Newidiadau sy’n effeithio ar eich PIP

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae angen i chi roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl os bydd eich cyflwr yn newid gan y gall hyn effeithio ar eich Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).

Mae enghreifftiau o bethau a all newid sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi yn cynnwys y canlynol:

  • os bydd eich cyflwr yn gwella neu’n gwaethygu

  • os bydd lefel yr help rydych chi ei angen yn newid

  • os byddwch chi’n mynd i’r ysbyty neu gartref gofal am fwy na 28 diwrnod (os ydych chi’n iau nag 18 oed ar y diwrnod rydych chi’n mynd i’r ysbyty, ni fydd eich PIP yn cael ei effeithio)

Mae enghreifftiau o amgylchiadau yn newid y mae’n rhaid i chi eu hadrodd yn cynnwys y canlynol:

  • os byddwch chi’n mynd dramor am fwy nag 13 wythnos

  • os byddwch chi’n newid eich enw, eich cyfeiriad neu fanylion eich cyfrif banc ar gyfer derbyn taliadau

  • os byddwch chi’n mynd i’r carchar neu’r ddalfa, neu’n gadael y llefydd hynny

Pwysig

Mae llawer o newidiadau sy’n gallu effeithio ar eich PIP, ac enghreifftiau yn unig yw’r rhain.

Os nad ydych chi’n siŵr ydy newid yn effeithio ar eich PIP, y peth gorau i’w wneud yw dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau beth bynnag. Gallai peidio â dweud wrthyn nhw olygu y byddwch chi’n colli allan ar arian ychwanegol neu’n derbyn arian y bydd rhaid i chi ei ad-dalu.

Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau eisiau ailedrych ar eich hawliad PIP. Cyn i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, dylech gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i gael help i gael yr holl fudd-daliadau y mae gennych chi hawl i’w cael.

Newidiadau does dim rhaid i chi eu hadrodd

Does dim rhaid i chi adrodd y newidiadau canlynol gan nad ydyn nhw’n effeithio ar a allwch chi gael PIP neu faint rydych chi’n ei gael:

  • bod mewn gwaith, dychwelyd i’r gwaith neu adael gwaith

  • newidiadau yn eich enillion neu incwm arall

  • os bydd rhywun yn ymuno â’ch aelwyd neu’n gadael eich aelwyd

Sut i gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau i adrodd newid

Dylech chi adrodd newid cyn gynted â phosibl. Gallwch chi ffonio neu ysgrifennu i’r Adran Gwaith a Phensiynau i ddweud wrthyn nhw am y newid, ond rhaid i chi ysgrifennu os ydych chi wedi newid eich enw. Ar ôl i chi adrodd y newid, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ysgrifennu atoch chi i roi gwybod i chi sut y bydd yn effeithio ar eich PIP.

Bydd rhaid i chi gynnwys y manylion hyn pan fyddwch chi’n adrodd newid:

  • eich enw llawn

  • eich dyddiad geni

  • eich rhif yswiriant gwladol

  • y dyddiad y digwyddodd y newid neu’r dyddiad y bydd y newid yn digwydd

  • y peth sydd wedi newid

Llinell gymorth PIP

Gall rhywun arall ffonio ar eich rhan, ond mae angen i chi fod gyda nhw fel y gallwch chi roi caniatâd iddyn nhw siarad ar eich rhan.

Ffôn: 0800 121 4433

Ffôn testun: 0800 121 4493

Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim o linellau tir neu ffonau symudol.

Y cyfeiriad i ysgrifennu iddo

Mae’r manylion cyswllt i chi eu defnyddio ar eich llythyr penderfyniad gwreiddiol.

Cadwch gofnod o’r newid

Mae’n syniad da cadw cofnod ysgrifenedig o’r ffaith eich bod chi wedi adrodd y newid wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, er enghraifft, rhag ofn y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anghytuno bod newid wedi’i adrodd.

Os byddwch chi’n adrodd y newid dros y ffôn, gallwch chi ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau anfon cofnod ysgrifenedig o’r alwad atoch chi. Os byddwch chi’n ysgrifennu i adrodd y newid, cadwch gopi o’r llythyr.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 03 Mawrth 2022