Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Yr help a’r arian ychwanegol rydych chi’n gymwys i’w cael o dan PIP

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n derbyn PIP, gallech fod yn gymwys i gael arian ychwanegol ar ben eich budd-daliadau presennol, gostyngiad ar filiau’r dreth gyngor a’r dreth ffordd a gostyngiadau ar gostau teithio.

Byddwch chi angen eich llythyr dyfarnu PIP cyn y gallwch chi wneud cais am yr help ychwanegol hwn. Weithiau, mae’r llythyr dyfarnu yn cael ei alw’n hysbysiad dyfarnu PIP. Mae’n cael ei anfon atoch pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi gwneud penderfyniad ar eich hawliad PIP.

Symiau atodol

Efallai y byddwch chi’n cael swm atodol (o’r enw premiwm) ar ben y budd-daliadau canlynol os ydych chi’n derbyn PIP:

  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Treth Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – ond dim ond os ydych chi’n derbyn elfen bywyd beunyddiol PIP
  • Credyd Pensiwn - ond dim ond os ydych chi’n derbyn elfen bywyd beunyddiol PIP

Sut i wneud cais

Cysylltwch â’r swyddfa sy’n rheoli eich budd-daliadau, dywedwch wrthyn nhw eich bod chi’n derbyn PIP a gofynnwch iddyn nhw pa help arall rydych chi’n gymwys i’w gael yn sgil hynny. Efallai y bydd angen i chi anfon copi o’ch llythyr dyfarnu PIP atyn nhw. Gallan nhw ddweud wrthych chi hefyd faint o help ychwanegol y byddwch chi’n ei gael.

Ni fydd cael premiwm anabledd yn lleihau eich PIP nac unrhyw un o’ch budd-daliadau eraill, felly y peth gorau i’w wneud yw gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau pa help ychwanegol rydych chi’n gymwys i’w gael a gwneud cais amdano.

Mae hi bob amser yn syniad da i wneud yn siŵr eich bod chi'n hawlio'r holl fudd-daliadau rydych chi'n gymwys i'w cael.

Gostyngiadau’r dreth gyngor

Os ydych chi’n derbyn naill ai elfen bywyd beunyddiol neu elfen symudedd PIP, efallai y gallwch chi gael gostyngiad ar fil y dreth gyngor.

Mae’n anodd dweud yn union faint o ostyngiad y byddwch chi’n ei gael gan ei fod yn dibynnu ar bethau fel elfen a graddfa’r PIP rydych chi’n ei dderbyn. Fodd bynnag, bydd eich cyngor yn gallu dweud wrthych chi.

Sut i wneud cais

I gael eich gostyngiad, cysylltwch â'ch cyngor lleol a dywedwch wrthyn nhw eich bod chi’n derbyn PIP. Efallai y bydd angen i chi anfon copi o’ch llythyr dyfarnu PIP atyn nhw.

Os ydych chi’n hawlio PIP ar gyfer plentyn

Os yw’ch plentyn yn derbyn PIP a’i fod rhwng 16 a 20 oed ac yn dal i fod mewn addysg neu hyfforddiant, efallai y bydd eich Budd-dal Tai yn cynyddu.

Efallai y byddwch chi’n cael gostyngiad ar fil y dreth gyngor hefyd. Bydd eich cyngor yn gallu dweud wrthych chi.

Sut i wneud cais

I weld a allwch chi gael yr help hwn, cysylltwch â’r swyddfa sy’n rheoli’ch Budd-dal Tai a’ch cyngor lleol a dywedwch wrthyn nhw bod eich plentyn yn derbyn PIP. Byddan nhw’n gallu dweud wrthych chi faint fydd y cynnydd neu’r gostyngiad hefyd.

Cymorth teithio

Pan fyddwch chi’n cael eich llythyr dyfarnu PIP, gallwch chi wneud cais am:

Efallai y byddwch chi hefyd:

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.