Eich arian a’ch budd-daliadau yn ystod ailystyriaeth ESA

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Chewch chi ddim unrhyw daliadau ESA tra byddwch chi’n gofyn am ailystyriaeth orfodol os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi dweud wrthych chi nad oeddech chi’n gallu cael ESA oherwydd:

  • wnaethoch chi ddim sgorio digon o bwyntiau yn eich archwiliad meddygol

  • wnaethoch chi ddim mynd i’ch archwiliad meddygol

  • wnaethoch chi ddim dychwelyd ffurflen ESA50

Os ydych chi’n herio penderfyniad y DWP i’ch rhoi chi yn y grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith, byddwch yn dal i dderbyn ESA gyda’r elfen gysylltiedig â gwaith tra byddwch chi’n herio’r penderfyniad hwnnw - ond dim ond os gwnaethoch chi’r cais cyn 3 Ebrill 2017.

Os ydych chi'n cael cymorth gyda thaliadau llog morgais, bydd y taliadau hynny'n stopio tra byddwch chi'n gofyn am ailystyriaeth orfodol.

Os na fyddwch chi’n cael unrhyw daliadau ESA yn ystod y cyfnod ailystyried, efallai gallwch chi gael arian arall i helpu gyda’ch costau byw chi.

Os ydych chi wedi cael eich cosbi

Cysylltwch â’r Ganolfan Waith i ofyn am ‘daliad caledi’ os oes angen help arnoch chi gyda phethau hanfodol fel bwyd, dillad a gwresogi.

Hawlio budd-daliadau eraill yn ystod y cyfnod ailystyried

Efallai y byddwch chi’n gallu hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu Gymhorthdal Incwm tra byddwch chi’n disgwyl am benderfyniad ar eich ailystyriaeth orfodol. Ni ddylai hawlio’r budd-daliadau hyn yn ystod ailystyriaeth orfodol effeithio ar eich cais i ailystyried ESA. Gallwch chi gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf os nad ydych chi’n siŵr ddylech chi hawlio budd-daliadau eraill.

Hawlio Lwfans Ceisio Gwaith

Bydd angen i chi fodloni’r rheolau cymhwysedd arferol i hawlio JSA, er enghraifft bydd angen i chi fod wrthi’n ddiwyd yn chwilio am waith.

Dylech chi ddweud wrth y Ganolfan Waith eich bod chi’n gallu ac yn barod i chwilio am waith, fel arall chewch chi ddim Lwfans Ceisio Gwaith o gwbl.

Os yw’ch cyflwr neu’ch anabledd chi’n golygu mai dim ond ychydig o oriau’r wythnos allwch chi weithio, yna gallwch chi geisio cytuno ar hyn gyda’r Ganolfan Waith.

Os ydych chi’n ofalwr neu’n rhiant sengl gyda phlentyn dan 5 oed

Gallech chi wneud cais am Gymhorthdal Incwm yn lle JSA. Fel rheol, bydd hyn yn well i chi os oes gennych chi gyfrifoldebau gofalu ac nad ydych chi am chwilio am waith na chofrestru yn y Ganolfan Gwaith bob pythefnos. Bydd yr arian y byddwch yn ei gael ar gyfer Cymhorthdal Incwm yr un fath â JSA.

Hawlio Credyd Cynhwysol

Os ydych chi’n byw mewn ardal â gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn, gallwch hawlio Credyd Cynhwysol yn lle JSA neu Gymhorthdal Incwm. Efallai y byddwch yn cael llai o arian wrth hawlio Credyd Cynhwysol ac ni fyddwch chi’n gallu mynd yn ôl i hawlio ESA, hyd yn oed os bydd eich ailystyriaeth orfodol neu apêl yn llwyddiannus. Gall cynghorydd gyfrifo pa fudd-dal fyddai'n rhoi'r swm mwyaf i chi - cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.

Edrychwch i weld a ydych chi mewn ardal Credyd Cynhwysol gwasanaeth llawn.

Os bydd y DWP yn penderfynu rhoi ESA i chi

Bydd eich taliadau ESA yn dechrau o’r dyddiad mae’r DWP yn penderfynu y gallwch chi gael ESA. Dylai’r DWP drefnu i’ch taliadau ESA ddechrau a bod eich hawliad JSA neu Gymhorthdal Incwm yn dod i ben, ond mae’n werth cysylltu â’r DWP i sicrhau bod y ddau beth wedi digwydd.

Os oedd eich taliadau JSA neu Gymhorthdal Incwm yn ystod y cyfnod ailystyried yn llai na beth fyddech wedi’i gael ar ESA, dylech dderbyn y swm ychwanegol cyn gynted ag y bydd eich taliadau ESA yn ailddechrau.

Os nad yw’r DWP yn newid ei benderfyniad

Os na fydd y DWP yn newid ei benderfyniad, gallwch chi apelio i dribiwnlys annibynnol yn erbyn y penderfyniad.

