu cael cymorth gan gronfa galedi a elwir yn 'Gronfa Cymorth Dewisol'. Does dim angen i chi dalu’r arian yma yn ôl.

Does dim angen i chi fod yn derbyn budd-daliadau i gael mynediad i'r Gronfa Cymorth Dewisol, ond bydd angen i chi ddangos eich bod mewn angen ariannol brys – ac os na chewch chi gymorth y bydd yn cael effaith ddifrifol arnoch chi neu eich teulu.

Gallwch ddefnyddio’r arian yma i dalu am gostau brys neu i ddelio ag argyfwng, gan gynnwys:

  • costau byw - er enghraifft, bwyd, dillad neu nwy a thrydan

  • eitemau ar gyfer y cartref, er enghraifft popty neu oergell

  • addasiadau i’ch cartref fel y gallwch chi neu berthynas barhau i fyw yno

Gallwch wirio sut i wneud cais am y Gronfa Cymorth Dewisol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae yna hefyd bethau eraill y gallwch chi eu gwneud os ydych chi'n cael trafferth prynu hanfodion fel rhent neu fwyd.

Help i dalu am rent, treth y cyngor a biliau eraill

Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud os ydych chi'n cael trafferth talu eich rhent a'ch biliau.

Gallwch wirio pa gefnogaeth a chymorth y gallwch ei gael gyda'ch rhent a'ch biliau.

Help i dalu am fwyd

Os ydych chi'n cael trafferth talu am fwyd, efallai y gallwch chi gael atgyfeiriad at fanc bwyd.

Gwybodaeth am sut i gael help gan fanc bwyd.  

Os oes gennych chi blentyn neu os ydych chi'n feichiog

Efallai y byddwch chi'n gallu cael taleb Cychwyn Iach i'ch helpu i brynu rhai mathau o laeth, fformiwla babanod, ffrwythau a llysiau.

I gael taleb Cychwyn Iach mae'n rhaid i chi fod yn feichiog ers 10 wythnos o leiaf neu fod â phlentyn o dan 4 oed. Mae'n rhaid i chi hefyd fod yn cael naill ai:

  • Credyd Cynhwysol - ond dim ond os yw eich aelwyd yn ennill £408 y mis neu lai

  • Cymhorthdal Incwm

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm - ond dim ond os ydych chi'n feichiog

  • Credyd Pensiwn

  • Credyd Treth Plant - ond dim ond os yw eich aelwyd yn ennill £16,190 y flwyddyn neu lai

Os ydych chi’n cael Credyd Treth Plant, allwch chi ddim cael y daleb os ydych chi’n cael Credyd Treth Gwaith hefyd - oni bai eich bod chi’n cael y taliad parhau ( run-on). Credyd Treth Gwaith parhau yw’r taliad rydych chi’n ei gael am bedair wythnos ar ôl i chi beidio bod yn gymwys mwyach i gael Credyd Treth Gwaith.

Gyda'r daleb Cychwyn Iach fe gewch chi:

  • £4.25 yr wythnos o wythnos 10 eich beichiogrwydd

  • £8.50 yr wythnos i blant o’u geni i flwydd oed

  • £4.25 yr wythnos i blant rhwng 1 a 4 oed

  • fitaminau am ddim 

Gallwch wneud cais am gynllun Cychwyn Iach ar wefan y GIG.

Help gyda chostau iechyd

Os ydych chi wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, gallwch gael presgripsiwn am ddim gan fferyllwyr yng Nghymru. 

Os ydych chi'n byw yng Nghymru a'ch bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr, mae’n dal yn bosibl i chi gael presgripsiwn am ddim - ond bydd angen cerdyn hawlio arnoch. Os nad ydych chi’n dangos eich cerdyn hawlio yn y fferyllfa, efallai y codir tâl arnoch. 

Os ydych chi wedi gorfod talu am bresgripsiwn, gallwch gael ad-daliad os wnewch chi gysylltu â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Os oes gennych chi gyflyrau penodol, gallwch gael presgripsiynau am ddim unrhyw le yn y DU gan ddefnyddio tystysgrif eithrio feddygol. Gwiriwch i weld a allwch chi gael tystysgrif eithrio feddygol ar wefan llywodraeth Cymru.

Help gyda chostau iechyd eraill

Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu cael triniaeth ddeintyddol am ddim, profion llygaid a help gyda chostau eraill y GIG.

Gwiriwch i weld a allwch gael cymorth gyda chostau iechyd ar wefan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Help gyda'ch ynni a dŵr os ydych chi'n anabl

Os ydych yn anabl, efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol gyda'ch ynni a'ch dŵr. Gallwch wirio sut i gael cyngor rhad ac am ddim ar filiau ynni a dŵr ar wefan Scope.

