Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Yswiriant salwch

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Beth yw yswiriant salwch?

Mae yswiriant salwch yn gwarchod eich incwm os na allwch weithio oherwydd damwain, salwch hirdymor neu anabledd.

Mae yna sawl gwahanol fath o yswiriant salwch. Mae rhai yn talu un cyfandaliad, rhai eraill yn talu incwm misol rheolaidd, tra bod eraill yn talu am bethau penodol, megis eich morgais neu’ch cerdyn credyd.

Ar y dudalen hon rydyn ni’n esbonio pam byddech am brynu yswiriant salwch. Cewch hyd i’r gwahanol fathau o yswiriant salwch sydd ar gael, rhai o’u buddiannau a’r hyn ddylech ei ystyried cyn prynu un o’r polisïau hyn.

Cewch hyd i fwy o wybodaeth fanwl am y gwahanol fathau o yswiriant salwch sy’n cael eu disgrifio yma ar dudalennau eraill Adviceguide.

Pam prynu yswiriant salwch?

Os na allwch weithio oherwydd salwch, damwain neu anabledd, mae’n bosib y gallwch gael budd-daliadau’r wladwriaeth neu dâl salwch gan eich cyflogwr os na allwch weithio. Fodd bynnag, efallai ni fyddant yn ateb eich holl anghenion.

Efallai byddwch yn sylweddoli bod dibynnu ar fudd-daliadau’r wladwriaeth neu dâl salwch yn unig yn lleihau eich safon o fyw. Gallech hefyd ddarganfod nad oes gennych ddigon o arian i ad-dalu eich morgais. Gallech fynd i ddyled a cholli eich cartref, cael eich cymryd i’r llys gan eich credydwyr neu hyd yn oed eich gwneud yn fethdalwr.

Hyd yn oed os gallwch gael budd-daliadau’r wladwriaeth neu dâl salwch gan eich cyflogwr, gallai fod yn werth chweil meddwl am brynu mwy nag un math o yswiriant salwch er mwyn hybu eich incwm. Fodd bynnag, mae gan y mwyafrif o yswiriant salwch anfanteision a chyfyngiadau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.

Budd-daliadau’r wladwriaeth

Mae budd-daliadau’r wladwriaeth megis Tâl Salwch Statudol (SSP) a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn talu cyfradd isel iawn o incwm. Mae yna gyfyngiadau eraill hefyd. Telir SSP am gyfnod cyfyngedig o amser yn unig a bydd angen i chi gael asesiadau meddygol rheolaidd i dderbyn ESA a gellir ei stopio os nad ydych yn ateb y gofynion.

Mae’n werth gwirio faint o arian y byddech yn ei gael os byddai’n rhaid i chi ddibynnu ar fudd-daliadau’r wladwriaeth a dylech gymharu’r ffigwr hwn gyda’r swm sydd ei angen arnoch i fyw arno.

Os hoffech fwy o wybodaeth am fudd-daliadau’r wladwriaeth a gewch os ydych yn sâl neu’n anabl, gweler Budd-daliadau ar gyfer pobl sy’n sâl neu anabl.

I gael amcangyfrif o faint o fudd-daliadau a gewch, defnyddiwch y Cynghorydd Budd-daliadau ar wefan Directgov: www.direct.gov.uk.

Tâl salwch a phensiwn eich cyflogwr

Efallai na fydd eich cyflogwr yn talu Tâl Salwch Dan Gontract. Gelwir hyn hefyd yn dâl salwch uwch ac mae’n golygu y byddech yn derbyn eich holl gyflog neu ran ohono yn rheolaidd dros y cyfnod na allwch weithio. Gellir talu Tâl Salwch Dan Gontract ar gyfradd is na’ch pae arferol.

Bydd rhai cwmnïau hefyd yn talu eich pensiwn yn gynnar os oes yn rhaid i chi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch, er gallai’r swm fod yn llai na’r swm a gewch os byddech yn gweithio tan oed ymddeol.

