Cadarnhau a ydych chi yng ngrŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith cywir y Credyd Cynhwysol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Efallai y bydd angen i chi chwilio am waith neu baratoi ar gyfer gwaith fel rhan o gael y Credyd Cynhwysol. Mae beth fydd eich hyfforddwr gwaith yn ei ofyn i chi yn dibynnu ar ba ‘grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith’ (a elwir yn ‘grŵp amodoldeb’) ydych chi. Os ydych chi yn y grŵp anghywir, gallwch geisio ei newid.

Os ydych chi yn y grŵp cywir, dyma sut y gallwch newid y gweithgareddau cysylltiedig â gwaith y gofynnir i chi eu gwneud.

Ym mha grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith ydych chi

Edrychwch yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein i weld ym mha grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith ydych chi, ynghyd â pha dasgau sydd angen i chi eu gwneud.

Os nad oes gennych chi gyfrif ar-lein gallwch weld ym mha grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith ydych chi ar eich papur ‘ymrwymiad hawliwr’. Dogfen yw hon y bydd angen i chi gytuno arni fel rhan o gael Credyd Cynhwysol. Byddwch yn cytuno arni gyda’ch hyfforddwr gwaith ac yn ei diweddaru bob tro y byddwch yn ei weld.

Os na allwch chi ddod o hyd i’ch ymrwymiad hawliwr, gofynnwch i’ch hyfforddwr gwaith ym mha weithgareddau cysylltiedig â gwaith ydych chi.

Mae 4 grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith:

Grŵp  Beth fydd angen i chi ei wneud
Grŵp 
Grŵp dim gofynion cysylltiedig â gwaith
Beth fydd angen i chi ei wneud
Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth i baratoi am waith neu i chwilio am waith
Grŵp 
Grŵp cyfweliadau canolbwyntio ar waith 
Beth fydd angen i chi ei wneud
Mae’n rhaid i chi fynd i gyfarfodydd rheolaidd gyda’ch hyfforddwr gwaith 
Grŵp 
Grŵp paratoi ar gyfer gwaith 
Beth fydd angen i chi ei wneud
Mae’n rhaid i chi gyfarfod eich hyfforddwr gwaith yn rheolaidd a hefyd paratoi ar gyfer gwaith. Mae hyn yn cynnwys pethau fel ysgrifennu CV a mynd ar hyfforddiant neu brofiad gwaith
Grŵp 
Grŵp pob gweithgaredd cysylltiedig â gwaith 
Beth fydd angen i chi ei wneud
Mae’n rhaid i chi wneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i waith ac ennill mwy. Mae hyn yn cynnwys chwilio am swyddi, gwneud cais am swyddi a mynd i gyfweliadau

Cadarnhau eich bod yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith cywir

Mae’n debyg y byddwch yn cael eich rhoi yn y ‘grŵp pob gweithgaredd cysylltiedig â gwaith’ os ydych chi’n gallu gweithio, oni bai eich bod yn bodloni unrhyw un o’r eithriadau hyn.

Os oes mwy nag un eithriad yn gymwys i chi, dylech fod yn y grŵp gyda’r gofynion isaf. Er enghraifft, os ydych chi’n perthyn i’r ‘grŵp paratoi ar gyfer gwaith’ a’r ‘grŵp cyfweliadau canolbwyntio ar waith’, dylech fod yn y ‘grŵp cyfweliadau canolbwyntio ar waith’ gan fod y grŵp yn gofyn am lai o weithgareddau.

Rydych chi’n anabl neu mae gennych chi salwch hirdymor

Dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith os yw’ch salwch neu anabledd yn lleihau’r hyn y gallwch ei wneud i weithio neu i chwilio am waith. Fel arfer bydd angen i chi lenwi ffurflen ac efallai y bydd angen i chi fynd am asesiad meddygol.

Bydd eich grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith yn dibynnu ar sut mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn meddwl bod eich salwch neu anabledd yn effeithio arnoch chi:

  • os ydynt yn penderfynu bod gennych chi ‘allu cyfyngedig i weithio a gwneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith’, byddwch yn y ‘grŵp dim gofynion cysylltiedig â gwaith’

  • os ydynt yn penderfynu bod gennych chi ‘allu cyfyngedig i weithio’, byddwch yn y ‘grŵp paratoi ar gyfer gwaith’.

