Herio penderfyniad Taliad Annibynnol Personol (PIP) – ailystyriaeth orfodol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad sydd wedi’i wneud ynglŷn â’ch hawliad Taliad Annibynnol Personol, gallwch chi herio’r penderfyniad hwnnw. 

Gallwch herio penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â Thaliad  Annibynnol Personol:

  • os na chawsoch chi’r penderfyniad

  • os cawsoch chi lefel is o Taliad Annibynnol Personol nag yr oeddech chi’n ei ddisgwyl

  • os ydych chi’n meddwl y dylai eich dyfarniad bara am gyfnod hwy

Os byddwch yn herio swm neu hyd eich dyfarniad, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar eich cais Taliad Annibynnol Personol cyfan eto. Mae hyn yn golygu efallai y byddant yn penderfynu na ddylech gael Taliad Annibynnol Personol o gwbl. Siaradwch â chynghorydd os credwch y gallai hyn ddigwydd i chi.

Os ydych chi eisiau herio’r penderfyniad am fod eich cyflwr wedi gwaethygu, bydd angen i chi ddilyn gweithdrefn wahanol, felly dylech siarad a chynghorydd.  

Gwnewch gais am ailystyriaeth orfodol

Y ffordd orau o wneud cais am ailystyriaeth yw trwy ddefnyddio’r ffurflen gais ailystyriaeth orfodol CRMR1 yn GOV.UK. Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen, ei hargraffu a'i phostio i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Ni allwch gyflwyno'r ffurflen ar-lein.

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen, gallwch ysgrifennu llythyr at yr Adran Gwaith a Phensiynau yn egluro pam eich bod yn anghytuno â’r penderfyniad.

Gallwch ffonio’r Adran Gwaith a Phensiynau i ofyn am ailystyriaeth, ond byddai’n well i chi roi popeth ar bapur. Os byddwch chi’n penderfynu ffonio, gofalwch eich bod chi’n anfon llythyr hefyd. Bydd y manylion cyswllt ar y llythyr penderfyniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Edrychwch ar y dyddiad ar eich llythyr penderfyniad. Mae angen i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol o fewn mis i’r dyddiad hwnnw. Os byddwch chi’n defnyddio’r ffurflen neu’n anfon llythyr, bydd angen i’r Adran Gwaith a Phensiynau ei dderbyn o fewn mis.

Os ydych chi wedi colli’r dyddiad terfyn 1 mis

Mae hi’n dal i fod yn werth i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol, cyn belled nad yw hi’n fwy nag 13 mis ers y penderfyniad.

Bydd angen i chi esbonio’ch rhesymau dros fod yn hwyr – er enghraifft, os oedd y ffaith eich bod chi’n sâl neu’n ymdrin ag amgylchiadau personol anodd yn golygu na allech chi wneud cais mewn pryd. Defnyddiwch eich ffurflen neu eich llythyr i esbonio pam mae’ch cais yn hwyr a pham eich bod chi’n anghytuno â’u penderfyniad.

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau wrthod eich cais os yw’n hwyr ond, cyn belled â’ch bod chi wedi gwneud cais o fewn 13 mis i’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad, gallwch apelio yn erbyn eu penderfyniad mewn tribiwnlys.

Beth sydd angen i chi ei ddweud

Mae angen i chi roi rhesymau penodol pam rydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad. Defnyddiwch eich llythyr penderfyniad, eich datganiad o resymau a’ch adroddiad asesiad meddygol i nodi pob un o’r datganiadau rydych chi’n anghytuno â nhw a pham. Rhowch ffeithiau, enghreifftiau a thystiolaeth feddygol (os oes gennych chi) i gefnogi’r hyn rydych chi’n ei ddweud.

Enghraifft yn seiliedig ar broblemau yn paratoi bwyd

Enghraifft

Mae fy adroddiad asesiad meddygol yn nodi nad ydw i angen unrhyw gymhorthion na help i baratoi fy mhrydau bwyd. Nid yw hyn yn wir. Dydw i ddim yn gallu coginio unrhyw fwyd o’r cychwyn – rydw i ond yn gallu twymo bwyd mewn popty microdon ac mae angen i mi ddefnyddio stôl yn fy nghegin.

Enghraifft yn seiliedig ar broblemau symudedd

Enghraifft

Dydw i ddim yn meddwl eich bod chi wedi asesu maint fy mhroblemau symudedd yn ddigonol. Rydych chi’n dweud fy mod i’n gallu cerdded 50 metr heb gymorth. Mewn gwirionedd, mae gwneud hyn yn achosi poen mawr i mi, sy’n golygu na alla i gerdded o gwbl am weddill y dydd. Rydw i wedi amgáu llythyr gan fy ffisiotherapydd sy’n esbonio hyn yn fwy manwl.

Werth gwybod

Gallwch chi edrych ar y system pwyntiau mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ei defnyddio i asesu hawliadau PIP i weld lle gallech chi gael mwy o bwyntiau.

Mae’n bwysig sicrhau bod gennych chi’r dystiolaeth iawn. Gallwch ddefnyddio ein canllaw ar sut mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud penderfyniad i’ch helpu chi.

Os ydych chi angen help gyda’ch apêl, siaradwch a chynghorydd. Ceisiwch gysylltu ar unwaith – efallai y bydd rhaid i chi ddisgwyl am apwyntiad a dim ond mis sydd gennych chi i anfon eich llythyr i mewn.

Cael canlyniad eich ailystyriaeth orfodol

Does dim rhaid i’r Adran Gwaith a Phensiynau wneud y penderfyniad o fewn amserlen benodol ac, weithiau, mae’n gallu cymryd misoedd i chi gael eich llythyr penderfyniad – yr enw ar y llythyr hwn yw ‘hysbysiad ailystyriaeth orfodol’. Bydd 2 gopi yn cael eu hanfon atoch chi – bydd angen i chi anfon 1 i ffwrdd os byddwch chi angen mynd ymlaen i gyfnod nesaf yr apêl.

Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid ei phenderfyniad, byddwch chi’n dechrau derbyn eich Taliad Annibynnol Personol ar unwaith. Byddent yn ôl-ddyddio eich taliad.  

Os oedd y penderfyniad yn ymwneud â chais newydd, bydd yn ôl-ddyddio eich Taliad Annibynnol Personol i’r dyddiad y gwnaethoch yr hawliad.

Os oedd y penderfyniad yn ymwneud â hawliad parhaus, byddent yn ôl-ddyddio eich taliad i’r dyddiad y cafodd ei atal neu ei leihau.

Peidiwch â phoeni’n ormodol os na fyddan nhw’n newid y penderfyniad; ychydig iawn o benderfyniadau sy’n cael eu newid yn y cyfnod hwn. Mae mwy o benderfyniadau’n cael eu newid ar ôl ail gyfnod yr her – os bydd eich cais am ailystyriaeth orfodol yn cael ei wrthod, gallwch chi apelio i dribiwnlys.

Camau nesaf

Mae’n syniad da gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael yr holl fudd-daliadau eraill y mae gennych chi hawl i’w cael. Os ydych chi dros 18 oed, gallwch ddefnyddio cyfrifydd budd-daliadau Turn2us i weld faint allwch chi ei gael. Gallwch chi gael help gyda chyllidebu hefyd.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.