Help os oes gennych blant neu os ydych chi’n feichiog

Efallai y byddwch yn gallu cael help os:

  • mae eich plentyn yn yr ysgol

  • mae eich plentyn mewn gofal plant

  • Rydych yn feichiog neu wedi cael babi yn ddiweddar

Os yw eich plentyn yn yr ysgol

Os ydych chi ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau penodol, efallai y gallwch chi gael cymorth gyda chostau anfon eich plant i'r ysgol.

Er enghraifft, fe allech chi gael:

  • prydau ysgol am ddim

  • cludiant am ddim i'r ysgol

  • grant i helpu i brynu dillad neu wisg ysgol

  • help gyda thripiau ysgol

Rhagor o wybodaeth am gael help gyda chostau ysgol.  

Os yw'ch plentyn mewn gofal plant 

Os ydych chi ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau penodol, efallai y gallwch chi gael cymorth gyda chostau gofal plant. Er enghraifft:

  • Os ydych chi'n gweithio ac yn hawlio Credyd Cynhwysol, mae'n bosibl y byddwch yn gallu hawlio hyd at 85% o'ch costau gofal plant – gallech chi gael hyd at £950.92 y mis ar gyfer 1 plentyn o dan 17 oed neu £1,630.15 ar gyfer 2 neu fwy o blant

  • Os oes gennych chi blentyn 2 oed, gallech chi hawlio hyd at 15 awr o ofal plant am ddim yr wythnos

Os ydych chi'n gweithio, gallech chi hawlio Gofal Plant Di-dreth. Cynllun gan y llywodraeth yw hwn sy'n helpu rhieni gyda chostau gofal plant fel clybiau gwyliau, gwarchodwyr plant a meithrinfeydd. Gallech gael hyd at:

  • £2,000 y flwyddyn i bob plentyn dan 12

  • £4,000 y flwyddyn i bob plentyn anabl dan 17

Fyddwch chi ddim yn gallu cael Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith, Credyd Cynhwysol neu dalebau gofal plant os ydych chi’n cael Gofal Plant Di-dreth. Gweithiwch allan pa opsiwn sydd orau i chi cyn gwneud cais.

Os oes gennych blentyn 3 neu 4 oed, gallwch gael cymorth ariannol ar gyfer o leiaf 10 awr yr wythnos tuag at feithrinfa cyfnod Sylfaen.

Gwiriwch pa gymorth rydych chi'n gymwys i'w gael ar wefan Dewisiadau Gofal plant llywodraeth y DU.

Os ydych chi'n feichiog neu os oes gennych chi fabi

Gallech chi gael taliad untro o £500 i helpu tuag at gostau cael babi. Fel arfer rydych chi'n gymwys os ydych chi'n cael budd-daliadau penodol ac yn cael eich babi cyntaf – mae'n rhaid i chi hawlio cyn bod eich babi yn 6 mis oed. Mae gwybodaeth am sut i wneud cais am Grant Mamolaeth Cychwyn Iach ar GOV.UK.

Efallai y byddwch chi'n gallu cael cymorth gan fanc babanod lleol - mae'r rhain yn cynnig hanfodion am ddim fel cewynnau, teganau, esgidiau a dillad. 

Mae rhai banciau bwyd hefyd yn darparu cewynnau, cadachau babanod a bwyd babanod. 

Chwiliwch ar-lein i ddod o hyd i'ch banc babi neu fanc bwyd agosaf - neu siaradwch â'ch bydwraig neu ymwelydd iechyd. 

Mwy o wybodaeth am dâl mamolaeth a hawliau rhieni.

Help gyda chostau teithio

Cysylltwch â'ch cyngor lleol i wirio os ydyn nhw'n cynnig teithio am ddim neu ostyngiad ar y pris, er enghraifft, os ydych chi:

  • mewn addysg

  • ar leoliad gwaith

  • yn ddi-waith ac yn chwilio am waith

  • yn gyn-filwr

Gallwch ddod o hyd i'ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Os ydych chi dros 60 oed, gallwch gael tocyn teithio (bws) am ddim. Gwnewch gais am docyn bws i berson hŷn ar GOV.UK.

Os ydych chi'n anabl, efallai y byddwch chi'n gallu gwneud cais am docyn bws neu gerdyn trên. Gallwch wirio i weld os gallwch chi gael help gyda chost cludiant.

Help gydag anifeiliaid anwes

Os ydych chi'n defnyddio banc bwyd, efallai y gallwch chi ofyn am rai pethau, fel bwyd anifeiliaid anwes. Gwiriwch gyda'ch banc bwyd lleol os ydyn nhw'n gallu helpu.

Gallwch hefyd wirio a oes banc bwyd anifeiliaid anwes yn eich ardal chi. Gofynnwch i'ch milfeddyg neu'ch siop anifeiliaid anwes lleol, neu chwiliwch ar-lein am 'fanc bwyd anifeiliaid anwes' ac yn eich tref leol.

Efallai y byddwch chi'n gallu dod o hyd i bwyntiau casglu bwyd anifeiliaid anwes am ddim yn eich archfarchnad leol, siop anifeiliaid anwes neu elusen anifeiliaid.