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu nad oes gennych chi ‘allu cyfyngedig i weithio’ neu ‘allu cyfyngedig i weithio a gwneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith’, byddwch yn y ‘grŵp pob gweithgaredd cysylltiedig â gwaith’. Dylai’r Ganolfan Waith dal ystyried eich salwch neu’ch anabledd wrth ystyried am ba fath o waith mae angen i chi ymgeisio.

Ni fydd angen i chi lenwi ffurflen na chael eich asesu os ydych chi eisoes wedi’ch asesu i fod â ‘gallu cyfyngedig i weithio’ neu ‘allu cyfyngedig i weithio a gwneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith’ a’ch bod naill ai’n:

  • cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar gyfraniadau

  • cael Credydau Analluogrwydd

  • cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm cyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol.

Edrychwch i weld sut i ddangos bod gennych chi allu cyfyngedig i weithio os ydych chi’n sâl neu’n anabl.

Rydych chi’n gofalu am berson ag anableddau difrifol

Os ydych chi’n gofalu am berson ag anableddau difrifol am o leiaf 35 awr yr wythnos, byddwch yn y ‘grŵp dim gweithgareddau cysylltiedig â gwaith’ os oes un o’r rhain yn gymwys:

  • mae gennych chi hawl i Lwfans Gofalwr, neu rydych chi’n ei gael

  • ni allwch gael Lwfans Gofalwr, ond dim ond am fod eich enillion yn rhy uchel, ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn meddwl y byddai’n afresymol i chi chwilio am waith a bod ar gael i weithio

Mae’n rhaid i’r person rydych chi’n gofalu amdano fod yn derbyn un o’r budd-daliadau hyn:

  • Lwfans Gweini

  • cyfradd safonol neu uwch elfen byw dyddiol y Taliad Annibyniaeth Personol

  • cyfradd uchaf neu gyfradd ganol Lwfans Byw i’r Anabl

  • Lwfans Gweini Cyson sy'n cael ei dalu gyda phensiwn rhyfel neu fudd-daliadau anafiadau diwydiannol

  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog

Ni ystyrir bod gennych chi gyfrifoldebau gofalu os ydych chi’n ennill arian yn eu sgil.

Os nad ydych chi’n bodloni’r amodau hyn, gallech gael eich gosod yn y ‘grŵp pob gweithgaredd cysylltiedig â gwaith’. Dylai’ch hyfforddwr gwaith dal ystyried eich cyfrifoldebau gofalu wrth drefnu’ch gweithgareddau gwaith. Er enghraifft, os ydych chi’n treulio 20 awr yr wythnos yn gofalu am rywun, ni ddylech orfod mynd i gyfweliadau swydd yn ystod yr oriau hynny.

Rydych chi’n gyfrifol am blentyn

Os mai chi yw prif ofalwr plentyn, mae’ch grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith yn dibynnu ar faint yw oed eich plentyn.

Os ydych chi’n byw gyda’ch partner bydd angen i chi enwebu pwy yw’r prif ofalwr. Fel arfer, byddwch yn gwneud hyn yn eich cyfweliad cyntaf yn y Ganolfan Waith.

Mae’r un rheolau’n gymwys os ydych chi wedi mabwysiadu plentyn neu’n gofalu am y plentyn ar gyfer ffrind neu berthynas. Mae rhai gwahaniaethau yn y 12 mis cyntaf rydych chi’n gofalu amdanynt.

Oedran eich plentyn Eich grŵp gwaith
Oedran eich plentyn
Dan 1
Eich grŵp gwaith
Grŵp dim gofynion cysylltiedig â gwaith
Oedran eich plentyn
1
Eich grŵp gwaith
Grŵp cyfweliad canolbwyntio ar waith
Oedran eich plentyn
2
Eich grŵp gwaith
Grŵp paratoi ar gyfer gwaith
Oedran eich plentyn
3 neu hŷn
Eich grŵp gwaith
 Grŵp pob gweithgaredd cysylltiedig â gwaith

Os ydych chi yn y grŵp pob gweithgaredd cysylltiedig â gwaith

Dylai’ch gweithgareddau cysylltiedig â gwaith gyd-fynd â gofalu am eich plentyn.

