Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

C11: cymysgu â phobl eraill

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Beth mae’r cwestiwn yn ei olygu

Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi:

  • gyfarfod â phobl a chymysgu â nhw
  • asesu sefyllfaoedd pan rydych chi gyda phobl eraill ac ymddwyn yn briodol
  • sefydlu perthynas â phobl – er enghraifft, gwneud ffrindiau

Dylech feddwl am sut mae cyfarfod a chymysgu â phobl eraill yn gwneud i chi deimlo – boed yn ddieithriaid a phobl rydych chi’n eu hadnabod.

Does gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ddim diddordeb yn a ydych chi’n dewis peidio â chyfarfod a chymysgu â phobl oherwydd nad ydych chi eisiau gwneud hynny. Yr hyn y maen nhw eisiau ei wybod yw sut mae’ch cyflwr yn gwneud i chi deimlo pan rydych chi’n cyfarfod a chymysgu â phobl.

Mae'r cwestiwn hwn yn gofyn am gysylltiad wyneb yn wyneb, felly does dim ots os ydych chi'n defnyddio'ch ffôn i decstio pobl.

Cwestiwn 11a

"Ydych chi angen person arall i’ch helpu chi i gymysgu â phobl eraill? Mae help yn cynnwys rhywun:"

  • yn eich cymell neu’n eich annog i wneud hynny
  • yno i’ch cefnogi chi neu i dawelu eich meddwl
  • yn eich helpu chi i ddeall sut mae pobl yn ymddwyn tuag atoch chi

"Mae hyn yn cynnwys help rydych chi’n ei gael a help rydych chi ei angen ond nad ydych chi’n ei gael."

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Weithiau

Dylech dicio “ydw” siŵr o fod os ydych chi:

  • angen rhywun gyda chi pan rydych chi’n cyfarfod â phobl dydych chi ddim yn eu hadnabod (er enghraifft, i’ch cyflwyno chi iddyn nhw ac i gychwyn sgwrs)
  • angen rhywun i fod gyda chi pan rydych chi’n cyfarfod a chymysgu â phobl
  • ddim yn gwybod sut rydych chi’n mynd i ymateb pan rydych chi’n cyfarfod a chymysgu â phobl eraill (er enghraifft, efallai y byddwch chi’n mynd yn ymosodol)
  • angen rhywun gyda chi ond nad ydych chi’n cael yr help hwnnw ar hyn o bryd 

Cwestiwn 11b

"Ydych chi’n ei chael hi’n anodd cymysgu â phobl eraill oherwydd pryder neu drallod difrifol?"

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Weithiau

Dylech dicio "ydw" siŵr o fod:

  • os ydych chi’n mynd yn bryderus pan rydych chi’n cyfarfod a chymysgu â phobl eraill
  • os nad ydych chi’n hoffi’r syniad o gymysgu â phobl eraill
  • os ydych chi’n osgoi cymysgu â phobl eraill oherwydd y pryder a’r trallod y mae hynny’n ei achosi i chi 

Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy esbonio eich sefyllfa yn y bocs.

Dyma’ch cyfle chi i roi darlun go iawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i gymysgu ag eraill. Byddan nhw’n defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.

Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn hefyd i esbonio pa help rydych chi ei angen os nad ydych chi’n cael unrhyw help ar hyn o bryd.

Rhywun yn eich cymell, yn tawelu eich meddwl neu’n eich cefnogi chi

Nodwch yn glir os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael. Os ydych chi’n cael help, dywedwch pwy sy’n eich helpu chi (er enghraifft, gofalwr neu ffrind) ac esboniwch:

  • pam maen nhw’n helpu
  • sut maen nhw’n helpu, er enghraifft, efallai eu bod nhw’n aros gyda chi am dipyn i wneud yn siŵr eich bod chi’n iawn
  • pa mor aml maen nhw’n helpu

Dywedwch yn glir os ydych chi angen iddyn nhw:

  • eich helpu chi drwy’r amser neu weithiau, neu dywedwch os yw’n rhy anodd i chi ragweld
  • bod wrth law – er enghraifft, eich helpu chi dim ond os oes angen neu i wneud yn siŵr eich bod chi ac eraill yn ddiogel 

Cofiwch esbonio beth sy’n digwydd (neu beth a fyddai’n digwydd) os nad ydych chi’n cael help. Er enghraifft:

  • rydych chi’n fwy tebygol o roi eich hun ac eraill mewn perygl
  • rydych chi’n fwy tebygol o ddioddef symptomau corfforol neu feddyliol fel pryder, trallod neu ddryswch
  • byddai’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser i chi gymysgu â phobl o gymharu â rhywun heb eich cyflwr 

Diogelwch: damweiniau neu risg o gael anaf

Esboniwch os ydych chi erioed wedi:

  • bod yn ymosodol tuag at rywun arall
  • teimlo’n agored i niwed pan rydych chi gyda phobl eraill
  • angen help gan rywun sy’n gwybod am eich cyflwr 

Nodwch yn glir os cododd y problemau hyn oherwydd:

  • na chawsoch chi help neu gymorth
  • bod eich cyflwr yn effeithio ar eich lefelau canolbwyntio neu eich hwyl, a all gynyddu’r tebygolrwydd o broblemau
  • eich bod chi’n mynd yn bryderus

Dylech ddweud hefyd os ydych chi’n meddwl y gallai hyn ddigwydd yn y dyfodol. Dylech sôn am:

  • ba mor aml mae risg yn codi, hyd yn oed os nad yw’n codi’n rheolaidd
  • pa mor wael y gallech chi gael eich niweidio
  • a oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i atal y risg rhag codi

Diwrnodau da a diwrnodau gwael

Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.

Nodwch yn glir:

  • os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael
  • pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael
  • os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio
  • sut mae eich anawsterau a’ch symptomau yn amrywio ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael 

Mae’n iawn i chi amcangyfrif, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam – er enghraifft, am fod eich cyflwr yn anwadal.

Yr amser mae’n ei gymryd

Meddyliwch a yw’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser i chi gymysgu â phobl eraill o gymharu â rhywun heb eich cyflwr. Er enghraifft, efallai bod rhaid i chi baratoi eich hun yn feddyliol cyn i chi fynd allan.

Ceisiwch esbonio faint o amser mae’n ei gymryd. Mae’n iawn i chi amcangyfrif, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam – er enghraifft, am fod eich cyflwr yn anwadal.

Cofiwch:

  • gynnwys cyfnodau seibiant os ydych chi eu hangen
  • esbonio os yw’n cymryd mwy fyth o amser ar ddiwrnod gwael
  • dweud os yw’n cymryd mwy o amser os ydych chi’n gorfod ei wneud dro ar ôl tro

Symptomau fel pryder, trallod neu ddryswch

Esboniwch a yw’r anawsterau rydych chi’n eu cael o ran cyfarfod a chymysgu â phobl yn achosi unrhyw symptomau corfforol neu feddyliol i chi (fel pryder, trallod, dryswch neu os yw’n gwneud i chi deimlo’n isel).

Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol esbonio’r symptomau a rhoi enghraifft, gan gynnwys:

  • pa mor aml rydych chi’n eu cael nhw
  • am faint maen nhw’n para
  • os ydyn nhw’n debygol o gynyddu’r risg o anaf neu berygl
  • os ydyn nhw’n effeithio ar eich gallu i gyflawni unrhyw rai o’r gweithgareddau eraill ar eich ffurflen hawlio PIP

Help gyda chwestiwn 12: gwneud penderfyniadau ariannol

Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.