Os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau y gellwch eu cael gan eich cyflogwr os na allwch weithio oherwydd salwch, dylech ofyn iddynt am fanylion.

Pobl hunangyflogedig

Gall yswiriant salwch weithiau fod yn opsiwn da os ydych yn hunangyflogedig. Mae hyn oherwydd ni allwch gael tâl oddi wrth gyflogwr ac mae yna rai budd-daliadau’r wladwriaeth na allwch eu cael megis Tâl Salwch Statudol. Fodd bynnag, mae yna sawl math o yswiriant salwch na allwch ei gael oherwydd eich bod yn hunangyflogedig, felly bydd angen i chi wirio’r polisïau yn ofalus iawn cyn prynu un ohonynt.

Mathau o yswiriant salwch

Dyma rhai o’r prif fathau o yswiriant salwch sydd ar gael. Os hoffech wybodaeth fwy manwl am y mathau hyn o yswiriant, gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.

Yswiriant salwch critigol

Mae hwn yn fath o yswiriant salwch sy’n talu cyfandaliad os oes gennych salwch penodol megis cancr neu os ydych wedi cael trawiad ar y galon. Os oes gennych forgais, mae’n bosib y gwerthwyd yswiriant salwch critigol i chi pan godoch eich benthyciad. Nid yw hyn yr un peth ag yswiriant diogelu taliadau morgais.

Yswiriant diogelu incwm

Gelwir hyn hefyd yn yswiriant iechyd parhaol. Mae’n fath arall o yswiriant salwch a fydd yn rhoi incwm i chi am weddill eich bywyd neu tan eich bod yn ymddeol oherwydd salwch neu anabledd. Fel arfer, mae’n rhaid i chi aros ychydig o wythnosau neu fisoedd cyn bod y taliadau yn dechrau.

Yswiriant Diogelu Taliadau

Rydych yn cael y math hwn o yswiriant i warchod eich taliadau morgais, cerdyn credyd, cerdyn siop neu fenthyciad personol os na allwch weithio oherwydd salwch neu os cewch eich diswyddo. Mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi aros ychydig o fisoedd cyn bod y taliadau yn dechrau. Byddant yn eich gwarchod am gyfnod cyfyngedig yn unig ac fel arfer, byddant yn stopio ar ôl cyfnod penodol o amser.

Yswiriant diogelu taliadau morgais

Mae’r yswiriant hwn yr un peth ag yswiriant diogelu taliadau morgais ond mae’n gwarchod eich morgais yn unig.

Beth i’w ystyried cyn prynu yswiriant salwch

Dyma rhai cwestiynau i’w hystyried cyn prynu yswiriant salwch.

Oes wir angen yswiriant salwch arnaf?

Mae’n bosib bod gennych eisoes ryw fath o yswiriant salwch yn gysylltiedig â pholisi yswiriant arall neu’ch morgais heb fod yn wybod i chi. Gwiriwch fanylion eich polisïau eraill er mwyn darganfod pa yswiriant sydd gennych.

Dylech hefyd wirio pa fudd-daliadau a gewch gan eich cyflogwr os na allwch weithio oherwydd salwch neu anabledd.

Mae’n bosib bod gennych gynilion i’w defnyddio yn hytrach nag yswiriant. Mae cynilion yn ffordd hyblyg iawn o warchod eich hun os ydych yn colli incwm oherwydd salwch. Os nad oes angen yr arian arnoch, gallwch ei wario ar rywbeth arall nes ymlaen.

Fodd bynnag, mae yna anfanteision i ddibynnu ar gynilion. Mae’n bosib na fyddwch yn gallu cynilo digon i’ch gwarchod am salwch hirdymor. Hefyd, gallech wynebu argyfwng arall a fydd yn golygu defnyddio eich cynilion a’ch gadael heb unrhyw arian ar gyfer salwch.