Os yw’ch plentyn dan 13 oed, mae’n rhaid i’ch hyfforddwr gwaith sicrhau bod eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith yn cyd-fynd ag oriau'r ysgol neu'r feithrinfa. Mae hyn yn cynnwys yr amser rydych chi’n ei gymryd i deithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith.

Dylai’ch hyfforddwr gwaith addasu eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith os oes gan eich plentyn anghenion gofal ychwanegol – er enghraifft os oes ganddynt gyflwr iechyd meddwl. Dylent wneud hyn hyd yn oed os yw’ch plentyn yn hŷn na 13 oed.

Dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith os ydych chi’n gofalu am eich plentyn ond ei fod yn byw gyda chyn bartner fel arfer. Ni fydd eich grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith yn newid, ond dylai’ch gweithgareddau cysylltiedig â gwaith ystyried eich plentyn o hyd pan fyddwch yn gofalu amdano.

Os ydych chi’n gyfrifol am blentyn ffrind neu berthynas

Os yw’r plentyn dros 2 oed, byddwch yn aros yn y ‘grŵp cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith’ os ydych chi wedi dod yn gyfrifol amdano yn y 12 mis diwethaf

I fodloni’r eithriad hwn, bydd angen i chi fodloni pob un o'r amodau hyn:

  • nid chi yw rhiant neu lysriant y plentyn

  • rydych chi’n gofalu am y plentyn gan nad oes ganddo rieni neu nad yw ei rieni yn gallu gofalu amdano

  • os na fyddwch chi’n gofalu amdano, mae’n debyg y bydd yr awdurdod lleol yn gofalu amdano oherwydd pryderon am eu lles

  • mae’r plentyn dan 16 oed

Ar ôl 12 mis, byddwch yn yr un grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith ag y byddech pe bai'n blentyn i chi.

Os ydych chi wedi mabwysiadu plentyn llai na 12 mis yn ôl

Byddwch yn y ‘grŵp dim gweithgareddau cysylltiedig â gwaith’ am 12 mis, pa bynnag oed yw’r plentyn.

Fel arfer, mae’r 12 mis yn dechrau pan fydd y plentyn yn cael ei leoli gyda chi. Gallwch ddechrau eich 12 mis hyd at 14 diwrnod cyn hynny os ydych chi’n dweud wrth y Ganolfan Waith eich bod angen amser i baratoi ar gyfer y mabwysiadu. Ni allwch ofyn am hyn os ydych chi’n berthynas agos i’r plentyn rydych chi wedi’i fabwysiadu.

Ar ôl 12 mis, byddwch yn yr un grŵp gweithgareddaucysylltiedig â gwaith ag y byddech pe na bai’r plentyn wedi’i fabwysiadu.

Rydych chi’n feichiog neu wedi rhoi genedigaeth yn y 15 wythnos diwethaf

Os ydych chi’n feichiog ers o leiaf 28 wythnos, dylech fod yn y ‘grŵp dim gweithgareddau cysylltiedig â gwaith’.

Os ydych chi wedi bod yn feichiog am lai na 28 wythnos, efallai y bydd dal angen i chi chwilio am waith. Os nad ydych chi’n gallu gwneud hyn, eglurwch pam wrth eich hyfforddwr gwaith.

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau pe bai gweithio neu chwilio am waith yn peryglu’ch iechyd neu iechyd eich babi. Byddant yn eich cyfrif fel rhywun sydd â naill ai:

• 'gallu cyfyngedig i weithio' – bydd hyn yn eich rhoi yn y ‘grŵp paratoi ar gyfer gwaith’

• 'gallu cyfyngedig i wneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith' – bydd hyn yn eich rhoi yn y 'grŵp dim gweithgareddau cysylltiedig â gwaith' ac yn cynyddu’ch taliadau Credyd Cynhwysol.

