Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

C12: gwneud penderfyniadau am arian

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Beth mae’r cwestiwn yn gofyn

Mae’r cwestiwn hwn yn gofyn sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi reoli prynu pethau a thrafodion bob dydd.

Mae hyn yn golygu pethau fel:

  • talu mewn siopau a thai bwyta
  • cyllidebu ar gyfer biliau a thalu biliau, er enghraifft biliau cyfleustodau, biliau cardiau credyd
  • cyllidebu ar gyfer eitemau mawr, fel teledu neu soffa

Mae’n gofyn am y penderfyniadau rydych chi angen eu gwneud yn hytrach nag a oes gennych chi’r gallu corfforol i gael arian allan o bwrs neu waled i dalu am bethau.

Cwestiwn 12a

Ydych chi angen rhywun arall i’ch helpu chi i ddeall faint mae pethau’n costio pan fyddwch chi’n eu prynu neu faint o newid fyddwch chi’n ei gael? Mae help yn cynnwys rhywun:

  • yn eich annog
  • yn eich atgoffa i’w wneud neu sut mae gwneud ac
  • yn ei wneud ar eich rhan

Mae hyn yn cynnwys help sydd gennych a help rydych chi ei angen ond ddim hyn ei gael.

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Weithiau

Mae’n debyg y dylech chi ddewis “ydw” os ydych chi angen help:

  • i dalu mewn siopau a thai bwyta
  • i ddeall faint mae pethau’n costio

Cwestiwn 12b

Ydych chi angen rhywun arall i’ch helpu chi i reoli cyllidebau’r cartref, talu biliau neu gynllunio beth fyddwch chi’n ei brynu yn y dyfodol? Mae help yn cynnwys rhywun:

  • yn eich annog
  • yn eich atgoffa i’w wneud neu sut mae gwneud ac
  • yn ei wneud ar eich rhan

Mae hyn yn cynnwys help sydd gennych a help rydych chi ei angen ond ddim hyn ei gael.

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Weithiau

Mae’n debyg y dylech chi ddewis “ydw” os ydych chi angen help i ddeall:

  • sut i wneud eich arian bara
  • sut i dalu’ch biliau ar amser
  • beth sy’n digwydd os nad ydych chi’n talu’ch biliau, er enghraifft, gallai’ch nwy gael ei droi i ffwrdd
  • sut i gynilo ar gyfer eitem benodol, fel teledu

Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu

Mae’n bwysig dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y blwch.

Dyma’ch cyfle i roi darlun llawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i wneud penderfyniadau am arian. Byddant yn defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.

Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn i egluro pa help rydych chi ei angen ond ddim yn ei gael hefyd.

Rhywun yn eich atgoffa neu’n eich cynorthwyo

Dywedwch yn glir os ydych chi angen help ond ddim yn ei gael. Os ydych chi’n cael help, rhowch berthynas y person â chi (er enghraifft, gofalwr neu gyfaill) ac eglurwch:

  • pam mae’n helpu
  • sut mae’n helpu, er enghraifft, mae’n mynd â’ch arian ac yn talu ar eich rhan
  • pa mor aml mae’n eich helpu

Nodwch yn glir os ydych chi angen iddo:

  • eich atgoffa i wneud rhywbeth fel talu bil
  • dweud wrthych sut mae gwneud rhywbeth fel talu bil
  • eich helpu’n gorfforol, er enghraifft, talu’r bil ar eich rhan
  • eich helpu drwy’r amser neu ddim ond weithiau neu dywedwch os yw’n rhy anodd ei ragweld
  • bod wrth law, er enghraifft, i’ch helpu os ydych chi’n drysu

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau beth sy’n digwydd (neu beth fyddai’n digwydd) os nad ydych chi’n cael help. Er enghraifft, eich bod chi’n fwy tebygol:

  • o gael sgil-effeithiau corfforol neu feddyliol fel dryswch, teimlo’n annifyr neu flinder
  • o fynd i drafferthion ariannol

Yr amser mae’n cymryd

Meddyliwch a yw’n cymryd o leiaf ddwywaith mor hir i chi wneud penderfyniad am arian â rhywun heb eich cyflwr.

Meddyliwch pa mor hir mae’n cymryd i chi dalu am rywbeth mewn siop neu dŷ bwyta o gymharu â ffrind. Mae’n iawn rhoi amcan ond dywedwch os mai amcan ydyw. Os yw’n rhy anodd rhoi amcan, eglurwch pam – er enghraifft, mae’ch cyflwr yn anwadal.

Cofiwch:

  • egluro os yw’n cymryd hyd yn oed mwy o amser i chi ar ddiwrnod gwael
  • dweud os yw’n cymryd mwy o amser os oes rhaid i chi ei wneud drosodd a throsodd

Diwrnodau da a diwrnodau gwael

Eglurwch sut rydych chi’n ymdopi ar ddiwrnodau da a diwrnodau drwg a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi gwell darlun i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.

Nodwch yn glir:

  • os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau drwg
  • pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau drwg
  • sut mae’ch anawsterau a symptomau’n gwahaniaethu ar ddiwrnodau da a drwg

Mae’n iawn rhoi amcan ond dywedwch os mai amcan ydyw. Os yw’n rhy anodd rhoi amcan, eglurwch pam – er enghraifft, mae’ch cyflwr yn anwadal.

Symptomau fel dryswch neu deimlo’n annifyr

Eglurwch a yw’r anawsterau rydych chi’n eu cael wrth reoli’ch arian yn achosi unrhyw symptomau corfforol neu feddyliol i chi (fel dryswch, teimlo’n annifyr neu flinder).

Mae’n beth da i chi egluro’r symptomau a rhoi enghraifft, yn cynnwys:

  • pa mor aml rydych chi’n eu cael
  • pa mor hir maen nhw’n para
  • os ydynt yn debygol o gynyddu’r risg o ddamwain
  • os ydynt yn effeithio ar eich gallu i gyflawni unrhyw un o’r gweithgareddau eraill ar eich ffurflen hawlio PIP

Help gyda chwestiwn 13: mynd allan

Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.