Gallwch gael taliadau ESA nes i'ch apêl gael ei glywed - nid yw hyn yr un fath â gwneud hawliad newydd. Dylech chi gael eich talu'n awtomatig, ond mae'n bosib y bydd angen i chi ofyn i'r Ganolfan Byd Gwaith. Byddwch chi ond yn cael eich talu:

  • os yw'r Tribiwnlys wedi dweud wrthych ei fod wedi derbyn eich apêl

  • os mai dyma'r tro cyntaf mae'r DWP wedi penderfynu eich bod chi'n ffit i weithio, neu'r tro cyntaf ers i'r DWP benderfynu bod gennych chi allu cyfyngedig i weithio

  • os ydych chi'n rhoi 'nodiadau ffitrwydd' gan eich meddyg i'r Ganolfan Waith - mae mwy o wybodaeth am nodiadau ffitrwydd ar GOV.UK.

Os yw'ch meddyg teulu yn stopio rhoi nodiadau ffitrwydd i chi, dywedwch wrtho eich bod yn apelio. Gallwch ddangos tudalen 9 y ddogfen The benefits system: a short guide for GPs ar GOV.UK iddo, sy'n dweud ei fod yn gallu parhau i roi nodiadau ffitrwydd i chi. Os nad yw hynny'n helpu, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.

Ni fydd eich ESA yn cael ei dalu yn ystod eich apêl os i chi hawlio budd-dal arall yn ystod yr ailystyriaeth. Yn hytrach, byddwch yn aros ar y budd-dal arall. Ond gallwch gysylltu â'r DWP a gofyn iddynt dalu ESA i chi yn ei le. Ni fydd angen i chi ddechrau hawliad newydd am ESA.

Os ydych chi’n apelio yn erbyn y penderfyniad eich bod chi’n ffit i weithio oherwydd eich bod chi heb ddychwelyd ffurflen ESA50 neu fynd i’r asesiad meddygol, chewch chi ddim ESA o gwbl yn ystod cyfnod yr apêl.

Os na fyddwch chi’n cael unrhyw daliadau ESA yn ystod cyfnod yr apêl, gallwch chi barhau i hawlio JSA neu Gymhorthdal Incwm nes i chi gael canlyniad eich apêl.

Efallai y cewch ail-hawlio ESA tra byddwch chi’n apelio:

  • os yw’ch cyflwr wedi gwaethygu’n sylweddol ers i’r DWP wneud eu penderfyniad cyntaf

  • os oes gennych chi gyflwr newydd ers i’r DWP wneud eu penderfyniad cyntaf

  • os yw’r DWP wedi gwneud eu penderfyniad cyntaf dros chwe mis yn ôl

Os ydych chi eisiau ailhawlio ESA, dylech chi gael cyngor gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.

Hawlio Credyd Cynhwysol

Os ydych chi’n byw mewn ardal â gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn, bydd rhaid i chi hawlio’r Credyd Cynhwysol yn lle JSA neu Gymhorthdal Incwm. Dylech chi gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf cyn hawlio’r Credyd Cynhwysol. Gallech chi gael llai o arian ac ni fyddwch chi’n gallu mynd yn ôl i dderbyn ESA. Gofynnwch ydych chi’n gymwys i dderbyn JSA neu’r Credyd Cynhwysol.

Help ychwanegol sydd ar gael i chi

Gallwch chi:

Sut fydd hyn yn effeithio ar Fudd-dal Tai a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Mae’r budd-daliadau hyn yn cael eu talu gan eich cyngor lleol, i helpu gyda thalu eich rhent a’ch treth gyngor.

Byddwch chi’n gallu parhau i gael y budd-daliadau hyn hyd yn oed os yw eich ESA yn stopio. Fodd bynnag, os yw eich ESA yn dod i ben, bydd y DWP yn dweud wrth y cyngor fel arfer a gall y cyngor stopio eich Budd-dal Tai neu Ostyngiadau’r Dreth Gyngor. Mae’n bosib bod hyn oherwydd eu bod yn credu bod gennych chi incwm arall nawr, er enghraifft eich bod wedi dechrau gweithio efallai.

Dylech gysylltu â’r cyngor ar unwaith ac esbonio pam mae eich ESA wedi dod i ben a’ch bod chi wedi gofyn i’r DWP ailystyried hynny.

Rhybudd

Dywedwch wrth y cyngor am yr arian rydych chi’n byw arno nawr. Er enghraifft, rydych chi’n cael help gan ffrindiau neu deulu neu byddwch chi’n mynd i fanc bwyd. Efallai bydd angen i chi anfon prawf o hyn atyn nhw, er enghraifft eich cyfriflenni banc a llythyr yn esbonio’ch amgylchiadau.

Os ydych chi’n byw mewn ardal â gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn, bydd rhaid i chi hawlio’r Credyd Cynhwysol yn lle JSA neu Gymhorthdal ​​Incwm. Dylech chi gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf cyn hawlio’r Credyd Cynhwysol. You could get less money and you won't be able to go back onto ESA.Gallech chi gael llai o arian ac ni fyddwch chi’n gallu mynd yn ôl i dderbyn ESA. Gofynnwch ydych chi’n gymwys i dderbyn JSA neu’r Credyd Cynhwysol.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 06 Ebrill 2020