Efallai y bydd angen i chi ddangos rhywfaint o dystiolaeth o’r risg – er enghraifft, llythyr gan eich meddyg. Dyma ragor o wybodaeth am fod â gallu cyfyngedig i weithio.

Os ydych chi wedi rhoi genedigaeth

Os oes llai na 15 wythnos ers i chi roi genedigaeth, dylech fod yn y ‘grŵp dim gweithgareddau cysylltiedig â gwaith’.

Os oes 15 wythnos neu fwy wedi bod ers i chi roi genedigaeth, ac nad chi yw prif ofalwr y plentyn, gellid fod disgwyl i chi chwilio am waith. Os nad ydych chi’n gallu gwneud hyn, eglurwch pam wrth eich hyfforddwr gwaith.

Rydych chi wedi cyrraedd oedran Credyd Pensiwn

Dylech fod yn y ‘grŵp dim gweithgareddau cysylltiedig â gwaith’ os ydych chi wedi cyrraedd oedran Credyd Pensiwn.

Fel arfer, byddwch ar eich ennill yn hawlio Credyd Pensiwn - edrychwch i weld a allwch chi gael Credyd Pensiwn.

Rydych chi neu’ch partner yn gweithio neu’n hunangyflogedig

Os ydych chi’n hunangyflogedig, byddwch yn y ‘grŵp dim gweithgareddau cysylltiedig â gwaith' os ydych chi’n ennill mwy na’r 'llawr isafswm incwm'.

Os nad ydych chi’n hunangyflogedig, byddwch yn y ‘grŵp dim gweithgareddau cysylltiedig â gwaith; os ydych chi’n ennill mwy na’ch ‘trothwy enillion’. Dyma’r oriau wythnosol y mae disgwyl i chi weithio wedi’u lluosi â’ch isafswm cyflog.

Os yw’ch enillion yn amrywio maent yn cael eu cyfrifo fel cyfartaledd dros y 3 mis diwethaf.

Faint o oriau y mae disgwyl i chi weithio

Ar gyfer eich trothwy enillion, mae’ch oriau wythnosol yn dibynnu ar ba grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith rydych chi ynddo.

Eich grŵp gwaith  Oriau
Eich grŵp gwaith 
Grŵp cyfweliad canolbwyntio ar waith 
Oriau
16
Eich grŵp gwaith 
Grŵp paratoi ar gyfer gwaith 
Oriau
16
Eich grŵp gwaith 
Grŵp pob gweithgaredd cysylltiedig â gwaith 
Oriau
Wedi’i bennu yn eich ymrwymiad hawliwr – 35 fel arfer

Os ydych chi’n byw gyda’ch partner

Bydd eich trothwyon enillion yn cael eu cyfuno gyda'i gilydd i greu un trothwy ar y cyd.

Os yw’ch enillion cyfunol yn llai na’r trothwy ar y cyd, bydd angen i un ohonoch chi neu’r ddau ohonoch chi chwilio am fwy o waith. Os oes un ohonoch chi’n ennill mwy na’ch trothwy unigol, nid oes yn rhaid i’r person hwnnw chwilio am fwy o waith.

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi angen cymorth gyda’ch trothwy enillion.

Rydych chi mewn addysg lawn amser

Yn ystod y tymor a’r rhan fwyaf o'r gwyliau, byddwch yn y ‘grŵp dim gofynion cysylltiedig â gwaith’ os ydych chi’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Efallai y bydd yn rhaid i chi chwilio am waith yn ystod gwyliau’r haf.

Newid eich grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith

Dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith cyn gynted â phosibl os ydych chi yn y grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith anghywir. Eglurwch pa eithriadau sy’n gymwys a dangoswch unrhyw dystiolaeth y gallwch - er enghraifft llythyr gan eich meddyg os ydych chi’n sâl, neu dystysgrif geni plentyn sy’n derbyn eich gofal.

Os na fydd eich hyfforddwr gwaith yn newid eich grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith, gallwch gwyno wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Os ydych chi’n cael cosb er eich bod wedi egluro’ch sefyllfa i’ch hyfforddwr gwaith, gallwch herio'r penderfyniad gydag ailystyriaeth orfodol.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2018