Allaf fforddio yswiriant salwch?

Gallai costau (neu bremiymau) rhai yswiriant salwch fod yn eithaf uchel ac efallai na fydd angen i chi ei ddefnyddio. Ni fyddwch yn cael unrhyw arian yn ôl os nad ydych yn hawlio.

Cyn prynu yswiriant salwch, sicrhewch fod gennych ddigon o arian i dalu’r premiymau. Os oes gennych fenthyciadau neu ddyledion eraill, sicrhewch fod gennych ddigon o arian i’w had-dalu. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn talu am bensiwn neu bethau eraill a fydd o bosib eu hangen arnoch yn y dyfodol.

Y ffordd orau o ddarganfod p’un ai bod gennych ddigon o arian i’w gynilo neu beidio yw cyfrifo faint ydych yn ei wario bob mis a’i gymharu gyda’ch incwm. Gallwch ddefnyddio ein taflen cyllidebu i’ch helpu.

Beth yw’r eithriadau?

Nid yw polisïau yswiriant salwch bob amser yn eich gwarchod rhag pob math o salwch. Er enghraifft, nid yw rhai afiechydon, megis cyfnodau cynnar rhai mathau cyffredin o gancr yn cael eu gwarchod.

Mae rhai polisïau yswiriant salwch yn dweud bod yn rhaid i chi fod yn ddifrifol sâl neu’n gwbl anabl cyn gallwch hawlio.

Bydd angen i chi wirio’r polisi yswiriant yn ofalus er mwyn gwybod faint o arian y byddwch yn ei gael os fyddwch yn sâl.

Beth yw cyflwr eich iechyd?

Nid yw rhai polisïau yswiriant yn eich gwarchod rhag cyflyrau meddygol sydd gennych eisoes. Os nad ydych yn iach, mae’n bosib na chewch yswiriant salwch.

Os oes gennych bolisi yswiriant salwch, sicrhewch eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i’r cwmni yswiriant am unrhyw gyflwr meddygol sydd gennych eisoes, neu wedi’i gael yn y gorffennol. Gallai hyn eich atal rhag talu premiymau yswiriant am bolisi na allwch ei hawlio.

Ydy eich oed yn gwneud gwahaniaeth?

Yr henach ydych chi pan gewch y polisi, y mwyaf y byddwch yn debygol o dalu oherwydd bod eich risg o salwch yn uwch.

Pa fath o waith a wnewch?

Os oes gennych swydd beryglus neu gorfforol iawn, mae’n bosib y byddwch yn ei chael yn anodd cael yswiriant salwch neu efallai y bydd angen i chi dalu mwy amdano.

Pa fath o hobïau neu ffordd o fyw sydd gennych?

Os oes gennych hobïau peryglus neu ffordd o fyw sy’n cynnwys ysmygu, yfed yn drwm neu gymryd cyffuriau, mae’n bosib na chewch yswiriant salwch. Mae’n bosib na fydd yswirwyr yn eich talu os nad ydych yn rhoi’r wybodaeth gywir iddynt o flaen llaw.

Oes yna gyfnod aros cyn y gallwch hawlio?

Mae gan lawer o bolisïau yswiriant salwch gyfnod aros cyn y gallwch hawlio. Mae hyn yn golygu na chewch eich gwarchod am wythnosau cyntaf eich salwch neu anabledd. Dylech wirio pa mor hir yw’r cyfnod aros a meddyliwch sut byddwch yn cynnal eich hun yn ystod yr amser hwn. Mae’n bosib y gallwch gael tâl salwch gan eich cyflogwr neu ddefnyddio eich cynilion. Efallai gallwch dalu llai am eich yswiriant os ydych yn prynu polisi sydd â chyfnod aros hirach. Gallwch drefnu eich bod yn derbyn taliadau eich polisi yswiriant salwch pan fod eich incwm arall yn dod i ben.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.