Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gwybodaeth y mae’n rhaid i’ch yswiriwr ei rhoi i chi

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

I’ch helpu chi i gymharu pa bolisi yswiriant yw’r gorau i chi rhaid i yswirwyr roi gwybodaeth hanfodol i chi i’ch helpu chi i benderfynu. Mae’r dudalen hon esbonio pa wybodaeth sy’n rhaid iddyn nhw ei rhoi cyn i chi brynu polisi a’r hyn y dylech ei dderbyn pan fyddwch chi wedi prynu yswiriant.

Prynu yswiriant

Gallwch brynu yswiriant yn seiliedig ar wybodaeth rydych chi’n dod o hyd iddi eich hun neu gallwch benderfynu cael cyngor proffesiynol yn gyntaf. Os ydych chi’n prynu polisi’n seiliedig ar wybodaeth, chi sydd i benderfynu ai hwn yw’r polisi iawn i chi. Os daw’n glir nad yw’r polisi’n addas bydd yn anodd i chi gwyno neu gael iawndal.

Fodd bynnag os ydych chi’n cael cyngor proffesiynol cyn cymryd polisi, rhaid i’r cynghorwr argymell polisi sy’n cwrdd â’ch gofynion yn unig. Os nad yw’n argymell polisi addas gallwch gwyno a hefyd mae’n bosibl y gallech hawlio iawndal am gam-werthu.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael cyngor i brynu polisi nad yw’n iawn i chi, dylech gwyno i’r cwmni neu’r cynghorwr a roddodd gyngor i chi. Mae cwmnïau yswiriant a chynghorwyr yn cael eu rheoleiddio gan Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Gallwch gael cyngor pellach ganddyn nhw am sut i gwyno am gam-werthu.

Cymharu polisïau

Os gofynnwch i yswiriwr am ddyfynbris rhaid iddo roi manylion am y math o wasanaeth sy’n cael ei gynnig i chi. Hefyd rhaid iddo roi dogfen gyda chrynodeb yn cynnwys rhai ffeithiau allweddol am y polisi yswiriant mae’n dymuno ei werthu i chi.

Rhaid i’r crynodeb gynnwys y ffeithiau allweddol canlynol:

  • manylion yr yswiriwr
  • prif nodweddion a buddion yr yswiriant
  • eithriadau sylweddol neu anarferol. Eithriadau yw pethau nad ydyn nhw wedi’u cynnwys yn yr yswiriant
  • am faint fydd yr yswiriant yn para
  • a oes gennych chi hawliau canslo ai peidio

Bydd yr wybodaeth hon yn ei wneud yn haws i chi gymharu polisïau rhwng gwahanol yswirwyr pan fyddwch chi’n penderfynu pa bolisi i’w brynu.

Eich polisi yswiriant

Mae eich polisi yswiriant yn cynnwys telerau eich cytundeb gyda’ch yswiriwr. Bydd hyn yn cynnwys atodlen. Mae’r atodlen yn cynnwys eich manylion personol a manylion am eich polisi penodol, gan gynnwys eithriadau, tâl-dros-ben a risgiau ychwanegol rydych chi wedi’u hyswirio yn eu herbyn.

Mae gennych chi hawl i dderbyn copi llawn o’ch polisi. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr fod yr wybodaeth ar eich polisi’n gywir, a dylech ei wirio cyn gynted ag y byddwch yn ei dderbyn.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Cysylltwch â llinell gymorth y FSA: 0845 606 1234.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.