Help gyda gofal milfeddyg

Fe allech chi fod yn gymwys i gael gofal milfeddyg am ddim neu ostyngiad ar y pris gan Blue Cross os ydych chi’n:

  • derbyn budd-daliadau penodol sy'n seiliedig ar brawf modd

  • byw’n agos at un o'u hysbytai neu glinigau

Gwiriwch i weld os gallwch chi gael gofal milfeddyg am ddim neu ostyngiad ar y pris ar wefan Blue Cross.

Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu cael gofal milfeddygol am ddim neu ostyngiad ar y pris gan elusennau fel yr RSPCA a'r PDSA.

Gwiriwch i weld os gallwch chi gael gofal milfeddyg am ddim neu ostyngiad ar y pris ar wefan yr RSPCA.

Gwiriwch i weld os gallwch chi gael gofal milfeddyg am ddim neu ostyngiad ar y pris ar wefan PDSA.

Help gyda biliau milfeddyg

Os ydych chi'n cael trafferth talu biliau eich milfeddyg, siaradwch â'ch milfeddyg am opsiynau talu - fel lleihau'r bil neu sefydlu cynllun talu.

Os na allwch chi sefydlu cynllun talu fforddiadwy, dylech gael cyngor ar ddyledion. Efallai y bydd eich milfeddyg yn penderfynu rhoi'r gorau i drin eich anifail anwes os oes arnoch chi arian i’ch milfeddyg. 

Cyfrifo eich cyllideb

Dylech ddefnyddio ein hadnodd cyllidebu i'ch helpu i ddeall:

  • yr hyn rydych chi’n ei ennill a’i wario

  • lle byddech chi'n gallu arbed costau o bosibl

Gallwch ddefnyddio ein hadnodd cyllidebu.

Gwneud cais am grant elusennol

Efallai y byddwch chi'n gallu cael arian ychwanegol gan elusen i’ch helpu gyda chostau byw. Mae rhai o'r grantiau elusennol yma’n agored i bawb. Byddai eraill ar gael i chi ar sail eich sefyllfa - er enghraifft:

  • os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd

  • eich oedran

  • eich swydd flaenorol neu bresennol

Gallwch wirio i weld pa help y gallwch ei gael gan elusennau lleol a chenedlaethol ar wefan Turn2us. Byddwch angen gwybod eich cod post.

Os ydych chi dros 55 oed a bod gennych bensiwn personol

Efallai y byddwch yn gallu cymryd rhywfaint o arian o'ch cynilion pensiwn i helpu i dalu am gostau hanfodol neu i dalu eich dyledion.

Dylech feddwl ai cymryd arian o'ch pensiwn yw'r penderfyniad ariannol gorau i chi. Bydd cymryd arian o'ch pensiwn yn golygu bod gennych lai o incwm pan fyddwch chi’n ymddeol. Os ydych chi'n derbyn budd-daliadau, gallai cymryd arian o'ch pensiwn effeithio ar eich cais.

Gallwch gael arweiniad am ddim ar eich dewisiadau pensiwn gan Pension Wise. Byddan nhw'n esbonio'r gwahanol opsiynau fel y gallwch chi benderfynu pa un sydd orau i chi.

Dylech hefyd gael cyngor ariannol cyn cymryd unrhyw arian o'ch cynilion pensiwn - bydd yn rhaid i chi dalu. 

Gallwch wirio sut i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol - gallan nhw ddweud wrthych chi pa opsiwn sydd orau i chi.

Os ydych chi'n ei chael hi’n anodd

Mae eich iechyd meddwl cyn bwysiced â'ch iechyd corfforol. Dylech siarad â'ch meddyg teulu os yw'ch problemau ariannol yn effeithio ar eich iechyd meddwl. 

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael help gyda'ch iechyd meddwl ar wefan Mind.

Os ydych angen siarad â rhywun

Gallwch siarad â gwirfoddolwr hyfforddedig mewn sefydliadau fel y Samariaid neu Shout.

Samariaid

Llinell gymorth: 116 123 (dydd Llun i ddydd Sul ar unrhyw adeg)

Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (dydd Llun i ddydd Sul 7pm tan 11pm)

Mae galwadau i'r Samariaid am ddim.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu â'r Samariaid ar eu gwefan.

Shout

Gallwch hefyd anfon neges destun i 'SHOUT' i 85258 i ddechrau sgwrs gyda gwirfoddolwr Shout hyfforddedig. Mae’r negeseuon testun am ddim, yn ddienw ac yn gyfrinachol o unrhyw le yn y DU.

Os ydych chi'n meddwl ei fod yn argyfwng

Os ydych chi'n meddwl bod eich bywyd chi neu rywun arall mewn perygl, dylech ffonio 999 neu fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys os gallwch chi.

Gallwch hefyd ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd meddwl brys ar wefan Mind.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 30 Hydref 2023