Riportio cwyn i Ofcom
Ofcom yw rheoleiddiwr y diwydiant telegyfathrebu. Mae'n sicrhau bod pob cwmni telegyfathrebu (gan gynnwys cwmnïau ffôn, rhyngrwyd a theledu) yn ymddwyn yn deg.
Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth yw rôl Ofcom a phryd i riportio problem iddo.
Beth yw gwaith Ofcom
Mae gan Ofcom sawl rôl, gan gynnwys:
- cynnig cyngor i ddefnyddwyr
- monitro gweithgarwch darparwyr gwasanaethau
- hybu cystadleuaeth rhwng darparwyr gwasanaethau
- sicrhau bod darparwyr gwasanaethau'n ymddwyn yn deg
- sicrhau bod darlledu o ansawdd uchel ac yn darparu amrywiaeth eang o raglenni
- monitro a chofnodi lefelau cwynion.
Cofnodi cwynion
Nid yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol. Ond, mae'n monitro lefelau cwynion yn erbyn cwmnïau fel ffordd o sicrhau eu bod yn ymddwyn yn deg tuag at gwsmeriaid. Gallwch ddweud wrth Ofcom am eich cwyn trwy lenwi ffurflen gwyno ar-lein neu drwy ffonio'r llinell ymholiadau. Os oes awgrym bod un cwmni penodol yn achosi pryder i ddefnyddwyr, efallai y bydd yn ystyried ymchwilio iddynt.
Ofcom (Office of Communications)
Contact Centre
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA
Ffôn:0300 123 3333 a 020 7981 3040
Ffôn testun: 020 7981 3043
Ffacs: 020 7981 3333
Gwefan: www.ofcom.org.uk